Mae'n egluro gorbryder a phyliau o banig, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Mae gorbryder yn teimlo'n wahanol i bawb. Efallai y byddwch chi'n cael rhai o'r effeithiau corfforol a meddyliol a restrir ar y dudalen hon, yn ogystal ag effeithiau mewn meysydd eraill o'ch bywyd.
Efallai y byddwch hefyd yn cael profiadau neu anawsterau â gorbryder na chânt eu cydnabod yma.
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
Gall y rhain gynnwys:
Gwyliwch Alex yn trafod yr effaith gorfforol a gaiff gorbryder ar ei gorff yn y fideo hwn.
Gall y rhain gynnwys:
“Fe allwn deimlo'r holl symptomau corfforol hyn yn corddi y tu mewn, yn llythrennol yn llenwi pob rhan o fy nghorff nes i mi deimlo'n hollol benysgafn ac wedi fy natgysylltu oddi wrth fy nghorff.”
“Roeddwn i'n meddwl drwy'r amser fy mod i'n marw o salwch nad oeddwn i wedi cael diagnosis ar ei gyfer, am fy mod i'n siŵr bod y symptomau corfforol yn rhy ddrwg i fod ‘yn ddim ond gorbryder’."
Gall symptomau gorbryder bara am amser hir, neu gallant fynd a dod. Efallai y byddwch chi'n cael anhawster â rhannau o'ch bywyd o ddydd i ddydd, yn cynnwys:
Mewn rhai achosion, gall gorbryder gael effaith ddifrifol ar eich gallu i weithio . Mae rhagor o wybodaeth am sut i ymdopi ar ein tudalennau ar sut i fod yn iach yn feddyliol yn y gwaith. Gall ein tudalennau cyfreithiol ar wahaniaethu yn y gwaith ddarparu gwybodaeth am eich hawliau yn y gweithle.
Os ydych chi'n gyrru, efallai y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y DVLA os oes gennych anhwylder gorbryder. Mae gwybodaeth am eich hawl i yrru, yn cynnwys pryd a sut i gysylltu â'r DVLA, ar ein tudalennau cyfreithiol ar ffitrwydd i yrru.
“...roeddwn i'n teimlo'n unig ac yn teimlo bod popeth yn ormod i mi ac, ar adegau, roeddwn i'n eithaf isel oherwydd fy niffyg sgiliau cymdeithasol."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.