Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Yn esbonio beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. Yn cynnwys awgrymiadau am sut y gallwch helpu eich hun, pa driniaethau sydd ar gael, a sut i oresgyn rhwystrau i gael cymorth. Ceir awgrymiadau hefyd am sut y gallwch gefnogi rhywun arall sydd wedi mynd trwy drawma.

Triniaeth a chefnogaeth ar gyfer trawma

Mae'r dudalen hon yn ymwneud â thriniaethau a allai helpu gydag effeithiau trawma ar iechyd meddwl. Mae'n cwmpasu'r canlynol:

Mae pawb yn ymateb i drawma mewn ffordd wahanol. Ni fydd pawb yn teimlo bod angen triniaeth arnynt.

Os ydych yn chwilio am driniaeth, bydd yr hyn a gynigir i chi yn dibynnu ar eich symptomau a'ch diagnosis (os oes gennych un), ac ar eich anghenion. Bydd hefyd yn dibynnu ar ba wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae'r hyn sy'n helpu yn amrywio o unigolyn i unigolyn, a gall newid dros amser. Gall bod â meddwl agored ac archwilio opsiynau gwahanol fod o gymorth.

Nid yw'r triniaethau ar gyfer trawma yr un fath â'r triniaethau a argymhellir ar gyfer PTSD neu PTSD cymhleth bob amser. Gweler ein tudalen am driniaethau PTSD i ddysgu mwy. 

Mae’r feddyginiaeth gywir wedi helpu, ac rwy’n ei chael yn haws ymdopi nag yr oeddwn flwyddyn yn ôl. Rwy’n disgwyl am therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), ac rwy’n dysgu sut i fod yn dosturiol â mi fy hun.

Therapïau siarad

Mae therapïau siarad yn rhoi cyfle i chi archwilio teimladau a phrofiadau anodd gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Efallai y byddwch yn gweld hyn yn ddefnyddiol os ydych yn cael trafferth prosesu neu ddeall eich trawma neu os ydych am siarad am eich profiadau yn gyfrinachol.

Nid oes canllawiau sy'n argymell mathau penodol o therapi ar gyfer trawma. Bydd yr hyn sy'n gweithio orau yn bersonol i chi. Ond mae ymchwil yn dangos y gallai therapi fod yn fwy defnyddiol os yw'r therapydd:

  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o drawma. Nid yw hyn yn golygu bod angen iddo fod wedi profi trawma ei hun. Ond, yn hytrach, ei fod yn deall sut mae'n effeithio ar bobl.
  • Yn deall eich cefndir diwylliannol neu grefyddol. Ac yn gwybod sut y gallai hynny effeithio ar eich ymateb i drawma.
  • Yn gallu gweithio gyda chi dros gyfnod hir. Nid yw therapïau â therfyn amser yn rhoi digon o gyfle yn aml i feithrin ymddiriedaeth.

Darganfyddwch fwy ar ein tudalennau am therapi siarad a chwnsela, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i gael y budd mwyaf o therapi.

Trwy therapi, fe wnes i ddysgu ei bod yn debygol fy mod i wedi goroesi oherwydd fy mod wedi defnyddio'r  ymddygiadau ymdopi hynny, [a] oedd yn niweidiol, ond y rhai hynny oedd yr unig rai roeddwn i'n eu hadnabod ar y pryd.

Os ydych yn rhoi tystiolaeth mewn achos troseddol

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer tystion sy'n agored i niwed a dioddefwyr troseddau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy'n rhoi tystiolaeth am dreisio neu ymosodiad rhywiol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynghori mai'r ffactor pwysicaf i ddioddefwr neu dyst ei gofio pan fydd yn ystyried therapi yw ei iechyd a'i lesiant. 

Yn y cyfnod cyn yr achos troseddol, gall yr heddlu ofyn am fynediad at nodiadau therapi dioddefwr. Gall yr heddlu ofyn am y rhain os ydynt yn meddwl yn rhesymol y gallai’r nodiadau ddatgelu deunydd sy’n berthnasol i’r ymchwiliad neu’r problemau tebygol a allai godi yn yr achos.

Therapïau celfyddydol a chreadigol

Gall therapïau celfyddydol a chreadigol gynnwys gweithgareddau megis celf, cerddoriaeth neu ddrama.

Cânt eu cynnal mewn amgylchedd therapiwtig, gyda gweithiwr proffesiynol hyfforddedig. Nid oes angen i chi fod wedi gwneud y gweithgareddau hyn o'r blaen neu fod yn meddu ar unrhyw sgiliau neu wybodaeth benodol.

Gall y therapïau hyn eich helpu i fynd i'r afael â theimladau a phrofiadau anodd heb ddefnyddio geiriau. Gallant hefyd eich helpu i gynrychioli eich trawma ac ymdrin ag ef mewn gwahanol ffyrdd. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen therapïau celfyddydol a chreadigol.

Meddyginiaeth

Efallai y bydd rhai ohonom yn gweld bod meddyginiaeth yn ein helpu i reoli'r symptomau yr ydym yn eu profi ar ôl trawma.

Bydd y math o gyffur a gynigir i chi yn dibynnu ar y symptomau rydych chi'n eu profi ac unrhyw anghenion iechyd eraill a allai fod gennych.

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, sicrhewch fod yr holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch gennych i deimlo'n hyderus am eich penderfyniad. Ceir arweiniad ar yr hyn a allech ofyn i'r meddyg ar ein tudalen meddyginiaeth seiciatrig. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am eich hawl i wrthod meddyginiaeth.

Bensodiasepinau a thrawma

Math o gyffuriau tawelu yw bensodiasepinau sy'n arafu gweithrediadau'r corff a'r ymennydd.

Ni chaiff bensodiasepinau eu hargymell os ydych wedi profi trawma yn ddiweddar. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallant effeithio ar eich gallu i wella.

Ond cânt eu rhagnodi weithiau i drin gorbryder difrifol ac anhunedd. Mae'r rhain yn symptomau y gallech eu profi yn dilyn digwyddiad trawmatig.

Os ydych yn teimlo y gallai meddyginiaeth helpu gyda gorbryder difrifol neu anhunedd, gallech ofyn i'ch meddyg am y canlynol:

Therapïau cyflenwol ac amgen

Mae therapïau cyflenwol ac amgen yn cynnwys llawer o wahanol fathau o therapi, megis therapïau sy'n canolbwyntio ar y corff neu fyfyrdod.

Mae'r dystiolaeth sy'n awgrymu pa therapïau a all fod yn effeithiol yn amrywio. Ond mae peth ymchwil yn awgrymu y gallai'r therapïau canlynol helpu gyda symptomau trawma:

  • Aciwbigo
  • Aromatherapi
  • Hypnotherapi
  • Tylino
  • Ymwybyddiaeth ofalgar
  • Defnyddio blanced wedi'i thrymhau
  • Ioga

Ceir mwy o wybodaeth am y triniaethau hyn, gan gynnwys sut maent yn gweithio a'u diogelwch, ar ein tudalennau therapïau cyflenwol ac amgen.

I mi, roedd angen i'r ymwybyddiaeth ofalgar yr oeddwn i'n ei hymarfer fod yn ddigon syml fel nad oedd angen i mi boeni amdani, ond eto'n cynnig her i’r meddwl ganolbwyntio arni a’m tynnu oddi wrth yr emosiynau a oedd yn rhy fawr ar y pryd.

Gwasanaethau mewn argyfwng

Gall gwasanaethau mewn argyfwng helpu os ydych yn profi argyfwng iechyd meddwl. Er enghraifft:

  • Mae'r Samariaid ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch ffonio 116 123 yn rhad ac am ddim, e-bostio [email protected] neu ymweld â rhai canghennau wyneb yn wyneb. Gallwch hefyd ffonio'r llinell Gymraeg ar 0300 123 3011 (7pm–11pm bob dydd).
  • Efallai fod gwasanaethau cymorth lleol ar gael yn eich ardal chi, a allai gynnwys gwasanaethau dydd, sesiynau galw heibio, neu gymorth sy'n ymwneud â mater penodol.
  • Gall timau argyfwng eich cefnogi gartref yn ystod argyfwng iechyd meddwl.
  • Gall tai argyfwng gynnig cymorth dwys yn y tymor byr i’ch helpu i reoli argyfwng iechyd meddwl mewn lleoliad preswyl, yn hytrach nag mewn ysbyty.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalennau am wasanaethau mewn argyfwng

Cael mynediad at driniaeth ar gyfer trawma

Dyma rai ffyrdd y gallech gael mynediad at driniaeth a chymorth ar gyfer trawma:

  • Eich meddyg teulu. I gael cyngor ar sut i baratoi ar gyfer apwyntiad meddyg teulu, gweler ein tudalen am siarad â'ch meddyg teulu am iechyd meddwl.
  • Hunanatgyfeirio. Mae rhai ardaloedd yn rhedeg gwasanaethau y gallwch gysylltu â nhw yn uniongyrchol i atgyfeirio eich hun ar gyfer therapi siarad. Efallai y bydd gan eich meddyg teulu wybodaeth am hyn. Os ydych yn byw yn Lloegr, gallech roi cynnig ar ddarganfyddwr therapïau siarad y GIG ar wefan y GIG. Mae ein tudalen am therapi siarad a chwnsela yn cynnwys mwy o wybodaeth am therapïau siarad y GIG .
  • Sefydliadau arbenigol. Gweler ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol i ddod o hyd i sefydliadau a all gynnig therapi neu fathau eraill o gymorth ar gyfer mathau penodol o drawma. Efallai y bydd yn bosib iddynt eich cyfeirio at wasanaethau lleol hefyd.
  • Gwasanaethau trawma lleol. Mae rhai sefydliadau yn cynnig therapi trawma rhad ac am ddim neu am gost isel. Efallai y bydd gan eich cangen Mind leol wybodaeth am wasanaethau yn eich ardal chi.
  • Therapyddion preifat. Mae chwilio am therapydd preifat yn opsiwn arall y mae rhai pobl yn dewis ei ystyried. Ond gall hyn fod yn ddrud felly nid yw'n opsiwn i bawb. Darganfyddwch fwy ar ein tudalen am ddod o hyd i therapydd.

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – sy’n cynhyrchu canllawiau ar yr arferion gorau ym maes gofal iechyd – yn argymell triniaethau ar gyfer problemau iechyd meddwl penodol yn hytrach nag ar gyfer trawma yn gyffredinol. Gallai hyn effeithio ar ba driniaeth a gynigir i chi gan y GIG.

Am ragor o wybodaeth am driniaethau ar gyfer problemau iechyd meddwl penodol, gweler ein tudalen Iechyd meddwl A-Y.

Gofal sy'n ystyriol o drawma

Mae gofal sy'n ystyriol o drawma bellach yn gyffredin iawn yn y GIG. Os yw gwasanaeth yn dweud ei fod yn ystyriol o drawma, mae hyn yn golygu y dylai pob aelod o staff wneud y canlynol:

  • Deall sut y gall trawma effeithio ar bobl, gan gynnwys sut y gall problemau iechyd meddwl fod o ganlyniad i drawma
  • Holi’n sensitif am drawma yn y gorffennol, a chynnig cefnogaeth briodol os byddwch yn ei ddatgelu
  • Deall sut y gall gwasanaethau iechyd meddwl achosi niwed os nad ydynt yn ymwybodol o drawma
  • Deall eich cryfderau a chydnabod beth sydd wedi eich helpu i oroesi ac ymdopi
  • Bod yn ddibynadwy a thryloyw a'ch gwneud yn rhan o'r gofal a gynigir i chi

Beth os na chynigir y math cywir o driniaeth i mi?

Dylai’r GIG ddarparu gofal a thriniaeth sy’n briodol i chi, ac sy’n diwallu eich anghenion a’ch dewisiadau. Os yw eich problemau iechyd meddwl yn ymwneud â thrawma, dylai hyn gynnwys derbyn gofal sy'n ystyriol o drawma. Gweler ein tudalennau am geisio cymorth ar gyfer problem iechyd meddwl am wybodaeth am gael mynediad at y driniaeth gywir i chi.

Os nad ydych yn teimlo bod y driniaeth iawn yn cael ei chynnig i chi, fe allech siarad â'r darparwr ac esbonio hynny iddo. Os ydych yn cael trafferth cael mynediad at gymorth, ceir awgrymiadau ar ein tudalen am oresgyn rhwystrau a allai fod o gymorth. Os nad yw siarad â'ch darparwr am yr hyn yr ydych yn dymuno ei gael yn gweithio, fe allech wneud cwyn.

Ac os yw derbyn y math anghywir o ofal wedi achosi niwed i chi, gallai fod yn esgeulustod clinigol. Byddai angen i chi ddangos bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi methu yn ei ddyletswydd i ofalu amdanoch, a'ch bod wedi profi niwed neu golled o ganlyniad i'r methiant hwnnw.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig