er gwell iechyd meddwl
Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder

Gwybodaeth am iselder, ei symptomau a'r rhesymau posib dros hynny, a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sut i ofalu amdanoch eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cofiwch: mae gennych chi hawl i chwarae rhan yn eich triniaeth.

Bydd y math o driniaeth a gynigir i chi ar gyfer iselder yn dibynnu ar i ba raddau y mae eich symptomau yn effeithio arnoch, a dylai ystyried eich dewis personol chi o ran pa fath o driniaeth yr ydych yn teimlo sydd yn eich helpu.

Edrychwch ar ein tudalennau  ceisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth am siarad â'ch meddyg a lleisio'ch barn.

"Roeddwn i'n cael trafferth gyda'r SSRI, er i fy Meddyg Teulu ddweud mai dyna oedd yr unig ffordd. Roedden nhw'n gwneud i mi deimlo'n waeth nag yr oeddwn ar y dechrau, yna'n ofnadwy o flinedig. Fe wnes i ymladd am gael fy nghyfeirio am Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ac yn y diwedd, hynny wnaeth fy achub i."

Adnoddau hunangymorth

Efallai mai adnodd hunangymorth fydd yr opsiwn cyntaf y bydd eich meddyg yn ei gynnig i chi fel triniaeth, yn enwedig os mai iselder ysgafn sydd gennych.  Mae hyn oherwydd ei fod ar gael yn eithaf cyflym, a byd siawns y gallai eich helpu chi i deimlo'n well heb orfod rhoi cynnig ar opsiynau eraill.

Gallai hunan-cymorth gael ei ddarparu drwy:

  • Rhaglen hunangymorth. Er enghraifft, gallai eich Meddyg Teulu argymell eich bod yn gweithio drwy raglen hunangymorth, a elwir yn aml yn llawlyfr hunangymorth. Dylai gweithiwr iechyd proffesiynol ddarparu cymorth i chi a gwirio'ch cynnydd, un ai wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn.
  • Rhaglen Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) gyfrifiadurol ar gyfer iselder. Fe allai eich meddyg teulu gyfeirio at hyn fel therapi ymddygiad gwybyddol cyfrifiadurol (CCBT). Mae rhai pobl yn canfod fod CCBT yn eu helpu i ddeall eu hiselder a herio meddyliau negyddol. Beating the Blues – dyma enghraifft o raglen CCBT a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
  • Rhaglen o weithgarwch corfforolFe allai eich Meddyg Teulu argymell eich bod yn ymuno â dosbarth ymarfer corff fel grŵp. Lluniwyd y rhain yn benodol ar gyfer pobl ag iselder ac maent yn cael eu cynnal gan weithwyr proffesiynol cymwys.

Triniaethau siarad ar gyfer iselder

Mae llawer o wahanol driniaethau siarad a all fod yn effeithiol wrth drin iselder:

  • therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT)
  • CBT ar sail grŵp
  • therapi rhyngbersonol (IPT)
  • ysgogi ymddygiadol
  • seicotherapi seicodynamig
  • therapi ymddygiadol cyplau - os oes gennych chi bartner hirdymor, a bod eich meddyg yn cytuno y byddai'n ddefnyddiol eu cynnwys nhw yn eich triniaeth.

Gall eich meddyg neu weithiwr proffesiynol iechyd meddwl siarad drwy'r opsiynau sydd ar gael yn eich ardal chi a'ch helpu i ganfod y math o driniaeth siarad sy'n addas ar eich cyfer chi. Yn anffodus, gwyddom y gall rhestrau aros y GIG ar gyfer triniaethau siarad fod yn hir iawn mewn llawer o lefydd.

Mae ein tudalen therapi a chwnsela yn cynnwys rhagor o fanylion am y therapïau hyn , a gwybodaeth am sut i gael gafael arnynt – drwy'r GIG, elusennau ac yn breifat.

Yn Lloegr, efallai y bydd modd i chi hunangyfeirio am therapi drwy'r rhaglen Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol (IAPT).

"Mae siarad pethau drwodd gyda chwnselydd neu therapydd yn rhoi help gwirioneddol i mi weld pethau'n fwy rhesymegol a gwneud cysylltiadau rhwng realiti a'r hyn sydd tu mewn i fy mhen i."

A ddylwn i roi'r gorau i therapi os bydda' i'n dechrau teimlo'n well?

Os ydych chi'n derbyn triniaeth siarad ar hyn o bryd, does dim rhaid i chi stopio am eich bod yn teimlo'n well.  Gallwch drafod eich hwyliau gyda'ch therapydd a siarad am ba opsiynau allai fod yn addas ar eich cyfer chi.

Mae canllawiau NICE yn argymell CBT neu therapi gwybyddol ar sail ymwybyddiaeth ofalgar i'ch helpu chi i gadw'n iach os ydych chi wedi cael pyliau o iselder yn y gorffennol.

Man looks outwards

Bwrw eich bol ynghylch iselder

"Po fwyaf yr oeddwn i'n bwrw fy mol yn y sesiynau cwnsela, llai o faich yr oeddwn yn ei deimlo ar fy ysgwyddau."

Meddyginiaeth ar gyfer iselder

Os nad yw hunangymorth, therapi ymddygiad gwybyddol cyfrifiadurol na gweithgarwch corfforol wedi eich helpu chi, efallai y cynigir meddyginiaeth gwrth-iselder i chi hefyd, un ai ar ben ei hun neu wedi'i chyfuno â thriniaeth siarad.  Ceir gwahanol fathau o feddyginiaeth gwrth-iselder:

Mae gwahanol bobl yn cael gwahanol driniaethau'n fwyaf defnyddiol.  Gallwch siarad â'ch meddyg am eich opsiynau – fe allech ganfod bod yn rhaid rhoi cynnig ar nifer o wahanol feddyginiaethau cyn y deuwch o hyd i'r un sy'n gweithio i chi. Edrychwch ar ein tudalennau cyffuriau gwrth-iselder i gael rhagor o wybodaeth.

"Mae cyffuriau gwrth-iselder wedi helpu i fy rhoi yn rhywle lle yr oeddwn yn fwy abl i ymdopi â chwnsela. Roedd hyn yn galw am lawer o waith caled a bu'n rhaid i mi dderbyn ffordd hollol wahanol o feddwl."

Dod oddi ar feddyginiaeth

Os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth ar gyfer iselder, mae'n bwysig peidio â stopio'n sydyn. Gall symptomau rhoi'r gorau i gyffuriau gwrth-iselder fod yn anodd ymdopi â nhw, a gall stopio'n sydyn fod yn beryglus. Edrychwch ar ein tudalennau dod oddi ar gyffuriau gwrth-iselder a dod oddi ar feddyginiaeth seiciatrig i gael rhagor o wybodaeth.

Os byddwch chi'n penderfynu ceisio dod oddi ar eich meddyginiaeth, mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud y canlynol:

  • cael cymorth, gan eraill sydd wedi dod oddi ar y driniaeth yn llwyddiannus fyddai orau, a gan weithiwr proffesiynol sy'n deall y broses
  • canfod y risgiau posibl a sut i'w lleihau i'r eithaf
  • dod oddi ar y cyffuriau'n raddol, dros gyfnod o amser.

Mae Canllawiau NICE yn argymell eich bod yn parhau i gymryd eich cyffuriau gwrth-iselder am o leiaf chwe mis ar ôl i'ch pwl o iselder ddod i ben. Os ydych chi wedi profi sawl pwl o iselder o'r blaen, efallai y byddwch eisiau dal ati i gymryd eich meddyginiaeth os ydych chi'n teimlo y gallai eich helpu i atal pwl arall.

"Rydw i wedi cael tri phrofiad o leihau/ddod oddi ar feddyginiaeth yn gyfan gwbl gyda fy Meddyg Teulu: unwaith cafwyd gostyngiad llwyddiannus yn y feddyginiaeth a arweiniodd at 5 mlynedd o waith amser llawn, ond y ddau dro arall, arweiniodd at yr hyn y byddwn yn ei alw'n 'seicosis adlam' (yn hytrach na 'dychwelyd i'm salwch sylfaenol'). Rwy'n credu i hyn ddigwydd oherwydd i mi ddod oddi ar y feddyginiaeth yn rhy gyflym, h.y. dros gyfnod o fisoedd yn hytrach na thros flwyddyn neu ragor."

Triniaethau amgen

Ceir hefyd opsiynau y gallwch roi cynnig arnyn nhw yn lle, neu ochr yn ochr â meddyginiaeth a thriniaethau siarad. Mae'r rhain yn cynnwys:

Efallai y bydd eich meddyg yn gallu eich cyfeirio at rai o'r rhain. Gallwch hefyd gysylltu â'ch Mind lleol i ddarganfod beth sydd ganddyn nhw ar gael.

"Mae gofalu am fy nghorff a'm deiet, siarad a dulliau amgen yn gweithio'n llawer gwell i mi."

Triniaeth ar gyfer iselder difrifol a chymhleth

Os yw eich iselder yn ddifrifol a chymhleth, dylai eich meddyg eich cyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol. Fe allan nhw drafod yr opsiynau canlynol gyda chi:

  • Rhoi cynnig arall ar driniaethau siarad a meddyginiaeth. Efallai y bydd eich tîm gofal iechyd yn awgrymu meddyginiaeth wahanol, neu gyfuniad o gyffuriau gyda thriniaethau eraill.
  • Meddyginiaeth ar gyfer symptomau seicotig. Os ydych chi'n profi iselder gyda symptomau seicotig, gallai eich tîm gofal iechyd ragnodi meddyginiaeth gwrthseicotig ochr yn ochr â'ch cynllun triniaeth cyfredol. Edrychwch ar ein tudalennau seicosis a gwrthseicosis i gael rhagor o wybodaeth.
  • Gwasanaethau datrys argyfwng. Mae tîm datrys argyfwng a thriniaeth yn y cartref (CRHT) yn dîm o weithwyr proffesiynol iechyd meddwl a all roi cymorth i chi yn eich cartref yn ystod argyfwng iechyd meddwl, yn hytrach na mynd i'r ysbyty. Edrychwch ar ein tudalen gwasanaethau argyfwng i gael rhagor o wybodaeth.
  • Mynd i'r ysbyty. Os ydych chi'n dioddef o iselder difrifol ac mewn perygl o ladd eich hun, hunan-niweidio neu hunanesgeuluso, efallai y byddwch angen gofal mewn ysbyty fel claf mewnol. Gall ysbyty ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol os ydych chi mewn trallod. Edrychwch ar ein tudalen mynd i'r ysbyty i gael rhagor o wybodaeth.

"Roedd y mwyafrif o'r triniaethau y rhoddais gynnig arnynt yn aneffeithiol – ond pan oeddwn mewn argyfwng ar fin cael fy nerbyn i ysbyty seiciatryddol, dechreuais Seicotherapi Rhyngbersonol a Sertraline. Gallaf ddweud yn onest iddyn nhw achub fy mywyd."

ECT

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid ystyried therapi electrogynhyrfol (ECT) fel opsiwn ar gyfer trin iselder.

Yn ôl canllawiau NICE, gallai hyn ddigwydd os ydych chi'n profi cyfnod hir a difrifol o iselder ac un ai:

  • nad yw triniaethau eraill wedi gweithio, neu
  • fod y sefyllfa'n peryglu bywyd.

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi yn y sefyllfa hon, dylai eich meddyg drafod yr opsiwn hwn gyda hi mewn ffordd glir a hygyrch cyn i chi wneud unrhyw benderfyniadau.

Edrychwch ar ein tudalennau   ECT i gael rhagor o wybodaeth am y driniaeth hon a lle y gellir ei chael. Edrychwch hefyd ar ein tudalennau cyfreithiol ynghylch cydsynio i driniaeth a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 i gael gwybodaeth am eich hawliau cyfreithiol yng nghyswllt triniaeth.

Ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus

Yn ôl canllawiau NICE , fe allech chi gael cynnig ysgogiad magnetig trawsgreuanol ailadroddus ar gyfer iselder difrifol nad yw wedi ymateb i driniaethau eraill.

Mae'r driniaeth yn golygu sesiynau dyddiol o oddeutu 30 munud, yn para am nifer o wythnosau.

Dywed canllawiau NICE ei fod yn ddigon diogel ac yn gweithio'n ddigon da i gael ei gynnig gan y GIG. Ar hyn o bryd, mae'r driniaeth hon ar gael mewn nifer cyfyngedig o ymddiriedolaethau'r GIG a rhai clinigau preifat.

A fydd niwrolawdriniaeth yn cael ei defnyddio i drin iselder o gwbl?

Yn anaml iawn y caiff niwrolawdriniaeth ei defnyddio ar gyfer anhwylder meddyliol (NMD), a hynny mewn amgylchiadau eithriadol. Ni chaiff NMD ei gynnig ond os bydd pob triniaeth arall wedi methu ac ni ellir byth ei defnyddio heb eich caniatâd chi. Edrychwch ar ein tudalennau NMD i gael rhagor o wybodaeth.

Beth os nad ydw i'n teimlo'n well?

Mae gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl, felly os nad yw meddyginiaeth benodol neu driniaeth siarad yn gweithio i chi, dylai eich meddyg gynnig rhywbeth gwahanol i chi.

Mae'n bwysig cofio mai taith yw gwella, ac na fydd yn syml bob amser. Efallai y byddwch yn ei chael yn ddefnyddiol canolbwyntio ar ddysgu mwy amdanoch chi eich hun a datblygu ffyrdd o ymdopi, yn hytrach na cheisio cael gwared â phob symptom o'ch iselder.

This information was published in March 2019. We will revise it in 2022.

References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.

Share this information

arrow_upwardYn ôl i'r brig