Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Yn esbonio beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl. Yn cynnwys awgrymiadau am sut y gallwch helpu eich hun, pa driniaethau sydd ar gael, a sut i oresgyn rhwystrau i gael cymorth. Ceir awgrymiadau hefyd am sut y gallwch gefnogi rhywun arall sydd wedi mynd trwy drawma.

Sut y gallai trawma effeithio arnaf i?

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu'r canlynol:

Gall trawma effeithio ar bawb mewn ffordd wahanol. Felly, mae'n bosib y byddwch yn adnabod rhai o'r profiadau a restrir ar y dudalen hon. Ond efallai y byddwch wedi cael profiadau gwahanol neu wedi ymateb mewn ffordd wahanol i'r hyn a gaiff ei grybwyll yma. 

Rwy’n cofio edrych ar luniau ohonof fy hun a dynnwyd tua'r adeg honno, ac rwy’n dal i deimlo eich bod yn gallu gweld newid sylfaenol ynof. Mae fy llygaid wedi pylu, bron fel petai golau llawenydd wedi cael ei ddiffodd ohonynt.

Sut mae ein cyrff yn ymateb i berygl

Pan fyddwn yn teimlo o dan straen neu o dan fygythiad, mae ein cyrff yn rhyddhau hormonau o'r enw cortisol ac adrenalin. Dyma sut y mae'r corff yn paratoi i ymateb i berygl, ac nid oes gennym unrhyw reolaeth drosto.

Gall hyn gael ystod o effeithiau, a elwir weithiau yn:

  • Rhewi (freeze) – teimlo wedi’ch parlysu neu’n methu symud
  • Methu (flop) – gwneud yr hyn y mae rhywun yn ei ddweud wrthoch heb allu protestio
  • Ymladd (fight) – ymladd, ymaflyd neu brotestio
  • Dianc (flight) – cuddio neu symud i ffwrdd
  • Ffalsio (fawn) – ceisio plesio rhywun sy'n eich niweidio

Os byddwn yn profi trawma, gall ymatebion ein corff barhau am beth amser ôl i'r trawma ddod i ben. Er enghraifft, pan fyddwn mewn sefyllfa sy'n ein hatgoffa o'r trawma. Gallai hyn effeithio ar sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, yn enwedig os ydym wedi'i chael yn anodd dygymod â’r trawma.

Bedair blynedd yn ddiweddarach, mae’n dal i achosi problemau – gweld y byd fel bygythiad, gor-wyliadwriaeth gyson, trafferthion cysgu ac ati, sydd yn eu tro yn arwain at broblemau personol dyfnach.

Sut mae trawma yn gwneud i ni deimlo

Mae’n bosibl y bydd rhai ohonom sy’n profi trawma yn teimlo'r emosiynau canlynol yn ystod neu ar ôl y digwyddiad:

  • Dicter
  • Diffyg teimlad neu'n cael trafferth i deimlo unrhyw emosiynau cryf
  • Fel eich bod wedi colli eich hunaniaeth neu ymdeimlad o bwy ydych chi
  • Yn ofnus neu mewn panig
  • Galar
  • Yn bryderus
  • Yn bigog
  • Wedi drysu
  • Yn aflonydd
  • Yn ansicr o'r hyn yr ydych ei angen neu ei eisiau
  • Gor-wyliadwriaeth – sef pan fyddwch yn effro iawn ac yn ymwybodol iawn o'r hyn sydd o'ch cwmpas oherwydd eich bod yn teimlo y gallai rhywbeth drwg ddigwydd
  • Sioc neu wedi'ch arswydo
  • Cywilydd

Ond nid yw pawb yn teimlo'r un fath yn ystod neu ar ôl trawma. A gall sut yr ydym yn teimlo newid dros amser, hyd yn oed fisoedd neu flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Cofiwch fod pob teimlad yn ddilys – hyd yn oed os nad ydych yn siŵr pam eich bod yn teimlo felly.

Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy, doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio. Roeddwn i'n teimlo fel fy mod i ar goll, yn bryderus.

Hunanfeio

Pan fyddwn yn profi trawma, efallai y byddwn yn teimlo mai ni sydd ar fai. Gall hyn achosi i ni deimlo cywilydd neu euogrwydd mawr, hyd yn oed os nad oedd bai arnom ni.

Mae’r rhesymau dros hunanfeio yn cynnwys y canlynol:

  • Eich meddwl yn ceisio gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd, ac i osgoi teimladau llethol o ddicter, galar neu frad
  • Dod o hyd i ffordd o oroesi mewn sefyllfa anniogel neu drallodus, megis byw gyda rhywun sydd wedi'ch niweidio
  • Dymuno y gallech fod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol ar y pryd, er na allech fod wedi gwneud hynny
  • Rhywun arall yn eich beio am yr hyn a ddigwyddodd, neu'n ymddwyn fel pe bai bai arnoch chi
  • Cael eich gwneud i deimlo'n gyfrifol am weithredoedd rhywun arall, hyd yn oed pan oedd ganddo bŵer drosoch chi

Gall hunanfeio fod yn deimlad anodd iawn i ddygymod ag ef. Ond efallai mai dyma ymgais y meddwl i geisio'ch gwarchod. Felly gallai gymryd amser a chefnogaeth i ddechrau teimlo'n wahanol.

Efallai y byddwch yn teimlo'n ddryslyd neu wedi'ch gorlethu os bydd rhywun arall yn dweud nad oedd bai arnoch chi. Er y gall clywed hynny fod yn rhyddhad hefyd.

Mae yna ymdeimlad cynhenid hefyd eich bod wedi gwneud rhywbeth o'i le – naill ai'r teimlad mai chi a achosodd yr hyn a ddigwyddodd i chi, neu'r teimlad y dylech fod yn delio ag ef yn well.

Effeithiau corfforol trawma

Gall trawma hefyd effeithio ar ein cyrff. Gallwn brofi:

  • Curiau pen
  • Doluriau a phoenau o amgylch y corff
  • Crynu
  • Blinder
  • Chwysu
  • Newidiadau i ba mor aml yr ydym yn bwyta neu'r hyn yr ydym ag awydd ei fwyta
  • Problemau cof
  • Pendro neu newidiadau o ran golwg

Gall hyn hefyd arwain at broblemau iechyd corfforol hirdymor eraill sy'n gysylltiedig â straen. Gweler ein gwybodaeth am arwyddion corfforol straen i ddysgu mwy.

Roeddwn i mewn poen echrydus – yn sgrechian, crio, crynu, siglo, wylo, ac yna'n cael teimladau o ddatgysylltu.

Profiadau y gallem eu cael ar ôl trawma

Gall effeithiau corfforol ac emosiynol trawma arwain at brofiadau penodol megis:

  • Ôl-fflachiau – ail-fyw agweddau o ddigwyddiad trawmatig neu deimlo fel pe bai'n digwydd nawr. Gallai hyn gynnwys gweld delweddau o'r hyn a ddigwyddodd, neu ei brofi trwy synhwyrau eraill megis blas, sain, neu deimladau corfforol. Gweler ein gwybodaeth am ôl-fflachiau.
  • Pyliau o banig – math o ymateb ag ofn. Y corff yn gor-ymateb i berygl, straen neu gyffro. Gweler ein gwybodaeth am byliau o banig.
  • Datgysylltiad – un ffordd y mae eich meddwl yn ymdopi â straen llethol. Efallai y byddwch yn teimlo'n ddideimlad, fel pe baech wedi'ch gwahanu oddi wrth eich corff, neu fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Gweler ein gwybodaeth am ddatgysylltiad ac anhwylderau datgysylltu.
  • Problemau cysgu – efallai y byddwch yn ei chael yn anodd mynd i gysgu neu beidio deffro, yn teimlo’n anniogel yn y nos, neu’n cael hunllefau. Gweler ein gwybodaeth am broblemau cysgu.
  • Hunanesgeulustod – pan na allwch ofalu amdanoch eich hun a delio ag anghenion sylfaenol megis bwyta, cadw'n lân, neu gadw'ch cartref yn ddiogel. Gallech fod yn esgeuluso eich hun oherwydd diffyg hunan-barch, neu oherwydd eich bod yn ei chael yn anodd addasu i fywyd yn dilyn trawma. Gallai trawma amharu ar eich trefn arferol. Gall hyn ei gwneud yn anoddach nag arfer i chi ofalu amdanoch eich hun. Gallai rhai mathau o drawma ein rhoi mewn sefyllfaoedd lle nad yw'r adnoddau gennym i ddiwallu’r anghenion sylfaenol hyn.
  • Hunan-niweidio – pan fyddwch yn brifo eich hun fel ffordd o ddelio â theimladau anodd iawn, atgofion poenus, neu sefyllfaoedd a phrofiadau llethol. Gweler ein gwybodaeth am hunan-niweidio.
  • Teimladau am ladd eich hun – sy'n cynnwys ymgolli eich hun mewn teimladau sy'n ymwneud â lladd eich hun, meddwl am ddulliau hunanladdiad, neu wneud cynlluniau i ladd eich hun. Am ragor o wybodaeth, gweler ein gwybodaeth am ymdopi â theimladau am ladd eich hun. Gallwch hefyd gysylltu â'r Samariaid unrhyw adeg drwy ffonio 116 123 neu anfon e-bost at [email protected].
  • Camddefnyddio alcohol a sylweddau – ffordd o geisio ymdopi ag emosiynau neu atgofion anodd. Gweler ein gwybodaeth am effeithiau cyffuriau adloniant ac alcohol ar iechyd meddwl. Gallwch hefyd gael cyngor cyfrinachol am gyffuriau ac alcohol ar wefan FRANK.

Am awgrymiadau am sut i ymdopi ag effeithiau trawma, gweler ein tudalen am ymdopi â thrawma.

Roedd y ddamwain yn dal i ailchwarae yn fy meddwl – roedd yr hyn a welais, sŵn, teimlad ac arogl yr eiliadau hynny, yn ailadrodd sawl gwaith bob dydd. Sylweddolais yn y pen draw mai'r hyn yr oeddwn yn ei brofi oedd ôl-fflachiau.

A all trawma achosi problemau iechyd meddwl?

Gall trawma fod wrth wraidd sawl problem iechyd meddwl. Gall gynyddu ein siawns o'u datblygu. Ond yn achos y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl, mae ffactorau eraill ar waith fel arfer hefyd yn ogystal â thrawma.

Gweler ein tudalen Iechyd meddwl A-Y am wybodaeth am broblemau iechyd meddwl y gallech fod yn eu profi. 

Pryd mae trawma yn datblygu yn anhwylder straen wedi trawma (PTSD)?

Gall rhai problemau iechyd meddwl ddatblygu'n uniongyrchol oherwydd trawma. Mae'r rhain yn cynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhwylder straen wedi trawma cymhleth (PTSD cymhleth).

Hyd yn oed os ydych wedi profi trawma, nid yw hynny yn golygu y byddwch yn datblygu'r problemau hyn bob tro. Gall symptomau trawma fod yn ddwys iawn. Ond bydd y teimladau hyn yn aml yn pylu dros amser.

Mae'n bosib y byddwch yn dioddef gan PTSD os na fydd y symptomau hyn yn diflannu ar ôl mis. Neu os ydynt yn effeithio'n sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Gallai hyn olygu bod angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch iechyd meddwl.

I ddysgu mwy, gan gynnwys ble i gael cymorth, gweler ein gwybodaeth am PTSD a PTSD cymhleth.

Cefais tua deg sesiwn gyda’r cwnselydd … dywedais wrthi am y meddyliau yr oeddwn wedi bod yn eu cael a oedd yn fy nychryn, y pryder a’r pyliau o banig, y nosweithiau digwsg a'r hunllefau, popeth … Helpodd fi i dderbyn fy mod wedi bod yn dioddef gan PSTD a sut i reoli’r cyfan.

Ym mha ffyrdd eraill y gallai trawma effeithio arnaf i?

Gall effeithiau trawma bara am amser hir. Neu gallant fynd a dod. Efallai y byddwch yn cael anhawster gyda rhai agweddau o'ch bywyd o ddydd i ddydd, gan gynnwys:

  • Gofalu amdanoch eich hun
  • Cadw swydd
  • Ymddiried mewn eraill
  • Cynnal cyfeillgarwch neu gydberthnasau
  • Cofio pethau
  • Gwneud penderfyniadau
  • Eich bywyd rhywiol
  • Ymdopi â newid
  • Deall eich profiad trawmatig ochr yn ochr â'ch credoau crefyddol
  • Mwynhau eich amser hamdden

Mewn rhai achosion, gall trawma gael effaith ddifrifol ar eich gallu i weithio. Am wybodaeth ar sut i ymdopi, gweler ein tudalennau am sut i fod yn iach yn feddyliol yn y gwaith.

Efallai y bydd rhai ohonom yn troi at ffydd i ymdopi â’r trawma. Ond efallai y bydd rhai ohonom yn ei chael yn anodd deall ein profiad trawmatig ochr yn ochr â’n credoau crefyddol. Mae ein tudalen cysylltiadau defnyddiol yn rhestru rhai sefydliadau y gallech gysylltu â nhw.

Gall sut yr ydych yn cael eich effeithio ddibynnu ar bethau eraill hefyd, megis:

  • Profiadau blaenorol o drawma
  • Pwysau neu bryderon eraill ar y pryd neu yn ddiweddarach
  • Cael eich niweidio gan bobl sy'n agos atoch chi
  • A wnaeth unrhyw un eich helpu neu'ch cefnogi ai peidio

Fe gymerodd amser hir i mi ddechrau teimlo’n ddiogel. Fe allwn i fod allan yn gyhoeddus gyda ffrindiau, a byddai car yn tanio, neu byddai dieithryn yn gweiddi rhywbeth ar ffrind ychydig yn rhy uchel, ac fe fyddwn i yng nghanol pwl o banig cyn i mi hyd yn oed sylweddoli ei fod wedi dechrau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Rhagfyr 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig