Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Beth sy'n achosi PTSD?

Gall y sefyllfaoedd sy'n peri trawma i ni amrywio o berson i berson. Mae llawer o ddigwyddiadau gwahanol sy'n niweidiol neu sy'n peryglu bywyd a all achosi i rywun ddatblygu PTSD. Er enghraifft:

  • bod mewn damwain car
  • wynebu trais neu ymosodiad rhywiol
  • cael eich cam-drin, eich poenydio neu eich bwlio, yn cynnwys hiliaeth, rhywiaeth a mathau eraill o gamdriniaeth sy'n targedu eich hunaniaeth
  • cael eich herwgipio, eich dal yn wystl neu unrhyw ddigwyddiad lle roeddech yn ofni am eich bywyd
  • wynebu trais, yn cynnwys gwrthdaro milwrol, ymosodiad terfysgol, neu unrhyw ymosodiad treisgar
  • gweld pobl eraill yn cael eu hanafu neu eu lladd, yn cynnwys yn rhinwedd eich swydd, sy'n cael ei alw weithiau yn drawma eilaidd
  • gwneud gwaith lle rydych chi'n gweld neu'n clywed pethau anodd drwy'r amser, fel yn y gwasanaethau brys neu'r lluoedd arfog
  • goroesi trychineb naturiol, fel llifogydd, daeargryn neu bandemig, fel pandemig y Coronafeirws
  • genedigaeth drawmatig fel mam neu bartner sy'n dyst i enedigaeth drawmatig
  • colli rhywun agos atoch chi yn arbennig mewn amgylchiadau anodd
  • cael eich cadw yn yr ysbyty neu gael triniaeth ar ward iechyd meddwl
  • cael diagnosis o gyflwr sy'n peryglu bywyd.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall pandemigau achosi trawma seicolegol. Os ydych yn chwilio am gymorth yn ystod pandemig y Coronafeirws, gallwch gael rhagor o wybodaeth am ofalu am eich iechyd meddwl yn ein hwb ar gyfer y Coronafeirws ac iechyd meddwl

Cefais fy mygio ac yna tua blwyddyn yn ddiweddarach, roeddwn i ar y tiwb pan oedd yr heddlu yn ceisio arestio rhywun oedd â dryll. Chefais i ddim fy anafu'n gorfforol yn y naill ddigwyddiad na'r llall – er fy mod i'n meddwl y byddwn i'n marw yn yr ail ddigwyddiad ac y byddwn i'n gweld llawer o bobl eraill yn marw.

A yw rhai pobl yn fwy tebygol o ddatblygu PTSD?

Gall rhai ffactorau olygu eich bod chi'n fwy agored i ddatblygu PTSD, neu gallant wneud y problemau rydych yn eu hwynebu yn fwy difrifol, yn cynnwys:

  • wynebu trawma dro ar ôl tro
  • cael anaf corfforol neu deimlo poen
  • cael ychydig iawn o gefnogaeth gan ffrindiau, teulu neu weithwyr proffesiynol, os o gwbl
  • delio â straen ychwanegol ar yr un pryd, fel profedigaeth, pryderon am arian, hiliaeth, ceisio lloches, digartrefedd neu dreulio amser yn y carchar
  • wedi wynebu gorbryder neu iselder yn y gorffennol.

Os cawsoch chi drawma pan oeddech chi'n ifanc neu os cawsoch chi drawma a barodd am amser hir neu sawl trawma, efallai y cewch chi ddiagnosis o PTSD cymhleth. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar PTSD cymhleth.

Cefais ddiagnosis o PTSD gan fy meddyg teulu ychydig wythnosau ar ôl marwolaeth fy nhad a fu farw'n sydyn iawn, yn dilyn cinio teuluol yn y dafarn leol. Cafodd drawiad o'n blaenau ni a bu'n rhaid i ni geisio rhoi CPR iddo yn y fan a'r lle wrth aros am yr ambiwlans. Bu farw yn ddiweddarach ar y ffordd i'r ysbyty.

Gall unrhyw un brofi digwyddiadau trawmatig, ond efallai eich bod chi'n arbennig o debygol o fod wedi cael trawma os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi'n gweithio mewn galwedigaeth risg uchel, fel y gwasanaethau brys neu'r lluoedd arfog
  • rydych chi'n ffoadur neu'n geisiwr lloches
  • cawsoch chi eich rhoi mewn gofal maeth.

Trawma Eilaidd

Os byddwch chi'n cael symptomau PTSD pan fyddwch chi'n cefnogi rhywun agos atoch chi sydd wedi wynebu trawma, caiff hyn ei alw weithiau yn ‘drawma eilaidd’ neu'n ‘straen trawmatig eilaidd’.

Ystyr ‘eilaidd’ yw, er bod y trawma gwreiddiol (sylfaenol) wedi digwydd i rywun arall, mae ei effaith ar eich bywyd chi yn drawmatig i chi. Nid yw hynny'n golygu ei fod yn llai pwysig nag unrhyw fath arall o PTSD, nac yn haws delio ag ef. Ceir awgrymiadau ar sut i ofalu amdanoch chi eich hun ar ein tudalen ar gyfer ffrindiau a theulu.

Weithiau, mae gweld neu glywed am ddigwyddiadau trawmatig dro ar ôl tro yn rhinwedd eich swydd yn cael ei alw yn ‘drawma eilaidd’, er bod gweithwyr proffesiynol yn ystyried fwyfwy mai trawma gwreiddiol (sylfaenol) yw hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn ar ein tudalennau ar drawma, sut i reoli straen, profedigaeth, camdriniaeth, arian ac iechyd meddwl, gorbryder a phyliau o banig ac iselder.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig