Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Dysgwch am iselder, ei symptomau ac achosion posibl, a sut allwch chi gyrchu triniaeth a chefnogaeth. Dewch o hyd i awgrymiadau ar gyfer gofalu am eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

This page is also available in English.

Sut alla i gefnogi rhywun sy’n profi iselder?

Cefnogwch nhw i gael cymorth

Ni allwch chi orfodi rhywun i gael cymorth ar gyfer iselder os nad ydyn nhw eisiau hynny. Ond gallwch ddweud wrthynt ei fod yn iawn gofyn am help, a bod y gefnogaeth ar gael.

Mae eu helpu gyda phethau ymarferol hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, chwilio am wasanaethau sydd ar gael neu fynd â nhw i apwyntiadau. Gweler ein tudalennau am helpu rhywun arall i geisio cymorth i gael rhagor o wybodaeth.

Byddwch yn agored am iselder

Mae nifer o bobl yn cael trafferth bod yn agored a siarad am y ffordd y maen nhw’n teimlo. Ceisiwch fod yn agored am iselder ac emosiynau anodd.

Bydd hyn yn eu helpu i wybod ei fod yn iawn i siarad am eu profiad. Mae siarad yn onest, heb feirniadu, yn gallu rhoi gwybod iddyn nhw eich bod yn barod i wrando.

Y pethau gorau y mae ffrindiau a theulu’n gallu ei wneud yn syml yw gwrando. Yn aml, does dim rhaid iddyn nhw ddweud unrhyw beth, mae bod yn fodlon gwrando ar eich problemau yn gwneud i chi deimlo’n llai unig ac ynysig.

Cadwch mewn cysylltiad

Efallai bydd hi’n anodd iddyn nhw gael yr egni i gadw mewn cyswllt. Felly gall gwneud yr ymdrech i gadw mewn cysylltiad â nhw fod o fudd iddynt.

Gall hyd yn oed fod yn neges destun neu’n e-bost i roi gwybod iddynt eich bod yn meddwl amdanynt. Gallai hyn wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y maen nhw’n teimlo.

Ceisiwch beidio â rhoi gormod o bwysau arnynt i ateb. Y prif beth yw eu bod yn gwybod eich bod chi yno iddyn nhw.

Siarad...nid hyd yn oed siarad am fy nheimladau. Jyst siarad am bethau difater dros goffi, heb bwysau a gwybod fy mod i’n gallu siarad am y pethau anodd pe bai angen.

Peidiwch â bod yn feirniadol

Efallai bydd hi’n anodd i chi ddeall pam nad yw rhywun yn gallu goresgyn iselder. Mae hyn yn arbennig o wir os nad ydych wedi’i brofi eich hun.

Ceisiwch beidio â’u beio na rhoi gormod o bwysau arnyn nhw i wella’n syth. Maen nhw’n fwy na thebyg yn beirniadu eu hunain yn barod.

Mae galwad neu neges destun syml yn gofyn sut ydw i yn helpu. Dwi ddim eisiau cydymdeimlad, dim ond gwybod eu bod nhw yno petai angen.

Dewch o hyd i gydbwysedd

Os yw rhywun yn cael trafferth, efallai byddwch chi am ofalu am bopeth drostynt. Efallai bydd pethau ymarferol y gallwch eu helpu i wneud, fel gwaith tŷ neu goginio. Ond mae eu hannog i wneud pethau drostynt eu hunain hefyd yn gallu helpu.

Bydd angen cefnogaeth wahanol ar bawb. Gallech chi ofyn beth fyddai’n ddefnyddiol iddyn nhw, a gallech eu helpu i adnabod pethau y gallan nhw roi cynnig arnynt eu hunain.

Mae dod o hyd i ffyrdd o symleiddio pethau os ydynt yn cael trafferth hefyd yn gallu helpu. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n eu helpu i drefnu slot siopa bwyd wythnosol. Neu gallech chi awgrymu prydau bwyd hawdd y gallwch eu coginio ymlaen llaw a’u rhewi.

Parhewch i wneud pethau y byddech chi fel arfer yn eu gwneud

Pan fydd rhywun yr ydych chi’n ei adnabod yn profi iselder, gall hyn deimlo fel ffocws eich perthynas. Ond dim ond un agwedd ar fywyd person yw iselder.

Mae parhau i wneud pethau eraill gyda’ch gilydd yn gallu helpu, yn ogystal â siarad am bethau y byddech chi fel arfer yn siarad amdanynt. Er enghraifft, os ydych chi fel arfer yn gwylio teledu gyda’ch gilydd, neu’n rhannu diddordeb.

Gofalwch am eich hun

Mae gofalu am rywun arall yn gallu rhoi straen ar eich lles. Cofiwch fod eich iechyd meddwl chi’n bwysig hefyd. Ceisiwch beidio â theimlo’n euog am gymryd amser i ofalu am eich hun.

Gall hyn deimlo’n anodd os ydych chi’n treulio llawer o amser gyda rhywun sy’n profi iselder. Er enghraifft, os ydych chi’n gofalu amdanynt neu’n byw gyda’ch gilydd. Efallai byddwch chi’n teimlo bod rhaid i chi fod yno iddyn nhw drwy’r amser, ac yn rhoi eu hanghenion o flaen eich anghenion chi.

Ond mae’n iawn i neilltuo amser i chi’ch hun, a byddwch chi’n fwy na thebyg yn teimlo y gallwch gefnogi rhywun yn well os ydych chi’n gofalu am les eich hun.

Os ydych chi’n gofalu am rywun, mae gan ein tudalennau am ymdopi fel gofalwr wybodaeth a allai helpu. Mae hefyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr chwilotwr gwasanaethau lleol ar gyfer gwasanaethau i ofalwyr y gallwch ei chwilio i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal.

Awgrymiadau ar gyfer dechrau'r sgwrs

Weithiau mae’n anodd gwybod y peth iawn i ddweud wrth rywun sy’n profi iselder.

Dyma rai pethau cefnogol i’w dweud:

  • “Mae’n flin gen i dy fod yn teimlo fel hyn, a dwi yma i ti.”
  • “Rwyt ti’n bwysig i mi.”
  • “Sut wyt ti’n ymdopi?”
  • “Beth alla i ei wneud i dy helpu heddiw?” Neu, os allwch chi, gofynnwch rywbeth mwy penodol, megis, “Hoffet ti i mi ddod draw a chadw cwmni i ti?”

Ceisiwch ag osgoi datganiadau fel:

  • “Cod dy galon” neu “meddylia’n gadarnhaol.”
  • “Dwyt ti ddim yn ymddangos mor drist â hynny”, neu unrhyw beth sy’n annilysu eu profiadau.
  • “Mae pobl eraill yn wynebu sefyllfaoedd llawer yn anoddach.”
  • “Fyddet ti ddim yn isel petaet ti’n gwneud ymarfer corff”, neu unrhyw beth sy’n eu beio am yr hyn y maen nhw’n ei brofi.
  • “Rwyt ti’n hunanol,” neu “dylet ti feddwl am y ffordd y mae hyn yn effeithio ar y gweddill ohonom.”

Gwrandewch yn ofalus, peidiwch â barnu ac yn fwyaf oll, peidiwch â dweud ‘Cod dy galon’. Dyw hi ddim mor syml â hynny. Weithiau does dim angen datrysiadau, felly peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ddarparu un.

Beth alla i ei wneud os nad ydyn nhw eisiau help?

Weithiau, efallai na fydd person sydd ag iselder eisiau cael help, neu efallai na fyddan nhw’n gallu. Gall hyn gynnwys unrhyw help yr ydych chi’n ei gynnig.

Mae’n ddealladwy os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig, yn ofidus ac yn ddiymadferth am hyn. Os allwch chi, ceisiwch dderbyn bod cyfyngiadau ar yr hyn y gallwch ei wneud i gefnogi person arall.

Mae yna rhai pethau y gallwch eu gwneud:

  • Byddwch yn amyneddgar. Ni fyddwch chi bob amser yn gwybod y stori lawn, ac efallai bydd rhesymau pam ei fod yn anodd iddyn nhw ofyn am help
  • Cynigiwch gefnogaeth a sicrwydd emosiynol. Rhowch wybod iddyn nhw eu bod yn bwysig i chi ac y byddwch chi yno os ydyn nhw’n newid eu meddwl.
  • Rhowch wybod iddyn nhw sut allan nhw gael mynediad at gymorth pan fyddan nhw’n barod. Er enghraifft, gallech chi ddangos ein tudalennau am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl iddyn nhw.
  • Gofalwch am eich hun, i helpu eich hun i osgoi mynd yn sâl hefyd.

Cefnogi rhywun mewn argyfwng

Mae’n bosibl y bydd adegau lle y mae angen i’ch ffrind neu aelod teuluol geisio cymorth yn fwy brys. Er enghraifft, os ydyn nhw:

  • Wedi niweidio eu hunain ac angen sylw meddygol
  • Yn cael teimladau hunanladdol, ac yn teimlo y gallen nhw weithredu arnynt
  • Yn rhoi eu hunain neu rywun arall mewn perygl difrifol o niwed

Os nad ydyn nhw’n ddiogel ar eu pen eu hunain ar hyn o bryd

Helpwch nhw i ffonio ambiwlans ar 999 ac arhoswch gyda nhw, os allwch chi. Neu gallech chi eu helpu i fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Efallai y byddan nhw’n gwerthfawrogi petaech chi’n aros gyda nhw tan eu bod yn gallu gweld meddyg.

Os ydyn nhw’n gallu cadw eu hunain yn ddiogel am ychydig

Gallwch chi gael cyngor meddygol cyflym trwy ffonio NHS 111 yn Lloegr, neu NHS 111 Cymru (yng Nghymru, gallwch chi ddewis opsiwn 2 i gael cymorth iechyd meddwl brys). Neu gallech chi eu helpu i wneud apwyntiad argyfwng â’r meddyg teulu i weld meddyg yn fuan.

Gallech chi hefyd awgrymu eu bod nhw’n ffonio’r Samariaid ar 116 123 i siarad â rhywun, sydd ar gael 24 awr y dydd. Neu rhowch gynnig ar linell gymorth neu wasanaeth gwrando arall.

Gall hefyd helpu gwaredu unrhyw beth y gallen nhw ei ddefnyddio i niweidio eu hunain. Mae hyn yn arbennig o wir os ydyn nhw wedi crybwyll pethau penodol y gallent eu defnyddio.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ebrill 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig