Trawma
Yn esbonio beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. Yn cynnwys awgrymiadau am sut y gallwch helpu eich hun, pa driniaethau sydd ar gael, a sut i oresgyn rhwystrau i gael cymorth. Ceir awgrymiadau hefyd am sut y gallwch gefnogi rhywun arall sydd wedi mynd trwy drawma.
Goresgyn rhwystrau wrth geisio cymorth ar gyfer trawma
Ar y dudalen hon ceir gwybodaeth am y canlynol:
- Rhwystrau i fod yn agored am drawma
- Rhwystrau wrth geisio cymorth ar gyfer trawma
- Sut y gallaf oresgyn y rhwystrau hyn?
Dim ond enghreifftiau sydd yma o'r rhwystrau y gall pobl fod yn eu hwynebu wrth geisio cymorth ar gyfer trawma. Efallai y byddwch chi'n wynebu rhwystrau eraill nad ydynt wedi'u rhestru yma.
Cei rhagor o wybodaeth yma am rwystrau wrth gael mynediad at ofal iechyd meddwl ac am sut i gael eich clywed.
Cefais ddamwain a olygodd fy mod yn methu cerdded. Hyd heddiw, ni allaf siarad am y manylion y tu allan i leoliad therapi.
Rhwystrau i fod yn agored am drawma
Yn aml, gall y broses o wella ar ôl trawma gynnwys siarad am yr hyn a ddigwyddodd a datblygu ein ffordd ein hunain o feddwl am yr hyn a ddigwyddodd.
Gall hon fod yn broses anodd. Efallai y gwelwch fod rhai pethau yn ei gwneud yn anoddach bod yn agored am eich profiadau. Er enghraifft:
Profi stigma a bai
Gall stigma fod yn perthyn i rai mathau o drawma a phrofiadau. Gall hyn ei gwneud yn anodd i chi siarad am yr hyn sydd wedi digwydd i chi. Efallai y byddwch yn poeni y bydd pobl yn eich beio am y trawma. Efallai fod hyn wedi digwydd i chi yn y gorffennol. Gall hyn ei gwneud yn anodd i chi ymddiried mewn pobl.
Teimlo'n anniogel
Efallai na fyddwch yn gallu dweud wrth neb am eich trawma gan nad ydych yn teimlo'n ddiogel. Er enghraifft, os ydych chi'n cael eich cam-drin gan aelod o'r teulu neu rywun sy'n byw gyda chi.
Os ydych chi'n cael eich cam-drin gan bartner, aelod o'r teulu, neu rywun mewn sefyllfa o bŵer, mae help ar gael. Gweler ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol i gael gwybod pwy y gellir cysylltu â nhw os ydych yn teimlo'n anniogel.
Cael trafferth siarad neu ymdopi â'r hyn a ddigwyddodd
Gall siarad am brofiad trawmatig ddod â theimladau cryf iawn i'r wyneb. Gall sbarduno ymatebion megis pyliau o banig, teimladau o ddatgysylltiad neu deimladau am ladd eich hun.
Mae'n bosibl nad ydych yn cofio beth ddigwyddodd hefyd, neu ddim yn gwybod sut i ddeall eich profiadau. Gall hyn ei gwneud yn anodd i chi siarad amdanynt.
Ac efallai y bydd yna adegau pan fyddwch yn teimlo na allwch ymdopi, neu fod y cyfan yn rhy anodd. Gall hyn ei gwneud yn llawer anoddach bod yn agored am yr hyn yr ydych yn ei brofi.
Pobl yn camddeall trawma
Efallai na fydd rhai pobl yn deall trawma fel chi. Gallai hyn olygu nad ydynt yn deall eich cryfderau neu beth sydd wedi eich helpu i oroesi. Er enghraifft, efallai y byddwch yn teimlo bod eich dulliau ymdopi yn cael eu barnu neu eu beirniadu.
Efallai fod aelodau o'r teulu neu'r gymuned yn bod yn anghyfeillgar neu'n eich beirniadu am geisio cymorth. Neu efallai eu bod yn gwadu neu'n diystyru'r hyn rydych chi'n ei brofi.
Efallai na fydd rhai pobl yn deall pam fod profiad penodol wedi bod yn drawmatig i chi. Mae hyn yn debygol iawn os ydynt wedi profi rhywbeth tebyg ac yn teimlo'n wahanol i chi amdano.
Ugain mlynedd yn ôl, gadewais fy nghartref teuluol a symud 250 milltir i ffwrdd er mwyn dianc rhag trawma teuluol a fu'n mynd ymlaen am gyfnod hir. Doeddwn i ddim eisiau bod gyda fy nheulu oherwydd eu barn a’u hymddygiad.
Profiadau gwael o geisio cymorth
Gallai hyn gynnwys gweithwyr proffesiynol nad oeddent yn gwrando arnoch neu'n eich helpu. Neu os ydych wedi cael eich niweidio gan ofal iechyd gwael. Os ydych yn rhoi cynnig ar rywbeth ac nid yw'n eich helpu, gall rhoi cynnig arall arni deimlo'n anodd.
Esbonio pethau i lawer o bobl
Efallai y bydd rhaid i chi siarad â sawl gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn cael y cymorth cywir. Gallai hyn olygu y bydd yr un cwestiynau yn cael eu gofyn i chi dro ar ôl tro. Efallai y bydd rhaid i chi ddweud mwy am eich profiadau trawmatig nag yr ydych yn teimlo'n gyfforddus yn ei wneud.
Cael y cymorth iawn i chi
Efallai y bydd rhai gweithwyr proffesiynol yn rhoi mwy o bwyslais ar driniaethau nad ydynt yn teimlo'n iawn i chi, megis meddyginiaeth. Efallai y byddai'n well gennych chi pe baent yn mynd i'r afael â'r hyn sydd wedi achosi'r trawma yr ydych yn ei brofi.
Gormod o ffocws ar drawma
Efallai y bydd rhai gweithwyr proffesiynol yn gadael i'ch trawma eich diffinio. Efallai y byddant yn ei ddefnyddio i egluro popeth rydych chi'n ei wneud neu'n ei deimlo, hyd yn oed os nad ydych chi'n teimlo ei fod yn berthnasol. Efallai y byddwch yn cael diagnosis nad ydych yn cytuno ag ef oherwydd eich trawma hefyd.
Gweithwyr proffesiynol ddim yn adnabod eich trawma
Efallai na fydd rhai gweithwyr proffesiynol yn cydnabod bod eich profiadau wedi bod yn rhai trawmatig. Gallai hyn fod oherwydd bod eu syniad nhw o drawma yn wahanol. Gall hyn fod yn brofiad gofidus iawn.
Gall rhai gweithwyr proffesiynol hefyd gredu ystrydebau niweidiol am grwpiau penodol o bobl. Gallai'r stereoteipiau hyn olygu eu bod yn diystyru profiadau o drawma. Er enghraifft, diystyru merched oherwydd eu bod yn credu eu bod yn or-emosiynol neu'n gorymateb, yn hytrach na chymryd eu profiadau a'u symptomau o ddifrif.
Mae fy nghyfnod yn yr ysbyty yn rhywbeth rydw i wedi ceisio cymorth therapi ar ei gyfer ers i mi adael – roedd mor ddrwg â hynny.
Sut y gallaf oresgyn y rhwystrau hyn?
Os ydych chi'n wynebu rhwystrau fel y rhain, dyma rai pethau a allai helpu:
- Ysgrifennwch bethau ar bapur. Gallai hyn helpu os yw dweud pethau'n uchel yn rhy anodd neu os nad ydych yn awyddus i'w hailadrodd.
- Canolbwyntiwch ar ddiogelwch. Os ydych wedi'ch cyfyngu o ran yr hyn y gallwch siarad amdano, canolbwyntiwch ar wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel. Gallai cael cynllun diogelwch helpu i’ch cadw’n ddiogel, hyd yn oed os na allwch adael cartref ar unwaith. Ceir templed o gynllun diogelwch y gallwch ei lawrlwytho a'i lenwi ar wefan End the Fear.
- Dewisiwch beth rydych chi am ei rannu. Chi sydd i benderfynu beth rydych chi'n ei ddweud wrth bobl am eich profiadau. Nid oes angen i chi ddweud eich stori gyfan – yn wir, nid oes rhaid i chi rannu unrhyw ran ohoni. Mae eich teimladau'n ddilys ac rydych chi'n haeddu cefnogaeth.
- Dywedwch wrth bobl pa fath o gefnogaeth yr hoffech ei chael. Er enghraifft, gofynnwch i rywun wrando arnoch chi a pheidio â rhoi cyngor i chi.
- Gofynnwch i weithwyr proffesiynol am eu harbenigedd. Gallwch ofyn os ydynt wedi derbyn hyfforddiant penodol ac os oes ganddynt brofiad o weithio gyda thrawma, ac am unrhyw beth arall sy'n peri pryder i chi.
- Dangoswch yr wybodaeth hon i bobl. Gall eu helpu i ddysgu mwy am drawma.
- Gall unrhyw un roi cynnig ar therapi. Mae rhai pobl yn credu ei bod ond yn bosib cael therapi os ydych yn teimlo'n barod i fod yn agored. Ond nid yw hyn yn wir. Dylai therapyddion sy'n deall trawma eich cefnogi a'ch helpu i ymdopi, ni waeth faint yr ydych yn gallu ei rannu.
- Gwnewch ddewisiadau pan fo hynny'n bosibl. Er enghraifft, efallai y bydd yn bosibl i chi ofyn am therapydd o rywedd penodol. Neu efallai y gallwch eistedd yn wynebu'r drws os yw hynny'n teimlo'n fwy diogel i chi. Gweler ein gwybodaeth am gael y budd mwyaf o therapi am ragor o awgrymiadau.
- Canolbwyntiwch ar sut yr ydych yn teimlo nawr. Nid oes gwahaniaeth os nad ydych yn deall neu'n cofio'r hyn a ddigwyddodd. Gallwch ofyn am help gyda'r ffordd y mae'r trawma wedi effeithio arnoch chi, yn ogystal â'r hyn yr ydych yn ei brofi nawr.
- Siaradwch â Mind. Gall ein llinell wybodaeth eich helpu i archwilio opsiynau ar gyfer cymorth yn eich ardal chi. Ac mae gennym ni ganghennau Mind lleol yng Nghymru a Lloegr sy'n darparu ystod o wasanaethau defnyddiol.
Os ydych wedi rhoi cynnig ar rywbeth ond nid yw wedi'ch helpu, ceisiwch fod yn garedig ac yn amyneddgar gyda chi'ch hun. Gall fod yn anodd ymdopi ag effeithiau trawma. Gall gymryd llawer o amser ac egni. Ond mae llawer yn gweld, pan fyddant yn cael y cyfuniad cywir o driniaethau, hunanofal a chymorth, ei bod yn bosibl teimlo'n well.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.