Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau ar gyfer helpu dy ffrindiau neu bartner(iaid) – ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed

Awgrymiadau a syniadau ar gyfer pobl ifanc ar sut i helpu ffrindiau neu bartner(iaid) gyda sut maen nhw’n teimlo. Mae hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanat ti dy hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Awgrymiadau ar gyfer helpu dy ffrindiau neu bartner(iaid)

Weithiau efallai y bydd angen help ar dy ffrindiau neu bartner(iaid) gyda sut maen nhw’n teimlo. Os nad wyt ti'n siŵr sut i'w helpu, mae’r wybodaeth hon ar dy gyfer di.

Ar y dudalen hon mae awgrymiadau a syniadau a allai dy helpu i gefnogi rhywun sy’n gweld pethau’n anodd. Mae rhai syniadau hefyd ar gyfer gofalu am dy les dy hun yn ystod y cyfnod hwn.

Efallai y bydd rhai o’n hawgrymiadau’n gweithio’n well i ti nag eraill, neu efallai y bydd rhai awgrymiadau’n teimlo’n rhy anodd i ti roi cynnig arnyn nhw ar hyn o bryd. Rho gynnig ar yr hyn sy’n gyfforddus i ti ar hyn o bryd.

Beth mae’n ei olygu i helpu ffrind neu bartner?

I ddeall beth allai helpu ffrind neu bartner ei olygu, efallai yr hoffet ti ddarllen ein tudalen gyflwyniad yn gyntaf.

Cymer olwg ar ein hawgrymiadau

Gall fod yn anodd gwybod a yw rhywun yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl, oherwydd gall pawb ymddwyn yn wahanol pan fydd yn mynd drwy gyfnod anodd.

Awgrymiadau ar gyfer beth i’w wneud pan fydd ffrind neu bartner yn siarad gyda ti

Pan fydd ffrind neu bartner yn siarad yn agored am sut mae’n teimlo, gelli di wneud y canlynol:

  • Bod yn glust i wrando. Gadael iddo siarad am sut mae’n teimlo yn y ffordd sydd orau iddo.
  • Gofyn iddo beth fyddai’n ei helpu ar hyn o bryd. Efallai mai dal ati i wrando arno fydd hynny. Efallai y bydd eisiau rhywbeth i dynnu ei sylw neu wneud rhywbeth gyda’ch gilydd.
  • Cysura’r unigolyn. Does dim byd perffaith y gelli ei ddweud. Ond gelli di geisio ei atgoffa dy fod yn poeni amdano a dy fod ti yno iddo.
  • Gwnewch bethau rydych chi’n eu mwynhau gyda’ch gilydd. Gallai gwneud pethau fel gwylio ffilm neu fynd am dro ei helpu i ymdopi â’r ffordd mae’n teimlo.
  • Gwna dy orau i fod yn amyneddgar gyda’r unigolyn. Gall bod yno i rywun deimlo’n anodd weithiau, ond gall gwneud gwahaniaeth mawr. Cofia gymryd seibiant a cheisio’i helpu pan elli di.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd dy ffrind neu bartner yn dechrau siarad yn agored cyn i ti gynnig cymorth. Os felly, gelli di ddarllen ein gwybodaeth am beth i’w wneud os bydd yn ymddiried ynddo ti yn gyntaf.

https://www.tiktok.com/@mindcharity/video/7237034862849428762?lang=en

[THIS IS A HIDDEN COMPONENT FOR NOW - digi team are aware, ticket DR-2318. Please can another editor unhide the component and link video on an 'embed' element when this is resolved :) ]

Awgrymiadau ar gyfer ei helpu tra bydd yn chwilio am help a chefnogaeth

Gall bod yno i dy ffrind neu bartner ar yr adeg yma fod yn bwysig iawn iddo. Ond mae’n bwysig cymryd amser i ti dy hun, a gofalu amdanat ti dy hun hefyd.

Gelli di helpu mewn llawer o wahanol ffyrdd, fel:

  • Helpu gyda phethau ymarferol. Efallai y byddi di’n mynd i apwyntiadau gyda’r unigolyn neu’n ei helpu gyda gwaith ysgol neu goleg.
  • Rho hwb i’w hyder a hunan-barch drwy ei helpu i ddod o hyd i bethau mae’n dda am eu gwneud neu drwy eu gwneud gyda’ch gilydd.
  • Ceisia ddod o hyd i ffyrdd iddo gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a phobl eraill yn ei fywyd.
  • Gwnewch bethau rydych chi’n eu mwynhau gyda’ch gilydd fel hobïau, cerdded ym myd natur neu wylio ffilm. Efallai y bydd yn gwrthod ond mae’n bwysig dal ati i’w wahodd i wneud pethau.
  • Cadwa lygad arno. Gall anfon neges destun i weld sut mae’r unigolyn, neu anfon llun o rywbeth mae’n ei hoffi, adael iddo wybod dy fod ti’n poeni amdano.
  • Edrycha ar opsiynau eraill am ffyrdd i helpu fel llefydd i ddod o hyd i gymorth neu ddarganfod beth allai ei helpu gartref neu yn yr ysgol.
  • Gofynna a oes cymorth i ti hefyd. Os ydy'r unigolyn dan wasanaeth fel CAMHS, efallai y bydd modd iddynt gynnig rhywfaint o sesiynau i chi gyda’ch gilydd. Mae llawer o lefydd eraill y gelli di fynd i gael cymorth i ti dy hun. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth.
  • Ceisia ddysgu mwy am yr hyn mae'n mynd drwyddo. Gelli di ofyn a ydy o wedi gweld, neu wedi darllen, unrhyw beth sy’n esbonio sut mae’n teimlo. Gelli di hefyd ddarllen ein tudalen am ddeall iechyd meddwl.
  • Atgoffa’r unigolyn pam ei fod yn bwysig. Gelli di siarad am sut mae’n bwysig i ti neu am yr adegau da rydych chi wedi’u mwynhau gyda’ch gilydd.

Gan fod pawb yn wahanol, mae’n bwysig dy fod ti'n gofyn iddo sut fedri di ei helpu orau.

Weithiau, byddwn i jest yn eistedd yno a gwrando, jest gwrando arni’n mynegi’r teimladau a’r emosiynau mae hi’n eu teimlo – Tiffany, 16

Awgrymiadau ar gyfer gofalu amdanat ti dy hun wrth helpu'r unigolyn

Gall fod yn heriol ceisio helpu rhywun arall, hyd yn oed os nad wyt ti’n gweld pethau’n anodd dy hun. Mae’n bwysig iawn dy fod ti’n gofalu amdanat ti dy hun. Mae hyn hefyd yn dy helpu i fod ar dy orau i helpu dy ffrind neu bartner.

Eglura faint o help fedri di ei rhoi

Pan fyddi di’n dweud wrth yr unigolyn faint o help fedri di ei rhoi, efallai y gelli di hefyd sôn am ba help fedri di ddim ei rhoi a phryd dwyt ti ddim ar gael. Weithiau mae hyn yn cael ei alw’n ‘gosod ffiniau’, ond does dim rhaid i ti ddefnyddio'r ymadrodd yma os dwyt ti ddim eisiau.

Dydy gosod ffiniau ddim yn golygu na fyddi di yno i’r unigolyn na dy fod ti’n ffrind neu bartner gwael. Mae’n helpu i egluro beth elli di ei wneud a beth fedri di ddim bob amser ei wneud.

Weithiau gall ffrind neu bartner dy drin mewn ffyrdd nad ydynt yn iawn. Os wyt ti’n poeni am hyn, gelli di wneud y canlynol:

Os wyt ti’n teimlo bod partner neu ffrind yn dy gam-drin, mae gan wefan YoungMinds wybodaeth am gam-drin a ble i ddod o hyd i gymorth.

Gosod rhywfaint o ffiniau ar gyfer helpu

Dyma rai enghreifftiau o ffiniau:

  • Dweud pryd dwyt ti ddim ar gael. Er enghraifft, os nad wyt ti’n edrych ar dy ffôn gyda’r nos neu os oes cyfnodau pan nad yw’n well siarad.
  • Dweud wrtho am bethau penodol dwyt ti ddim yn gyfforddus siarad amdanyn nhw.
  • Dweud wrtho beth rwyt ti angen neu’n dymuno ei gael ganddo.
  • Rhoi gwybod iddo sut rwyt ti. Efallai na fyddi di’n gallu ei helpu gymaint pan fyddi di’n gweld pethau'n anodd.
  • Gadael iddo wybod dy fod ti’n gweld pethau’n anodd, a dy fod ti angen siarad â rhywun am yr hyn sy’n digwydd.
  • Cynnig ei helpu i ddod o hyd i rywun i siarad â nhw. Gelli di hefyd wneud hyn pan nad wyt ti’n teimlo mai ti yw’r person gorau i helpu.

Os nad yw dy ymdrechion i osod ffiniau'n mynd yn dda, gelli di roi cynnig arall arni rywbryd eto pan fydd llai o straen.

hands-white

Cofia: mae’n iawn os ydy dy ffiniau'n newid. Efallai na fyddi di bob amser yn teimlo’r un fath am sut elli di helpu, ac mae hynny’n iawn.

Os yw helpu’r unigolyn yn ormod i ti ddelio ag ef, efallai y byddi di eisiau meddwl a elli di barhau i’w helpu neu beidio. Ni waeth pa mor anodd fydd hynny, mae’n bwysig dy fod ti’n gofalu amdanat ti dy hun hefyd.

Gofalu am dy les dy hun

Tra byddi di’n helpu rhywun arall, mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr dy fod ti’n gofalu amdanat ti dy hun hefyd.

Gallet ti wneud y canlynol:

  • Ceisio peidio â chymryd gormod ar dy blât.Gall helpu rhywun ar dy ben dy hun fod yn gyfrifoldeb mawr. Ceisia annog yr unigolyn i gysylltu â phobl eraill mae’n ymddiried ynddyn nhw hefyd, er mwyn cael mwy o gymorth.
  • Gosod rhywfaint o ffiniau. Gall gosod y rhain gyda’ch gilydd helpu i wneud i bethau weithio orau i bawb. Mae’n iawn os bydd angen newid y ffiniau hynny dros amser.
  • Siarad â phobl eraill. Gelli di ofyn i dy ffrind neu bartner am beth mae’n fodlon i ti siarad amdano gydag eraill er mwyn i ti deimlo dy fod ti’n cael cymorth hefyd.
  • Meddylia am sut mae’n effeithio arnat ti, a chymer seibiant. Gall helpu rhywun fod yn llethol, neu effeithio ar dy hwyliau, dy gwsg neu dy chwant bwyd. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bwysig gadael i’r unigolyn wybod a chymryd seibiant os oes angen.
  • Neilltuo amser ar gyfer dy deimladau. Efallai y byddi di’n teimlo llawer o bethau gwahanol wrth helpu rhywun arall. Gelli di ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein tudalen am ddeall dy deimladau.
  • Gofalu am dy les. Cofia neilltuo amser i ti dy hun a gwneud pethau sy'n dy helpu i ymlacio. Gelli di ddod o hyd i bethau i roi cynnig arnyn nhw ar ein tudalen am ofalu am dy les.
  • Meddylia sut rwyt ti'n treulio dy amser. Mae’n beth da bod yn ffrind a phartner cefnogol. Ond efallai y byddi di hefyd am dreulio amser yn gwneud pethau eraill sy’n dy wneud ti yn ti. Gallai hyn fod yn bethau fel bod yn rhan o glwb chwaraeon neu wirfoddoli.
  • Siarad am dy deimladau gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Os wyt ti eisiau siarad am bethau’n gyfrinachol, gelli di siarad â chwnselwyr yn Childline neu gefnogwr hyfforddedig drwy The Mix.
  • Atgoffa dy hun fod pethau’n newid. Gall perthnasoedd, cyfeillgarwch a sut rwyt ti’n teimlo newid dros amser. Efallai nad yw’n teimlo bod pethau’n gweithio’n dda ar hyn o bryd ond gall bywyd bob amser wella.

Hoffet ti gael fwy o wybodaeth ar ble i gael cymorth?

Cysylltiadau defnyddiol

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Medi 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Dyfyniadau gan bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wrth gasglu’r wybodaeth hon sydd ar y dudalen hon. Maen nhw wedi rhoi eu caniatâd i ni ddefnyddio eu dyfyniadau yn ein gwybodaeth. Nid yw’r geiriau, y profiadau na’r farn yn y dyfyniadau yn gysylltiedig â’r bobl ifanc a ddangosir yn unrhyw un o’r ffotograffau rydyn ni’n eu defnyddio.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffet ti atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, cer i edrych ar ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig