Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen 

Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'r dudalen hon wedi'i hanelu at ffrindiau a theulu rhywun sy'n teimlo dan straen, sydd am ei gefnogi.

Gall deimlo'n anodd os bydd rhywun rydych chi'n agos ato yn teimlo dan straen. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd os na allwch chi ei helpu i newid y sefyllfa sy'n peri straen iddo. Ond mae llawer o bethau ymarferol y gallwch chi ei wneud i'w helpu o hyd.

Ei helpu i sylwi ar arwyddion a symptomau straen

Yn aml, efallai na fydd rhywun yn sylwi bod y ffordd mae'n teimlo neu'n ymddwyn yn arwydd o straen. Er enghraifft, gall hyn gynnwys problemau cysgu, neu yfed mwy o alcohol na'r arfer.

Efallai y byddwch chi'n gallu gweld yr arwyddion hyn yn rhywun arall, a hynny, efallai, cyn iddo eu gweld ei hun.

Mewn achos o'r fath, gallech chi roi gwybod iddo a gofyn iddo sut y gallwch chi helpu. Ceisiwch fod yn garedig wrth ddechrau'r sgwrs hon, rhag ofn ei fod yn rhywbeth nad yw'n ymwybodol ohono neu'n fater sensitif.

Gwrando ar sut mae'n teimlo

Gallai gael cyfle i siarad ei helpu i dawelu ei feddwl ac i deimlo'n fwy abl i ddelio â'i straen. Gall bod yno iddo a gwrando heb feirniadu fod o help.

[Mae fy ffrindiau'n gallu helpu drwy] fy nghysuro pan fydda i'n crio, gwneud paned o de i mi, gwneud i mi chwerthin.

Rhoi tawelwch meddwl

Pan fydd rhywun yn wynebu cyfnod llawn straen, gall fod yn anodd gweld golau ar ben arall y twnnel. Dywedwch wrtho fod sefyllfaoedd yn newid a'u bod yn gallu gwella.

Ei helpu i ymlacio

Gallech chi ei helpu i ymchwilio i dechnegau ymlacio ac i ddod o hyd i ffordd o'u hymarfer. Er enghraifft, mynychu dosbarth ioga wythnosol, neu neilltuo amser i wneud ymarferion anadlu gartref. Gallai hyn fod yn rhywbeth y gallech chi ei wneud gyda'ch gilydd.

[Pan rwy'n teimlo dan straen, mae angen i fy ffrindiau] roi cwtsh i mi. Mae un cwtsh bach yn gallu gwneud gwyrthiau.

Helpu i nodi'r hyn sy'n sbarduno ei straen

Efallai y bydd siarad am bethau rydych chi wedi sylwi arnyn nhw a allai sbarduno ei straen yn helpu Ond cofiwch, efallai y bydd y sgwrs hon yn peri straen iddo hefyd. Ceisiwch gadw meddwl agored ac osgoi beirniadu. Gall bod yn amyneddgar helpu hefyd.

Peidio â rhoi pwysau ychwanegol arna i ... dweud wrtha i eu bod nhw yno ond does dim angen i mi wneud dim.

Help i fynd i'r afael ag achosion straen

Mae sawl sefyllfa neu brofiad gwahanol sy'n gallu achosi straen. Efallai y byddwch chi'n gallu helpu i chwilio am gymorth ar gyfer rhai o'r problemau hyn. Er enghraifft, help gyda dyled, problemau tai neu anawsterau yn y gwaith.

Ei helpu i geisio cymorth

Gallech chi ei helpu i gysylltu â'i feddyg teulu, mynd gydag ef i apwyntiad neu wneud rhywfaint o waith ymchwil ar iechyd meddwl a lles. Gallwch gael rhagor o syniadau ar ein tudalennau ar helpu rhywun arall i geisio help.

Gofalu amdanoch chi eich hun

Os oes rhywun o'ch cwmpas yn teimlo dan straen mawr, efallai y byddwch chi'n teimlo dan straen hefyd. Os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch gymryd cam yn ôl a gofalu am eich lles eich hun. Gall sicrhau lles da wneud i chi deimlo'n fwy abl i helpu rhywun arall.

Gallwch chi gael cyngor ar gefnogi eich hun ar ein tudalennau ar les.

[Dwi am iddyn nhw] ddeall efallai y bydda i'n bigog, ond dwi ddim yn ceisio eu brifo nhw o gwbl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig