Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paratoi i siarad am dy iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed am sut i siarad am dy iechyd meddwl, gydag awgrymiadau ar sut i deimlo’n barod a gwybod beth i’w ddweud.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Mae’r wybodaeth hon ar gael i ti os wyt ti’n barod i siarad yn agored, a bod angen cyngor ac awgrymiadau arnat ti.

Os wyt ti’n ystyried siarad am dy iechyd meddwl, cer i’n tudalen ar siarad am fy iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth.

Paratoi i siarad

Os wyt ti'n poeni am ddweud wrth rywun sut rwyt ti’n teimlo, mae’n gallu helpu os wyt ti’n teimlo dy fod yn barod. Efallai y byddet ti hefyd eisiau meddwl am yr hyn rwyt ti eisiau ei ddweud. Dyma rai pethau gallet ti feddwl amdanynt:

Canfod ffordd sy’n teimlo’n iawn i ti

Efallai y byddet ti am siarad wyneb yn wyneb, ond efallai y bydd hyn yn teimlo’n rhy anodd neu ddim yn bosibl. Gallet hefyd roi cynnig ar y canlynol:

  • Siarad ar y ffôn
  • Siarad dros alwad fideo
  • Anfon nodyn llais

Os nad wyt ti eisiau siarad, neu os nad wyt ti’n teimlo fel siarad â neb ar hyn o bryd, mae hynny’n iawn. Mae ffyrdd eraill o fynegi sut rwyt ti’n teimlo wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Gallet ti roi cynnig ar y canlynol:

  • Anfon neges destun neu e-bost atynt
  • Ysgrifennu llythyr atynt
  • Tynnu llun neu beintio llun i ddangos sut rwyt ti’n teimlo
  • Anfon gwybodaeth atyn nhw am sut rwyt ti’n teimlo, fel fideo TikTok neu fideo YouTube

Yn bersonol, mae hi’n haws i mi ddweud wrth bobl am sut rydw i’n teimlo drwy neges destun gan ei fod yn teimlo’n llai brawychus i mi. Mae hefyd yn galluogi’r person arall i ddarllen yr hyn sydd gen i i’w ddweud sawl gwaith er mwyn iddo ei ddeall yn well.

Dewis amser da

Efallai na fydd yr amser byth yn teimlo’n berffaith, ond mae’n well os yw’r ddau ohonoch yn teimlo’n gyfforddus ac yn barod i siarad. Efallai y byddwch chi am ddewis amser pan fydd y ddau ohonoch yn rhydd ac ni fydd neb yn torri ar eich traws.

Os byddet ti’n penderfynu siarad â rhywun wyneb yn wyneb, dewiswch rywle lle rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus. Efallai y bydd yn dy helpu i siarad â nhw wrth wneud rhywbeth gyda’ch gilydd, fel mynd am dro neu wylio’r teledu.

Os nad wyt ti’n teimlo’n barod i siarad â rhywun wyneb yn wyneb, cymera amser i ysgrifennu pethau neu greu neges testun. Dechreua pan fyddet ti’n teimlo’n gyfforddus ac yn gallu meddwl am bethau’n iawn. Efallai y byddet ti am ddod yn ôl at y neges rywbryd eto neu ei ddarllen cwpl o weithiau’n gyntaf.

Meddylia a wyt ti eisiau i rywun arall fod yn rhan o hyn

Efallai y byddet ti am i ffrind neu aelod arall o’r teulu dy helpu os wyt ti’n meddwl ei fod yn ormod ar dy ben dy hun. Gallet ti siarad â nhw am sut rwyt ti eisiau bod yn agored, neu ofyn iddyn nhw dy helpu i ysgrifennu dy deimladau ar bapur. Neu efallai y byddet ti am i rywun arall siarad ar dy ran, fel gofyn i athro/athrawes siarad â dy rieni neu ofalwyr am sut rwyt ti’n teimlo.

Gallet ti ymarfer yr hyn rwyt ti am ei ddweud

Gallai hyn fod yn dy ben neu gyda rhywun arall. Gallet ti hyd yn oed geisio ysgrifennu pethau neu adael nodyn llais i ti dy hun.

Gallet ti hefyd ddefnyddio rhai o’n technegau cychwyn sgwrs i dy helpu gyda beth i’w ddweud.

Cynllunia beth rwyt ti’n barod i’w rannu

Efallai nad wyt ti eisiau rhannu rhai pethau, neu nad wyt ti’n barod i’w rhannu eto. Rhanna dim ond yr hyn wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu ar hyn o bryd.

Cofia y gallai fod yn llawer i rywun ei gymryd i mewn i ddechrau ac efallai y bydd angen rhywfaint o amser arnynt i brosesu’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud wrthynt. Efallai nad ydyn nhw angen neu eisiau clywed pob manylyn ar hyn o bryd, ond ymhen amser, efallai y byddet ti’n gallu siarad mwy gyda nhw.

Os byddet ti’n penderfynu siarad â rhywun ond nad wyt ti’n cael yr ymateb rydych chi ei eisiau, cofiwch, nid ti sydd ar fai. Darllena ein canllaw ar siarad am gyngor ar beth i’w wneud os nad ydynt yn deall.

Meddylia am ble rwyt ti’n rhannu

Os wyt ti’n siarad â rhywun ar-lein neu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig cadw’n ddiogel.

Meddylia am yr hyn rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu a beth rwyt ti eisiau ei gadw’n breifat. Mae Childline yn cynnig gwybodaeth am sut mae gwneud hyn. Mae ganddyn nhw hefyd fyrddau negeseuon ar-lein ar gyfer pobl ifanc er mwyn i chi gael cymorth gan bobl eraill.

Os wyt ti’n dewis defnyddio byrddau negeseuon neu apiau cyfryngau cymdeithasol eraill i siarad â phobl eraill, ceisia ddefnyddio safleoedd sydd wedi eu creu ar gyfer pobl o dy oedran di. Mae hefyd yn syniad da defnyddio safleoedd lle mae negeseuon yn cael eu hadolygu a’u monitro i helpu i dy gadw di’n ddiogel.

Meddylia beth sy’n gallu dy helpu i ymdopi

Os wyt ti’n teimlo dy fod yn cael dy lethu, efallai y bydd yn helpu i wneud ymarferion anadlu. Rho gynnig ar anadlu drwy dy drwyn am bedwar cyfrif, ei ddal am ddau gyfrif, ac anadlu allan drwy dy geg am saith cyfrif. Os fedri di ailadrodd hyn, bydd yn arafu dy anadl a dy gadw’n ddigyffro.

Gallet ti hefyd chwarae gyda thegan ffidlan neu edrych ar lun sy’n gwneud i ti deimlo’n dawel.

Gwna gynllun i ofalu amdanat dy hun wedyn

Gall siarad fod yn anodd ac yn flinedig. Gallet feddwl am rywbeth neis i’w wneud wedyn, fel gwylio dy hoff raglen deledu neu fynd am dro. Mae rhagor o syniadau ar gael ar ein tudalen gofalu am dy lesiant.

Beth ddylwn i ei ddweud?

Gall fod yn anodd iawn dweud wrth rywun neu ddangos i rywun sut rwyt ti’n teimlo. Dyma rai awgrymiadau a allai fod o gymorth:

Meddylia am sut i ddechrau arni

Os wyt ti eisiau cael sgwrs â rhywun am sut rwyt ti’n teimlo, gall gwybod sut i ddechrau dy helpu i deimlo’n fwy hyderus.

Dyma rai syniadau ar gyfer dechrau sgwrs:

Syniadau ar gyfer dechrau sgwrs

Does dim ffordd berffaith o ddechrau arni, ond os wyt ti’n ei chael hi’n anodd, gallet ti ddechrau drwy ddweud:

“Mae’n anodd i fi siarad am hyn, ond mae angen i fi ddweud rhywbeth wrtha’ chi”
“Mae gen i dipyn ar fy meddwl, allwn ni gael sgwrs rhywbryd?”
“Rydw i wedi bod yn teimlo’n _____ yn ddiweddar, a dwi’n ceisio siarad gyda ti amdano oherwydd _____”
“Rydw i wedi bod yn poeni am y peth yn ddiweddar ac wedi meddwl tybed a allwn i siarad â chi am y peth?”
“Rydw i wedi bod yn ei chael hi’n anodd ymdopi â______ ar hyn o bryd. Gawn ni siarad am y peth yn nes ymlaen?"
“Rydw i’n gwybod y gallai edrych fel bod pethau’n iawn, ond dydyn nhw ddim ac rydw i eisiau siarad â chi am y peth.”

Efallai y bydd hi’n help gofyn i’r person rwyt ti’n dweud wrtho am beidio ag ymateb nes dy fod di wedi gorffen.

Gall fod yn sioc iddyn nhw glywed sut rwyt ti wedi bod yn teimlo. Efallai y bydd yn peri gofid neu’n llawer i’w gymryd i mewn yn y lle cyntaf. Ond dylet ti deimlo’n falch o dy hun am gymryd y cam cyntaf.

Oherwydd bod un person wedi ymateb yn negyddol, dydy hynny ddim yn golygu y bydd pawb yn gwneud hynny. Dydy hyn ddim yn golygu nad wyt ti’n haeddu’r cymorth sydd ei angen arnat ti chwaith.

Esbonia sut rwyt ti wedi bod yn teimlo a sut mae hynny’n effeithio ar dy fywyd

Gallai hyn fod yn bethau fel bwyta, cysgu a sut rwyt ti wedi bod yn teimlo yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith.

Ceisia ddod o hyd i wybodaeth neu enghreifftiau defnyddiol

Efallai dy fod wedi gweld rhywbeth ar y teledu, ar-lein neu mewn llyfr sy’n teimlo’n debyg i’r hyn rwyt ti’n ei brofi. Gallet ti ddangos hyn iddyn nhw i helpu i egluro sut rwyt ti’n teimlo.

Er enghraifft, gallet ti ddweud “Wyt ti wedi gwylio'r gyfres deledu am...”, neu “Beth wyt ti’n meddwl am y cymeriad sy’n mynd drwy...”

Os wyt ti’n adnabod rhywun arall sydd wedi bod yn mynd drwy rywbeth tebyg, efallai yr hoffet ti siarad amdanyn nhw yn gyntaf i helpu i egluro sut rwyt ti’n teimlo.

Awgryma bethau'r gallen nhw eu gwneud i helpu

Gallai hyn fod yn dy helpu i ddod o hyd i wybodaeth neu i siarad â dy ysgol, dy goleg neu dy weithle. Gallai hefyd fod yn drefnu apwyntiad meddyg i ti neu fod yno i wrando arnat a dy gefnogi.

Dyweda wrthyn nhw am bethau na fyddai o bosibl yn helpu

Efallai y byddet ti am ofyn iddyn nhw barhau i dy drin yn yr un ffordd, neu beidio â siarad am sut rwyt ti’n teimlo pan fyddet ti gyda phobl eraill.

Y tro cyntaf i mi siarad â rhywun am fy iechyd meddwl, rydw i’n difaru peidio â chyfleu’r hyn roeddwn i ei eisiau ganddyn nhw. Byddai wedi bod yn haws i mi ddweud, ‘Ga’ i weld meddyg am hyn?’ yn hytrach na disgwyl iddyn nhw awgrymu hynny.

Dydy pawb ddim eisiau siarad yn yr un ffordd. Efallai y bydd angen i ti wneud y canlynol:

  • Ysgrifenna dy gwestiynau a dy feddyliau ar eu cyfer cyn dechrau
  • Gofynna iddyn nhw roi amser i ti egluro sut rwyt ti’n teimlo cyn iddyn nhw ymateb
  • Gofynna iddyn nhw fod yn glir ac yn uniongyrchol gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddyn nhw
  • Bydd yn barod i ailadrodd dy hun os nad ydyn nhw’n dy ddeall ar unwaith
  • Chwilia am rywle lle na fydd unrhyw beth yn tynnu dy sylw. Gallai hyn olygu diffodd y goleuadau neu fynd i rywle tawel

Darllenna ein canllaw ar siarad os wyt ti angen cyngor ynglŷn â phwy i siarad gyda nhw, a beth i’w wneud os nad oes gen ti neb i siarad gyda nhw.

Siarad yw un o’r pethau dewraf y galli di ei wneud, a hoffwn pe bai hynny’n fwy normal.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi yn 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig