Hunan-niweidio
Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.
Pa gefnogaeth a thriniaeth sydd ar gael?
Weithiau mae angen cefnogaeth o’r tu allan i’ch helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Efallai y bydd angen i chi drio ychydig o bethau gwahanol i weld beth sy’n gweithio i chi, a chyfuno technegau hunan-gymorth â chefnogaeth broffesiynol:
- Eich meddyg teulu
- Triniaethau siarad
- Grwpiau cefnogi
- Cefnogaeth ar-lein
- Triniaeth ar gyfer creithiau
Os ydych yn cael triniaeth gan y GIG, dylai fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Mae’r canllawiau hyn yn dweud:
- Dylai unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol eich trin mewn ffordd sensitif nad yw’n dangos rhagfarn.
- Yn ddelfrydol, dylai gweithwyr iechyd proffesiynol gael eu hyfforddi i gyfathrebu mewn ffordd sensitif â phobl sy’n hunan-niweidio, a bod yn ymwybodol o stigma posibl.
- Dylai unrhyw driniaeth a roddir i chi fod wedi’i theilwra ar gyfer eich anghenion unigol.
Eich meddyg teulu
Yn aml iawn, gweld eich meddyg teulu yw’r cam cyntaf yn y broses o ofyn am help a thrafod eich hunan-niweidio yn gyfrinachol.
Gallai eich meddyg teulu:
- eich asesu a sôn wrthych am y driniaeth sydd ar gael
- rhoi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn ar gyfer gorbryder neu iselder, neu i’ch helpu i gysgu
- eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol, a all gynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol a nyrs seiciatrig gymunedol.
Os ydynt yn pryderu bod eich hunan-niweidio yn fygythiad i’ch bywyd, neu bod arnoch angen triniaeth feddygol ar gyfer eich anafiadau, efallai y byddant yn awgrymu eich bod yn treulio cyfnod mewn ysbyty.
Mynd i weld y meddyg teulu ydy’r peth gorau dw i wedi ei wneud erioed. Wnaeth pethau ddim gwella ar unwaith, ond dyna sut y dechreuais i wella.
Triniaethau siarad
Mae triniaethau siarad yn golygu eich bod yn siarad gyda therapydd proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi i wrando gydag empathi a derbyn y ffordd rydych yn teimlo.
- Dangoswyd bod therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT), therapi ymddygiad dialectig (DBT) a therapi seicodynamig yn gallu bod o fudd i bobl sy’n hunan-niweidio.
- Gallech dalu i weld therapydd preifat, sydd wedi’i hyfforddi a’i achredu, os gallwch fforddio hynny. Gweler Cymdeithas Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP), Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) a Chyngor Seicotherapi y DU (UKCP) am fwy o fanylion.
Edrychwch ar ein tudalennau am therapi siarad a chwnsela i gael mwy o wybodaeth.
Grwpiau cefnogi
Cyfarfodydd rheolaidd gyda phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg i chi yw grwpiau cefnogi.
- Gall grwpiau cefnogi gael eu harwain gan gymheiriaid neu gallant gael eu hwyluso.
- Gallant ganolbwyntio ar faterion penodol neu fod yn fwy cyffredinol.
Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid i gael mwy o wybodaeth. Gallwch weld a oes grwpiau lleol yn eich ardal chi drwy Linell Wybodaeth Mind neu Self-injury Support.
Cefnogaeth ar-lein
Mae cefnogaeth ar-lein yn opsiwn os nad ydych yn teimlo eich bod yn barod i weld rhywun wyneb yn wyneb.
- Cynigir cefnogaeth drwy ebost, testun, gwybodaeth neu fforwm gan wasanaethau hunan-niweidio – er enghraifft National Self Harm Network, Self-injury Support, LifeSIGNS, The Mix a Sane.
- Gall y cynnwys sydd ar rai safleoedd hunan-niweidio sbarduno rhai pobl i hunan-niweidio. Gwnewch yn siŵr bod y safleoedd rydych yn mynd arnynt yn cael eu cymedroli’n dda a’ch bod yn gwybod sut i amddiffyn eich hun a phobl eraill tra byddwch ar-lein. Edrychwch ar ein tudalennau am iechyd meddwl ar-lein i weld canllawiau defnyddiol am gadw’n ddiogel ar-lein.
Triniaeth ar gyfer creithiau
Mae rhai pobl yn teimlo bod creithiau yn dilyn hunan-niweidio yn rhan bwysig o’u siwrnai, tra byddai’n well gan eraill beidio â chael creithiau. Mae triniaethau ar gael ar gyfer gorchuddio a lleihau creithiau. I gael mwy o wybodaeth edrychwch ar y tudalennau LifeSIGNS ar leihau creithiau a chuddliw croen.
Pethau i’w hystyried wrth ofyn am help
Cofiwch fod pwy bynnag sy’n eich cefnogi yno i’ch helpu ac i wrando arnoch. Weithiau gall therapydd neu ymarferydd ofyn i chi ymrwymo i beidio â hunan-niweidio yn ystod triniaeth. Mae’n bwysig nad ydych yn teimlo bod pwysau arnoch i wneud penderfyniadau yn ymwneud â hyn, a bod unrhyw beth rydych yn ei benderfynu yn realistig i chi ar y pryd.
Gall fod yn demtasiwn i geisio cuddio’r graddau rydych yn hunan-niweidio, neu i ddweud celwydd amdano. Mae hyn yn ddealladwy, ond os gallwch rannu eich profiad gall wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydych yn teimlo. Gall helpu i leihau teimladau o gywilydd, a’ch helpu i deimlo’n llai ynysig, a bydd yn cynyddu’r siawns y byddwch yn cael y gefnogaeth rydych ei hangen. Mae estyn allan yn gam dewr iawn, ac efallai y bydd angen mwy nag un sgwrs i ddweud popeth y byddech yn hoffi ei ddweud.
Hyd yn oed pan dw i wedi gorfod mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys, dw i wedi dweud celwydd a chymryd arnaf mai damweiniau oedd fy anafiadau. O edrych yn ôl roedd hynny’n beth gwirion i’w wneud, achos mi fyddwn i wedi gallu cael cefnogaeth emosiynol, ond mae gen i gymaint o gywilydd.
Os nad yw’r person sy’n eich cefnogi wedi cael ei hyfforddi, neu os nad yw’n brofiadol ym maes hunan-niweidio, efallai y byddai’n werth gofyn iddo ef neu hi edrych am fwy o wybodaeth – drwy ddarllen y tudalennau hyn, er enghraifft, neu drwy gysylltu â sefydliad ar gyfer pobl sy’n hunan-niweidio (mae gan Self-injury Support, LifeSIGNS a Harmless adnoddau gwybodaeth defnyddiol).
Gall hefyd helpu os ydych yn ysgrifennu popeth y byddech yn hoffi ei ddweud wrth y person ymlaen llaw. Bydd hyn yn eich helpu os ydych yn teimlo’n bryderus ynglŷn â mynegi eich teimladau neu os ydych yn poeni y byddai gan rywun ragfarn yn eich erbyn.
Dw i wedi sylwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf bod gan nyrsys a doctoriaid yn yr adran damweiniau ac achosion brys fwy o ddealltwriaeth o hunan-niweidio, ac mae hynny’n wych.
Os ydych chi’n bryderus am eich triniaeth neu ofal, neu os ydych chi’n cael trafferth i gael y gefnogaeth rydych ei hangen, efallai y byddai’n werth i chi gael eiriolwr i’ch cefnogi. Gallai’r eiriolwr fod yn ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol. Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) i gael gwybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn am wasanaethau’r GIG os oes angen.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.