Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen

Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Triniaeth ar gyfer straen

Nid oes unrhyw driniaethau penodol ar gyfer straen. Ond mae triniaethau ar gyfer rhai o arwyddion a symptomau straen. Efallai y bydd y rhain yn eich helpu chi os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd rheoli straen eich hun.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

Ewch i'n tudalen ar reoli straen a meithrin gwydnwch i gael cyngor ar ffyrdd o ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi'n teimlo dan straen.

Siarad â'ch meddyg teulu

Gallai fod yn werth siarad â'ch meddyg teulu yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Rydych chi'n teimlo dan straen mawr.
  • Rydych chi wedi teimlo dan straen ers amser hir.
  • Mae eich teimladau o straen yn effeithio ar eich iechyd meddwl neu'ch iechyd corfforol.

Os yw straen yn achosi problemau iechyd corfforol i chi, gall eich meddyg teulu gynnal profion i weld sut y gall helpu i reoli'r symptomau.

Efallai y bydd yn awgrymu rhai opsiynau i'ch helpu i reoli eich straen, fel awgrymiadau ar gyfer lles ac ymlacio. Efallai y bydd yn gallu eich atgyfeirio at wasanaeth presgripsiynu cymdeithasol, os oes un ar gael yn eich ardal chi.

Math o driniaeth gymunedol yw presgripsiynu cymdeithasol sy'n eich helpu i ddelio â materion cymdeithasol sy'n effeithio ar eich iechyd. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cymorth ar gyfer unigrwydd, problemau ariannol neu weithgarwch corfforol. Gall hefyd eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau i wella eich lles, fel dosbarthiadau garddio a'r celfyddydau, neu gyfleoedd gwirfoddoli.

Gallwch gael cyngor ar sut i drafod eich teimladau gyda'ch meddyg ar ein tudalen ar siarad â'ch meddyg teulu.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn eich helpu i ddod o hyd i lawer o weithgareddau a chymorth gwahanol yn eich cymuned leol a all eich helpu i newid pethau er gwell.

Meddyginiaeth

Nid oes unrhyw feddyginiaeth benodol ar gyfer straen. Ond mae meddyginiaethau a all helpu i leihau neu reoli rhai o arwyddion a symptomau straen.

Er enghraifft, gallai eich meddyg gynnig rhoi'r canlynol i chi ar bresgripsiwn:

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniad hyddysg.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar bethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a'ch hawl i wrthod meddyginiaeth. Gallwch gael cyngor ar sut i ddod oddi ar feddyginiaeth yn ddiogel ar ein tudalennau ar ddod oddi ar meddyginiaeth

Therapi siarad

Gallai siarad â gweithiwr proffesiynol hyfforddedig eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â straen. A gall eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o'ch meddyliau a'ch teimladau chi eich hun.

Efallai y bydd therapïau siarad hefyd yn ddefnyddiol os yw eich straen wedi achosi problemau iechyd meddwl eraill.

Mae llawer o therapïau siarad gwahanol. Gall rhai ohonyn nhw eich helpu chi. Ond ni fydd pob un ohonyn nhw'n addas ar gyfer eich sefyllfa chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am wahanol fathau o therapi ar ein tudalennau ar therapi siarad a chwnsela.

Ni fydd pob ardal yng Nghymru a Lloegr yn cynnig therapi siarad ar gyfer straen ar y GIG. Efallai y bydd angen i chi ofyn i'ch meddyg beth sydd ar gael yn eich ardal chi.

Efallai y gallwch chi hefyd ddod o hyd i therapi a dosbarthiadau a gynigir gan elusennau a sefydliadau yn y trydydd sector i helpu gyda straen. Gallai hyn gynnwys cymorth gan eich gwasanaeth Mind lleol.

Therapïau cyflenwol ac amgen

Efallai y bydd rhai therapïau cyflenwol ac amgen penodol yn helpu i drin arwyddion a symptomau straen. Gall hyn gynnwys:

  • Aciwbigiad
  • Aromatherapi
  • Rhai triniaethau llysieuol a meddyginiaethau canabis
  • Hypnotherapi
  • Tylino
  • Tai Chi
  • Ioga a myfyrio

Gallwch chi roi cynnig ar rai o'r therapïau hyn ar eich pen eich hun. Ond mae eraill fel arfer yn cael eu gwneud fel rhan o ddosbarth neu sesiwn un i un.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y therapïau hyn, a llawer o rai eraill, ar ein tudalennau ar therapïau cyflenwol ac amgen.

Mae defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar yn fy helpu i anadlu a chanolbwyntio ar y presennol.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig