Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymatebwyr brys: eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Yn y gwasanaethau brys, mae delio â sefyllfaoedd anodd bob amser wedi bod yn rhan o’ch swydd. Ond mae pandemig Covid-19 wedi bod yn arbennig o heriol, gofidus a thrawmatig i lawer o bobl yn y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu a'r gwasanaeth tân ac achub. Os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi ar hyn o bryd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae eich iechyd meddwl yn bwysig, ac rydych chi’n haeddu cefnogaeth.

Ar y dudalen hon, cewch wybodaeth am y canlynol:

Teimladau cyffredin ymysg ymatebwyr brys

Rydyn ni’n gwybod nad yw’r pandemig yn effeithio ar bawb yn yr un ffordd. Ceir gwahanol heriau ym maes gorfodi’r gyfraith, ymateb meddygol mewn argyfwng, a thân ac achub. A gall profiadau amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n gweithio fel arfer, neu ers faint rydych chi wedi bod yn eich swydd. Efallai eich bod yn teimlo nad oes neb yn deall yn union beth rydych chi’n delio ag ef.

Ond rydym wedi clywed llawer o ymatebwyr brys yn rhannu trafferthion tebyg yn ddiweddar. Os ydych chi’n gallu uniaethu ag unrhyw rai o’r teimladau neu’r profiadau isod, dydych chi ddim ar eich pen eich hun:

  • Wedi ymlâdd neu wedi chwythu eich plwc yn lân oherwydd eich bod wedi bod yn gweithio oriau hirach, gwneud sifftiau ychwanegol a gwneud tasgau anghyfarwydd. Efallai eich bod yn delio â rheolau a thasgau newydd i gadw pobl yn ddiogel ar ben eich swydd arferol. Efallai eich bod hefyd wedi bod yn gofalu am eich plant, aelodau o'r teulu sy’n oedrannus neu ddibynyddion eraill ar ben eich gwaith.
  • Teimlo dan straen oherwydd eich bod yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd bob dydd ynghylch beth neu bwy i flaenoriaethu yn eich gwaith. I gael syniadau am sut y gallwch chi helpu eich hun, edrychwch ar ein tudalennau ynglŷn â delio â phwysau a datblygu gwytnwch.
  • Teimlo’n unig, yn ynysig neu’n ansefydlog, yn enwedig os yw eich gweithle neu eich tîm arferol wedi newid. Efallai eich bod wedi symud i dîm gwahanol, i dîm llai, neu efallai nad ydych yn gweithio gyda’r un cydweithwyr neu gymunedau mwyach. Efallai eich bod hefyd wedi bod yn osgoi cyswllt â’ch ffrindiau a’ch teulu er mwyn eu cadw’n ddiogel. Hyd yn oed pan dydych chi ddim yn gweithio, efallai dydych chi ddim yn teimlo fel cymdeithasu oherwydd eich bod wedi blino gymaint. I gael syniadau am sut i ofalu amdanoch eich hun, edrychwch ar ein hawgrymiadau ar gyfer rheoli unigrwydd.

“Yn bersonol, oherwydd yr holl straen ychwanegol, rydw i’n cael trafferth ymlacio a symud fy meddwl oddi wrth fy ngwaith. Yn y gwaith, rydyn ni’n gwneud penderfyniadau sy’n newid bywydau mewn sefyllfaoedd anos nag erioed o’r blaen.” – Ben, Gwasanaeth Ambiwlans

  • Poeni neu deimlo panig ynghylch y posibilrwydd o drosglwyddo’r feirws yn ddiarwybod i bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu’n gofalu amdanynt, neu ei ledaenu ymysg y cyhoedd. Neu am ddal y firws eich hun a mynd yn sâl neu fethu â gwneud eich gwaith. Efallai eich bod hefyd yn teimlo'n anghyfforddus neu’n bryderus am wisgo masg am oriau maith.
  • Teimlo’n euog neu’n annigonol oherwydd eich bod chi ddim yn gallu helpu pawb, gan fod nifer y galwadau wedi bod mor uchel. Gallai hyn eich gadael yn teimlo fel methiant, er eich bod yn gweithio’n galetach nag erioed.
  • Teimlo’n isel, yn drist neu heb deimladau oherwydd eich bod wedi bod yn delio â marwolaeth yn llawer amlach nag yr oeddech cyn y pandemig.

“Mi ges i ambell noson ddigwsg wedyn cyn i mi gael fy rhoi i weithio am y tro cyntaf ac yna eistedd o gwmpas yn disgwyl i rywun farw oedd fy nghyflwr newydd o barodrwydd. Daeth y galwadau i mewn yn aml ac yn fynych.” - Jane, Gwasanaeth yr Heddlu

  • Poeni neu rhwng dau feddwl ynghylch gorfodi rheoliadau a mesurau rheoli Covid-19 llym neu ddryslyd. Nid yw rheolau newydd bob amser yn glir nac yn hawdd i’r cyhoedd eu dilyn, ac efallai nad ydynt bob amser yn teimlo’n iawn i chi. Ac efallai ei bod yn teimlo’n fwy anodd dangos i bobl mewn trallod eich bod yn ceisio eu helpu pan rydych yn gorfod cuddio eich wyneb.
  • Galar yn eich llethu pan rydych chi'n teimlo eich bod chi’n colli cydweithwyr agos yn rheolaidd yn ystod y pandemig, ond dydych chi ddim wedi gallu eu hanrhydeddu fel rydych chi eisiau. Mae gennym rai awgrymiadau am sut mae gofalu amdanoch eich hun wrth ddelio â phrofedigaeth, a rhai awgrymiadau am sut mae cefnogi rhywun sydd wedi cael profedigaeth.
  • Teimlo wedi digalonni neu’n ddi-rym. Er enghraifft, efallai eich bod yn teimlo'n rhwystredig wrth glywed gwleidyddion yn siarad am 'arwyr', pan nad yw eich anghenion cymorth yn cael eu clywed na'u diwallu bob amser. Ac yn enwedig yn yr heddlu, mae gweld eich proffesiwn yn cael ei roi dan y chwyddwydr gan y cyhoedd yn y newyddion ac ar y cyfryngau cymdeithasol weithiau’n gallu gwneud i chi deimlo’n ddigalon ac yn ddigymhelliant pan rydych chi’n gweithio mor galed ag y gallwch chi.
  • Teimlo nad ydych yn haeddu cefnogaeth, neu deimlo cywilydd eich bod yn ei chael yn anodd ymdopi. Mae’n gyffredin yn y gwasanaethau i deimlo y dylech bob amser roi mwy o flaenoriaeth i iechyd a lles pobl eraill yn hytrach na’ch iechyd a'ch lles eich hun, neu nad yw eich problemau’n bwysig o’u cymharu â’r hyn y mae pobl eraill yn gorfod ymgodymu ag ef. Ond dydy hyn ddim yn wir. Mae eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae bob amser yn iawn gofyn am help ar gyfer eich iechyd meddwl.

“Mae peidio â gweld pobl wedi bod yn wirioneddol anodd. Mae’n debyg bod hynny wedi effeithio ar fy iechyd meddwl yn fwy na dim arall. Dyna beth mae pobl i fod i wneud ynte?” – Kirit, Gwasanaeth yr Heddlu

Trawma ac Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD)

Mae mynd drwy ddigwyddiadau sy’n achosi straen, ofn neu drallod mawr yn cael ei alw’n drawma weithiau. Mae hwn yn brofiad cyffredin ymysg ymatebwyr brys – yn enwedig ers dechrau’r pandemig.

Mewn gwirionedd, mae’n bosib bod rhai teimladau ac ymddygiadau anodd rydych chi’n eu cael yn ymatebion normal iawn i drawma. Gallai deall hyn eich helpu i brosesu eich emosiynau.

Dydy trawma ddim yn arwain yn awtomatig at broblemau iechyd meddwl, ond mae’n gallu eich gwneud chi’n agored i ddatblygu cyflyrau fel gorbryder, iselder ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD). I ddysgu mwy, edrychwch ar ein tudalennau am drawma ac Anhwylder Straen Wedi Trawma.

Anhwylder Straen Wedi Trawma a’r gwasanaeth ambiwlans

“Byddwn yn aml yn cael fy hun yn eistedd yno, yn gwneud dim byd mewn gwirionedd ond meddwl am y swydd, a meddwl a oedd unrhyw beth arall y gallwn fod wedi’i wneud.”

Awgrymiadau ymarferol ar gyfer gofalu am eich iechyd meddwl

Pan mai eich gwaith chi yw helpu pobl eraill, gall fod yn anodd rhoi amser i ofalu amdanoch eich hun. Ond mae eich iechyd meddwl yn bwysig. P’un ai ydych chi’n gweithio yn yr heddlu, y gwasanaeth tân neu’r gwasanaeth ambiwlans, dyma rai syniadau i’ch helpu i ofalu am eich lles:

  • Siarad â’ch cydweithwyr. Efallai y byddwch am siarad â chydweithiwr sy’n deall eich profiadau. Neu efallai y byddai’n well gennych siarad â rhywun y tu allan i’ch tîm neu’ch gweithle er mwyn cael barn wahanol am bethau. Ar ein tudalen ynglŷn â siarad am eich iechyd meddwl mae rhai cynghorion ar sut i ddechrau'r sgwrs.
  • Sgwrsiwch â phobl sy’n agos atoch y tu allan i’r gwaith. Pan fyddwch chi’n cael egwyl yn ystod y dydd, ceisiwch gysylltu â ffrind neu berthynas o’r tu allan i’r gwaith. Gwnewch gynlluniau i gael sgwrs fideo, i ffonio neu i anfon negeseuon neu negeseuon testun os nad ydych chi’n teimlo fel siarad.

“Mae’n debyg bod siarad â’m cydweithiwr wedi achub fy mywyd. Roedd cael y cyfle i siarad â rhywun yn ddechrau proses a arweiniodd yn y pen draw at ddiagnosis cywir o’r broblem iechyd meddwl roeddwn i’n byw gyda hi, ac at gael triniaeth ar gyfer y broblem honno.” – Neil, Gwasanaeth Ambiwlans

  • Sganiwch eich corff cyn neu ar ôl eich sifft. Mae hyn yn golygu mynd ati’n fwriadol i symud eich sylw i lawr eich corff. Dechreuwch â thop eich pen a symud yn araf yr holl ffordd i ben bysedd eich traed. Ceisiwch ganolbwyntio ar deimladau o gynhesrwydd, tensiwn neu gosi neu ar ymlacio gwahanol rannau o’ch corff. Gall yr ymarfer hwn eich helpu i ganolbwyntio eich sylw ar y presennol.
  • Rhowch gynnig ar fyfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar yn ystod egwyl. Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i deimlo’n dawelach a dan lai o straen. Stopiwch am eiliad y tu allan, anadlwch yn ddwfn a thalu sylw i’r hyn y gallwch ei weld, ei glywed, ei gyffwrdd neu ei arogli. Sylwch ar unrhyw gymylau, coed a phlanhigion y gallwch eu gweld. Os nad ydych chi’n gallu mynd allan, edrychwch drwy ffenestr, neu, yn syml, rhowch ychydig o amser i sylwi ar yr hyn sydd o'ch cwmpas. Edrychwch ar ein tudalennau am ymwybyddiaeth ofalgar i gael rhagor o wybodaeth.
  • Byddwch yn ofalus gyda newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol cadw mewn cysylltiad â phobl a digwyddiadau cyfredol. Ond weithiau mae’n gallu teimlo’n llethol, neu’n eich gadael yn teimlo’n ofidus neu’n ddryslyd. Gallech roi cynnig ar edrych ar y newyddion ar adegau penodol o’r dydd yn unig, neu osod terfynau ar faint rydych chi’n defnyddio apiau cyfryngau cymdeithasol ar eich ffôn.

“Drwy gydol y pandemig, rydw i wedi siarad yn fwy agored am sut roeddwn i’n ymdopi, ac wedi ceisio peidio â chadw dim byd i mi fy hun. Hefyd, mae gen i grŵp gwych o ffrindiau. Rydym yn cynnal sgyrsiau fideo yn rheolaidd, yn gosod heriau ac yn creu sesiynau ymarfer corff i’w rhannu.” – Nakita, Gwasanaeth Tân

  • Gwnewch eich gorau gyda’ch iechyd corfforol. Mae’n debyg eich bod yn gwybod bod deiet cytbwys ac ymarfer corff rheolaidd yn llesol ac yn rhoi hwb i’ch hwyliau, ond efallai ei fod yn teimlo’n anodd gwneud hyn dan bwysau gwaith ar hyn o bryd. Er enghraifft, gall patrymau sifft sy'n achosi straen fod yn effeithio ar eich chwant bwyd, a gall newidiadau yn eich trefn bob dydd ei gwneud yn anodd i chi gynnwys ymarfer corff rheolaidd. Gwnewch ddewisiadau iach pryd bynnag y gallwch, ond peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi’ch hun os yw pethau wedi llithro ychydig yn ystod y pandemig. Nid fel hyn fydd hi am byth. Mae ein tudalennau am fwyd a hwyliau ac ymarfer corff yn cynnwys rhagor o awgrymiadau.
  • Symudwch i ffwrdd oddi wrth ddulliau ymdopi sydd ddim yn iach. Pan mae pethau’n anodd, mae’n demtasiwn defnyddio alcohol, cyffuriau neu fwyd fel ffordd o ddelio â’ch teimladau o ddydd i ddydd. Ond gall hyn wneud eich iechyd meddwl yn waeth yn y tymor hir. Os ydych chi’n gwybod bod gennych chi berthynas anodd ag un o'r rhain, darllenwch ein tudalennau ar alcohol a chyffuriau hamdden a phroblemau bwyta. Efallai y byddant yn helpu.
  • Gofynnwch am gymorth iechyd meddwl proffesiynol. Pan rydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi a phan nad yw'r pethau arferol rydych chi’n eu gwneud i ofalu amdanoch eich hun yn ddigon, gall cefnogaeth gan weithiwr proffesiynol wneud gwahaniaeth. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel cwnsela neu therapi, neu feddyginiaeth, neu'r ddau. Mae'r pandemig wedi gwneud eich swydd yn fwy anodd nag erioed, a does dim cywilydd mewn gofyn am help gyda phroblem iechyd meddwl. Efallai eich bod yn poeni am stigma, ond mae bob amser yn iawn i ofyn am help.

“Ers i mi siarad am y peth, mae cydweithwyr eraill, gan gynnwys uwch swyddogion, wedi dweud wrthyf sut aethon nhw drwy hynny 20 mlynedd yn ôl neu beth bynnag oedd o. Mae’n gysur gwybod nad fi yw’r unig un, bod pobl yn dod drwyddi ac yn symud ymlaen.” – Richard, Gwasanaeth Tân

A blue light on top of a vehicle

Cefnogi lles meddyliol yr heddlu drwy Covid-19 ac Mae Bywydau Du o Bwys (BLM)

“Mae swyddogion yn teimlo eu bod yn cael eu ‘tynnu i ddau gyfeiriad’ - wedi’u dal rhwng cymuned eu heddlu a’r gymuned maen nhw'n byw ynddi, a’u gwaith yn achosi straen yn eu perthynas â ffrindiau a theulu."

Ble i gael rhagor o gymorth iechyd meddwl

Mae llawer o adnoddau, gwasanaethau a sefydliadau sy’n cynnig cymorth wedi’i deilwra ar eich cyfer chi a’ch rôl:

  • Cymorth Golau Glas (Iechyd Meddwl yn y Gwaith): cymorth un i un ddydd a nos gan wirfoddolwyr hyfforddedig drwy alwad neu neges testun. Yn ogystal ag adnoddau, awgrymiadau a syniadau am sut i ofalu am eich iechyd meddwl gan amrywiaeth o ddarparwyr, gan gynnwys y Samariaid, Shout ac elusennau gwasanaeth penodol.
  • Adnoddau gwybodaeth Golau Glas Mind: llyfrynnau PDF am ddim y gellir eu llwytho i lawr, sydd wedi’u teilwra ar gyfer pob gwasanaeth brys ac sy’n trafod lles, straen, gorbryder, gofyn am help ar gyfer problemau iechyd meddwl a chefnogi cydweithwyr.
  • Police Care UK: cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol ar gyfer cyn-swyddogion heddlu a swyddogion heddlu sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, staff, gwirfoddolwyr a’u teuluoedd.
  • Adnodd Covid-19 Ffederasiwn yr Heddlu: cyngor a gwybodaeth i swyddogion heddlu yn ystod y pandemig. Mae’n delio â meysydd fel cyngor ariannol, awgrymiadau ar gyfer lles a chymorth gyda phensiynau.
  • Elusen y Staff Ambiwlans (TASC): cymorth i'r gymuned ambiwlans â lles ariannol, corfforol a meddyliol, gan gynnwys pecyn cymorth coronafeirws y gellir ei lwytho i lawr.
  • Head First: adnoddau iechyd meddwl ar-lein am ddim ar gyfer pobl yn y gwasanaeth ambiwlans wedi'u creu gan y GIG.
  • Elusen y Diffoddwyr Tân: adnodd ar gyfer pobl yn y gymuned gwasanaeth tân sy’n cynnwys ffyrdd o wella eich lles a hyb cymorth coronafeirws.

Mae'r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24/7. Ffoniwch 116 123 os ydych chi eisiau siarad â rhywun am sut rydych chi’n teimlo ar unrhyw adeg.

Cymorth a chefnogaeth gan eich gweithle

Gofynnwch i’ch goruchwyliwr, eich rheolwr llinell neu’ch cydweithwyr a oes modd i chi gael cymorth arbenigol, fel:

  • Rheoli Risg Trawma (TRiM)
  • Ôl-drafodaeth oherwydd Straen wedi Digwyddiad Difrifol (CISD)
  • llinell gymorth Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)
  • gwasanaethau cwnsela
  • grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid.

Os ydych chi'n barafeddyg sy'n fyfyriwr, yn gadét yn yr heddlu neu mewn coleg tân, efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol drwy ddarparwr eich cwrs. Edrychwch ar ein hyb iechyd meddwl i fyfyrwyr i gael mwy o gynghorion ac adnoddau ar gyfer unrhyw un sy'n astudio.

I gael rhagor o gymorth ac arweiniad, nid dim ond ar gyfer ymatebwyr brys, edrychwch ar ein tudalennau ynglŷn â:

“Fy mhrif ffynonellau cymorth drwy gydol y sefyllfa eleni oedd pobl sydd yn yr un cwch â fi.” – Nikki, Gwasanaeth Tân

Cyhoeddwyd yr wybodaeth hon ar 31 Mawrth 2021.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig