Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Profedigaeth

Yn darparu gwybodaeth am brofedigaeth, lle i fynd am gymorth, ac awgrymiadau ar gyfer eich helpu chi eich hun ac eraill drwy alar.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw profedigaeth?

Gall galar fod yn anodd ac yn ddirdynnol ac mae pawb bron yn mynd drwyddo ar ryw adeg yn eu bywydau. Er hynny, gall fod yn anodd iawn rhagweld sut y gallem ymateb i golled, gan ei bod yn broses unigol iawn. Ar ôl colled, fe allech chi brofi unrhyw rhai o'r canlynol:

Dyw'r boen ddim yn diflannu a ddylen ni ddim gorfod ei chuddio, yn enwedig oddi wrth y rhai agosaf atom.

  • Tristwch neu iselder.Gall hyn gael ei achosi gan sylweddoliad o'r golled a gall achosi i chi ynysu eich hun wrth feddwl am y pethau a wnaethoch gyda'ch anwylyd neu ganolbwyntio ar atgofion o'r gorffennol.
  • Sioc, gwadu ac anghrediniaeth.Mae'n naturiol i'n meddyliau geisio ein hamddiffyn rhag poen, ac felly yn dilyn colled gall rhai pobl ganfod fod ganddynt ddiffyg teimlad am beth sydd wedi digwydd. Mae sioc yn darparu amddiffyniad emosiynol rhag cael eich llethu, yn enwedig yn ystod camau cyntaf galar, a gall barhau am gyfnod hir iawn.
  • Diffyg teimlad a gwadu.Fe allwch ganfod fod diffyg teimlad gennych yn dilyn colled. Mae hyn yn naturiol ac yn ein helpu i brosesu beth sydd wedi digwydd ar gyflymder y gallwn ymdopi ag ef, ac nid cyn i ni fod yn barod ar gyfer hynny. Mae'n naturiol a gall fod yn gam defnyddiol - yr unig broblem yw, os mai'r diffyg teimlad fydd yr unig beth a deimlwn, a dim un o'r teimladau eraill cysylltiedig â galar, gan y gall hyn achosi i ni deimlo'n 'sownd' neu 'wedi rhewi'.

Mae galar yn beth anwadal, ac mae'n eich taro chi mewn ffyrdd nad ydych chi'n barod amdanyn nhw. Rydw i wedi bod yn unigolyn eithaf hyderus erioed, felly roedd y newid yn fy iechyd meddwl a ddaeth gyda galar yn syndod i mi.

  • Panig a dryswch.Yn dilyn colli rhywun agos atom gallwn gael ein gadael yn meddwl sut yr ydym am lenwi'r bwlch a adawyd yn ein bywyd, a gallwn brofi teimlad fod ein hunaniaeth wedi newid.
  • Dicter a gelyniaeth.Mae colli rhywun yn beth poenus a gall ymddangos yn rhywbeth annheg i ddigwydd. Fe allwch ganfod eich bod yn teimlo'n ddig neu'n rhwystredig ac eisiau canfod rhywun neu rywbeth i'w feio am y golled, fel y gallwch geisio gwneud synnwyr ohoni.
  • Teimlo wedi'ch llethu.Gall galar daro pobl yn syth a gyda'i holl gryfder, gan o bosibl achosi iddyn nhw grïo llawer neu deimlo nad ydyn nhw'n ymdopi.  Gall pobl boeni fod eu teimladau mor llethol fel nad ydynt yn gwybod sut y gallan nhw fyw hebddyn nhw. Ond dros amser bydd teimladau o alar yn tueddu i fynd yn llai dwys a bydd pobl yn canfod ffordd o fyw gyda nhw.
  • Fe allech chi deimlo rhyddhad pan fydd rhywun yn marw, yn enwedig os bu gwaeledd hir, os bu'r unigolyn a fu farw yn dioddef, os mai chi oedd prif ofalwr yr unigolyn, neu os oedd eich perthynas gyda'r unigolyn yn anodd. Mae rhyddhad yn ymateb normal ac nid yw'n golygu nad oeddech yn caru neu'n malio am yr unigolyn.
  • Teimladau cymysg. Mae trafferthion ym mhob perthynas ac fe allech chi feddwl, oherwydd bod gennych chi berthynas anodd â'r unigolyn, y byddwch yn galaru llai neu'n ymdopi'n well. Yn lle hynny, fe allech ganfod eich bod yn teimlo cymysgedd o emosiynau fel tristwch, dicter, euogrwydd ac unrhyw beth arall.

Fe allwn ni deimlo pob un o'r pethau hyn, dim un ohonyn nhw neu rai ohonyn nhw. Does dim ffordd gywir nac anghywir o deimlo yn dilyn colled. Bydd rhai pobl yn ceisio cymorth ar unwaith drwy ddangos eu hemosiynau a siarad â phobl, mae'n well gan eraill ymdrin â phethau'n araf, yn dawel neu ar ben eu hunain.

Edrychwch ar ein tudalennau iselderpryder a phyliau o banig a dicter i gael rhagor o wybodaeth am y pynciau hyn.

Rydw i wedi colli ffrindiau a theulu - mae pob profedigaeth wedi bod yn wahanol ond bu'r cyfan yn broses o ddysgu. Mae'n hanfodol i bobl wybod ble i droi.

D'yw Nadolig ddim yr un fath heb Ruth

Doedd gen i ddim teimlad pan glywais i ... Roedd fel gwylio'r cwbl yn digwydd i rywun arall.

Mae llawer o ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar alar, gan gynnwys y berthynas a oedd gennym gyda'r unigolyn a fu farw, ein profiad blaenorol o alar, a'r gefnogaeth sydd gennym o'n cwmpas. Mae rhai o'r profiadau eraill y gallech eu cael wrth alaru'n cynnwys:

  • problemau cysgu
  • newid mewn archwaeth
  • problemau iechyd corfforol
  • cilio oddi wrth bob eraill, neu eisiau bod gyda phobl eraill drwy'r amser.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhain edrychwch ar ein tudalennau problemau cysgu a bwyd a hwyliau.

Y 'cylch galar'

Mae ymchwil wedi awgrymu fod galar, i rai pobl, yn dod fesul cam neu ar ffurf cylch. Mae'r cylch galar yn ei gyfanrwydd yn cael ei alw weithiau'n 'alaru' (mourning) ac mae'n disgrifio sut y mae pobl yn addasu yn dilyn colled.

Mae'n broses gwbl unigol ond gall pethau fel diwylliant, arferion, defodau a disgwyliadau cymdeithasol ddylanwadu arni.

Llwyddais i gael graddau da ... ond tu mewn roeddwn i'n dioddef drwy'r amser, yn teimlo'n unig ac wedi ynysu, ar wahân a dideimlad lawer o'r amser. Allwn i ddim mynegi'n llawn sut ro'n i'n teimlo wrth neb.

Mae gwahanol astudiaethau'n disgrifio'r cylch galar mewn ffyrdd ychydig yn wahanol, ond y camau mwyaf cyffredin yw:

  • Gwadu- mae teimladau o sioc, anghrediniaeth, panig neu ddryswch yn gyffredin yma. "Sut allai hyn ddigwydd?", "All o ddim bod yn wir".
  • Dicter- mae beio eich hun, beio eraill a gelyniaeth i gyd yn deimladau ac yn ymddygiadau cyffredin - "Pam fi?", "Dydy hyn ddim yn deg", "Dw i ddim yn haeddu hyn".
  • Iselder- teimlo'n flinedig, anobeithiol, diymadferth, fel pe baech wedi colli persbectif, yn ynysig neu angen bod ymysg eraill - "Mae popeth yn anodd", "Beth yw'r pwynt?".
  • Bargeinio- mae teimladau o euogrwydd yn aml yn mynd law yn llaw â chwestiynau fel "Pe bawn i ond wedi gwneud mwy", "Pe bawn i ond wedi bod...".
  • Derbyn- nid yw derbyn yn golygu fod rhywun yn hoffi'r sefyllfa na'i bod yn iawn nac yn deg, ond yn hytrach mae'n golygu cydnabod goblygiadau'r golled a'r amgylchiadau newydd, a bod yn barod i symud ymlaen mewn cyfeiriad newydd.

Nid yw'r camau hyn bob amser yn ymddangos yn yr un drefn i bawb, a bydd rhai pobl yn profi rhai camau ond nid y lleill. Mae'n gyffredin symud ymlaen ac yn ôl drwy'r camau yn eich ffordd eich hun ac ar eich cyflymder eich hun. Gall rhai pobl brofi galar y tu allan i'r cylch yn gyfan gwbl.

Os byddwch chi ar unrhyw adeg yn teimlo nad ydych chi'n ymdopi â phrofedigaeth mae yna sefydliadau a phobl a all roi cymorth i chi. Gellir cael rhai syniadau ynghylch pwy i gysylltu â nhw ar y dudalen cymorth a hunanofal a'r dudalen cysylltiadau defnyddiol.

Pethau a fu o gymorth i mi drwy'r brofedigaeth oedd bod yn agored am y ffordd yr oeddwn i'n teimlo, gwneud ffrindiau go iawn, ymarfer corff, bwyta'n iach a helpu eraill.

Ydy galar yn broblem iechyd meddwl?

Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw galar yn rhywbeth lle gellir rhoi diagnosis o broblem iechyd meddwl. Mae'n hollol normal i alar roi straen ar ein bywydau o ddydd i ddydd ac fe all gymryd amser hir i addasu i fywyd ar ôl colled. Hyd yn oed ar ôl cyfnod hir, mae'n dal yn normal profi dyddiau fel y dyddiau cynnar anodd ar ôl profedigaeth, ond dros gyfnod o amser rydyn ni'n dysgu'n raddol i ymdopi â'r rhain. Yr enw a roddir i hyn weithiau yw galar syml.

Fodd bynnag, weithiau bydd pobl yn profi teimladau o alar mor gryf lawer iawn ar ôl i brofedigaeth ddigwydd, nes bod diagnosis o alar cymhleth yn cael ei wneud. Gall y profiadau hyn o brofedigaeth fod yn debyg iawn i 'alar syml' ond, yn hytrach na dod yn rhywbeth y gellir ei reoli yn y tymor-hir, fe allan nhw fynd yn waeth ac effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd am gyfnod maith.

Sut mae gwybod os ydw i'n profi galar cymhleth?

  • Mae symptomau galar yn teimlo'n barhaus am amser hir, ac maen nhw'n mynd yn anoddach ymdopi â nhw dros amser, yn hytrach na mynd yn haws yn raddol.
  • Teimladau dwys a llethol o alar sy'n cael effaith ar eich bywyd bob dydd.

Gweler gwefan Gofal mewn Galar Cruse i gael rhagor o wybodaeth ynghylch galar cymhleth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Gorffennaf 2019. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig