Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'r adran hon ar gyfer pobl sy'n dymuno helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Gall fod yn anodd iawn ymdopi os yw rhywun sy'n annwyl i chi yn dioddef effeithiau trawma, ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud a allai fod o gymorth.

Ar y dudalen hon, mae nifer o awgrymiadau am ffyrdd i'w helpu gan ofalu yr un pryd am eich llesiant eich hun. Mae'r rhain yn cynnwys:

Gwrando ar y person

Efallai na fyddwch yn sicr beth i'w ddweud neu ei wneud os bydd rhywun yn sôn wrthych chi am drawma. Gallai fod o gymorth os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi digon o amser i'r person. Gadael iddo siarad ar ei gyflymder ei hun – mae'n bwysig peidio â'i ruthro neu roi pwysau arno.
  • Canolbwyntio ar wrando. Ceisiwch barchu ei ddewis o bethau i'w rhannu, yn hytrach na gofyn llawer o gwestiynau.
  • Derbyn ei deimladau. Er enghraifft, derbyn ei fod yn teimlo gofid am beth sydd wedi digwydd.
  • Peidio â'i feio neu feirniadu ei ymatebion. Gallech feddwl tybed pam nad oedd wedi gwneud rhywbeth yn wahanol, ond roedd wedi goroesi yn ôl ei allu ar y pryd. 
  • Defnyddio'r un geiriau â'r person. Mae pobl yn defnyddio geiriau gwahanol i ddisgrifio eu profiadau. Er enghraifft, eu dewis nhw yw a fyddan nhw'n sôn am fod yn 'ddioddefwr' neu'n 'oroeswr' trawma.
  • Peidio ag wfftio ei brofiadau. Er enghraifft, peidiwch â dweud wrth y person am beidio â phoeni am bethau neu y gallai pethau fod yn waeth – nid yw hyn yn debygol o'i helpu. Cofiwch nad yw pobl yn gallu dewis beth sy'n achosi trawma iddynt na sut mae'n effeithio arnynt.
  • Cynnig cyngor dim ond os gofynnir i chi. Efallai mai'r unig beth y mae am ei glywed yw eich bod yn ei gredu a'ch bod ar gael i'w helpu.

Cam mawr ymlaen i mi oedd derbyn y gallaf ddangos fy mod yn agored i niwed heb ofn dial na chosb... er mwyn gwneud hyn, rydw i wedi gorfod egluro pa mor agored i niwed ydw i i'r rhai sydd agosaf i mi... a hynny lawer gwaith pan ydw i'n ymddangos yn llwyr i'r gwrthwyneb.

Os bydd rhywun yn sôn wrthych am drawma, mae'n bosibl y bydd yn ymddangos yn ddi-emosiwn neu'n ddifater er ei fod yn sôn am ddigwyddiadau sy'n achosi straen a gofid. Gallai wenu neu chwerthin hyd yn oed.

Gall hyn ymddangos yn beth rhyfedd neu annealladwy, ond mae'n gyffredin iawn – mae'n digwydd am fod trawma yn gallu achosi teimladau mor gryf fel bod eich meddwl yn cael ei ddatgysylltu oddi wrth eich emosiynau.

Mae clywed am drawma yn gallu bod yn brofiad anodd iawn, pa un a fydd rhywun yn rhannu manylion penodol neu beidio. Er enghraifft, gallech deimlo'n ddig neu'n ofidus ynghylch beth mae wedi'i ddweud wrthych. Mae'r cysylltiadau defnyddiol ar gael i'ch helpu chi hefyd, ac mae rhagor am ofalu am eich iechyd meddwl eich hun yn bellach i lawr y dudalen hon.

Dysgu beth sy'n sbarduno ei ymatebion

Gallai fod o gymorth i chi holi a oes unrhyw fathau o sefyllfaoedd neu sgyrsiau a allai sbarduno ôl-fflachiau neu deimladau anodd. Er enghraifft, byddai synau uchel neu gweryla yn gallu peri gofid mawr iddo. Drwy ddeall beth sy'n sbarduno ei ymatebion, gallai fod yn haws i chi osgoi sefyllfaoedd o'r fath a bod yn fwy parod i ddelio ag ymatebion fel ôl-fflachiau.

Cyngor ar helpu rhywun sy'n profi ôl-fflach

Mae ôl-fflachiau yn brofiadau byw lle bydd rhywun yn ail-fyw rhai agweddau ar ddigwyddiad trawmatig. Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu yn ystod ôl-fflach, ond does dim angen cael hyfforddiant arbennig i helpu rhywun sy'n ei brofi. Gall fod o gymorth os byddwch:

  • yn ceisio aros yn dawel
  • yn dweud yn garedig wrth y person ei fod yn profi ôl-fflach
  • yn ceisio peidio â symud yn sydyn mewn unrhyw ffordd
  • yn ei annog i anadlu'n araf ac yn ddwfn
  • yn ei annog i ddisgrifio'r pethau o'i gwmpas.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau am anhwylder straen wedi trawma (PTSD) am beth yw ôl-fflachiau a chyngor ar ddelio ag ôl-fflachiau.

Ceisio peidio â barnu

Os nad ydych wedi profi trawma eich hun neu os ydych yn teimlo'n wahanol am brofiadau a rannwyd, gall fod yn anodd deall pam nad yw ffrind neu aelod o'ch teulu yn gallu 'symud ymlaen'. Mae'n hawdd deall eich dymuniad i weld pethau'n gwella, ond mae'n bwysig peidio â beio'r person na phwyso arno i wella heb gael yr amser a'r cymorth sydd ei angen arno.

Peidio â chymryd drosodd

Os ydych yn poeni am rywun, mae'n hawdd deall eich dymuniad i'w helpu i wella neu'ch rhwystredigaeth os nad yw'n cytuno i wneud rhywbeth.

Ond fel arfer bydd profiadau trawmatig yn golygu bod rhywun yn teimlo'n ddiymadferth neu'n teimlo bod rheolaeth yn cael ei chymryd oddi arno. Felly os byddwch yn pwyso ar y person neu'n dweud wrtho beth i'w wneud, gall hyn waethygu ei deimlad o fod yn ddiymadferth.

Yn lle hynny, ceisiwch ei annog a'i helpu i wneud ei ddewisiadau ei hun.

Mae wedi bod yn anodd derbyn cymorth gan y rheini sydd agosaf i mi am mai fi oedd yn arfer gorfod bod yn gryf bob amser.

Parchu ei breifatrwydd

Peidiwch â rhannu manylion ei brofiadau oni bai ei fod wedi rhoi caniatâd i chi. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd am i chi ddweud wrth ffrindiau i chi neu aelodau'r teulu am beth sydd wedi digwydd iddo.

Nid yw hyn yn golygu cadw popeth i chi'ch hun a pheidio â chael cymorth. Mae awgrymiadau am leoedd i gael cymorth ar ein tudalennau ar gysylltiadau defnyddiol ar gyfer trawma a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer helpu rhywun arall

 

Ei helpu i ddod o hyd i gymorth

Os yw'r person yn dymuno i chi wneud hynny, gallech ei helpu i ddod o hyd i ragor o gymorth. Er enghraifft:

Mae rhagor o awgrymiadau ar ein tudalen am helpu rhywun arall i chwilio am gymorth, yn cynnwys beth allwch a beth na allwch ei wneud os nad yw rhywun am gael cymorth.

Gofalu am eich iechyd meddwl eich hun

Rhaid cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae gwybodaeth a chyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun ar ein tudalennau am helpu rhywun arall i chwilio am gymorthsut i ymdopi wrth gynorthwyo rhywun aralldelio â straen a gofalu am eich llesiant.

Opsiynau cymorth i chi

Mae digwyddiad trawmatig yn gallu cael effaith fawr hefyd ar y bobl sydd o amgylch y person sydd wedi'i brofi. Os byddwch yn profi symptomau straen wedi trawma neu effeithiau trawma eraill (a elwir weithiau'n drawma eilaidd) wrth gynorthwyo rhywun arall, gallai'r cyngor ar ein tudalennau am eich helpu'ch hun i ddelio â thrawma nawr ac eich helpu eich hun yn y tymor hir fod o gymorth i chi.

Mae hefyd yn syniad da siarad â'ch meddyg teulu am eich teimladau, a gofyn a fydd yn gallu cynnig unrhyw driniaeth neu gymorth i chi.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig