Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am feddwlgarwch, sut i’w ymarfer a sut y gall helpu â phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys:
Os ydych am roi cynnig ar feddwlgarwch, nid oes angen unrhyw offer arbennig arnoch ar gyfer yr ymarferion canlynol:
Nid yr enghreifftiau uchod yw’r unig ffyrdd y gallwch chi ymarfer meddwlgarwch. Gellir gwneud cymaint o weithgareddau’n feddylgar. Mae gwahanol bethau’n gweithio i wahanol bobl, felly os nad yw un ymarfer yn ddefnyddiol i chi, rhowch gynnig ar un arall. Gallwch hefyd geisio eu haddasu ar eich cyfer chi a’u gwneud yn haws i’w cynnwys yn eich bywyd beunyddiol, megis coginio bwyd neu blygu dillad yn feddylgar.
Mae rhai pobl yn gweld bod ymarfer meddwlgarwch ym myd natur yn gallu bod yn fwy buddiol – i gael awgrymiadau, gweler ein tudalen am syniadau i roi cynnig arnynt ym myd natur. Am enghreifftiau mwy cyffredinol o ymarferion i roi cynnig arnynt, gweler ein tudalen am ymarferion ymlacio.
"Mae lliwio'n feddylgar wir yn fy helpu i ymlacio yn y nos. Mae'n hyrwyddo gwell cwsg ac rwy'n mynd i'r gwely'n teimlo'n barod i ymlacio yn hytrach na'n bryderus ac yn fywiog."
Yn y fideo hwn, mae Jonny’n egluro sut y gallech chi roi cynnig ar ymarfer bwyta’n feddylgar. Mae’r fideo’n ddau funud a phum deg un eiliad o hyd.
Gweld trawsgrifiad o'r fideo fel PDF (agor mewn ffenestr newydd)
I fanteisio ar ymarferion meddwlgarwch i’r eithaf, gwnewch eich gorau i:
"Roedd hi'n swnio fel tasg fawr ond roeddwn i'n awyddus i ddechrau arni. Roedd hi'n teimlo fel petai fy mod ar fin darganfod rhywbeth newydd am sut mae fy meddwl yn gweithio."
I fanteisio’n fwy ar ymarferion meddwlgarwch, mae rhai pethau ymarferol y gallwch roi cynnig arnynt i geisio helpu eich profiad:
"Mae meddwlgarwch yn gwneud i mi deimlo'n ddiogel oherwydd hyd yn oed pan na allaf gael mynediad at fy nghwnselwyr, gofalwyr, meddyginiaeth a chynllun atal ailwaelu, mae meddwlgarwch yn dal i fod yno. Ni all unrhyw beth ei gymryd i ffwrdd."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.