Sut i gael help mewn argyfwng
Os yw’ch bywyd mewn perygl ar o bryd
Os ydych chi'n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun, neu os ydych chi wedi niweidio'ch hun yn ddifrifol, rydych chi angen help meddygol ar frys.
Plîs:
- ffoniwch 999 am ambiwlans
- ewch yn syth i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, os gallwch chi
- neu ffoniwch eich tîm argyfwng lleol, os yw eu rhif gennych chi.
Os na allwch wneud hyn ar eich pen eich hun, gofynnwch i rywun eich helpu.
Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Dydych chi ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.
Rwy mor ddiolchgar hyd heddiw eu bod nhw wedi dweud y dylwn i fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Weithiau mae’n rhaid i chi fwrw’r gwaelod cyn gallu symud ymlaen.
Os nad ydych chi eisiau ffonio 999
Os gallwch chi gadw'ch hunan yn ddiogel am ychydig, ond rydych chi’n dal angen cyngor brys:
- cysylltwch â NHS 111 neu NHS Direct (0845 46 47) os ydych chi'n byw yng Nghymru
- cysylltwch â NHS 111 os ydych chi'n byw yn Lloegr
- cysylltwch â'ch meddygfa a gofyn am apwyntiad brys. Mae llawer o feddygon teulu bellach yn cynnig y rhain o bell oherwydd coronafeirws.
Ydych chi angen adnoddau ymdopi ar frys?
Mae gennym ni rai adnoddau argyfwng y gallwch chi eu defnyddio ar unwaith, ar eich pen eich hun, ble bynnag yr ydych chi.
Os oes raid i chi siarad ar unwaith
Beth bynnag rydych chi'n mynd drwyddo, mae yna bobl y gallwch chi siarad â nhw unrhyw adeg. Gallwch chi:
- ffonio C.A.L.L. ar 0800 132 737 (Cymru’n unig)
- ffonio'r Samariaid ar 116 123 (ledled y DU)
- tecstio SHOUT i 85258 (ledled y DU)
Mae'r gwasanaethau hyn ar gyfer unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi.
Fyddan nhw ddim yn eich barnu.
Maen hyn i gyd am ddim, mae'n anhysbys, ac ar agor bob amser.
Mae yna fwy o rifau ffôn ar ein tudalen o linellau cymorth a llinellau gwrando.
Un tro, fe gadwodd y ferch a atebodd y ffôn fi i siarad trwy fy meddyliau a’m teimladau am ladd fy hun am bron i dair awr! Fe fydda i’n dragwyddol ddiolchgar iddi hi!
Os ydych chi eisiau helpu rhywun arall
Mynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys mewn argyfwng
Fe allwn i fod wedi ceisio cael trefn arna i fy hun a mynd i'r gwaith ond rywsut roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi siarad â meddyg
Sut alla i baratoi ar gyfer argyfwng?
Pan fyddwch chi'n teimlo eich bod chi mewn argyfwng, dim ond ar aros yn ddiogel y dylch chi ganolbwyntio.
Ond os byddwch chi’n teimlo’n dawelach a heb fod yn cael eich llethu gymaint, mae gennym ni fwy o wybodaeth a allai eich helpu chi.
Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon fis Mehefin 2020.
Mae tystlythyrau ar gael ar gais. Os hoffech atgynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, ewch i’n tudalen ar ganiatadau a thrwyddedu.