Profedigaeth
Profedigaeth yw'r profiad o golli rhywun sy'n bwysig i ni. Fe'i nodweddir gan alar, sef y broses a'r ystod o emosiynau yr awn drwyddynt pan fyddwn yn colli rhywun.
Dysgwch am brofedigaeth, gan gynnwys ble i fynd am gefnogaeth, ac awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun ac eraill gyda galar.
Beth yw profedigaeth?
Dysgwch beth mae profedigaeth yn ei olygu, a rhai termau y gallech eu clywed i ddisgrifio gwahanol fathau o alar.
Sut deimlad yw galar?
Darllenwch sut y gall galar deimlo a sut mae'n effeithio ar eich meddwl a'ch corff. A dysgwch am wahanol ffyrdd o ddeall y broses o alar.
Cefnogaeth ac hunan-ofal
Dewch o hyd i sefydliadau sy'n gallu cefnogi’r rhai mewn profedigaeth, a syniadau ar sut i ofalu am eich hunan os ydych chi'n profi galar.
Colli rhywun i hunanladdiad
Os ydych chi mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad, efallai y byddwch chi'n profi teimladau cymhleth ac yn cael brwydrau ychwanegol wrth ymdopi â'ch colled. Dysgwch ble gallwch chi gael cefnogaeth, a dewch o hyd i awgrymiadau i'ch helpu i ymdopi.
Helpu rhywun sy'n galaru
Efallai y bydd llawer ohonom yn cael trafferth i wybod beth i'w ddweud neu beth i'w wneud pan fyddwn yn ceisio cefnogi rhywun sy'n galaru. Dewch o hyd i awgrymiadau ar gyfer cefnogi rhywun, wrth ofalu amdanoch chi'ch hun ar yr un pryd.