Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall cwynion – ar gyfer plant a phobl ifanc 11-18 oed

Cyflwyniad i beth mae'n ei olygu i wneud cwyn ynghylch sut cawsoch eich trin wrth dderbyn gofal iechyd meddwl neu ofal cymdeithasol.

Beth yw cwyn?

Mae cwyn yn ffordd o ddweud wrth berson neu wasanaeth am eich pryderon am rywbeth sydd wedi digwydd i chi neu sut mae rhywun wedi eich trin.

Gallwch hefyd ddefnyddio cwynion i ddatrys problemau sy’n digwydd ar hyn o bryd gyda’ch gofal a’ch triniaeth.

Gall gwneud cwyn deimlo’n anodd ac yn frawychus, yn enwedig os nad ydych chi erioed wedi gwneud un o’r blaen. Ond rydych chi’n haeddu cael eich clywed.

Mae’r dudalen hon yn ateb rhai o’r cwestiynau cyffredin am gwynion i’ch helpu i ddeall yr hanfodion.

Rwy’n barod i wneud cwyn

Os ydych chi’n gwybod beth mae cwyno’n ei olygu a pham mae pobl yn cwyno, dewch i gael gwybod beth sy'n digwydd wedyn.

Doedd gwneud cwyn ddim bob amser yn hawdd, a ches i ddim y canlyniad roeddwn i’n gobeithio ei gael bob tro, ond dwi wastad yn falch fy mod i wedi cwyno – Saffron

Pam gwneud cwyn?

Dylech gael yr help a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch, a hynny pan fydd eu hangen arnoch. Dylai pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl neu ofal cymdeithasol eich trin mewn ffordd sy’n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich clywed a’ch parchu bob amser – ond rydyn ni’n gwybod nad yw hyn yn digwydd bob tro.

Os ydych chi'n teimlo bod rhywbeth o'i le gyda'r gofal rydych chi wedi'i gael neu'r ffordd mae rhywun wedi eich trin, mae gennych chi hawl i wneud cwyn am y peth.

Mae cwynion yn gallu ein helpu mewn gwahanol ffyrdd. Gallai gwneud cwyn arwain at un neu ragor o’r canlyniadau hyn:

  • Datrys y broblem rydych chi wedi’i chael a gwneud yn siŵr nad yw’n digwydd i chi eto
  • Ymddiheuriad am y broblem rydych chi wedi’i chael
  • ‘Iawndal ariannol’ i’ch helpu gyda’r hyn rydych chi wedi bod drwyddo – mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael rhywfaint o arian fel rhan o’r ymddiheuriad
  • Rhoi gwybod i wasanaeth bod ganddynt broblem er mwyn iddynt allu newid a gwella pethau a gwneud yn siŵr na fydd neb arall yn wynebu’r un peth yn y dyfodol

Am beth alla i wneud cwyn?

Mae llawer o fathau eraill o sefyllfaoedd a phethau y gallwch wneud cwyn amdanynt.

Mae’r enghreifftiau isod yn dangos gwahanol sefyllfaoedd lle gallai gwneud cwyn helpu.

Enghraifft 1

Mae Hassan yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Mae wedi cael 5 cydlynydd gofal gwahanol dros y 18 mis diwethaf ac wedi bod heb gydlynydd gofal o gwbl ar adegau. Mae’n ei chael yn anodd iawn adrodd ei stori wrth bobl newydd o hyd ac o hyd, ac nid yw’n teimlo ei fod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arno.

Mae Hassan eisiau cael y gefnogaeth iawn a theimlo’n ffyddiog bod y gwasanaeth yn rheoli ei ofal yn briodol, felly mae’n penderfynu gwneud cwyn am CAMHS.

Enghraifft 2

Mae Andi wedi byw mewn gofal o’r blaen, ond maen nhw’n byw gyda rhieni maeth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, maen nhw eisiau byw gyda’u brawd hŷn. Dydy gweithiwr cymdeithasol Andi ddim yn gwrando ar eu barn ynglŷn â ble i fyw, ac i bob golwg mae’n anwybyddu beth mae Andi’n dymuno ei wneud.

Mae Andi yn poeni y gallai hyn effeithio ar ble maen nhw’n byw yn y pen draw, felly maen nhw’n penderfynu gwneud cwyn i’r awdurdod lleol am y gweithiwr cymdeithasol.

Enghraifft 3

Mae Kate yn yr ysbyty fel claf anffurfiol oherwydd ei hiechyd meddwl. Mae hi’n poeni am agwedd ambell aelod o staff sydd ar y ward. Dydy Kate ddim yn teimlo eu bod yn deall, yn parchu nac yn derbyn sut beth yw bod yn unigolyn ifanc awtistig fel hi, na sut mae amgylchedd y ward yn effeithio arni.

Mae Kate eisiau i bolisïau ac arferion y ward wella, felly mae hi’n penderfynu gwneud cwyn am ei phrofiad hi o ofal cleifion mewnol.

Mae pob profiad yn ddilys – Saffron

Pryd ddylwn i wneud cwyn?

Yn gyffredinol, os ydych chi eisiau gwneud cwyn am rywbeth, dylech wneud hynny ddim mwy na 12 mis ar ôl iddo ddigwydd.

Os oes mwy na 12 mis wedi mynd heibio, efallai y bydd modd i chi gwyno o hyd os yw’r 2 reswm hyn yn berthnasol:

  • Mae'n dal yn bosibl ymchwilio i'ch cwyn yn briodol. Er enghraifft, mae cofnodion da o’r hyn a ddigwyddodd.
  • Mae gennych reswm da dros yr oedi. Er enghraifft, roeddech chi’n sâl iawn ac yn methu gwneud y gŵyn.

All gwasanaeth wrthod ymchwilio i fy nghwyn?

Mae gennych chi hawl i wneud cwyn ac i ymchwiliad. Fodd bynnag, nid oes rhaid i wasanaeth ymchwilio i’ch cwyn:

  • Os ydych chi’n cwyno’n anffurfiol a bod y gwasanaeth yn eich helpu i ddatrys y mater mewn ffordd sy’n eich gwneud chi’n hapus
  • Os ydych chi’n gwneud eich cwyn fwy na 12 mis ar ôl yr hyn rydych chi’n cwyno amdano
  • Os oes rhywun wedi ymchwilio i’ch cwyn yn barod ac rydych chi’n gwneud cwyn newydd am union yr un peth yn yr un gwasanaeth

Dwi'n teimlo fy mod i wedi gwneud y peth iawn wrth wneud cwyn. Eisiau pwysleisio ydw i – dydy o ddim yn wastraff amser, dim ots beth – Saffron.

Beth os byddaf yn newid fy meddwl am wneud cwyn?

Gallwch newid eich meddwl ynglŷn â gwneud cwyn unrhyw bryd. Os nad ydych am wneud eich cwyn rhagor, dylech ddweud wrth y gwasanaeth rydych chi’n cwyno amdano'n uniongyrchol.

Os yw’r gwasanaeth yn bryderus iawn am y pethau rydych chi wedi’u codi yn eich cwyn, efallai y bydd yn parhau i ymchwilio. Os felly, nid yw'n debygol y bydd angen i chi gymryd rhan.

decorative

Mae rhai ohonom yn ei chael hi’n anodd iawn delio â straen y broses gwyno, sydd hefyd yn gallu para’n hir iawn.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi gwneud eich gorau glas, ond yn newid eich meddwl, mae hynny’n iawn.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cwyno?

Ar gyfer eich cam nesaf, dewch i gael gwybod am y broses o wneud cwyn am ofal iechyd neu ofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd: Gorffennaf 2024
Adolygiad nesaf: Gorffennaf 2027

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig