Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Unigrwydd

Mae'r adran hon yn egluro unigrwydd, gan gynnwys beth sy'n achosi unigrwydd a sut mae hynny'n gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol i helpu i reoli teimladau o unigrwydd, a lle arall gallwch chi fynd i gael cymorth.

Ynglŷn ag unigrwydd

Mae llawer ohonom yn teimlo’n unig o bryd i’w gilydd. Mae teimladau o unigrwydd yn bersonol, felly bydd profiad pawb yn wahanol.

Mae rhai pobl yn disgrifio unigrwydd fel y teimlad a gawn pan nad yw ein hangen am gyswllt cymdeithasol a pherthnasoedd yn cael ei fodloni. Ond nid yw unigrwydd yr un peth â bod ar eich pen eich hun.

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fodlon heb lawer o gysylltiad â phobl eraill. Ond efallai y bydd hyn yn brofiad unig i eraill.

Efallai mai dim ond ar adegau penodol y bydd rhai pobl yn teimlo'n unig. Ond gall rhai pobl brofi unigrwydd cronig. Dyma deimlad dwfn o unigrwydd sy'n parhau am amser hir. Efallai eich bod o gwmpas eraill ac yn dal i deimlo fel eich bod ar eich pen eich hun.

Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl bod angen i chi fyw ar eich pen eich hun i deimlo'n unig. Neu bod unigrwydd yn golygu peidio â chael llawer o ffrindiau neu deulu o'ch cwmpas.

Ond gallwch gael llawer o gyswllt cymdeithasol a chefnogaeth a dal i deimlo'n unig. Yn enwedig os nad ydych chi'n teimlo bod y bobl o'ch cwmpas yn eich deall nac yn gofalu amdanoch.

Un peth dwi wedi’i ddysgu yw’r gwahaniaeth rhwng teimlo ar fy mhen fy hun a theimlo’n unig – a sut gallwch chi deimlo’n unig mewn torf o bobl, ond yn eithaf heddychlon a bodlon pan fyddwch ar eich pen eich hun.

Ydy unigrwydd yn broblem iechyd meddwl?

Nid yw teimlo'n unig yn broblem iechyd meddwl. Ond gall cael problem iechyd meddwl gynyddu teimladau o unigrwydd. Er enghraifft, os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, fe allech chi:

  • Osgoi digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau yr ydych fel arfer yn eu mwynhau
  • Cael hunan-barch isel
  • Ei chael hi’n anodd rhoi cynnig ar bethau newydd a phoeni am ymgysylltu ag eraill
  • Ei chael hi'n anodd siarad â phobl am sut rydych chi'n teimlo, oherwydd ofn stigma neu beidio â chael eich deall
  • Teimlo fel y gallech chi fod yn faich i eraill
  • Teimlo wedi'ch llethu mewn mannau cyhoeddus prysur, neu mewn digwyddiadau a phartïon gwaith

Dwi eisiau gallu rhyngweithio â phobl a gwneud cysylltiadau newydd, ond mae fy ngorbryder yn teimlo fel rhwystr anweledig na allaf dorri drwyddo.

Gall teimlo'n unig gael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl, yn enwedig os ydych chi wedi teimlo'n unig ers amser maith.

Mae ymchwil yn awgrymu y gall unigrwydd gynyddu straen. Mae hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o rai problemau iechyd meddwl. Er enghraifft, iselder, gorbryder, hunan-barch isel a phroblemau cysgu.

Mae fy ngorbryder ac iselder yn fy ynysu oddi wrth bobl ac yn fy atal rhag gallu gwneud y pethau yr hoffwn eu gwneud. Felly yn gymdeithasol mae'n fy rhwystro.

 

Beth sy'n achosi unigrwydd?

Mae gan unigrwydd lawer o wahanol achosion. Mae'r rhain yn amrywio o berson i berson. Nid ydym bob amser yn deall beth yw profiad sy'n gwneud i ni deimlo'n unig.

Gall rhai digwyddiadau neu brofiadau bywyd wneud i chi deimlo’n unig, fel:

  • Cael profedigaeth
  • Perthynas yn chwalu
  • Ymddeoliad
  • Newid swydd
  • Dechrau yn y brifysgol
  • Profi problemau iechyd meddwl
  • Dod yn rhiant
  • Symud i ardal neu wlad newydd heb deulu, ffrindiau neu rwydweithiau cymunedol

Efallai y byddwch chi'n teimlo'n unig ar rai adegau o'r flwyddyn. Er enghraifft, yn ystod gwyliau fel y Nadolig, Ramadan neu ddydd Sant Ffolant.

Mae ymchwil yn awgrymu bod rhai pobl yn fwy agored i unigrwydd nag eraill. Er enghraifft, os ydych chi:

  • Heb ffrindiau na theulu
  • Wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu
  • Yn rhiant sengl neu'n gofalu am rywun arall, ac yn ei chael hi'n anodd cynnal bywyd cymdeithasol
  • Yn perthyn i grŵp lleiafrifol ac yn byw mewn ardal lle nad oes llawer o bobl â chefndir tebyg i chi
  • Yn cael eich heithrio o weithgareddau cymdeithasol oherwydd problemau symudedd
  • Heb lawer o arian ar gyfer rhai gweithgareddau cymdeithasol
  • Yn gwarchod eich hun oherwydd eich bod mewn perygl o salwch difrifol oherwydd COVID-19 neu gyflyrau eraill
  • Yn profi gwahaniaethu a stigma oherwydd anabledd neu broblem iechyd hirdymor. Er enghraifft, problemau iechyd meddwl
  • Yn profi gwahaniaethu a stigma oherwydd eich rhywedd, hil neu eich hunaniaeth ryweddol neu rywiol
  • Wedi profi cam-drin rhywiol neu gorfforol, a all olygu eich bod yn ei chael yn anoddach ffurfio perthynas agos â phobl eraill 

Pan oeddwn yn dioddef o anorecsia roedd yn effeithio ar gymaint o agweddau ar fy mywyd. Roedd yn orlethol. Un o'r agweddau hynny oedd unigrwydd. Roedd yn rhywbeth roeddwn i’n ei deimlo am amser mor hir.

Unigrwydd ac arian

Mae llawer ohonom yn cael trafferth gydag arian ar hyn o bryd. Gall hyn effeithio ar ba mor aml y gallwn weld pobl eraill. Gall hyn effeithio ar ein lles a pha mor unig rydym yn teimlo.

Os na allwch chi fforddio'r pethau sydd eu hangen arnoch chi, mae help ar gael. Ewch i'n tudalennau ar arian ac iechyd meddwl i ddysgu mwy am ba gefnogaeth allai fod ar gael i chi

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig