Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Meddwlgarwch

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am feddwlgarwch, sut i’w ymarfer a sut y gall helpu â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gwirio cymwysterau eich athro meddwlgarwch

Dylid cynnal cyrsiau meddwlgarwch gan berson priodol bob tro. Gwiriwch fod eich athro wedi’i restru gan y British Association of Mindfulness-Based Approaches (BAMBA). Mae hyn yn dangos:

  • eu bod wedi’u hyfforddi’n iawn
  • bod ganddynt yswiriant
  • eu bod yn cael eu goruchwylio gan weithiwr proffesiynol profiadol arall.

Weithiau gall meddwlgarwch wneud i chi droi tuag at bethau y byddech chi fel arfer yn eu hosgoi. Gall hynny fod yn heriol, ond os oes gennych athro meddwlgarwch profiadol, gallant eich helpu i arafu eich hun.

Cyrsiau cyflwyno, sesiynau blasu a grwpiau

Os ydych chi’n dewis dysgu meddwlgarwch gyda chwrs cyflwyno, gall y math hwn o opsiwn:

  • amrywio o gwrs un diwrnod i gwrs wyth wythnos
  • fod yn strwythuredig iawn a bydd yn trafod cysyniadau sylfaenol ac ymarferion
  • gael ei deilwra i grwpiau penodol, megis myfyrwyr, pobl sydd yn y fyddin neu bobl â diagnosis iechyd meddwl penodol.

Mae sesiynau blasu byr a grwpiau meddwlgarwch anffurfiol hefyd yn gyffredin.

Sut i ddod o hyd i gyrsiau cyflwyno, sesiynau blasu a grwpiau

Efallai byddwch yn darganfod bod y rhain yn cael eu trefnu drwy eich gweithle neu sefydliad addysg, neu lyfrgell leol neu ganolfan gymunedol.

Efallai bydd rhai o is-swyddfeydd lleol Mind yn cynnal cyrsiau a grwpiau meddwlgarwch. Am ffi, efallai bydd rhai athrawon preifat hefyd yn cynnig cyrsiau cyflwyno.

Es i ar gwrs meddwlgarwch unwaith yr wythnos am dua wyth wythnos. Trafodwyd meddwlgarwch y corff, bwyta'n feddylgar, cerdded yn feddylgar, ymwybyddiaeth amgylcheddol feddylgar a rhagor.

Cyrsiau meddwlgarwch ffurfiol (MBCT ac MBSR)

Mae rhai rhaglenni therapi meddwlgarwch strwythuredig wedi cael eu datblygu i drin problemau penodol. Y cyrsiau sydd wedi’u hen sefydlu mwyaf yw:

  • Therapi gwybyddol sy'n seiliedig ar feddwlgarwch (MBCT) ar gyfer iselder a gorbryder.
  • Lleihau straen yn seiliedig ar feddwlgarwch (MBSR) ar gyfer straen cyffredinol. Gall hefyd eich helpu i reoli cyflyrau iechyd hirdymor.

Mewn rhai achosion mae’r GIG yn argymell y triniaethau hyn gan fod astudiaethau’n dangos eu bod yn gallu gweithio’n dda, ond mae argaeledd ar y GIG yn amrywio ledled y wlad a gall rhestrau aros fod yn hir.

Gall fod gan wahanol gyrsiau strwythurau gwahanol, ond yn gyffredinol, maent yn:

  • cael eu cynnal gan ymarferwyr cymwys
  • parhau am nifer cyfyngedig o sesiynau, ar draws cyfnod amser penodol – fel arfer sesiwn dwy awr, bob wythnos am wyth wythnos, ond efallai bydd rhai cyrsiau’n cynnig sesiynau cyflwyno byrrach
  • cynnwys gwaith grŵp a thrafodaethau grŵp, ond fel arfer gallwch chi gyfrannu cymaint ag yr ydych yn gyfforddus â gwneud
  • cynnwys cymysgedd o fyfyrio ac ymarferion meddwlgarwch dyddiol, y gofynnir i chi eu hymarfer rhwng sesiynau.

Mae rhai mathau eraill o therapïau siarad yn defnyddio technegau meddwlgarwch, megis therapi ymddygiad dilechdidol (DBT).

Sut i ddod o hyd i gyrsiau meddwlgarwch ffurfiol

I ddod o hyd i gwrs meddwlgarwch ffurfiol yn eich ardal chi, gallwch:

Gallwch ddysgu rhagor ar wefan MBCT, neu ewch i'n tudalennau am therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) a therapi siarad a chwnsela.

Wrth i'r cwrs ddechrau, nid yw bob amser yn eglur sut yn union y bydd yn helpu. Gall yr anogaeth i wneud rhywbeth, rhoi un droed o flaen y llall heb feddwl amdano a'i gwestiynu'n ormodol fod yn ddefnyddiol iawn.

Sesiynau un-wrth-un preifat

Am ffi, mae rhai athrawon meddwlgarwch yn cynnig sesiynau un-wrth-un drwy’r sector preifat. Mae hefyd gan rai therapyddion a chwnselwyr hyfforddiant meddwlgarwch a gallant integreiddio’r technegau hyn i’w dull.

Gall sesiynau un-wrth-un fod yn ddrud, ond maent yn fwy tebygol o gael eu teilwra i’ch sefyllfa benodol ac ni fyddant yn cynnwys gwaith grŵp.

Sut i ddod o hyd i sesiynau preifat

Gallwch ddod o hyd i athro meddwlgarwch neu therapydd cymwys yn eich ardal leol drwy:

I gael rhagor o wybodaeth am bethau i’w hystyried wrth ddechrau unrhyw fath o therapi, gweler ein tudalenmanteisio ar therapi i'r eithaf.

Cyrsiau meddwlgarwch Bwdhaidd

Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys arferion Bwdhaidd traddodiadol o fyfyrio’n feddylgar a thechnegau meddylgar eraill, yng nghyd-destun yr athrawiaeth Fwdhaidd. Mae’r rhain yn debygol o hyrwyddo lles meddyliol cyffredinol yn hytrach na thriniaeth wedi’i theilwra ar gyfer problemau iechyd penodol.

Sut i ddod o hyd i gyrsiau meddwlgarwch Bwdhaidd

Mae’r cyrsiau hyn fel arfer yn cael eu dysgu mewn canolfannau Bwdhaidd. Gweler Cyfeiriadur Bwdhaidd y Byd Buddhanet i ddod o hyd i ganolfan Fwdhaidd yn eich ardal leol. Cysylltwch â nhw'n uniongyrchol i weld yr hyn maent yn ei gynnig.

Adnoddau hunan-dywys

Mae nifer o adnoddau hunan-dywys ar gael i’ch helpu drwy sawl ymarfer meddwlgarwch gwahanol. Mae apiau, llyfrau a sain – megis CDs a phodlediadau – fel arfer yn llai strwythuredig na chyrsiau ar-lein.

Nid oes gan adnoddau hunan-gymorth unrhyw reoliad ffurfiol, ac maent yn amrywio’n fawr o ran ansawdd a chost. Gall hyn ei wneud yn anodd gwybod beth allai weithio i chi, ond yn gyffredinol, mae’n syniad da i chwilio am gwrs neu adnodd sydd:

  • wedi’i lunio gan athrawon meddwlgarwch cymwys
  • yn rhoi gwybodaeth eglur i chi am ei fuddion a’i risgiau posibl
  • yn darparu gwybodaeth am astudiaethau ymchwil sydd wedi archwilio pa mor effeithiol ydyw
  • wedi’i gefnogi gan y GIG neu sefydliad iechyd meddwl
  • wedi cael ei argymell i chi gan rywun yr ydych yn ymddiried ynddynt.

Mae nifer o bobl yn ymarfer meddwlgarwch ar-lein neu’n defnyddio ap ffôn clyfar i helpu. Gall adnoddau ar-lein fod yn ddefnyddiol pan fyddwch chi’n teimlo’n llai galluog i ymgysylltu â chefnogaeth wyneb yn wyneb.

I gael cefnogaeth â defnyddio adnoddau iechyd meddwl digidol, gweler ein gwybodaeth am aros yn ddiogel ar-lein.

Sut i ddod o hyd i adnoddau hunan-dywys

Am lyfrau a sain:

  • Edrychwch ar y rhestrau darllen am lyfrau meddwlgarwch ar Darllen yn Well ac Overcoming.
  • Ceisiwch ymweld â’ch llyfrgell neu siop lyfrau lleol i ddod o hyd i deitlau priodol.
  • Chwiliwch am bodlediadau meddwlgarwch ar blatfformau ffrydio neu ar-lein.

Am gyrsiau ar-lein ac apiau:

  • Mae Llyfrgell Apiau Digidol y GIG yn rhestru cyrsiau ar-lein ac apiau am ddim sy’n ymwneud â meddwlgarwch.
  • Mae Smiling Mind yn cynnig ap symudol am ddim i wneud ymarferion meddwlgarwch.
  • Ap tanysgrifiad symudol yw Headspace ar gyfer meddwlgarwch– mae’r fersiwn am ddim yn trafod yr ymarferion sylfaenol.
  • Mae Breathworks yn cynnig cyrsiau meddwlgarwch i reoli poen, straen a salwch. Mae’r cyrsiau hyn yn tueddu costio arian.

I gael rhagor o awgrymiadau ar gyfer gwneud meddwlgarwch ar eich pen eich hun, gweler ein tudalen am ymarferion meddwlgarwch.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig