Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paratoi ar gyfer apwyntiad meddyg – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed ar beth i’w ddweud yn ystod apwyntiad meddyg am eich iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gall y wybodaeth hon dy helpu i baratoi beth rwyt ti eisiau ei ddweud yn ystod apwyntiad meddyg am dy iechyd meddwl.

Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i ti ddarllen ein gwybodaeth am siarad â’ch meddyg.

Paratoi ar gyfer apwyntiad meddyg

Gall fod yn frawychus siarad am dy feddyliau, dy deimladau a dy brofiadau gyda rhywun nad wyt ti’n ei adnabod. Rydyn ni yma i dy helpu i baratoi beth rwyt ti eisiau ei ddweud.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Mae meddyg teulu yn gallu dy helpu gyda dy iechyd corfforol a meddyliol. Yn y wybodaeth hon, rydym yn defnyddio’r gair ‘meddyg’.

Beth ddylwn i ei ddweud i drefnu apwyntiad?

Efallai y bydd gan bob meddygfa ffyrdd ychydig yn wahanol o drefnu apwyntiadau.

Os wyt ti'n ffonio neu’n ymweld â meddygfa i drefnu apwyntiad, dechreua trwy ddweud:

Hoffwn drefnu apwyntiad gyda meddyg [neu, os ydych chi’n gwybod, dywedwch enw eich meddyg] os gwelwch yn dda.

Yna, gofynnir am dy fanylion personol, fel dy enw a dyddiad geni.

Efallai y gofynnir i ti beth yw pwrpas yr apwyntiad. Gallet ti ddweud neu ysgrifennu:

  • ‘Hoffwn siarad am rai pethau sydd wedi bod yn digwydd a sut mae’n effeithio ar fy iechyd.’
  • ‘Rydw i’n cael trafferth gyda fy nheimladau a hoffwn i siarad â rhywun amdanyn nhw.’
  • ‘Hoffwn siarad am fy iechyd meddwl a sut rydw i’n teimlo.’
  • ‘Hoffwn siarad â meddyg am ba gymorth y gallaf ei gael i ddelio gyda fy nheimladau.’
  • ‘Hoffwn i siarad am________ (diagnosis/triniaeth benodol/rhywbeth sydd wedi digwydd).’
  • ‘Dydw i ddim yn siŵr am beth yn union rydw i eisiau siarad, ond rydw i angen cymorth ar gyfer sut rydw i’n teimlo/beth rydw i’n mynd drwyddo ar hyn o bryd.’

Bydd hynny yn eu helpu i ddod o hyd i apwyntiad i ti gyda meddyg â mwy o brofiad yn y maes hwnnw.

Ar ôl i ti wneud apwyntiad i weld dy feddyg, mae pethau y gelli wneud i baratoi am  dy apwyntiad i dy helpu i deimlo’n barod.

Beth ddylwn i ei ddweud yn fy apwyntiad gyda fy meddyg?

Pan fyddi di’n dod i dy apwyntiad, naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo, gelli di ddechrau drwy ddweud:

‘Hoffwn siarad am...’

  • Sut rydw i wedi bod yn teimlo’n ddiweddar
  • Fy iechyd meddwl
  • Rhai profiadau a theimladau rydw i wedi’u cael, sy’n anodd i mi ddelio â nhw
  • Sut i gael y cymorth sydd ei angen arnaf ar gyfer sut rydw i’n teimlo/beth rydw i’n ei brofi/fy iechyd meddwl
  • Y pethau rydw i wedi sôn amdanyn nhw ar fy ffurflen ar-lein (os wyt ti wedi llenwi un)

‘Rydw i angen i chi wybod...’

  • Efallai y bydd hi’n anodd i mi siarad am rai pethau
  • Rydw i angen amser i ofyn cwestiynau
  • Efallai y bydd angen amser arnaf i ateb eich cwestiynau
  • Efallai y bydd angen i chi egluro pethau fwy nag unwaith i wneud yn siŵr fy mod yn deall

Pa gwestiynau allaf i eu gofyn i fy meddyg?

Nid oes unrhyw gwestiynau cywir nac anghywir i’w gofyn, ond cyn gadael, gallai fod o gymorth i ti ofyn cwestiynau fel:

  • Yn eich barn chi, beth fydd yn helpu, a pham?
  • Alla’ i wneud unrhyw beth i helpu fy hun?
  • Beth sy’n digwydd nawr? Allwch chi ddweud wrthyf beth yw’r camau nesaf?
  • Ydych chi’n gwybod faint o amser y bydd yn ei gymryd i gael y driniaeth rydyn ni wedi’i thrafod?
  • Gyda phwy ddylwn i siarad ar ôl hyn? Oes unrhyw gymorth lleol neu ar-lein ar gael i mi?
  • Oes angen i mi wneud ail apwyntiad ac, os oes, pryd?
  • Ydy’r sgwrs hon yn gyfrinachol?
  • Oes gennych chi fwy o wybodaeth i mi ei darllen yn nes ymlaen?
  • Gyda phwy dylwn i gysylltu os bydd pethau’n gwaethygu neu os oes gen i unrhyw gwestiynau?

Ysgrifenna’r cwestiynau hyn neu eu cadw mewn nodyn ar dy ffôn er mwyn gallu cyfeirio atyn nhw yn yr apwyntiad.

Gallet ysgrifennu’r atebion i lawr hefyd neu wneud nodiadau yn ystod dy apwyntiad er mwyn i ti allu eu darllen yn nes ymlaen.

Mae’n gallu bod yn frawychus siarad am dy deimladau a phrofiadau gyda rhywun nad wyt ti'n ei adnabod, ond mae siarad â dy feddyg yn le gwych i ddechrau cael cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl.

Os oes angen cyngor arnat am yr hyn sy’n digwydd mewn apwyntiad meddyg a chyngor ar sut i siarad â dy feddyg, darllena ein canllaw ar siarad â meddyg.

Os bydd fy nerfau’n mynd yn ormod neu os ydw i’n cael trafferth gyda phryder, gallaf roi fy nodiadau’n uniongyrchol i fy meddyg teulu a thrafod y materion, sydd yn aml wedi fy helpu i oresgyn y pryder cychwynnol.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig