Sut y gall pobl eraill helpu?
Mae'r dudalen hon yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer cefnogi rhywun sy'n cael trafferth ymdopi â galar.
Gall fod yn anodd siarad am farwolaeth a cholled. Mae llawer ohonom yn ei chael yn anodd gwybod beth i'w ddweud wrth geisio cefnogi rhywun sy'n galaru. Gall hyn fod yn anodd hyd yn oed os ydym yn agos atynt.
Mae gwahanol bobl yn ymdopi â phrofedigaeth mewn gwahanol ffyrdd. Gall hyn weithiau arwain at wrthdaro neu broblemau perthynas â’r bobl o’n cwmpas.
Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda'ch gilydd a chofiwch ein bod ni i gyd yn galaru yn ein ffordd ein hunain. Mae'r elusen Relate yn cefnogi pobl sy'n cael trafferth ymdopi â phroblemau perthynas. Mae gan Cruse wybodaeth am ymdopi â gwrthdaro teuluol ar ôl i rywun farw.
Dyma rai syniadau ar gyfer cefnogi rhywun ar ôl colled. Efallai y gwelwch fod angen cymorth arnoch chi hefyd – gweler ein tudalen am cymorth a hunanofal am gyngor.
Cydnabod beth sydd wedi digwydd
Mae'n ddealladwy os ydych chi'n teimlo'n anghyfforddus yn siarad am farwolaeth neu golledion eraill. Neu’n poeni y gallech chi ddweud y peth anghywir. Ond gallai aros yn dawel neu beidio â chysylltu â rhywun ar ôl profedigaeth wneud iddo deimlo'n fwy ynysig.
Gall helpu i estyn allan at y sawl sydd mewn profedigaeth. Yna mae’n gwybod eich bod chi ar gael i siarad a gwrando, os yw’n dymuno hynny.
Meddwl am sut i gadw mewn cysylltiad
Gall derbyn negeseuon testun fod yn haws i rywun eu rheoli na ffonio’n ôl. Gall rhai roi croeso i alw heibio i'w gweld wyneb yn wyneb ond i eraill gall hyn fod yn anghyfleustra. Mae'n werth gofyn i'r unigolyn beth fyddai'n well ganddo yn hytrach na gwneud rhagdybiaethau.
Bod yno ar ei gyfer
Mae'n ofidus iawn gweld rhywun yn galaru ac mewn poen. Efallai y bydd yn teimlo bod angen i chi wneud neu ddweud rhywbeth i wneud pethau'n llai poenus. Ond yn aml yr hyn sydd ei angen ar rywun yn syml yw i ni fod yno gydag ef/hi, hyd yn oed os na allwch chi wneud pethau’n well.
Gallech chi ond eistedd gyda nhw mewn distawrwydd. Neu anfon negeseuon yn rheolaidd i roi gwybod iddynt eich bod yn meddwl amdanynt. Neu fe allech chi awgrymu rhywbeth i'w wneud gyda'ch gilydd, fel gwylio ffilm neu fynd am dro.
Cefais sioc pan na ofynnodd ffrindiau i fi sut oeddwn i’n gwneud. Roeddwn i’n teimlo’n anweledig, fel pe bawn i’n sefyll yno ond doedden nhw ddim yn gallu fy ngweld i.
Siarad am yr unigolyn a fu farw
Pan fydd unigolyn yn marw, gall deimlo fel ei fod yn cael ei ddileu o atgofion pobl. Mae'n ddealladwy i boeni am godi teimladau poenus.
Ond mae llawer o bobl yn gwerthfawrogi'r cyfle i siarad am yr unigolyn y maent wedi'i golli. Gall fod yn gysur neu'n ffordd o gadw cysylltiad â'u hanwylyd.
Gallech ofyn iddynt ddweud wrthych am atgof o'r unigolyn, os ydynt yn teimlo'n gyfforddus gwneud hynny. Neu fe allech chi rannu cof hoffus sydd gennych chi o'r unigolyn maen nhw wedi'i golli. Os gallwch chi, ceisiwch ddweud enw'r unigolyn sydd wedi marw.
I gael cyngor ar siarad yn fwy agored am farw, marwolaeth a phrofedigaeth, ewch i dudalennau gwe Dying Matters Hospice UK.
Canolbwyntio ar wrando
Ceisiwch barchu'r hyn maen nhw'n dewis ei rannu gyda chi a chanolbwyntiwch ar wrando, yn hytrach na darganfod mwy. Rhowch le iddyn nhw ddatgelu eu teimladau os ydyn nhw eisiau. Ond byddwch yn sensitif os byddai'n well ganddynt beidio â mynd ag ef ymhellach.
Canolbwyntio ar eu profiad
Byddwch yn ymwybodol o godi eich profiadau eich hun o brofedigaeth. Gall hyn weithiau eich helpu i gysylltu a chydymdeimlo. Ond gall hefyd dynnu'r sylw a'r gofal oddi wrth yr unigolyn rydych chi'n ei gefnogi. Neu’n gwneud iddo deimlo eich bod chi'n gwneud cymariaethau.
Pan fydd rhywun yn ymddangos gyda chast, rydyn ni'n holi ar unwaith, ‘Beth ddigwyddodd.’ Nid ydym yn holi dim os yw’ch bywyd yn deilchion.
Helpu nhw i gael cefnogaeth
Gall galar fod yn boenus iawn ac yn gymhleth. Gall rhai pobl elwa o geisio cymorth proffesiynol.
Os yw hyn yn rhywbeth yr hoffent ei archwilio, gallech eu helpu i wneud hyn. Gweler ein tudalen am helpu rhywun arall i geisio cymorth am gyngor.
Gyda chymorth teulu a ffrindiau anhygoel, rydw i wedi gallu siarad am y ffordd rydw i fy hun yn teimlo ac rydw i wedi gallu rhannu fy mhrofiadau gyda nhw.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.
