Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

This page is also available in English.

Sut y gallaf i helpu fy hun?

Gall byw gyda PTSD fod yn llethol. Mae'r dudalen hon yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer edrych ar ôl eich hun.

Awgrymiadau ar ymdopi ag ôl-fflachiadau

Gall ôl-fflachiadau achosi gofid mawr, ond mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu. Gallech chi wneud y canlynol:

  • Canolbwyntiwch ar eich anadlu. Pan fyddwch chi'n teimlo'n ofnus, efallai na fyddwch chi'n anadlu'n normal. Bydd hyn yn cynyddu'r teimladau o ofn a phanig, felly gall helpu i ganolbwyntio ar anadlu'n araf i mewn ac allan wrth gyfrif i bump.
  • Cariwch wrthrych sy'n eich atgoffa chi o'r presennol. Bydd rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol cyffwrdd neu edrych ar wrthrych penodol yn ystod ôl-fflachiad. Gallai hyn fod yn rhywbeth y byddwch chi'n penderfynu ei gario yn eich poced neu eich bag, neu'n rhywbeth sydd gennych chi beth bynnag, fel torch allwedd neu ddarn o emwaith.
  • Dywedwch wrthych chi eich hun eich bod chi'n ddiogel. Gall helpu i ddweud wrthych chi eich hun bod y trawma drosodd a'ch bod chi'n ddiogel nawr. Gall fod yn anodd meddwl fel hyn yn ystod ôl-fflachiad, felly gall ysgrifennu neu gofnodi ymadroddion defnyddiol ar adeg pan fyddwch chi'n teimlo'n well fod o help.
  • Cysurwch eich hun. Er enghraifft, gallech chi swatio mewn blanced, anwesu anifail anwes, gwrando ar gerddoriaeth ymlaciol neu wylio eich hoff ffilm.
  • Cadwch ddyddiadur. Gallai gwneud nodyn o'r hyn sy'n digwydd pan fyddwch chi'n cael ôl-fflachiad eich helpu chi i nodi patrymau yn yr hyn sy'n sbarduno'r profiadau hyn i chi. Gallech chi hefyd ddysgu sylwi ar arwyddion cynnar eu bod yn dechrau digwydd.
  • Rhowch gynnig ar dechnegau daearu. Gall technegau daearu eich cadw chi mewn cysylltiad â'r presennol a'ch helpu i ymdopi ag ôl-fflachiadau neu feddyliau ymwthiol. Er enghraifft, gallech chi ddisgrifio'r hyn sydd o'ch cwmpas yn uchel neu gyfrif gwrthrychau o fath neu liw penodol. Mae rhagor o syniadau ar dechnegau daearu ar ein tudalen ar hunanofal ar gyfer anhwylderau datgysylltiol.

Allwch chi ddim stopio'r tonnau ond gallwch chi ddysgu sut i syrffio; drwy fy nhaith i wella o PTSD rydw i wedi dysgu bod emosiynau yn mynd a dod mewn tonnau. Yn lle brwydro yn eu herbyn, mae'n well mynd gyda nhw.

Efallai y gwelwch fod rhai profiadau, sefyllfaoedd neu bobl yn sbarduno ôl-fflachiadau neu symptomau eraill. Gallai'r rhain gynnwys cael eich atgoffa'n benodol am drawma o'r gorffennol, fel:

  • arogleuon
  • synau
  • geiriau
  • llefydd
  • mathau penodol o lyfrau neu ffilmiau.

Efallai y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n arbennig o anodd ar ddyddiadau pwysig, fel dyddiad profiad trawmatig. Gall helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer yr adegau hyn a defnyddio awgrymiadau hunanofal i'ch helpu chi.

Gall fod yn anodd bod yn agored i eraill pan fyddwch chi'n dioddef o PTSD. Gall hyn fod am na allwch siarad am yr hyn sydd wedi digwydd i chi neu am eich bod yn ei chael hi'n anodd ymddiried mewn pobl eraill ar ôl eich profiad trawmatig.

Ond nid oes angen i chi allu disgrifio'r trawma er mwyn dweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo ar y pryd. Gallai helpu i siarad â ffrind neu aelod o'r teulu, neu weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu neu wrandäwr wedi'i hyfforddi ar linell gymorth.

Mae rhagor o wybodaeth am linellau cymorth ar ein tudalen ar gymorth dros y ffôn. Mae ein tudalen ar siarad â'ch meddyg teulu hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ddechrau sgyrsiau anodd am eich teimladau gyda'ch meddyg.

Mae gan bawb ei ymateb unigryw ei hun i drawma ac mae'n bwysig cymryd pethau ar eich cyflymder eich hun.

Er enghraifft, efallai na fydd yn helpu i siarad am eich profiadau nes y byddwch chi'n teimlo'n barod i wneud hynny. Ceisiwch fod yn amyneddgar â chi eich hun a pheidiwch â beirniadu eich hun yn rhy llym am fod angen amser a chymorth i wella o PTSD.

Mae cymorth gan gymheiriaid yn dwyn pobl ynghyd sydd wedi cael profiadau tebyg, a all fod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl.

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn mae'n ei olygu a sut i ddod o hyd i grŵp cymorth gan gymheiriaid sy'n addas i chi ar ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid.

Gobaith. Mae gobaith o hyd. Gyda'r driniaeth a'r cymorth cywir, bydd pethau'n gwella. Rwy'n brawf o hynny.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gysylltu â sefydliad sy'n arbenigo mewn cyngor a chymorth ar gyfer PTSD, fel Gofal Trawma ASSIST.

Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol dod o hyd i sefydliad sydd ag arbenigedd yn y math penodol o drawma a gawsoch.

Mae manylion sefydliadau perthnasol ar ein tudalen ar gysylltiadau defnyddiol.

Gall ymdopi â PTSD fod yn waith blinedig iawn. Efallai na fyddwch yn teimlo bod gennych chi'r egni i ofalu amdanoch chi eich hun, ond gall gofalu am eich iechyd corfforol wneud gwahaniaeth i'r ffordd rydych chi'n teimlo yn emosiynol.

Er enghraifft, gall helpu i wneud y canlynol:

  • Meddyliwch am eich deiet. Gall yfed digon o ddŵr, bwyta'n rheolaidd a chadw'r lefelau siwgr yn eich gwaed yn sefydlog eich helpu chi i ymdopi pan fydd pethau'n teimlo'n anodd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar fwyd a hwyliau.
  • Ceisiwch wneud ymarfer corff. Gall ymarfer corff fod yn ddefnyddiol iawn i'ch lles meddyliol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar weithgarwch corfforol.
  • Treuliwch amser yn yr awyr agored. Efallai y bydd y byd y tu allan yn teimlo'n llethol, ond gall treulio amser mewn mannau gwyrdd roi hwb i'ch llesiant. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar fyd natur ac iechyd meddwl.
  • Peidiwch â chymryd cyffuriau ac yfed alcohol. Er y byddwch efallai am ddefnyddio cyffuriau neu alcohol er mwyn ymdopi â theimladau anodd, atgofion neu boen corfforol, gallant wneud i chi deimlo'n waeth yn y pen draw. Gallant hefyd wneud problemau eraill yn waeth, fel anhawster cysgu. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gyffuriau hamdden ac alcohol.

PTSD a phroblemau cysgu

Bydd llawer o bobl sy'n wynebu PTSD yn cael problemau cysgu. Efallai eich bod chi'n:

  • ei chael hi'n anodd syrthio i gysgu neu barhau i gysgu
  • teimlo'n anniogel yn ystod y nos
  • teimlo'n bryderus neu'n ofni cael hunllefau.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar ymdopi â phroblemau cysgu.

Pethau sydd wedi helpu: dechreuais redeg, a helpodd fi i gysgu, am ei fod fel petai'n clirio'r adrenalin gormodol; siarad â fy ffrindiau a fy chwaer, dro ar ôl tro; rhoi'r gorau i siwgr ac alcohol, am fy mod wedi bod yn eu defnyddio fel masgiau ar gyfer fy ymddygiad anwadal.

Digartrefedd a PTSD – sut mae drymio wedi fy helpu

Fy mhenderfyniad i fod yn ddylanwad cadarnhaol ym mywyd fy mhlant oedd fy rheswm dros aros a cheisio gweithio drwy fy mhroblemau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig