Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Yn esbonio beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. Yn cynnwys awgrymiadau am sut y gallwch helpu eich hun, pa driniaethau sydd ar gael, a sut i oresgyn rhwystrau i gael cymorth. Ceir awgrymiadau hefyd am sut y gallwch gefnogi rhywun arall sydd wedi mynd trwy drawma.

Beth yw trawma?

Trawma yw pan fyddwn yn ei chael yn anodd i ymdopi â digwyddiadau dirdynnol, brawychus neu drallodus iawn neu pan fyddwn yn teimlo eu bod allan o’n rheolaeth. Gallai fod yn un digwyddiad, neu’n ddigwyddiad parhaus sy’n digwydd dros gyfnod hir o amser.

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn profi digwyddiad yn ein bywydau a allai gael ei ystyried yn drawmatig. Ond ni fydd y profiad yn effeithio ar bob un ohonom yn yr un ffordd. Gall trawma ddigwydd i unigolyn o unrhyw oed. A gall effeithio arnom ni unrhyw bryd, gan gynnwys peth amser ar ôl y digwyddiad.

Ar y dudalen hon, rydym yn archwilio'r canlynol

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drawma, mae'n bwysig cofio eich bod wedi goroesi ym mha bynnag ffordd y gallech ar y pryd. Mae'ch ymateb yn gyffredin ac yn normal. Am wybodaeth bellach, ewch i'n tudalen am effeithiau trawma

Nid oes dim o'i le am ofyn am help. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr os ydych wedi profi trawma neu'n awyddus i ddisgrifio'r profiad fel un trawmatig.

 

Nid oes angen i mi guddio fy mhoen yn gorfforol nac yn emosiynol mwyach. Fe wnes i ei oroesi, rydw i dal yma, fe lwyddais i ddod drwyddi, ac rwy'n teimlo'n gryfach ac wedi fy ngrymuso o'i herwydd.

Pa brofiadau allai fod yn drawmatig?

Nid oes rheol ynglŷn â pha brofiadau a all fod yn drawmatig. Mae'n ymwneud yn fwy â sut yr ydych yn ymateb iddynt.

Mae'r hyn sy'n drawmatig yn bersonol. Mae'n amhosibl i bobl eraill wybod sut rydych chi'n teimlo am eich profiadau eich hun neu os ydyn nhw'n drawmatig i chi. Efallai y byddwch yn cael profiadau tebyg i rywun arall, ond eu bod yn effeithio arnoch mewn ffordd wahanol neu am gyfnod hirach.

Gall trawma gynnwys digwyddiadau lle rydych yn teimlo'r emosiynau canlynol:

  • Wedi'ch dychryn
  • Dan fygythiad
  • Wedi'ch bychanu
  • Wedi'ch gwrthod
  • Wedi'ch gadael
  • Wedi'ch dirymu – er enghraifft, mae eich teimladau neu farn wedi cael eu diystyru neu eu gwadu
  • Yn anniogel
  • Heb eich cefnogi
  • Yn gaeth
  • Mewn cywilydd
  • Yn ddiymadferth

Mae'r ffyrdd y gall trawma ddigwydd yn cynnwys y canlynol:

  • Digwyddiadau untro neu barhaus
  • Cael eich niweidio neu eich esgeuluso'n uniongyrchol
  • Bod yn dyst i niwed sy'n cael ei achosi i rywun arall
  • Byw mewn awyrgylch drawmatig
  • Cael eich effeithio gan drawma mewn teulu neu gymuned, gan gynnwys trawma sydd wedi digwydd cyn i chi gael eich geni

Mae rhai grwpiau yn fwy tebygol o brofi trawma nag eraill, a’i brofi’n amlach. Mae'r grwpiau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Pobl o liw
  • Pobl sydd wedi gwasanaethu yn y fyddin neu yn gwasanaethu ar hyn o bryd
  • Pobl sydd yn y carchar neu sydd wedi bod yn y carchar yn y gorffennol
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Pobl LHDTCRhA+
  • Pobl sy’n profi tlodi

I'r rhai ohonom sy'n perthyn i'r grwpiau hyn, efallai y byddwn yn ei chael yn anoddach i oresgyn trawma. Gall hyn fod oherwydd bod diffyg cymorth ar gael neu oherwydd stigma a gwahaniaethu.

Ceir gwybodaeth a allai fod o gymorth ar ein tudalennau iechyd meddwl LHDTCRhA+ a hiliaeth ac iechyd meddwl.

Mae'r geiriau a ddywedodd y swyddogion heddlu wrtha'i yn yr eiliadau hynny yn effeithio arnaf o hyd. Daeth llofruddiaeth George Floyd a phob peth i'r wyneb. Roedd y protestiadau’n arddangos yr holl boen a’r rhwystredigaeth a oedd wedi datblygu ar ôl cymaint o achosion tebyg lle’r oedd pobl o liw wedi cael eu lladd wrth gael eu stopio gan yr heddlu.

Mathau o drawma

Gall llawer o brofiadau fod yn drawmatig. Ac mae pob un ohonom yn profi trawma mewn ffyrdd unigryw. Ond weithiau, caiff rhai profiadau neu ddigwyddiadau sy'n arwain at drawma eu grwpio gyda'i gilydd a rhoddir enwau iddynt.

Mae'r termau hyn fel arfer yn disgrifio sut mae trawma yn effeithio ar bobl o grwpiau penodol, neu mewn sefyllfaoedd penodol. Mae’r adran hon yn egluro rhai o’r termau hyn:

Trawma plentyndod

Efallai eich bod wedi profi trawma yn ystod eich plentyndod. Gallai’r profiadau hyn eich gwneud yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl pan yn oedolyn. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd os nad oedd gennych gefnogaeth i reoli'r trawma. Neu os gwnaethoch brofi trawma yn barhaus, dros gyfnod hir.

Mae fy iselder a’m gorbryder gweithredu lefel uchel yn ganlyniad i drawma plentyndod. Es am gyfnod o 13 oed ymlaen pan nad oedd i weld yn effeithio arna'i, hyd nes iddo gael ei sbarduno pan oeddwn yn 39.

Trawma cyfunol

Trawma cyfunol yw pan fydd digwyddiad trawmatig yn digwydd i nifer fawr o bobl ar yr un pryd.

Nid yw hyn yn golygu bod pawb a brofodd y digwyddiad yn teimlo'r un fath, neu bod pawb yn teimlo ei fod wedi bod yn ddigwyddiad trawmatig. Mae pawb yn ymdopi â'r profiad yn eu ffordd eu hunain.

Gall profi trawma cyfunol olygu eich bod yn profi symptomau personol a 'symptomau cymdeithasol'. Gall symptomau cymdeithasol gynnwys sut mae cymdeithas wedi delio â'r trawma neu wedi ymateb iddo. Er enghraifft:

  • Os nad yw'n dderbyniol yn gymdeithasol i siarad am y digwyddiad, neu os mai dim ond mewn rhai ffyrdd penodol y gellir siarad amdano
  • Os yw pobl yn osgoi neu'n gwahaniaethu yn erbyn rhai grwpiau penodol a allai fod yn cael eu beio'n annheg am y trawma

Gallai penblwyddi digwyddiadau sy'n gyfunol drawmatig arwain at ddigwyddiadau megis gwasanaethau cofio a sylw yn y cyfryngau. Efallai y byddwch yn gweld y digwyddiadau hyn yn ffyrdd cysurlon o reoli trawma cyfunol. Neu efallai y byddwch yn eu cael yn anodd iawn. Gall sut rydych chi'n teimlo am y penblwyddi hyn hefyd newid dros amser.

Gallai ein gwybodaeth am ymdopi â digwyddiadau trallodus yn y newyddion fod o gymorth os ydych chi'n cael trafferth gyda'r sylw y mae digwyddiad trawmatig yn ei gael yn y cyfryngau.

Mae Covid-19 wedi fy ninistrio a’m hailfowldio i fod yn rhywun rwy’n dal i geisio dod i'w adnabod. Mae wedi newid y ffordd yr ydw i'n edrych ar fywyd yn llwyr, ac mae wedi dinistrio rhan ohonof yr wyf yn dal i weithio’n galed i’w gwella, gyda chymorth fy nghydweithwyr a’m hanwyliaid.

Trawma cenedliadol

Mae trawma cenedliadol neu drawma sy’n pontio’r cenedlaethau yn fath o drawma a brofir ar draws cenedlaethau o deulu, diwylliant neu grŵp. Er enghraifft, mae ychydig o dystiolaeth sy'n dangos bod plant ac wyrion pobl a oroesodd yr Holocost yn profi cyfraddau uwch o broblemau iechyd meddwl.

Mae trawma a ddigwyddodd yn y gorffennol yn cael effaith ar iechyd meddwl y cenedlaethau presennol. Ond nid yw'n glir bob amser sut. Mae rhai ymchwilwyr yn meddwl y gall trawma effeithio ar ein genynnau. Ond mae'n fwy tebygol bod trawma yn effeithio ar yr amgylchedd yr ydym yn cael ein magu ynddo. Gall hyn fod o achos pethau megis:

  • Straeon neu rybuddion y mae cenedlaethau hŷn wedi'u trosglwyddo am y trawma a brofwyd ganddynt. Gallai hyn eich gwneud yn wyliadwrus o'r byd o'ch cwmpas.
  • Etifeddiaeth trawma yn parhau i effeithio ar eich llesiant a’ch diogelwch, megis effeithiau parhaus gwladychiaeth ar iechyd a llesiant pobl o liw.
  • Trawma sy'n effeithio ar sut mae cenedlaethau hŷn wedi ein magu a gofalu amdanom. Er enghraifft, pe bai eich rhieni yn osgoi rhai lleoedd penodol oherwydd eu profiad o drawma, efallai y byddwch chithau hefyd yn teimlo'n bryderus yn y lleoedd hynny. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd os nad yw cenedlaethau hŷn wedi cael y cymorth a oedd ei angen arnynt ar y pryd i ddelio â'u profiadau trawmatig.

Fel menyw ail genhedlaeth o Dde Asia, mae fy mhrofiad bywyd wedi rhoi dealltwriaeth ddofn i mi o effaith ymyleiddio, iechyd meddwl gwael, a thrawma hiliol ac sy’n pontio’r cenedlaethau a sut maent yn croestorri.

Anaf moesol

Anaf moesol yw sut yr ydych yn teimlo pan fyddwch yn cael eich rhoi mewn sefyllfa sy'n mynd yn groes i'ch moesau, eich gwerthoedd neu'ch credoau. Fe'i gwelir yn aml mewn pobl sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd lle'r oedd angen iddynt wneud penderfyniadau mawr am fywydau pobl eraill.

Gall anaf moesol ddigwydd oherwydd:

  • Diffyg darpariaeth adnoddau gan weithle, llywodraeth neu gorff rheoli i drin pawb yn gyfartal
  • Arferion diogelwch gwael
  • Rheoliadau neu orchmynion gan bobl ag awdurdod nad ydynt yn ymddangos fel pe baent er lles pennaf y bobl
  • Ymddygiad anniogel neu anfoesol gan eraill, yn enwedig y rhai sydd ag awdurdod
  • Gweithio mewn system sy'n methu yn eich barn chi, heb unrhyw rym i'w thrwsio

Gall y math hwn o drawma effeithio ar eich barn am y byd, eich llywodraeth, neu'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo. Ynghyd ag effeithiau eraill trawma, fe allech fod yn teimlo'r emosiynau canlynol:

  • Diffyg ymdeimlad o bwrpas yn eich bywyd personol neu broffesiynol
  • Wedi'ch datgysylltu oddi wrth y bobl o'ch cwmpas
  • Wedi'ch bradychu, eich dieithrio neu’ch cywilyddio
  • Amheuaeth ynghylch eich codau moesol a'ch moeseg

Os yw'r anaf moesol wedi digwydd yn y gweithle, efallai y byddwch yn ei chael yn anodd i barhau i weithio yno. Gall ceisio cymorth yn y gweithle yn y sefyllfaoedd hyn fod yn anodd gan y gallai'r bobl sy'n rhedeg y gweithle fod wedi cyfrannu at yr anaf moesol.

Os oes angen i chi siarad â rhywun am achos o ddrwgweithredu yn eich gweithle, gall yr elusen Protect ddarparu cefnogaeth gyfrinachol.

Trawma hiliol

Caiff yr effaith y gall hiliaeth ei chael ar eich meddwl a'ch corff ei disgrifio weithiau fel trawma hiliol.

Nid oes diffiniad cyffredinol ar gyfer trawma hiliol. Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio i ddisgrifio'r holl effeithiau y gall profi hiliaeth eu cael ar y ffordd yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae eraill yn ei ddefnyddio i ddisgrifio set benodol o symptomau. Gallwch ddarganfod mwy am drawma hiliol yma.

Trawma eilaidd

Trawma eilaidd yw pan fyddwch yn dyst i drawma neu pan fydd gennych gysylltiad agos ag ef. Ond nid ydych yn profi'r trawma yn uniongyrchol. Fe'i gelwir weithiau yn drawma dirprwyol.

Er enghraifft, os ydych yn newyddiadurwr sy'n adrodd am ddigwyddiadau trawmatig yn aml. Neu os ydych yn weithiwr meddygol proffesiynol sy'n gweithio mewn adran damweiniau ac achosion brys.

Mae effeithiau trawma eilaidd yn debyg i drawma cyffredinol. Ond efallai y byddwch hefyd yn dechrau teimlo eich bod wedi'ch gwahanu oddi wrth y trawma. Neu yn ei drin fel rhywbeth nad yw'n rhan o'ch bywyd.

Mae profi trawma eilaidd yr un mor ddilys ag unrhyw fath arall o drawma. Gall yr effaith fod yr un mor gryf.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig