Profedigaeth
Yn darparu gwybodaeth am brofedigaeth, lle i fynd am gymorth, ac awgrymiadau ar gyfer eich helpu chi eich hun ac eraill drwy alar.
Beth yw profedigaeth?
Profedigaeth yw'r profiad o golli rhywun sy'n bwysig i ni. Caiff ei nodweddu gan alar, sef y broses a'r amrediad o emosiynau yr ydym yn mynd drwyddyn nhw wrth i ni addasu i'r golled yn raddol.
Gall colli rhywun sy'n bwysig i ni fod yn ddinistriol yn emosiynol - boed yn bartner, yn aelod o'r teulu, yn ffrind neu'n anifail anwes. Mae'n naturiol i fynd drwy ystod o brosesau corfforol ac emosiynol wrth i ni ddod i delerau â'r golled yn raddol. Edrychwch ar ein tudalen profiadau o alar i gael gwybodaeth am y mathau o deimladau sy'n gyffredin yn y broses o alaru.
Mae profedigaeth yn effeithio ar bawb mewn ffyrdd gwahanol, ac mae'n bosibl profi unrhyw amrediad o emosiynau. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo. Gellir teimlo galar hefyd oherwydd mathau eraill o golledion neu newidiadau mewn amgylchiadau, er enghraifft:
- diwedd perthynas
- colli swydd
- symud i ffwrdd i leoliad newydd
- dirywiad yn iechyd corfforol neu feddyliol rhywun sy'n bwysig i ni.
Colled a phryder
Y person cyntaf a ddygwyd oddi arnom oedd brawd fy mhartner.
A oes gwahanol fathau o alar?
Yn ogystal â'r teimladau o alar y byddwch yn eu profi yn dilyn colled, mae mathau eraill o alar hefyd y mae'n bosibl y byddwch yn eu profi ar wahanol amseroedd yn ystod profedigaeth.
Galar a ragwelir
Mae galar a ragwelir yn deimlad o golled a deimlwn pan fyddwn yn disgwyl marwolaeth. Mae'n cynnwys llawer o'r un symptomau a'r rhai a brofir wedi i farwolaeth ddigwydd, gan gynnwys iselder, tristwch eithriadol neu bryder am yr unigolyn sy'n marw. Nid yw o angenrheidrwydd yn cymryd lle, yn lleihau nac yn gwneud galar wedi'r golled yn haws nac yn fyrrach o gwbl, ond i rai pobl gall ddarparu cyfle i baratoi ar gyfer y golled a sut y bydd y dyfodol yn edrych.
Colled eilaidd
Ar ôl unrhyw golled fe allwch chi hefyd deimlo'r hyn a elwir yn 'golled eilaidd'. Ar ôl y sioc gyntaf o golli rhywun a oedd yn annwyl i chi, fe allech chi gael trafferth wrth feddwl am brofiadau yn y dyfodol na fydd y bobl hynny yno i'w rhannu na'u gweld, fel gwylio'ch plant yn tyfu i fyny, cwrdd â phartneriaid neu fod yn bresennol yn nigwyddiadau mawr bywyd fel priodasau.
Mae Gwefan Gofal mewn Galar Cruse yn cynnwys gwybodaeth ar ymdopi â cherrig milltir fel penblwyddi a phethau sy'n eich atgoffa am yr unigolyn a oedd yn annwyl i chi pan fyddwch mewn profedigaeth.
Mae profedigaeth yn anodd. Mae'r holl 'amseroedd hapus' sydd wedi digwydd ar ôl marwolaeth Ruth yn llawn tristwch dwfn i mi.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Gorffennaf 2019. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.