Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Meddwlgarwch

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am feddwlgarwch, sut i’w ymarfer a sut y gall helpu â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

A yw meddwlgarwch yn iawn i mi?

Er y gall unrhyw un roi cynnig arni, nid yw bod yn feddylgar bob amser yn hawdd i’w wneud. Gall fod angen ymarfer, ac efallai na fydd yn iawn i bawb. Mae llawer o wybodaeth ar gael am feddwlgarwch, sy’n gallu teimlo’n orlethol neu’n ddryslyd.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

Ystyriaethau ymarferol

Wrth feddwl am a yw meddwlgarwch yn iawn i chi, mae rhai pethau ymarferol i’w hystyried. Gall fod o gymorth i feddwl am y canlynol cyn i chi roi cynnig arni:

  • Sut ydw i am ddysgu am feddwlgarwch? Mae llawer o ffyrdd i ddysgu am feddwlgarwch, ac ni fyddant i gyd yn addas i bawb. I gael rhagor o wybodaeth am eich dewisiadau, gweler ein tudalen am sut i ddysgu am feddwlgarwch ac ym mhle.
  • Faint y bydd yn ei gostio? Mae nifer o ymarferion meddwlgarwch am ddim, ond efallai bydd cyrsiau ffurfiol, apiau a deunydd dysgu’n costio arian.
  • Alla i gynnwys yr ymarfer hwn yn fy mywyd? Mae’n ddefnyddiol i ymarfer meddwlgarwch yn rheolaidd. Meddyliwch am ba amseroedd y gallant weithio orau i chi. Os ydych chi’n mynychu cwrs meddwlgarwch, efallai bydd angen i chi deithio i sesiynau wythnosol hefyd, sy’n gallu gofyn llawer ohonoch.

Ystyriaethau lles

Ar gyfer eich iechyd corfforol a meddyliol, gall fod o gymorth i feddwl am y canlynol cyn rhoi cynnig ar feddwlgarwch:

  • A yw’r ymarferion yn ddiogel i mi eu gwneud? Gall rhai ymwneud ag eistedd yn llonydd am gyfnodau hir o amser a chanolbwyntio ar eich anadl, ac efallai na fyddant yn addas i bawb. Er enghraifft, os oes gennych chi broblemau symudedd neu anadlu. Siaradwch â'ch meddyg teulu neu athro meddwlgarwch cymwys os oes gennych chi unrhyw bryderon.
  • Ydw i’n barod i gydnabod fy meddyliau anodd? Gall hyn fod yn ofidus weithiau a gallai wneud i chi deimlo’n waeth i ddechrau. Os yw’r ymarferion yn anodd i chi, y peth gorau yw cael cyngor gan weithiwr proffesiynol cymwys.
  • Ai meddwlgarwch yw’r dull iawn ar gyfer fy mhroblemau? Mae meddwlgarwch yn tueddu bod yn adnodd lles eithaf cyffredinol. Os ydych am weithio ar broblem benodol, efallai bydd triniaeth â mwy o ffocws yn helpu mwy. Fodd bynnag, efallai bydd hi’n ddefnyddiol i chi roi cynnig ar feddwlgarwch wrth aros i dderbyn triniaeth arall.
  • Ydw i’n teimlo’n ddigon da i roi cynnig ar rywbeth newydd nawr? Os ydych chi’n teimlo’n sâl iawn, efallai bydd ceisio dysgu sgil newydd yn teimlo’n llethol. Efallai bydd angen rhagor o driniaeth a chefnogaeth ar waith cyn i chi allu dechrau.

Weithiau mae meddwlgarwch yn fy nghysylltu â theimladau rwyf wedi bod yn eu gwthio i ffwrdd. Yn yr hirdymor, mae hynny'n well ond ar y pryd, gall fod yn ofidus iawn.

Beth os nad yw meddwlgarwch yn gweithio i mi?

Er bod meddwlgarwch yn ddefnyddiol i rai pobl, nid yw hynny’n wir i bawb. Efallai nad meddwlgarwch fydd yr opsiwn gorau i chi. Neu, gall eich helpu ar rai adegau ac nid ar adegau eraill. Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar rywbeth ac nid yw wedi helpu, mae’n bwysig peidio â rhoi’r bai ar eich hun.

Gall gofalu am eich iechyd meddwl fod yn anodd iawn, yn enwedig pan nad ydych yn teimlo’n dda. Gall gymryd amser ac efallai na fydd yn syml, ond mae nifer o bobl yn gweld ei bod hi’n bosibl teimlo’n well, gyda’r cyfuniad cywir o driniaethau, hunan-ofal a chefnogaeth.

Am ragor o opsiynau y gallwch eu harchwilio, gweler ein tudalennau am ofalu am eich lles a chael cymorth gyda phroblem iechyd meddwl.

Pan fyddaf mewn cyflwr arbennig o wael, nid yw meddwlgarwch yn fuddiol, oherwydd ni allaf ddod â fy hun i'r presennol o gwbl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig