Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Beth yw'r symptomau?
Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:
- symptomau cyffredin PTSD
- ôl-fflachiadau
- effeithiau eraill PTSD
- PTSD a phroblemau iechyd meddwl eraill
Mae profiad pob person o PTSD yn unigryw iddo ef. Efallai eich bod wedi cael math tebyg o drawma â rhywun arall, ond ei fod wedi effeithio arnoch chi mewn ffyrdd gwahanol.
Ail-fyw agweddau ar yr hyn ddigwyddodd
Gall hyn gynnwys:
- ôl-fflachiadau byw (teimlo bod y trawma yn digwydd nawr)
- meddyliau neu ddelweddau ymwthiol
- hunllefau
- gofid dwys pan gewch eich atgoffa o'r trawma mewn ffyrdd real neu symbolaidd
- synwyriadau corfforol fel poen, chwysu, cyfog neu gryndod.
Effrogarwch neu deimlo ar bigau'r drain
Gall hyn gynnwys:
- mynd i banig o gael eich atgoffa o'r trawma
- mynd yn ofidus neu'n flin yn hawdd
- effrogarwch eithafol, sy'n cael ei alw weithiau yn ‘orwyliadwraeth’
- cwsg anesmwyth neu ddiffyg cwsg
- anniddigrwydd neu ymddygiad ymosodol
- ei chael hi'n anodd canolbwyntio – yn cynnwys ar dasgau syml, bob dydd
- cael braw yn hawdd
- symptomau gorbryder eraill.
Roedd fy nghalon i'n rasio o hyd ac roeddwn i'n teimlo'n chwil drwy'r amser. Allwn i ddim gadael y tŷ ac roeddwn i'n ofni mynd i gysgu am fy mod i'n siŵr y byddwn i'n marw.
Osgoi teimladau neu atgofion
Gall hyn gynnwys:
- teimlo bod yn rhaid i chi gadw'n brysur
- osgoi unrhyw beth sy'n eich atgoffa chi o'r trawma
- methu cofio manylion yr hyn ddigwyddodd
- methu teimlo emosiynau neu'n teimlo eich bod wedi eich gwahanu oddi wrth eich teimladau
- methu teimlo dim yn gorfforol neu fethu teimlo cysylltiad â'ch corff
- methu dangos anwyldeb
- gwneud pethau a allai fod yn hunan-niweidiol neu'n ddiofal
- defnyddio alcohol neu gyffuriau er mwyn osgoi atgofion.
Credoau neu deimladau anodd
Gall hyn gynnwys:
- teimlo na allwch chi ymddiried yn neb
- teimlo nad oes yr unlle yn ddiogel
- teimlo nad oes neb yn deall
- beio eich hun am yr hyn ddigwyddodd
- teimladau llethol o ddicter, tristwch, euogrwydd neu gywilydd.
Mae'r diffyg cwsg a'r ymdeimlad o fethu ymlacio mor flinedig.
Pam fod gan PTSD effeithiau corfforol?
Gallai hyn fod oherwydd bod ein corff yn rhyddhau hormonau a elwir yn cortisol ac adrenalin pan fyddwn ni'n teimlo dan straen yn emosiynol. Dyma ffordd awtomatig y corff o baratoi i ymateb i fygythiad, a elwir weithiau yn ymateb 'ymladd, ffoi neu rewi’.
Mae astudiaethau wedi dangos y bydd rhywun sydd â PTSD yn parhau i greu'r hormonau hyn pan na fydd mewn perygl mwyach, a'r farn yw bod hyn yn esbonio rhai symptomau fel effrogarwch eithafol a chael braw yn hawdd.
Mae rhai pobl hefyd yn cael symptomau corfforol sy'n debyg i symptomau gorbryder, fel cur pen, pendro, poenau yn y frest a phoenau yn y stumog.
Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n ymdopi'n eithaf da ar y dechrau. Yna, ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad, dechreuais gael symptomau corfforol annymunol, yn debyg i symptomau trawiad ar y galon: poen yn y frest, tyndra a phyliau o bendro mor ddifrifol fel fy mod i'n meddwl y byddwn i'n pasio allan.
Beth yw ôl-fflachiadau?
Ôl-fflachiad yw profiad byw pan fyddwch chi'n ail-fyw rhai agweddau ar ddigwyddiad trawmatig neu'n teimlo fel pe bai'n digwydd nawr. Weithiau, gall hyn fod fel gwylio fideo o'r hyn ddigwyddodd, ond nid yw ôl-fflachiadau o reidrwydd yn golygu gweld delweddau, nac ail-fyw digwyddiadau o'r dechrau i'r diwedd. Efallai y byddwch chi'n wynebu unrhyw rai o'r canlynol:
- gweld delweddau llawn neu rannol o'r hyn ddigwyddodd
- sylwi ar synau, arogleuon neu flasau sy'n gysylltiedig â'r trawma
- teimlo synwyriadau corfforol, fel poen neu bwysau
- profi emosiynau y gwnaethoch eu teimlo yn ystod y trawma.
Efallai y byddwch chi'n sylwi y gall llefydd, pobl neu sefyllfaoedd penodol sbarduno ôl-fflachiad i chi, a allai fod am eu bod wedi eich atgoffa chi o'r trawma mewn rhyw ffordd. Neu efallai y bydd yn ymddangos bod yr ôl-fflachiadau yn digwydd ar hap. Gall ôl-fflachiadau ddigwydd am rai eiliadau, neu gallant bara am sawl awr neu ddiwrnodau hyd yn oed.
Gallwch chi ddarllen awgrymiadau ar sut i ymdopi ag ôl-fflachiadau ar ein tudalen ar hunanofal ar gyfer PTSD.
Rwy'n teimlo fel pe bawn i'n sefyll ar linell amser gyda'r gorffennol yn fy nhynnu i un cyfeiriad a'r presennol yn fy nhynnu i gyfeiriad arall. Rwy'n gweld ôl-fflachiadau o ddelweddau, mae synau yn torri drwodd, ac mae'r ofn yn dod o’r unlle. Mae fy nghalon yn rasio, rwy'n anadlu'n uchel a dydw i ddim yn gwybod ble ydw i.
Effeithiau eraill PTSD
Os ydych chi'n cael symptomau PTSD, efallai y byddwch chi hefyd yn cael anhawster ag agweddau pob dydd ar eich bywyd, fel:
- gofalu amdanoch chi eich hun
- cadw swydd
- cynnal cyfeillgarwch neu berthynas
- cofio pethau a gwneud penderfyniadau
- eich ysfa rywiol
- ymdopi â newid
- mwynhau eich amser hamdden.
Os ydych chi'n gyrru efallai y bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y DVLA bod gennych chi PTSD. Ceir rhagor o wybodaeth am eich hawl i yrru, yn cynnwys pryd a sut i gysylltu â'r DVLA, ar ein tudalennau cyfreithiol ar ffitrwydd i yrru.
Newidiodd fy ymddygiad ac aeth yn anwadal. Byddwn i'n newid o fod eisiau cau fy hun i ffwrdd a pheidio â gweld neb na siarad â neb i fynd allan i bartïon yng nghanol yr wythnos ac aros allan yn hwyr.
Roeddwn i'n isel iawn ac yn orbryderus iawn, roeddwn i'n gwrthod mynd i'r unlle ar fy mhen fy hun na mynd yn agos at ddynion dieithr... byddwn i'n cloi ffenestri fy ystafell wely ac yn baricedio drws fy ystafell wely dros nos.
Ceir rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn ar ein tudalennau ar orbryder a phyliau o banig, problemau cysgu, ffobiâu, iselder, anhwylderau datgysylltiol, hunan-niweidio a theimladau hunanladdol.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.