Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Gwybodaeth am iselder, ei symptomau a'r rhesymau posib dros hynny, a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sut i ofalu amdanoch eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Beth yw iselder?

Problem iechyd meddwl yw iselder lle’r ydych chi mewn hwyliau isel neu’n colli diddordeb a mwynhad mewn pethau. Mae hefyd yn gallu achosi amrywiaeth o newidiadau eraill i’r ffordd yr ydych chi’n teimlo neu’n ymddwyn.

Mae’r symptomau yr ydych chi’n eu profi’n gallu amrywio. Mae eu dwyster, pa mor hir y maen nhw’n para, ac i ba raddau y maen nhw’n effeithio ar eich bywyd bob dydd hefyd yn gallu amrywio.

Os ydych chi’n profi iselder llai dwys, efallai byddwch chi mewn hwyliau isel ond yn dal i allu parhau â’ch bywyd bob dydd. Ond efallai bydd pethau’n teimlo’n anoddach ac yn llai gwerthchweil.

Os oes gennych chi iselder mwy difrifol, efallai bydd bywyd o ddydd i ddydd llawer yn fwy anodd i chi. Efallai byddwch chi hefyd yn profi teimladau hunanladdol.

Mae’n dechrau fel tristwch ac yna dwi’n teimlo fy hun yn cau lawr, gyda llai o allu i ymdopi. Yn y pen draw, dwi’n ddideimlad ac yn wag.

Pryd y mae hwyliau isel yn troi’n iselder?

Rydym ni i gyd yn cael adegau lle mae ein hwyliau’n isel, ac rydym ni’n teimlo’n drist neu wedi cael llond bol. Yn aml, mae’r teimladau hyn yn digwydd am reswm ac yn pasio.

Ond os yw’r teimladau hyn yn gwaethygu i’r pwynt eu bod yn ymyrryd â bywyd bob dydd, gall hyn fod yn iselder. Neu os ydyn nhw’n para am wythnosau neu fisoedd.

Gweler ein tudalen am symptomau iselder i gael rhagor o wybodaeth.

Dysgais i ymdopi drwy ddweud wrth fy hun nad oedd unrhyw beth yn bwysig

Fy ffordd o ymdopi oedd dweud wrth fy hun yn bendant nad oedd unrhyw beth yn bwysig

A oes gwahanol fathau o iselder?

Os ydych chi’n cael diagnosis o iselder, efallai byddan nhw’n dweud wrthych ei fod yn ‘llai difrifol’ neu’n ‘fwy difrifol’. Mae hyn yn disgrifio sut y mae eich symptomau yn effeithio arnoch, a pha driniaeth sy’n debygol o gael ei chynnig i chi. Efallai bydd difrifoldeb eich iselder yn newid dros amser. 

Weithiau efallai byddwch chi’n clywed iselder yn cael ei alw’n ‘anhwylder iselder difrifol’. Mae mathau eraill o iselder yn bodoli hefyd:

  • Anhwylder iselder parhaus (PDD). Iselder parhaus yw PDD sy’n parhau am ddwy flynedd neu’n fwy. Efallai byddwch chi hefyd yn ei glywed yn cael ei alw’n dysthymia neu iselder cronig.
  • Anhwylder affeithiol tymhorol (SAD). Iselder yw SAD sy’n digwydd ar adeg benodol yn ystod y flwyddyn, neu yn ystod tymor penodol. Gweler ein tudalen am SAD i gael rhagor o wybodaeth.
  • Iselder cynenedigol. Dyma iselder sy’n digwydd pan fyddwch chi’n feichiog.
  • Iselder ôl-enedigol (PND). Dyma iselder sy’n digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf ar ôl cael babi. Mae hyn yn gallu effeithio ar dadau a phartneriaid hefyd. Gweler ein tudalennau am iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol i gael rhagor o wybodaeth.
  • Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD). Dyma anhwylder sy’n ymwneud â hormonau sy’n effeithio ar eich corff a hefyd sut rydych chi’n teimlo. Mae hyn yn gallu cynnwys profi iselder. Felly mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn disgrifio hyn fel problem iechyd meddwl.

Gweler ein tudalen am ddiagnosis i ddysgu rhagor am sut mae gwahanol broblemau iechyd meddwl yn cael diagnosis.

Weithiau mae’n teimlo fel twll du ond weithiau mae’n teimlo bod angen i mi lefain a sgrechian a chician a gweiddi. Weithiau dwi’n mynd yn dawel ac yn cloi fy hun yn fy ystafell ac weithiau mae’n rhaid i mi fod yn brysur drwy gydol y dydd er mwyn tynnu fy sylw.

Sut brofiad yw iselder?

Gwyliwch Hannah, Helen, Rishi, Nathan a Georgina yn siarad am sut deimlad yw iselder, sut maen nhw wedi dysgu ymdopi, a sut mae eu ffrindiau a’u teuluoedd yn eu helpu.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ebrill 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig