Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Pa driniaethau sydd ar gael?
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
Triniaethau siarad ar gyfer PTSD
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n llunio canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd - yn awgrymu dau fath o driniaeth siarad ar gyfer PTSD ar hyn o bryd:
- Therapi gwybyddol ymddygiadol â ffocws ar drawma (TF-CBT). Math o therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) yw hwn sydd wedi'i addasu'n benodol ar gyfer PTSD. Mae NICE yn argymell y dylech gael cynnig 8-12 o sesiynau rheolaidd sy'n para tua 60-90 munud, gan weld yr un therapydd o leiaf unwaith yr wythnos. Mae rhagor o wybodaeth am y therapi hwn ar ein tudalennau ar CBT.
- Dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR). Mae hon yn driniaeth gymharol newydd a all leihau symptomau PTSD fel cael braw yn hawdd. Mae'n cynnwys gwneud symudiadau llygaid rhythmig wrth gofio am y digwyddiad trawmatig. Nod y symudiadau llygaid cyflym yw creu effaith debyg i'r ffordd y bydd eich ymennydd yn prosesu atgofion a phrofiadau pan fyddwch chi'n cysgu. EMDR y DU ac Iwerddon – cymdeithas broffesiynol o glinigwyr ac ymchwilwyr EMDR – mae gwybodaeth eang am EMDR ar ei gwefan.
Gall NICE argymell triniaethau siarad eraill yn y dyfodol os byddwch yn gweld eu bod yn helpu gyda PTSD, ond mae angen gwneud mwy o waith ymchwil.
Un o'r pethau mwyaf annifyr oedd y teimladau ymosodol a dig tuag at unrhyw un sy'n edrych fel y person a ymosododd arnaf i... Mae'r therapi EMDR wedi bod o help mawr.
Beth os na fydda i'n teimlo'n well?
Os nad yw'n ymddangos bod y driniaeth siarad y byddwch chi'n rhoi cynnig arni yn helpu, mae NICE yn awgrymu y dylech chi wneud y canlynol:
- dweud wrth eich meddyg neu therapydd eich bod chi wedi disgwyl teimlo'n wahanol
- gofyn a oes angen mwy o driniaeth arnoch chi, neu fath gwahanol o driniaeth.
Dylai eich meddyg neu therapydd gynnig ail gwrs o driniaeth neu apwyntiad dilynol i chi. Gallwch chi ddarllen y canllawiau llawn ar gyfer triniaeth PTSD yn Gymraeg neu yn Saesneg ar wefan NICE.
Meddyginiaeth ar gyfer PTSD
Nid yw meddyginiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu PTSD yn cael ei rhagnodi fel mater o drefn. Fodd bynnag, efallai y cewch chi gynnig meddyginiaeth:
- os oes gennych chi iselder hefyd
- os ydych chi'n cael problemau cysgu a achosir gan PTSD
- os na allwch chi roi cynnig ar driniaethau siarad neu os nad ydych chi am wneud hynny.
Os cewch chi gynnig meddyginiaeth ar gyfer PTSD, cyffur gwrth-iselder fydd hwn fel arfer. Er nad yw PTSD yr un fath ag iselder, mae'n ymddangos bod y math hwn o feddyginiaeth yn helpu. Mae NICE yn argymell pedwar cyffur gwrth-iselder yn benodol:
- paroxetine – gall meddyg teulu ei ragnodi
- mirtazapine – gall meddyg teulu ei ragnodi
- amitriptyline– rhaid iddo gael ei ragnodi gan arbenigwr
- phenelzine – rhaid iddo gael ei ragnodi gan arbenigwr.
Mae NICE yn argymell venlafaxine neu fath o atalyddion ail-sugno serotonin dewisol (SSRIau), fel sertraline. Mae rhagor o wybodaeth am y math hwn o feddyginiaeth ar ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-iselder.
Os byddwch chi hefyd yn cael symptomau seicosis neu orgynnwrf difrifol (teimlo eich bod yn wyliadwrus drwy'r amser), ac nad yw meddyginiaethau eraill wedi eich helpu chi, gellir cynnig cyffur gwrth-seicotig i drin y symptomau hyn. Dylai arbenigwr fel seiciatrydd adolygu triniaeth gwrth-seicotig yn rheolaidd. Mae rhagor o wybodaeth am y math hwn o feddyginiaeth ar ein tudalennau ar gyffuriau gwrth-seicotig.
Dewisiadau eraill am driniaeth
Mae rhai pobl sydd â PTSD yn dweud bod triniaethau eraill wedi bod yn ddefnyddiol wrth reoli eu cyflwr, fel therapi grŵp, therapïau celfyddydol neu therapi ymddygiad dialectig (DBT).
Gall trawma effeithio'n gorfforol yn ogystal ag yn seicolegol a cheir tystiolaeth gynyddol i ddangos y gall therapi sy'n seiliedig ar y corff helpu pobl sy'n dioddef o PTSD i ddaearu eu hunain a rheoli eu hemosiynau. Gallwch ddysgu mwy am therapi sy'n seiliedig ar y corff a dod o hyd i therapydd drwy Rwydwaith Seicotherapi'r Corff.
Fodd bynnag, mae canllawiau NICE yn argymell na ddylid defnyddio triniaethau nad ydynt wedi'u cynllunio na'u profi'n briodol ar gyfer pobl sydd wedi wynebu trawma ar eu pen eu hunain.
Cael gafael ar driniaeth
Dyma rai ffyrdd y gallech gael gafael ar driniaeth:
- Eich meddyg teulu. I gael triniaeth ar y GIG, dylech ymweld â'ch meddyg teulu. I gael cyngor ar baratoi ar gyfer apwyntiad meddyg teulu, ewch i'n tudalen ar siarad â'ch meddyg teulu.
- Gwasanaethau therapi'r GIG am ddim. Efallai y gallech chi gysylltu'n uniongyrchol â gwasanaethau Gwella Mynediad i Therapïau Seicolegol (IAPT) yn eich ardal, os ydych chi'n byw yn Lloegr. Gallwch chi chwilio am y rhain ar wefan y GIG.
- Sefydliadau arbenigol. Ewch i'n tudalen ar gysylltiadau defnyddiol i weld rhestr o sefydliadau a all gynnig therapi neu a all eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaethau lleol.
- Gwasanaethau trawma lleol. Mae rhai sefydliadau'n cynnig therapi trawma am ddim neu am gost isel. Efallai y bydd gan eich cangen Mind leol ar Linell Gwybodaeth Mind wybodaeth am wasanaethau yn eich ardal.
- Therapyddion preifat. Mae dod o hyd i therapydd preifat yn opsiwn arall y bydd rhai pobl yn dewis ei ystyried
Ceir rhagor o wybodaeth am gael gafael ar driniaeth ar ein tudalennau ar geisio help ar gyfer problem iechyd meddwl a thriniaethau siarad.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.