Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa fathau o anhwylderau personoliaeth sydd yna?

Ar hyn o bryd mae seiciatryddion yn tueddu i ddefnyddio system ddiagnosis sy'n adnabod deg math o anhwylder personoliaeth. Mae'r rhain yn cael eu grwpio'n dri chategori.

Amheus:

Emosiynol a byrbwyll:

Gorbryderus:

Mae gan bob anhwylder personoliaeth ei set ei hun o feini prawf diagnostig. Rhaid i chi fodloni rhai o'r meini prawf hyn er mwyn cael diagnosis penodol. Mae'r isafswm y mae gofyn i chi ei fodloni yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau, ond dylai fod yn fwy nag un neu ddau bob amser. Os ydych chi'n bodloni meini prawf ar gyfer mwy nag un math, efallai y bydd hyn yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth cymysg. 

Mae hefyd yn bosib cael diagnosis heb fodloni'r meini prawf llawn ar gyfer math penodol. Yr enw ar hyn ydy anhwylder personoliaeth heb ei nodi fel arall (PD-NOS) neu anhwylder personoliaeth nodwedd wedi'i nodi.

Mae'n bosib i amrywiaeth eang o bobl gael yr un diagnosis, er bod ganddyn nhw bersonoliaethau gwahanol iawn a phrofiadau unigol gwahanol. Bydd eich profiad o fyw gydag anhwylder personoliaeth yn unigryw i chi.

Diagnosis dadleuol

Mae ein dealltwriaeth ni o beth mae cael anhwylder personoliaeth yn ei olygu yn newid drwy'r amser. Mae'n ddiagnosis dadleuol. Mae gan bobl wahanol farn am y termau hyn, a dydy pawb ddim yn cytuno â'u defnyddio.

Y peth pwysig i'w gofio ydy - mae'n anodd iawn byw gyda'r teimladau a'r ymddygiad sy'n gysylltiedig ag anhwylderau personoliaeth. Sut bynnag rydych chi'n deall eich diagnosis a pha bynnag dermau y mae'n well gennych chi eu defnyddio, rydych chi'n haeddu dealltwriaeth a chefnogaeth.

Anhwylder personoliaeth paranoid

Gall y meddyliau, y teimladau a'r profiadau sy'n gysylltiedig â pharanoia olygu eich bod chi:

  • yn ei chael hi'n anodd bod â ffydd mewn pobl, hyd yn oed eich ffrindiau a'ch teulu
  • yn ei chael hi'n anodd iawn ymddiried mewn pobl eraill, gan gredu y byddan nhw'n eich defnyddio chi neu'n cymryd mantais arnoch chi
  • yn ei chael hi'n anodd ymlacio
  •  yn gweld bygythiadau a pherygl (a dydy pobl eraill ddim yn eu gweld) mewn sefyllfaoedd bob dydd, sylwadau diniwed neu gipedrychiadau gan bobl eraill.

Gallai hyn fod yn broblem mor fawr yn eich bywyd nes eich bod yn cael diagnosis o anhwylder personoliaeth paranoid. Edrychwch ar ein tudalen paranoia i gael rhagor o wybodaeth.

Rydw i'n dioddef o baranoia eithriadol. Mae hyn yn dân ar groen y rhan fwyaf o bobl ac maen nhw'n gwylltio efo fi pan fydda' i'n paranoid.

Anhwylder personoliaeth sgitsoid

Mae nifer o bobl sydd ag anhwylder personoliaeth sgitsoid yn gallu gweithredu'n eithaf da. Yn wahanol i sgitsoffrenia neu anhwylder sgitsoaffeithiol, fyddai gennych chi ddim symptomau seicotig fel arfer. Ond, o ganlyniad i'r meddyliau a'r teimladau sy'n gysylltiedig â'r diagnosis hwn, gallai'r canlynol fod yn berthnasol i chi:

  • rydych chi'n cael anhawster ffurfio perthynas agos gyda phobl eraill
  • rydych chi'n dewis byw eich bywyd heb ymyrraeth gan bobl eraill
  • mae'n well gennych chi fod ar eich pen eich hun gyda'ch meddyliau eich hun
  • dydych chi ddim yn cael pleser o nifer o weithgareddau
  • does gennych chi ddim llawer o ddiddordeb mewn rhyw nac agosatrwydd
  • rydych chi'n ei chael hi'n anodd ymwneud â phobl eraill neu rydych chi'n oeraidd tuag at bobl eraill yn emosiynol

Anhwylder personoliaeth sgitsofathol

Mae gan bawb eu nodweddion hynod neu eu hymddygiad lletchwith eu hunain. Ond os ydy eich patrymau o feddwl ac ymddwyn yn ei gwneud hi'n anodd ymwneud â phobl eraill, efallai y cewch chi ddiagnosis o anhwylder personoliaeth sgitsofathol.

Yn wahanol i sgitsoffrenia, fyddech chi ddim yn cael profiadau o seicosis fel arfer. Ond, fe allai'r canlynol fod yn berthnasol i chi:

  • profiadau neu ganfyddiadau wedi'u hystumio 
  • anodd iawn ffurfio perthnasoedd clos
  • meddwl a mynegi eich hun mewn ffyrdd sy'n 'rhyfedd' i bobl eraill, defnyddio geiriau neu ymadroddion anghyffredin sy'n golygu ei bod hi'n anodd ymwneud â phobl eraill
  • credu eich bod chi'n gallu darllen meddyliau neu fod gennych chi bwerau arbennig fel 'chweched synnwyr'.
  • teimlo'n orbryderus ac yn llawn tensiwn yng nghwmni pobl eraill nad ydyn nhw'n rhannu'r credoau hyn
  • teimlo'n orbryderus iawn ac yn paranoid mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ac yn ei chael hi'n anodd ymwneud â phobl eraill.

Darllenwch ein tudalennau sgitsoffrenia neu anhwylder sgitsoaffeithiol i gael rhagor o wybodaeth am y teimladau a'r symptomau sy'n gysylltiedig ag anhwylderau personoliaeth sgitsoid a sgitsofathol.

Mae bob amser yn fy nhaflu i braidd pan fydd rhywun ddim yn gwneud beth rydw i'n disgwyl iddo ei wneud. Byddai gwybod bod llawer o ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem wedi gwneud i mi deimlo'n llawer mwy parod ar gyfer yr hyn fyddai'n digwydd nesaf.

Anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol

Mae'n naturiol rhoi ein hanghenion, ein pleser neu ein budd personol ein hunain cyn rhai'r bobl eraill o'n cwmpas ni weithiau. Ond, os bydd hyn yn digwydd yn aml iawn, ac os byddwch chi'n cael anhawster cael sefydlogrwydd yn eich bywyd, neu os byddwch chi'n ymddwyn yn fyrbwyll yn rheolaidd oherwydd eich bod wedi gwylltio neu am nad ydych chi wedi ystyried pobl eraill, gallai hyn arwain at ddiagnosis o anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol.

Efallai eich bod chi'n gwneud y canlynol:

  • rhoi eich hun mewn sefyllfaoedd peryglus neu fentrus, yn aml heb feddwl am y canlyniadau i chi nac i bobl eraill
  • ymddwyn yn beryglus ac weithiau'n anghyfreithlon (efallai fod gennych gofnod troseddol)
  • ymddwyn mewn ffyrdd sy'n annymunol i bobl eraill
  • teimlo eich bod wedi diflasu'n hawdd iawn a gweithredu ar fympwy – er enghraifft, efallai y byddwch yn ei chael hi'n anodd dal swydd am gyfnod hir
  • ymddwyn yn ymosodol ac yn dechrau cwffio'n hawdd
  • gwneud pethau er y gallai hynny frifo pobl – i gael yr hyn rydych chi ei eisiau, gan roi eich anghenion a'ch dymuniadau chi o flaen anghenion a dymuniadau pobl eraill
  • mae gennych chi broblemau o ran teimlo empathi – er enghraifft, efallai na fyddwch chi'n teimlo'n euog nac yn dangos unrhyw ymdeimlad o euogrwydd os ydych chi wedi trin rhywun arall yn wael
  • roeddech chi wedi cael diagnosis o anhwylder ymddygiad cyn i chi fod yn 15 oed.

Mae'r diagnosis hwn yn cynnwys 'seicopathi' a 'sosiopathi'. Dydy'r termau hyn ddim yn cael eu defnyddio yn y Ddeddf Iechyd Meddwl y dyddiau hyn, ond mae'n bosib y bydd holiadur 'rhestr wirio seicopathi' yn cael ei ddefnyddio yn eich asesiad.

Andrew smiling and wearing a shirt and tie

Bywyd gydag Anhwylder Personoliaeth Gwrthgymdeithasol (ASPD)

Pan oeddwn i'n blentyn roedd hi'n ymddangos mai dim ond drwy wylltio roeddwn i'n gallu mynegi sut roeddwn i'n teimlo.

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD) hefyd yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD).

Mae pob un ohonom ni'n gallu cael anawsterau gyda'n perthnasoedd, ein hunanddelwedd a'n hemosiynau. Ond gallech gael diagnosis o BPD/EIPD os ydy'r rhain yn teimlo'n ansefydlog neu'n ddwys yn rheolaidd ac yn achosi problemau sylweddol i chi mewn bywyd bob dydd.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • teimlo'n bryderus iawn am bobl yn cefnu arnoch chi, ac un ai'n gwneud unrhyw beth i atal hynny rhag digwydd neu'n eu gwthio i ffwrdd
  • emosiynau dwys iawn sy'n gallu newid yn gyflym (er enghraifft, o deimlo'n hapus ac yn hyderus iawn yn y bore i deimlo'n isel ac yn drist yn y prynhawn)
  • heb ymdeimlad cryf o bwy ydych chi na beth rydych chi am ei gael yn eich bywyd, ac mae eich syniadau am hyn yn newid yn sylweddol, gan ddibynnu ar gyda phwy ydych chi
  • ei chael hi'n anodd iawn sefydlu a chadw perthnasoedd neu gyfeillgarwch sefydlog
  • ymddwyn yn fyrbwyll a gwneud pethau a allai eich niweidio chi (fel gorfwyta mewn pyliau, defnyddio cyffuriau neu yrru'n beryglus)
  • meddwl am ladd eich hun
  • hunan-niweidio
  • teimlo'n wag ac yn unig yn aml iawn
  • mynd yn ddig iawn ac yncael trafferth rheoli eich dicter
  • anhawster ymddiried mewn pobl eraill
  • problemau iechyd meddwl eraill ochr yn ochr â BPD, gan gynnwys gorbryderiselderproblemau bwyta ac anhwylder straen wedi trawma.

Pan fyddwch chi o dan straen aruthrol, weithiau efallai y byddwch chi'n:

  • teimlo'n paranoid
  • cael profiadau seicotig, fel gweld neu glywed pethau nad ydy pobl eraill yn eu gweld nac yn eu clywed
  • teimlo dim a ddim yn cofio pethau'n dda iawn ar ôl iddyn nhw ddigwydd (mae hyn yn cael ei alw'n ymdeimlad o ddatgysylltiad).

BPD ydy'r anhwylder personoliaeth mwyaf cyffredin ar hyn o bryd. Gallwch ddarllen mwy amdano ar ein tudalennau anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD).

Mae BPD yn fel bod heb fyffer emosiynol. Rydw i'n gallu mynd o ddim byd i emosiynau hynod o lethol yn sydyn iawn, ac rydw i'n ei chael hi'n anodd eu mynegi mewn ffordd iach.

Anhwylder personoliaeth histrionig

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi cael canmoliaeth neu sylwadau cadarnhaol am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Ond os ydych chi'n dibynnu'n fawr ar gael sylw, neu'n ceisio cael cymeradwyaeth cymaint nes bod hynny'n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth histrionig.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • teimlo'n anghyfforddus iawn os nad chi sy'n cael y sylw i gyd
  • teimlo eich bod yn gorfod diddanu pobl
  • ceisio cael cymeradwyaeth pobl eraill yn gyson, neu'n teimlo eich bod chi'n dibynnu ar hynny
  • gwneud penderfyniadau byrbwyll
  • fflyrtio neu'n ymddwyn/gwisgo yn bryfoclyd er mwyn gwneud yn siŵr mai chi sy'n cael y sylw o hyd
  • cael enw am fod yn ddramatig ac yn rhy deimladol
  • cael eich dylanwadu gan eraill yn hawdd.

Ar ôl cael diagnosis, roeddwn i'n gallu deall sut a pham roeddwn i'n ymddwyn fel roeddwn i: roedd fy mywyd i'n gwneud rhywfaint mwy o synnwyr.

Anhwylder personoliaeth narsisaidd

Mae bod yn ymwybodol o'n hanghenion ein hunain, eu mynegi a dymuno i eraill fod yn ymwybodol o'n galluoedd a'n cyflawniadau yn rhan o'n natur ni. Dydy'r rhain ddim yn nodweddion drwg. Ond, os ydy'r mathau hyn o feddyliau, teimladau ac ymddygiad yn eithafol iawn ac yn achosi problemau o ran ymwneud â phobl eraill, efallai y cewch chi ddiagnosis o anhwylder personoliaeth narsisaidd.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • credu bod rhesymau arbennig sy'n eich gwneud chi'n wahanol, yn well neu'n fwy haeddiannol nag eraill
  • hunan-barch bregus, felly rydych chi'n dibynnu ar eraill i gydnabod eich gwerth a'ch anghenion
  • teimlo'n ypset os bydd pobl eraill yn eich anwybyddu chi a pheidio â rhoi'r hyn rydych chi'n teimlo rydych chi'n ei haeddu i chi
  • digio os bydd pobl eraill yn llwyddiannus
  • rhoi eich anghenion eich hun o flaen anghenion pobl eraill, a mynnu eu bod nhw'n gwneud hynny hefyd
  • cael eich ystyried yn hunanol ac yn ddiystyriol neu ddim yn ymwybodol o anghenion pobl eraill.

Anhwylder personoliaeth osgoi

Mae gan bob un ohonom ni bethau, llefydd neu bobl nad ydyn ni'n eu hoffi, neu sy'n ein gwneud ni'n orbryderus. Ond os ydy'r pethau hyn yn achosi cymaint o orbryder nes eich bod chi'n ei chael hi'n anodd cynnal perthnasoedd yn eich bywyd, efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth osgoi (mae'n cael ei alw'n anhwylder personoliaeth gorbryderus weithiau hefyd).

Efallai y byddwch chi'n:

  • osgoi gwaith neu weithgareddau cymdeithasol sy'n golygu bod rhaid i chi fod gyda phobl eraill
  • disgwyl anghymeradwyaeth a beirniadaeth a bod yn sensitif iawn i hynny
  • poeni drwy'r amser am gael eich 'dal' a'ch gwrthod
  • poeni am bobl eraill yn eich gwawdio neu'n codi cywilydd arnoch chi
  • osgoi perthnasoedd, cyfeillgarwch ac agosatrwydd oherwydd eich bod yn ofni cael eich gwrthod
  • teimlo'n unig ac ar eich pen eich hun, ac yn israddol i bobl eraill
  • amharod i roi cynnig ar weithgareddau newydd rhag ofn y byddwch yn codi cywilydd arnoch eich hun.

Darllenwch ein tudalennau gorbryder a phyliau o banig i gael rhagor o wybodaeth am sut mae ymdopi â gorbryder.

Anhwylder personoliaeth dibynnol

Mae'n naturiol bod angen pobl eraill i ofalu amdanom ni neu i roi cysur i ni weithiau. Mae cydbwysedd iach yn golygu gallu dibynnu ar bobl eraill yn ogystal â bod yn annibynnol weithiau. Ond, os bydd teimladau a meddyliau am fod angen pobl eraill yn eich llethu cymaint nes cael effaith ar eich bywyd a'ch perthnasoedd bob dydd, efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth dibynnol.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • teimlo'n anghenus, yn 'wan' a methu â gwneud penderfyniadau neu weithredu o ddydd i ddydd heb help neu gymorth gan bobl eraill
  • caniatáu i bobl eraill ysgwyddo cyfrifoldeb dros sawl agwedd ar eich bywyd neu fynnu eu bod yn gwneud hynny
  • cytuno i bethau rydych chi'n teimlo sy'n ddrwg neu nad ydych chi'n eu hoffi er mwyn osgoi bod ar eich pen eich hun neu golli cefnogaeth rhywun
  • ofn cael eich gadael i wneud pethau drosoch eich hun
  • dim llawer o hunanhyder
  • gweld pobl eraill yn llawer mwy galluog na chi.

Anhwylder personoliaeth gorfodaeth obsesiynol (OCPD)

Mae anhwylder personoliaeth gorfodaeth obsesiynol (OCPD) yn wahanol i anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD), sy'n disgrifio math o ymddygiad yn hytrach na math o bersonoliaeth.

Ond, yn debyg iawn i OCD, mae OCPD yn ymwneud â phroblemau â pherffeithrwydd, yr angen am reolaeth a'i chael hi'n anodd iawn bod yn hyblyg o ran sut rydych chi'n meddwl am bethau.

Efallai bod y canlynol yn berthnasol i chi:

  • angen cadw popeth mewn trefn ac o dan reolaeth
  • gosod safonau afrealistig o uchel i chi'ch hun ac i bobl eraill
  • meddwl mai eich ffordd chi ydy'r ffordd orau o wneud pethau
  • poeni amdanoch chi neu bobl eraill yn gwneud camgymeriadau
  • teimlo'n orbryderus iawn os nad ydy pethau'n 'berffaith'.

Ewch i'n tudalen hunanofal ar gyfer anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD) i gael gwybodaeth am reoli symptomau OCD. Hefyd, mae rhagor o wybodaeth am OCPD ar gael ar wefan OCD UK.

Anhwylder personoliaeth heb ei nodi fel arall (PD-NOS)

Mae pawb yn unigolyn ac yn ymddwyn mewn ffyrdd unigryw, felly mae'n naturiol nad ydy pawb yn ffitio'n daclus yn y categorïau sy'n cael eu disgrifio uchod.

Os oes gennych chi nifer o nodweddion anhwylder personoliaeth ond dim digon i fodloni meini prawf un math arbennig, efallai y cewch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth heb ei nodi fel arall (PD-NOS). Efallai y bydd y diagnosis yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth nodwedd wedi'i nodi hefyd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig