Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw PTSD?

Problem iechyd meddwl y gallwch chi ei datblygu ar ôl wynebu digwyddiadau trawmatig yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Cafodd y cyflwr ei gydnabod am y tro cyntaf mewn cyn-filwyr rhyfel. Mae wedi cael sawl enw yn y gorffennol, fel ‘shell shock’ yn Saesneg, ond nid dim ond milwyr sy'n cael y diagnosis hwn. Gall amrywiaeth eang o brofiadau trawmatig achosi PTSD.

Pan fydd rhywbeth trawmatig yn digwydd yn eich bywyd, bydd yn effeithio ar eich hyder. Dyw'r byd ddim yn lle diogel mwyach. Mae'n rhywle lle mae pethau drwg yn digwydd.

Sut beth yw cael PTSD?

Gwyliwch Larry, Anamoli, Paul a Maisie yn rhannu eu profiadau o fyw â PTSD, beth sydd wedi eu helpu nhw a sut maen nhw'n gweld eu dyfodol.

Pryd y caiff diagnosis ei roi?

Pan fyddwch chi'n mynd drwy rywbeth sy'n drawmatig, mae'n naturiol i chi gael rhai symptomau PTSD wedyn, fel methu teimlo dim byd, neu gael trafferth cysgu. Weithiau, caiff hyn ei ddisgrifio fel ‘ymateb acíwt i straen’.

Mae'r symptomau hyn yn diflannu o fewn wythnosau i lawer o bobl, ond os bydd eich symptomau'n para am fwy na mis, efallai y cewch ddiagnosis o PTSD. Gallai eich meddyg teulu eich atgyfeirio at arbenigwr cyn hyn os bydd eich symptomau'n ddifrifol iawn.

Dechreuais gael symptomau PTSD ar ôl colli fy nghariad. Roeddwn i'n cael ôl-fflachiadau byw iawn a allai ddigwydd unrhyw bryd, unrhyw le, ac roedden nhw'n annymunol iawn... taflais fy hun i mewn i berthynas arall yn gyflym iawn er mwyn ceisio osgoi fy nheimladau, ond doeddwn i ddim yn dangos llawer o gariad at fy mhartner newydd.

A oes gwahanol fathau o PTSD?

Os cewch chi ddiagnosis o PTSD, efallai y byddwch chi'n cael gwybod bod gennych chi PTSD ysgafn, cymedrol neu ddifrifol. Mae hyn yn esbonio pa fath o effaith y mae eich symptomau'n eu cael arnoch chi ar hyn o bryd – nid yw'n ddisgrifiad o ba mor frawychus neu anodd oedd eich profiadau o bosibl.

Gall y disgrifiad o PTSD fod yn wahanol mewn rhai sefyllfaoedd:

  • PTSD a ddechreuodd yn hwyr. Os bydd eich symptomau'n dechrau fwy na chwe mis ar ôl i chi wynebu trawma, gall hyn gael ei ddisgrifio fel ‘PTSD a ddechreuodd yn hwyr’ neu ‘delayed-onset PTSD’ yn Saesneg.
  • PTSD cymhleth. Os cawsoch chi drawma pan oeddech chi'n ifanc neu os cawsoch chi drawma a barodd am amser hir, efallai y cewch chi ddiagnosis o ‘PTSD cymhleth’. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar PTSD cymhleth.
  • Trawma genedigaeth. Mae PTSD sy'n datblygu ar ôl profiad trawmatig o enedigaeth hefyd yn cael ei alw yn ‘drawma genedigaeth’. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar PTSD a thrawma genedigaeth.

Os byddwch chi'n cael symptomau PTSD pan fyddwch chi'n cefnogi rhywun agos atoch chi sydd wedi wynebu trawma, caiff hyn ei alw weithiau yn drawma eilaidd.

Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y gall profiadau trawmatig effeithio ar eich iechyd meddwl ar ein tudalennau ar drawma.

Allwn i ddim deall pam nad oedd fy ymennydd i'n gweithio'n iawn – allwn i ddim cofio pethau, allwn i ddim prosesu pethau. Roedd fel pe bai fy ymennydd i wedi arafu a dod i stop.

Profiadau o wynebu stigma

Mae llawer o gamdybiaethau am PTSD. Er enghraifft, efallai bod rhai pobl yn tybio ar gam ei fod yn golygu eich bod chi'n parhau i feddwl am ddigwyddiadau o'r gorffennol. Efallai y byddan nhw hyd yn oed yn awgrymu y dylech chi ‘anghofio amdano’ neu ‘symud ymlaen’. Ond dyw cael PTSD ddim yn ddewis nac yn arwydd o wendid, ac mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Mae llawer o syniadau am sut i ddelio â stigma ar ein tudalen ar stigma a chamdybiaethau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig