Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Profedigaeth

Yn darparu gwybodaeth am brofedigaeth, lle i fynd am gymorth, ac awgrymiadau ar gyfer eich helpu chi eich hun ac eraill drwy alar.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Colli rhywun drwy hunanladdiad

Mae potensial i bob math o alar achosi teimladau dwys a chymhleth, ond dengys ymchwil y gall pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad brofi set o deimladau arbennig o gymhleth a gallant brofi trafferthion a chyfyngderau ychwanegol wrth geisio dod i delerau â'u galar.

Cymerodd nifer o flynyddoedd i mi weithio drwy fy nheimladau am farwolaeth... (ond) wrth ddod allan o'r iselder dechreuais fod yn fi fy hun o'r diwedd a pheidio â theimlo mor ynysig ac ar wahân.

Mae'r teimladau y gallech eu teimlo wrth golli rhywun drwy hunanladdiad yn cynnwys tristwch dwys iawn, sioc, dicter, rhwystredigaeth, dryswch ac wedi'ch ynysu. Mae rhai pobl hefyd yn sôn am brofi teimlad o gywilydd neu euogrwydd, ac er bod hyn yn aml yn ymateb cyffredin, mae'n bwysig cofio bod pobl sy'n lladd eu hunain yn aml yn ceisio atal teimladau o drallod a all deimlo mor ddwys a gwirioneddol â phoen corfforol - mae'r rhesymau dros hunanladdiad yn gymhleth ac nid chi sydd ar fai.

I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein tudalennau  teimlo fel lladd eich hun.

Pwy sy'n cael ei effeithio gan hunanladdiad?

Gall effaith hunanladdiad fod fel crychdon, gan ymestyn ymhell y tu hwnt i deulu agos a ffrindiau'r unigolyn.  Bydd y modd yr effeithir arnoch yn dibynnu ar eich perthynas â'r unigolyn sydd wedi marw, a chryfder yr ymlyniad ac amgylchiadau'r farwolaeth.

Er bod colli rhywun agos atoch drwy hunanladdiad yn gallu bod yn brofiad hynod boenus a chymhleth yn emosiynol, fe allwch ganfod eich bod hefyd yn cael eich effeithio os bydd rhywun nad ydych yn ei adnabod gystal wedi cyflawni hunanladdiad.

Os ydych chi'n teimlo bod hunanladdiad wedi effeithio arnoch, mae sefydliadau a all helpu. Gall siarad drwy emosiynau anodd a siarad am yr unigolyn sydd wedi marw helpu i brosesu'r golled.

Colli rhiant drwy hunanladdiad

Byddai'n gyfaddefiad o wendid i rywun o genhedlaeth fy Nhad ddweud eu bod yn dioddef o iselder.

Darllenwch stori Callum

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn canfod eu bod angen cymorth mwy penodol na'r hyn a ddarperir ar gyfer profedigaeth yn gyffredinol a gallant ganfod ei fod yn arbennig o werthfawr defnyddio grwpiau cefnogi sydd wedi'u llunio'n arbennig ar gyfer pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad.

Yn ogystal â'r opsiynau cymorth a nodir ar ein tudalen cymorth a hunanofal, fe allech chi ddymuno ystyried y canlynol, o bosibl:

  • Mae Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS)yn ffynhonnell dda o gefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Edrychwch ar wefan SOBS i gael manylion eu llinell gymorth, grwpiau cefnogi lleol a llawer mwy o adnoddau ymarferol.
  • Mae Gofal mewn Galar Cruse hefyd â rhai awgrymiadau ar gyfer darllen ymhellach a chymorth ar gyfer pobl sydd wedi colli rhywun sy'n annwyl iddyn nhw drwy hunanladdiad. Edrychwch ar wefan Cruse i gael rhagor o wybodaeth am brofedigaeth drawmatig  a hunanladdiad, gan gynnwys cymorth os ydych chi'n byw yng Nghymru.

I'r byd y tu allan (gan gynnwys teulu a ffrindiau) yr oedd yn unigolyn meddylgar, gofalgar ac ysbrydoledig. Rhywun oedd â theulu cariadus a chefnogol, swydd ddiogel a bywyd dedwydd. Ond y tu mewn, roedd yn ymladd brwydr anweledig na wyddai neb amdani, hyd yn oed y rhai agosaf ato.

Nid yw galar yn dod i ben o angenrheidrwydd, ond fe all newid

Mae galar yn beth cwbl unigol a does dim terfyn amser na phroses sydd wedi profi'i gwerth ar ei gyfer. Gall pobl sydd mewn profedigaeth weithiau deimlo pwysau gan y rhai o'u cwmpas i 'symud ymlaen' ond mae'n bwysig cydnabod fod galar yn cymryd amser ac nad proses linol mohoni.

Nid yw amser, o angenrheidrwydd yn mynd â'r galar 'i ffwrdd', ond gall rhoi lle i ni addasu o'i gwmpas, derbyn y golled ac adeiladu ystyr newydd.

 

Mae pobl i weld yn disgwyl i chi symud ymlaen. Yn fy marn i, amynedd a chefnogaeth heb derfyn amser yw'r peth gorau y gallwch ei roi i unrhyw un sy'n dioddef o ganlyniad i brofedigaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Gorffennaf 2019. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig