Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogaeth a hunanofal ar gyfer profedigaeth

Dewch o hyd i ffyrdd o gael cymorth os ydych chi'n profi galar. A darllenwch ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich llesiant eich hun.

Cymorth mewn profedigaeth

Mae yna lawer o ffyrdd o gael cymorth ar gyfer profedigaeth. Ond nid yw bob amser yn hawdd dod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i chi. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar ychydig o opsiynau gwahanol i weld beth sy'n helpu. 

Sefydliadau cymorth profedigaeth

Mae gan y sefydliadau hyn wasanaethau arbenigol a allai eich helpu i ymdopi â phrofedigaeth:

  • AtaLoss - dod o hyd i wasanaethau profedigaeth a chwnsela ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys adnoddau ar brofedigaeth yn ystod y pandemig.
  • Child Bereavement UK - yn cynnig cymorth os ydych mewn profedigaeth ar ôl colli plentyn. Neu os ydych chi'n blentyn neu'n unigolyn ifanc sy'n galaru ar ôl colli rhywun.
  • The Compassionate Friends - dod o hyd i gymorth i rieni mewn profedigaeth a’u teuluoedd, gan gynnwys llinell gymorth.
  • Cymorth mewn Galar Cruse - yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy e-bost ac ar-lein i unrhyw un sydd wedi profi colled.
  • Dying Matters - adnoddau i helpu pobl i siarad yn fwy agored am farw, marwolaeth a phrofedigaeth, ac i wneud cynlluniau ar gyfer diwedd oes.
  • The Good Grief Trust - elusen sy’n cael ei rhedeg gan bobl mewn profedigaeth ac sy’n helpu pawb sy’n profi galar yn y Deyrnas Unedig. Yn darparu gwybodaeth a straeon am alar a phrofedigaeth, gan gynnwys map o wasanaethau profedigaeth yn y Deyrnas Unedig.
  • Hub of Hope - cronfa ddata o wasanaethau iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl cymunedol, elusennol, preifat a’r GIG.
  • Y Samariaid - os ydych chi'n cael trafferth ymdopi, gallwch ffonio'r Samariaid unrhyw bryd ar 116 123 i siarad am unrhyw beth. Gallwch hefyd anfon e-bost atynt yn [email protected]. Neu gallwch gysylltu â nhw drwy'r post yn Rhadbost LLYTHYRAU'R SAMARIAID. Mae gan y Samariaid hefyd Linell Gymraeg ar 0808 164 0123 (7pm – 11pm bob dydd).
  • Sands - gwybodaeth a chymorth i unrhyw un yr effeithiwyd arno gan farwolaeth babi. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys llinell gymorth a sgwrs fyw.
  • Sue Ryder - yn cynnig cymorth profedigaeth, gan gynnwys ffyrdd o ddod o hyd i gymorth profedigaeth ar-lein.
  • WAY (Widowed and Young) - cyngor i bobl sydd wedi colli partner cyn eu pen-blwydd yn 51 oed.

Os ydych chi wedi colli rhywun oherwydd hunanladdiad, gweler ein tudalen am brofedigaeth trwy hunanladdiad i ddod o hyd i opsiynau cymorth.

Ymdopi â phryderon ariannol

Ar ôl i ni golli rhywun, efallai y byddwn ni hefyd yn poeni am sut rydyn ni'n mynd i ymdopi'n ariannol. Er enghraifft, efallai y bydd effaith ar incwm ein cartref, neu efallai y byddwn yn poeni am gostau angladd.

Mae ein gwybodaeth am arian ac iechyd meddwl yn cynnwys rhywfaint o gyngor a dolenni i wasanaethau a allai fod o gymorth. Mae gan MoneyHelper ychydig o gyngor ar ymdopi ag arian ar ôl profedigaeth, yn ogystal â gwybodaeth am gymorth i dalu am angladd.

Ffyrdd eraill o ddod o hyd i gefnogaeth

Yn ogystal â sefydliadau cefnogol, mae yna bobl eraill y gallech chi siarad â nhw os ydych chi'n cael trafferth ymdopi ar ôl profedigaeth. Er enghraifft, fe allech chi wneud y canlynol:

  • Siarad â'ch meddyg teulu. Mae gan Mind rywfaint o wybodaeth am siarad â'ch meddyg teulu a allai helpu.
  • Edrych ar opsiynau ar gyfer therapi profedigaeth neu gwnsela. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen am ddod o hyd i wasnanaethau therapi neu cwnsela.
  • Gweld a oes cymorth ar gael trwy eich cyflogwr neu le astudio, os ydych chi'n gweithio neu'n astudio.
  • Mynd i'ch canolfan gymunedol neu lyfrgell leol. Efallai fod ganddynt wybodaeth am gymorth profedigaeth yn yr ardal leol.
  • Ceisio cymorth trwy eich addoldy, os oes gennych chi un.
  • Dod o hyd i gymorth ar-lein. Gallai hyn fod yn grwpiau cymorth ar-lein neu gymunedau profedigaeth. Neu drwy gysylltu â phobl â phrofiadau tebyg ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae gan ein tudalennau am ofalu am eich iechyd meddwl ar-lein ragor o wybodaeth am geisio cymorth a chadw’n ddiogel ar-lein.

 

Roedd colli fy nhad yn 20 oed yn annisgwyl wedi troi fy mywyd wyneb i waered yn llwyr. Roeddwn i’n meddwl nad oeddwn i’n mynd i ddod trwy’r galar ond, gyda’r cymorth cywir ac amser, fe ddes i drwyddo.

Hunanofal wrth alaru

Gall ymdopi â cholli rhywun fod yn hynod boenus. Gall gymryd amser i ddeall eich teimladau ac addasu i'r hyn sydd wedi digwydd. Ond mae yna bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich hun i ymdopi.

Mae'n bwysig gwneud yr hyn sy'n gweithio i chi. Efallai y cewch chi ddiwrnodau da a drwg. Felly cymerwch bethau un cam ar y tro – os yw'r cam cyntaf yn teimlo'n rhy anodd, ceisiwch ei rannu'n gamau llai. Gallai fod o gymorth hefyd i roi cynnig ar bethau gwahanol ar adegau gwahanol. 

Dyma rai awgrymiadau:

Cysylltwch ag eraill

  • Rhowch wybod i eraill beth sydd ei angen arnoch chi. Dywedwch wrth bobl beth sy'n helpu a beth sy'n anodd i chi. Mae'n iawn i ofyn i eraill am gymorth, a bod yn glir ynghylch yr hyn sydd ei angen arnoch oddi wrthynt. Mae hefyd yn iawn os yw hyn yn newid.
  • Ceisiwch gymorth. Gweler ein rhestr o sefydliadau cymorth profedigaeth am syniadau ynghylch pwy allai helpu. Gallwch hefyd ofyn am help os nad yw unrhyw gymorth presennol yn gweithio i chi.
  • Rhowch gynnig ar gefnogaeth gan gyfoedion. Gall fod o gymorth i siarad ag eraill sy'n ymdopi â cholled ar hyn o bryd. Neu sydd wedi profi galar yn y gorffennol. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gyfoedion. Gallwch hefyd ddod o hyd i gefnogaeth gan gyfoedion trwy gymuned ar-lein, fel Side by Side gan Mind.

Yn y dyddiau cynnar, roedd siarad â phwy bynnag fyddai’n gwrando yn fy helpu i ymdopi.

Siaradwch â therapydd

Gallai siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig eich helpu i ddeall ac ymdopi â'ch meddyliau a'ch teimladau ar ôl colled. Gall siarad â chwnselydd galar arbenigol eich helpu i wneud y canlynol:

  • Deall eich galar
  • Adnabod a mynegi eich teimladau
  • Derbyn a deall bod eich teimladau yn ddilys
  • Archwilio ffyrdd o ymdopi
  • Meddwl am ffyrdd i symud ymlaen
  • Ymdopi â phenblwyddi a phen-blwyddi'r golled

Gweler ein tudalennau am therapi siarad a chwnsela i ddysgu mwy. Mae gan Cymorth mewn Galar Cruse hefyd gyfeirlyfr o wasanaethau profedigaeth lleol, gyda rhai rhanbarthau yn darparu cwnsela galar.

Roeddwn i’n meddwl, oherwydd fy mod yn ymdopi’n well na fy mrodyr a chwiorydd yn ôl pob golwg, fy mod i’n gwneud yn iawn – ond roedd angen i mi edrych yn agosach ar fy nheimladau fy hun.

Gofalu am eich llesiant

Gall galar gael effaith enfawr ar bob rhan o'n bywydau. Efallai y byddwn yn ei chael hi'n anoddach gwneud y pethau rydyn ni'n eu gwneud fel arfer i ofalu amdanom ein hunain. Gall hyn effeithio ar ein llesiant corfforol a meddyliol.

Gall fod o gymorth i roi cynnig ar yr awgrymiadau canlynol:

  • Gwella eich patrwm cysgu. Gall peidio â chysgu'n dda gael effaith fawr ar sut rydym yn teimlo a pha mor dda y gallwn ymdopi. Efallai y bydd rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio cyn mynd i'r gwely yn helpu. Neu fe allech chi geisio gwneud lle rydych chi'n cysgu mor dawel a heddychlon â phosib. Os ydych chi'n cael trafferth cysgu, gweler ein tudalennau am ymdopi â phroblemau cysgu.
  • Gwneud dewisiadau bwyd sy'n gweithio i chi. Ar ôl colli rhywun, efallai na fyddwch chi'n teimlo fel bwyta cymaint. Neu efallai y byddwch yn bwyta mwy nag arfer i’ch cysuro neu dynnu eich sylw. Mae hyn yn gwbl arferol. Mae ein gwybodaeth am fwyd ac iechyd meddwl yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer paratoi neu ddewis bwyd pan nad ydych yn teimlo'n dda.
  • Meddwl am eich defnydd o gyffuriau ac alcohol. Efallai y byddwch yn teimlo fel defnyddio cyffuriau neu alcohol i ymdopi ag unrhyw deimladau anodd. Ond yn y tymor hir, gallant wneud i chi deimlo'n waeth. Gweler ein tudalennau am gyffuriau adloniant ac alcohol i ddarganfod mwy.
  • Deall eich sbardunau. Mae'n arferol i rai pethau ysgogi teimladau anodd neu atgofion poenus am eich colled. Ceisiwch gymryd sylw o'r hyn a allai effeithio ar eich hwyliau. Gallai hyn eich helpu i ddysgu'n raddol sut i ymdopi â sbardunau pan fyddant yn digwydd. Gallwch olrhain eich teimladau gan ddefnyddio dyddiadur hwyliau. Gallech ddefnyddio beiro a phapur, neu ddod o hyd i ddyddiadur yn rhad ac am ddim ar-lein. 

Pan dwi wedi ymgolli mewn chwarae a chreu, gall hyn dynnu fy sylw oddi wrth y trallod dwi’n dal i’w brofi ar adegau.

Symud ymlaen gyda galar

Wrth i amser fynd heibio, efallai y byddwch chi'n teimlo'r disgwyliad i symud ymlaen o'ch galar. Efallai y byddwch yn teimlo pwysau wrth eraill i wneud hyn. Neu efallai y byddwch chi'n rhoi'r pwysau hyn arnoch chi'ch hun.

Efallai na fydd symud ymlaen yn teimlo fel rhywbeth yr hoffech ei wneud. Neu rywbeth y gallwch ei wneud. Mae rhai pobl yn ei chael hi’n fwy defnyddiol meddwl am symud ymlaen gyda’u galar, yn hytrach na symud ymlaen ohono.

Cofiwch nad oes terfyn amser ar alar. Nid oes pwynt lle rydych i fod i 'gwblhau' eich galar a symud ymlaen. Efallai y bydd eich galar bob amser yn rhan ohonoch chi a gall fod yn rhywbeth rydych chi bob amser yn cael trafferth ymdopi ag ef ar adegau.

Dyma rai syniadau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw, ond cofiwch y gall pethau gwahanol weithio ar adegau gwahanol:

  • Mynwesu eich atgofion a'ch perthynas â'r unigolyn sydd wedi marw. Gallech chi ddod o hyd i ffyrdd o gynnwys cofio amdano mewn dathliadau, siarad ag eraill amdano, neu dreulio amser yn dysgu mwy am ddiddordeb neu hobi oedd ganddo.
  • Gwneud pethau ar ran yr unigolyn rydych chi wedi'i golli, neu er anrhydedd iddo. Er enghraifft, os oedd rhywle yr oedd wedi bod eisiau ymweld ag ef erioed, gallech fynd ar ei ran. Neu fe allech chi gymryd rhan mewn prosiect codi arian neu ymgyrchu er cof amdano.
  • Mynegi eich teimladau trwy greadigrwydd. Er enghraifft, trwy luniadu, cadw dyddlyfr, neu dynnu ffotograffau.
  • Cadw gwrthrychau i'ch atgoffa o'r unigolyn. Er enghraifft, efallai yr hoffech chi wisgo dilledyn neu emwaith oedd yn perthyn iddo. Neu gario llun ohono gyda chi. Neu fe allech chi wneud blwch atgofion, wedi'i lenwi â phethau sy'n eich atgoffa o'r unigolyn sydd wedi marw, neu o atgofion hapus ohono. Gallai hwn fod yn hoff lyfr, ffotograffau, llythyrau, cerddi, nodiadau i chi'ch hun, tegan meddal, neu bersawr.
  • Cofio ei bod hi'n iawn teimlo'n hapus a chael mwynhad mewn bywyd. Gallwn deimlo'n euog am deimlo'n hapus pan fyddwn wedi colli rhywun. Ond nid yw cael emosiynau cadarnhaol neu ddiwrnodau da yn golygu nad oes ots gennym neu nad ydym yn dal i alaru.
  • Rhoi cynnig ar bethau newydd, fel ymuno â chlwb neu grŵp gwirfoddol. Neu ddechrau hobi newydd. Weithiau gall hyn helpu i dynnu ein sylw a rhoi rhywbeth newydd inni ganolbwyntio arno.
  • Darllen neu gwrando ar straeon gan bobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Weithiau gall hyn ein helpu i deimlo’n fwy dealladwy a gobeithiol ar gyfer y dyfodol. Mae gan y Good Grief Trust fideos o bobl yn siarad am eu profiadau o symud ymlaen.

I Sophie, y ffrind gorau y gallwn i ofyn amdano

Hi yw’r unigolyn y byddwn i’n ei alw, ddydd neu nos, ac yn gwybod heb os nac oni bai roeddwn i’n cael fy ngharu … pa mor lwcus oeddwn i i gael ffrind o’r fath.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig