Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Meddwlgarwch

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am feddwlgarwch, sut i’w ymarfer a sut y gall helpu â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw meddwlgarwch?

Techneg y gallwch ei dysgu yw meddwlgarwch sy’n ymwneud â sylwi ar yr hyn sy’n digwydd yn y presennol, heb farnu. Efallai byddwch chi’n sylwi ac yn ymwybodol o’ch meddwl, eich corff neu eich amgylchedd. Mae gan y dechneg ei gwreiddiau ym Mwdhaeth a myfyrdod, ond nid oes rhaid i chi fod yn ysbrydol, neu gael unrhyw gredoau penodol, i roi cynnig arni.

Mae meddwlgarwch yn ceisio eich helpu i:

  • ddod yn fwy hunan-ymwybodol
  • teimlo’n fwy tawel eich meddwl â llai o straen
  • teimlo’n fwy galluog o ran sut rydych chi’n dewis ymateb i’ch meddyliau a theimladau
  • ymdopi â meddyliau sy’n anodd neu nad ydynt yn ddefnyddiol
  • bod yn fwy caredig tuag at eich hun.

Mae nifer o bobl yn gweld bod meddwlgarwch yn eu helpu i reoli eu lles o ddydd i ddydd, ond nid yw bob amser yn gweithio i bawb. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen am a yw meddwlgarwch yn iawn i chi.

Sgil yw meddwlgarwch. Mae'n gofyn am waith fel unrhyw therapi, ac ymarfer fel unrhyw sgil. Nid yw'n llwybr byr a dim ond gosod sylfeini y mae'r cyrsiau, ond rwy'n ei fwynhau ac mae'n werth chweil. Y peth mwyaf yw ei fod yn dod â rhywfaint o heddwch i fy mywyd.

Sut beth yw ymarfer meddwlgarwch?

Yn y fideo hwn, mae Rebecca, athrawes meddwlgarwch, yn egluro ei dealltwriaeth o feddwlgarwch. Mae’r fideo hwn yn bum munud a dau ddeg un eiliad o hyd.

Gweld trawsgrifiad o'r fideo fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)

Sut mae meddwlgarwch yn gweithio?

Mae meddwlgarwch yn gweithio drwy gymryd eich ffocws i’r presennol ac i ffwrdd o feddyliau eraill.

Gall y ffordd yr ydym yn meddwl, a’r hyn yr ydym yn meddwl amdano, effeithio ar y ffordd yr ydym yn teimlo ac yn ymddwyn. Er enghraifft, os ydych chi’n meddwl neu’n poeni llawer am ddigwyddiadau anodd yn y gorffennol neu’r dyfodol, efallai byddwch chi’n teimlo’n drist neu’n bryderus yn aml.

Mae’n ddealladwy eich bod am stopio meddwl am bethau anodd. Ond gall ceisio cael gwared ar feddyliau anodd yn aml wneud i ni feddwl amdanynt hyd yn oed yn fwy.

Y theori y tu ôl i feddwlgarwch yw drwy ddefnyddio technegau amrywiol i ddod â’ch sylw i’r presennol, gallwch chi:

  • Sylwi ar sut mae meddyliau’n mynd a dod yn eich meddwl. Efallai byddwch chi’n dysgu nad oes rhaid iddynt ddiffinio pwy ydych chi, na’ch profiad o’r byd, ac y gallwch eu gadael i fynd.
  • Sylwi ar yr hyn y mae’ch corff yn ei ddweud wrthych. Er enghraifft, efallai byddwch chi’n teimlo tensiwn neu bryder yn eich corff, megis curiad calon cyflym, cyhyrau tynn neu anadlu bas.
  • Creu lle rhyngoch chi a’ch meddyliau. Gyda’r lle hwn, gallwch adlewyrchu ar y sefyllfa ac ymateb yn fwy pwyllog.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae meddwlgarwch yn gweithio, gweler gwefan Oxford Mindfulness Centre. Mae’r sefydliad hwn hefyd yn darparu sesiynau meddwlgarwch ar-lein am ddim.

Pan rwy'n teimlo pryder yn cynyddu, mae meddwlgarwch yn helpu i dawelu fy meddwl drwy ddod yn fwy cysylltiedig â'r sefyllfa.

A all meddwlgarwch helpu trin problemau iechyd meddwl?

Mae astudiaethau’n dangos y gall ymarfer meddwlgarwch helpu rheoli problemau iechyd meddwl cyffredin fel iselder, gorbryder a theimladau o straen.

Mae tystiolaeth y gallai meddwlgarwch helpu â chyflyrau iechyd meddwl mwy cymhleth, fel seicosis ac anhwylder deubegwn, ond mae angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn.

Efallai bydd meddwlgarwch yn ddefnyddiol iawn i chi, neu efallai byddwch chi’n teimlo nad yw’n gweithio neu’n gwneud i chi deimlo’n waeth. Mae’n bwysig gwneud yr hyn sy’n gweithio i chi a’ch iechyd meddwl. Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg ynghylch pa fathau o driniaethau y gallent fod fwyaf addas i chi. Efallai bydd meddwlgarwch yn ddefnyddiol i chi wrth aros i dderbyn gwahanol fathau o driniaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen am benderfynu a yw meddwlgarwch yn iawn i chi.

Mewn rhai achosion, mae National Institute of Health and Clinical Excellence (NICE) yn argymell therapïau sy'n seiliedig ar feddwlgarwch strwythuredig sydd wedi cael eu datblygu i drin problemau iechyd meddwl.

Fodd bynnag, nid yw NICE yn argymell defnyddio triniaethau sy’n seiliedig ar feddwlgarwch ar gyfer gorbryder cymdeithasol. Mae hyn oherwydd nad oes digon o dystiolaeth ei fod yn effeithiol.

Mae meddwlgarwch yn fy helpu gyda fy mhroblemau iechyd meddwl. Nid yw'n achosi gwelliant llawn ac ni fydd yn gweithio bob tro, ond mae wedi fy helpu i leddfu gorbryder ac iselder drwy ganoli fy meddyliau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig