Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth)

Mae'n egluro beth yw PTSD cymhleth, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw PTSD cymhleth?

Mae anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth, a gaiff ei dalfyrru weithiau i c-PTSD neu CPTSD) yn gyflwr lle rydych yn cael rhai symptomau PTSD ynghyd â rhai symptomau ychwanegol, fel:

  • anhawster i reoli eich emosiynau
  • teimlo'n grac iawn a methu ymddiried yn neb na dim
  • teimlo'n wag neu'n annobeithiol drwy'r amser
  • teimlo fel petaech wedi eich niweidio'n barhaol neu'n ddiwerth
  • teimlo fel petaech yn hollol wahanol i bobl eraill
  • teimlo na all neb ddeall yr hyn ddigwyddodd i chi
  • osgoi creu perthynas â rhywun a chyfeillgarwch, neu eu cael yn anodd iawn
  • cael symptomau datgysylltiol yn aml fel dadbersonoli neu ddadwireddu
  • symptomau corfforol, fel cur pen, pendro, poenau yn y frest a phoenau yn y stumog
  • teimladau hunanladdol rheolaidd.

Termau eraill am PTSD cymhleth

Mae PTSD Cymhleth yn derm cymharol newydd. Mae gweithwyr proffesiynol wedi cydnabod ers peth amser y gall rhai mathau o drawma gael effeithiau ychwanegol i PTSD, ond maen nhw wedi anghytuno ynghylch p'un a yw hyn yn fath o PTSD neu'n gyflwr hollol ar wahân, a beth y dylid ei alw.

Er enghraifft, efallai y byddwch yn gweld bod rhai meddygon neu therapyddion yn dal i ddefnyddio un o'r termau canlynol:

  • newid parhaol mewn personoliaeth ar ôl profiad trychinebus (EPCACE)
  • anhwylderau straen eithafol nas nodwyd fel arall (DESNOS) – mae'r term hwn yn fwy cyffredin yn America na'r DU.

Ar adegau roeddwn i'n teimlo na fyddai dim yn rhoi diwedd ar y gofid, ac roeddwn i'n cael mwy na 10 o ôl-fflachiadau bob dydd... Roedd yn broses wella araf, gyda llawer o rwystrau ar y ffordd, ond mae cael y feddyginiaeth gywir a therapi hirdymor gyda rhywun y gwnes i ddod i ymddiried ynddo wedi newid fy mywyd.

PTSD cymhleth ac ôl-fflachiadau emosiynol

Os oes gennych chi PTSD cymhleth, efallai eich bod chi'n debygol iawn o gael yr hyn y mae rhai pobl yn ei alw'n ‘ôl-fflachiad emosiynol’, lle byddwch chi'n cael teimladau dwys y gwnaethoch chi eu teimlo yn ystod y trawma, fel ofn, cywilydd, tristwch neu anobaith. Efallai y byddwch chi'n ymateb i ddigwyddiadau yn y presennol fel pe baen nhw'n achosi'r teimladau hyn, heb sylweddoli eich bod chi'n cael ôl-fflachiad.

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein hadrannau sy'n esbonio beth yw ôl-fflachiadau ac awgrymiadau ar sut i ymdopi ag ôl-fflachiadau.

Beth sy'n achosi PTSD cymhleth?

Ymysg y mathau o ddigwyddiadau trawmatig a all achosi PTSD cymhleth mae:

  • cael eich cam-drin, eich esgeuluso neu eich gadael yn ystod plentyndod
  • trais neu gamdriniaeth ddomestig barhaus
  • bod yn dyst i drais neu gamdriniaeth dro ar ôl tro
  • bod rhywun yn eich gorfodi neu'n dylanwadu arnoch i ymwneud â phuteindra (masnachu mewn rhyw)
  • arteithio, herwgipio neu gaethwasiaeth
  • bod yn garcharor rhyfel.

Rydych chi'n fwy tebygol o ddatblygu PTSD cymhleth:

  • os gwnaethoch chi wynebu trawmâu pan oeddech chi'n ifanc
  • os gwnaeth y trawma bara am amser hir
  • os oedd dianc neu gael eich achub yn annhebygol neu'n amhosibl
  • os gwnaethoch chi wynebu sawl trawma
  • os cawsoch chi eich niweidio gan rywun agos atoch chi.

Doedd datblygu PTSD ar ôl wynebu trais domestig ddim yn rhywbeth roeddwn ni'n barod ar ei gyfer. Gadawais fy hen gartref yn gorfforol. Ond yn fy meddwl, rydw i dal yno. Nid y tŷ hwnnw yw'r carchar erbyn hyn – ond fy meddwl i. Fy meddyliau. Fy atgofion.

Camddiagnosis o BPD

Mae rhai o symptomau PTSD cymhleth yn debyg iawn i symptomau anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), ac nid yw pob gweithiwr proffesiynol yn ymwybodol o PTSD cymhleth.

O ganlyniad, bydd rhai pobl yn cael diagnosis o BPD neu anhwylder personoliaeth arall pan fydd PTSD cymhleth yn debycach i'w profiadau. Mae gweithwyr proffesiynol yn anghytuno ynghylch pryd y byddai'n ddefnyddiol rhoi diagnosis o anhwylder personoliaeth i rywun a phryd y byddai diagnosis neu ddisgrifiad arall yn well. I ddysgu mwy ewch i'n tudalen ar pam mae anhwylderau personoliaeth yn ddadleuol?

Os byddwch chi'n poeni nad yw'r diagnosis a gawsoch yn cyfateb i'r ffordd rydych chi'n teimlo, mae'n bwysig trafod hynny â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, fel y gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y driniaeth gywir i'ch helpu chi.

Ceir rhagor o wybodaeth am y diagnosisau hyn ar ein tudalennau ar anhwylder personoliaeth ffiniol ac anhwylderau personoliaeth.

Ceir gwybodaeth am sut i sicrhau y caiff eich llais ei glywed a beth i'w wneud os nad ydych yn fodlon ar eich meddyg ar ein tudalennau ar ofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl.

Drawing with the words 'I am enough' on it.

Ymdopi â PTSD cymhleth yn ystod y pandemig

Mae fy PTSD wedi'i wreiddio yn y gamdriniaeth a gefais yn fy arddegau, ac rydw i wedi treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn dianc oddi wrtho... Rydw i wedi dioddef o orbryder ac iselder o ganlyniad i hynny.

Pa driniaethau sydd ar gael?

Nid yw'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n llunio canllawiau ar arfer gorau mewn gofal iechyd – wedi datblygu argymhellion yn benodol ar gyfer PTSD cymhleth eto. Maent yn rhybuddio nad oedd y canllawiau presennol ar gyfer PTSD wedi'u datblygu ar gyfer y math hwn o ddiagnosis.

Efallai y bydd triniaethau safonol ar gyfer PTSD yn ddefnyddiol, ond mae angen i lawer o bobl sydd â PTSD cymhleth gael cymorth mwy hirdymor a dwys i wella. Fel rhan o'ch triniaeth dylech hefyd gael cynnig cymorth ar gyfer problemau eraill y byddwch yn eu hwynebu, fel iselder, defnyddio cyffuriau ac alcohol neu ddatgysylltiad. Gall y driniaeth a gynigir i chi ddibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal leol.

Ceir rhagor o wybodaeth am y triniaethau sydd ar gael, a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer PTSD cymhleth ar ein tudalen triniaeth ar gyfer PTSD. Neu ewch i'n tudalen ar hunanofal ar gyfer PTSD i gael awgrymiadau ar sut i ofalu amdanoch chi eich hun pan fydd gennych chi PTSD cymhleth.

Mae gennym ni dudalen ar gyfer ffrindiau a theulu rhywun sydd â PTSD hefyd, sy'n cynnwys syniadau ar gefnogi rhywun sy'n ei chael hi'n anodd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig