Anhwylderau personoliaeth
Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Pam mae hyn yn ddadleuol?
Mae'r hyn rydyn ni'n ei ddeall am broblemau iechyd meddwl yn datblygu drwy'r amser. Mae hynny'n wir am yr iaith rydyn ni'n ei defnyddio wrth siarad amdanyn nhw hefyd. Gall diagnosis o 'anhwylder personoliaeth' fod yn ddadleuol oherwydd:
- mae arbenigwyr yn anghytuno ar sut mae deall anhwylderau personoliaeth
- dydy hyn ddim yn ystyried y cyd-destun cymdeithasol ddigon
- gall y term ei hun greu stigma
Mae rhai pobl sy'n cael y diagnosis hwn yn credu bod eu teimladau a'u hymddygiad yn ymateb dynol rhesymol i fynd drwy brofiadau anodd mewn bywyd. Felly dydy galw hynny'n 'salwch' neu'n 'anhwylder' ddim yn fuddiol ac mae'n gallu gwneud i rywun deimlo'n ypset. Maen nhw'n dadlau y dylai gweithwyr proffesiynol ystyried beth yn eu bywyd allai fod wedi cyfrannu at eu hanawsterau, a helpu gyda'r rhain. Dim canolbwyntio ar ganfod problemau ynddyn nhw fel unigolion.
Ar y llaw arall, mae rhai pobl yn gweld bod cael y diagnosis hwn yn eu helpu i enwi a deall eu profiadau, i egluro eu hunain i bobl eraill, ac weithiau i gael y driniaeth a'r cymorth na fydden nhw wedi'u cael fel arall.
Mae Mind wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod lleisiau pawb ar bob ochr i'r ddadl hon yn cael eu clywed. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n:
- gweld mai anhwylder ydy eu profiadau a'u hymddygiad
- meddwl amdanyn nhw fel ymateb naturiol i adfyd
- gwrthod y label anhwylder personoliaeth
- ddim yn cytuno'n llwyr â'r label, ond yn ei dderbyn fel ffordd o gael gafael ar gymorth
Os ydych chi wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth, ond rydych chi'n poeni nad ydy hyn yn iawn i chi, mae gennym ni wybodaeth am beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n credu eich bod wedi cael diagnosis anghywir.
Mae arbenigwyr yn anghytuno ar sut mae deall anhwylderau personoliaeth
Y system o wneud diagnosis o anhwylder personoliaeth sydd wedi'i rhestru ar ein tudalen mathau o anhwylderau personoliaeth ydy'r un mae seiciatryddion yn tueddu i'w defnyddio yn y DU. Ond, mae rhai seiciatryddion yn anghytuno â defnyddio'r system hon, ac yn credu nad ydy'n ddefnyddiol oherwydd:
- Dydy'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael diagnosis o anhwylder personoliaeth ddim yn ffitio mewn un categori yn unig, ac mae'n bosib iddyn nhw gael diagnosis o fwy nag un anhwylder.
- Mae rhai pobl yn credu y dylid canolbwyntio ar beth sydd ei angen ar bob unigolyn er mwyn delio â'i broblemau a chanfod ffyrdd newydd o fyw, yn hytrach na chanolbwyntio ar i ba gategori maen nhw'n perthyn.
Dydy hyn ddim yn ystyried y cyd-destun cymdeithasol ddigon
Mae pobl yn gymhleth. Mae nifer o ffactorau cymdeithasol sy'n gallu effeithio ar ein gallu i ymdopi, i ymwneud ag eraill ac i ymateb i straen. Er enghraifft:
- Trawma yn ystod plentyndod (fel cam-drin neu esgeuluso) neu drawma a oedd yn para am gyfnod hir.
- Materion sy'n ymwneud â'ch sefyllfa a'ch amgylchedd, fel tlodi ac amddifadedd cymdeithasol, neu orfod symud cartref i rywle newydd neu i ddiwylliant cwbl newydd
- Profiad o stigma a gwahaniaethu, fel hiliaeth, rhagfarn ar sail rhyw, homoffobia, deuffobia neu drawsffobia.
- Os ydy pobl wedi eich trin yn wael mewn perthnasoedd yn y gorffennol (gan gynnwys eich rhieni neu'ch gofalwyr).
Gall unrhyw rai o'r rhain wneud i chi deimlo eich bod yn cael eich llethu â theimladau sy'n fwrn arnoch chi. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd iawn delio â heriau bywyd bob dydd pan fyddwch chi'n oedolyn.
Gall y term ei hun greu stigma
Mae rhai pobl yn teimlo bod y term 'anhwylder personoliaeth' yn swnio'n feirniadol. Mae cael diagnosis neu label o anhwylder personoliaeth yn gallu teimlo fel petai rhywun yn dweud wrthych chi bod rhywbeth o'i le arnoch chi. Efallai y byddwch yn teimlo'n ypset, wedi'ch sarhau ac wedi'ch cau allan. Mae iaith yn datblygu, ac mae'n bosib y bydd gweithwyr proffesiynol yn defnyddio term gwahanol yn y dyfodol.
Weithiau gall stigma ddeillio o'r gweithwyr proffesiynol eu hunain, pa un a ydy hynny'n fwriadol neu beidio.
Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun - mae yna bobl eraill sy'n mynd drwy'r un peth â chi. Sut bynnag rydych chi'n dewis gwneud synnwyr o'ch anawsterau, rydych chi'n haeddu cael eich trin yn deg. Dyma rai opsiynau y gallwch eu hystyried:
- Dangoswch yr wybodaeth hon i bobl er mwyn eu helpu i ddeall mwy am beth mae eich diagnosis yn ei olygu mewn gwirionedd.
- Cyfrannwch at eich triniaeth – mae ein tudalennau chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl ac eiriolaeth yn rhoi arweiniad i chi ar sut mae cael dweud eich dweud ynghylch eich triniaeth, gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed a pha gamau gallwch chi eu cymryd os nad ydych chi'n hapus gyda'ch gofal.
- Gwybod eich hawliau – mae ein tudalennau hawliau cyfreithiol yn rhoi rhagor o wybodaeth.
- Gweithredu gyda Mind – edrychwch ar ein tudalen ymgyrchu am fanylion ynghylch y gwahanol ffyrdd y gallwch chi ein helpu ni i herio stigma.
Wedi dweud hynny, mae angen egni i herio stigma. Pan fyddwch yn arbennig o wael efallai na fyddwch yn gallu gwneud unrhyw un o'r pethau hyn. Byddwch yn garedig tuag at eich hun a cheisiwch beidio â rhoi eich hun o dan bwysau i wneud unrhyw beth ar wahân i orffwys a chael eich cefn atoch pan fydd arnoch angen gwneud hynny.
Edrychwch ar ein tudalen eiriolaeth a'n tudalen cysylltiadau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth os bydd angen cymorth arnoch i gael dweud eich dweud ynghylch eich triniaeth.
Y stigma o fod yn dreisgar ac yn beryglus ydy'r peth gwaethaf i mi. Rydw i'n unigolyn gofalgar ac empathig a fyddai'n gwneud unrhyw beth i'r bobl rwy'n eu caru.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.