Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth sy'n achosi anhwylderau personoliaeth?

Yn union fel mae profiad pawb o anhwylder personoliaeth yn unigryw iddyn nhw, bydd yr achosion yn unigryw hefyd.

Does dim rheswm clir pam mae rhai pobl yn datblygu'r teimladau a'r ymddygiad sy'n gysylltiedig ag anhwylderau personoliaeth ac eraill ddim. Mae'r rhan fwyaf o ymchwilwyr yn credu bod cymysgedd cymhleth o ffactorau i weld yn cynyddu'r risg o ddatblygu neu sbarduno'r profiadau hyn, gan gynnwys:

Yr amgylchedd ac amgylchiadau cymdeithasol

Gall yr amgylchedd a'r amgylchiadau cymdeithasol wrth i ni dyfu i fyny ac ansawdd y gofal rydyn ni'n ei gael effeithio ar sut mae ein personoliaeth yn datblygu. Efallai y byddwch yn cael anawsterau sy'n gysylltiedig ag anhwylderau personoliaeth os ydych chi wedi profi:

  • bywyd teuluol ansefydlog neu anhrefnus, fel byw gyda rhiant sy'n alcoholig neu sy'n cael trafferth rheoli problem iechyd meddwl
  • ychydig iawn neu ddim cefnogaeth gan eich gofalwr - gall hyn fod yn arbennig o anodd os ydych chi wedi bod trwy ddigwyddiad neu mewn sefyllfa drawmatig
  • diffyg cefnogaeth neu brofiadau gwael yn ystod eich bywyd ysgol, yn eich grŵp cyfoedion neu'r gymuned ehangach, fel bwlio neu allgáu
  • tlodi neu wahaniaethu
  • rhyw fath o adleoli, fel symud o dramor

Mae gen i anhwylder personoliaeth ffiniol narsisaidd. Roedd hi'n anodd derbyn mai fi, neu fy mhersonoliaeth i, oedd y broblem i ddechrau. Ond roedd gallu rhoi hynny mewn persbectif fel nam datblygiadol yn llawer haws i'w dderbyn - mai dyna sut roeddwn i wedi datblygu mewn ymateb i'm hamgylchedd ac i'r sefyllfaoedd roeddwn i wedi bod ynddyn nhw.

Profiadau plentyndod cynnar

Gall ein profiadau pan fyddwn ni'n tyfu i fyny effeithio ar ein personoliaeth yn nes ymlaen. Os oedd eich plentyndod yn un anodd, efallai eich bod wedi datblygu rhai credoau ynghylch sut mae pobl yn meddwl neu'n ymddwyn a sut mae perthnasoedd yn gweithio. Gall hyn arwain at ddatblygu rhai strategaethau ar gyfer ymdopi oedd efallai'n angenrheidiol pan oeddech yn blentyn, ond nad ydyn nhw bob amser yn ddefnyddiol yn eich bywyd fel oedolyn.

Os cawsoch ddiagnosis o anhwylder personoliaeth rydych chi'n fwy tebygol na'r rhan fwyaf o bobl o fod wedi cael profiad anodd neu drawmatig wrth dyfu i fyny, fel:

Ond fydd pawb sy'n mynd drwy sefyllfa drawmatig ddim yn datblygu'r problemau hyn. Bydd eich ymatebion unigryw, yn ogystal â chysondeb ac ansawdd y gofal a'r cymorth a gawsoch, yn gwneud gwahaniaeth.

Hefyd, fydd pawb sy'n datblygu anhwylder personoliaeth ddim wedi cael profiad trawmatig.

Ffactorau genetig

Mae personoliaeth yn gymhleth iawn, ac ar hyn o bryd, dydy ymchwilwyr ddim yn gwybod llawer am yr hyn sy'n ffurfio ein personoliaethau ac i ba raddau mae genynnau'n cyfrannu at hyn.

Mae rhai elfennau o'n personoliaeth yn debygol o fod yn enetig. Rydyn ni i gyd yn cael ein geni gyda natur wahanol – er enghraifft, mae babanod yn amrywio o ran faint maen nhw'n symud, faint maen nhw'n canolbwyntio a sut maen nhw'n addasu i newid.

Mae rhai arbenigwyr yn credu bod gan ein geneteg ran i'w chwarae yn y broses o ddatblygu anhwylder personoliaeth, ond mae eraill yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod a ydy tebygrwydd o ran ein natur a'n hymddygiad wedi cael eu hetifeddu o un genhedlaeth i'r llall drwy ein geneteg neu drwy'r ymddygiad yr oedd plant yn ei efelychu wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Mae angen rhagor o waith ymchwil yn y maes hwn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig