Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Mae'n egluro beth yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r adran hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd am gefnogi rhywun sydd â PTSD.

Gall fod yn anodd iawn gweld rhywun sy'n annwyl i chi yn profi symptomau PTSD neu PTSD cymhleth. Mae'r dudalen hon yn nodi rhai awgrymiadau ynghylch sut y gallwch eu helpu gan ofalu am eich llesiant eich hun ar yr un pryd.

Gwrando ar yr unigolyn

Os byddwch yn teimlo y gallwch wneud hynny, gallech helpu drwy wneud y canlynol:

  • rhoi amser iddo siarad ar ei gyflymder ei hun – mae'n bwysig peidio â rhoi pwysau arno
  • gadael iddo fod yn ddigalon am yr hyn sydd wedi digwydd
  • peidio â gwneud tybiaethau ynghylch y ffordd mae'n teimlo ar hyn o bryd, na'r ffordd yr oedd yn teimlo yn y gorffennol
  • peidio â diystyru ei brofiadau drwy ddweud “gallai fod yn waeth” neu gwestiynu pam na wnaeth ddweud neu wneud pethau'n wahanol.

Doedd neb o fy nghwmpas yn deall yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. Roedd yn anodd egluro. Doedd dim geiriau i gyfleu'r hyn roeddwn i'n mynd drwyddo.

Ceisio peidio â beirniadu

Os nad ydych chi wedi profi PTSD eich hun, gall fod yn anodd deall pam na all eich ffrind neu aelod o'r teulu ‘symud ymlaen’. Mae'n naturiol i chi ddymuno y gallai pethau fod yn normal eto, ond mae'n bwysig peidio â'i feio na rhoi pwysau arno i wella heb roi'r amser a'r cymorth sydd eu hangen arno.

Dysgwch am yr hyn sy'n sbarduno ôl-fflachiadau neu deimladau anodd

Bydd gan bawb brofiad gwahanol o PTSD, felly gallai helpu i siarad am y mathau o sefyllfaoedd neu sgyrsiau a allai sbarduno ôl-fflachiadau neu deimladau anodd. Er enghraifft, efallai y bydd synau uchel, dadleuon neu lefydd penodol yn ei gynhyrfu. Gallai deall yr hyn sy'n ei sbarduno eich helpu chi i osgoi'r sefyllfaoedd hyn, a theimlo'n fwy parod pan fydd ôl-fflachiadau'n digwydd.

Blaengynllunio ar gyfer adegau anodd

Pan fydd ffrind neu berthynas yn teimlo'n dda, gall fod yn ddefnyddiol trafod sut y gallwch chi ei helpu os bydd yn mynd yn sâl neu os bydd argyfwng. Gallech chi wneud y canlynol:

  • ei annog i ysgrifennu cynllun argyfwng
  • trafod pa symptomau y gallwch gadw golwg amdanynt
  • dod i adnabod yr hyn sy'n ei sbarduno a chynllunio sut i ymdopi â hynny.

Gall hyn ei helpu i osgoi argyfyngau neu eu rheoli'n wahanol yn y dyfodol lle y bo'n bosibl. Wrth gael y sgyrsiau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn meddwl faint y gallwch chi ymdopi ag ef, a dylech chi ond rhoi'r cymorth rydych chi'n teimlo y gallwch chi ei roi. Mae'n bwysig gofalu amdanoch chi eich hun hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gynllunio ar gyfer argyfwng, helpu rhywun arall i geisio help ac eiriolaeth.

Awgrymiadau ar helpu rhywun sy'n cael ôl-fflachiad

Mae ôl-fflachiadau yn brofiadau byw pan fydd rhywun yn ail-fyw agweddau ar ddigwyddiad trawmatig. Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu pan fydd rhywun yn cael ôl-fflachiad, ond does dim angen i chi gael hyfforddiant arbennig i gefnogi rhywun sy'n cael un. Gallai helpu os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • ceisio peidio â chynhyrfu
  • dweud wrtho'n dyner ei fod yn cael ôl-fflachiad
  • osgoi gwneud unrhyw symudiadau annisgwyl
  • ei annog i anadlu'n araf ac yn ddwfn
  • ei annog i ddisgrifio'r hyn sydd o'i amgylch.

Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadrannau ar beth yw ôl-fflachiadau ac awgrymiadau ar sut i ymdopi ag ôl-fflachiadau.

Parchu ei ofod personol

Yn aml, bydd pobl sy'n wynebu PTSD ar bigau'r drain. Efallai y bydd yn cael braw yn hawdd neu'n teimlo bod angen iddo wastad gadw golwg am berygl. Gall helpu os byddwch:

  • yn rhoi digon o le i'r unigolyn
  • yn peidio â'i gyffwrdd na'i gofleidio heb ganiatâd
  • yn ceisio peidio â rhoi braw iddo na'i ddychryn.

Cadw llygad am arwyddion rhybudd

Efallai y byddwch yn gweld newid yn ymddygiad yr unigolyn rydych am ei gefnogi. Er enghraifft:

  • newid yn ei hwyliau, fel teimlo'n isel, yn bryderus, yn ddigalon, yn ddig neu'n bigog yn aml
  • newid mewn perfformiad yn y gwaith, fel bod yn hwyr neu golli dyddiadau cau
  • newid mewn lefelau egni, fel effrogarwch eithafol neu ddiffyg canolbwyntio.

Os byddwch chi'n sylwi ar y mathau hyn o newidiadau yn rhywun sy'n agos atoch chi, gallech chi ofyn sut mae'n teimlo. Gallai hyn ei annog i fod yn agored.

Ei helpu i ddod o hyd i gymorth

Os bydd am i chi wneud hynny, gallech chi helpu eich ffrind neu aelod o'r teulu i ddod o hyd i gymorth pellach. Er enghraifft gallech chi wneud y canlynol:

Gofalu am eich iechyd meddwl eich hun

Mae'n bwysig cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae ein tudalennau ar helpu rhywun arall i ofyn am help, sut i ymdopi wrth helpu rhywun arall, rheoli straen a chynnal eich llesiant i gyd yn cynnwys llawer o wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i ofalu amdanoch chi eich hun.

Opsiynau cymorth i chi

Gall digwyddiad trawmatig gael effaith sylweddol ar y sawl sydd wedi byw drwyddo, a hefyd ar deulu agos, ffrindiau a chydweithwyr yr unigolyn hwnnw.

Os byddwch chi'n cael symptomau PTSD eich hun wrth helpu rhywun drwy drawma (a elwir weithiau yn drawma eilaidd), gallai helpu i roi cynnig ar rai o'r awgrymiadau ar ein tudalen hunanofal ar gyfer PTSD.

Mae hefyd yn syniad da siarad â'ch meddyg teulu am y ffordd rydych chi'n teimlo, a gofyn a all gynnig unrhyw driniaeth neu gymorth i chi.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n llunio canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn dweud y dylai gweithwyr proffesiynol ystyried effaith digwyddiadau trawmatig ar berthnasau a meddwl sut i ddarparu gofal priodol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig