Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Siarad â pherson ifanc am ei iechyd meddwl

Canllaw i oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw, fel rhieni, gofalwyr, gwarcheidwaid ac aelodau o'r teulu, ar sut i siarad â phobl ifanc am iechyd meddwl a llesiant.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Cefnogi pobl ifanc

Gall ein hiechyd meddwl a'n llesiant newid unrhyw bryd. Weithiau rydyn ni'n teimlo'n dda, ac weithiau mae pethau'n teimlo'n anoddach ymdopi â nhw.

Wrth gefnogi person ifanc, mae'n bwysig ei fod yn teimlo ei fod yn gallu rhannu sut mae'n teimlo. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus yn gofyn iddo sut mae pethau'n mynd.

Mae'n gallu helpu i gadw mewn cysylltiad yn rheolaidd a gwneud amser i bobl ifanc siarad am sut maen nhw'n teimlo, os ydyn nhw eisiau gwneud hynny. Does dim rhaid i chi aros nes eu bod yn cael trafferth gyda'u llesiant meddyliol.

Mae’r dudalen hon i oedolion y gellir ymddiried ynddyn nhw sydd eisiau cysylltu â'r person ifanc maen nhw'n ei gefnogi.

I gael gwybodaeth am siarad â nhw am eich iechyd meddwl eich hun, darllenwch ein tudalen: magu plant gyda phroblem iechyd meddwl.

Y cam anoddaf wrth gael trafferth gydag iechyd meddwl yw gallu siarad amdano. Ond mae'n beth da a gwerth chweil i'w wneud, ac mae'n tynnu'r stigma oddi arno.

Deall iechyd meddwl a llesiant meddyliol

Cyn teimlo y gallwn ni siarad â pherson ifanc am iechyd meddwl a llesiant, dylen ni ddeall beth mae'r termau hyn yn ei olygu.

Er bod pob un ohonom yn profi'r pethau hyn yn wahanol, gallwn eu diffinio'n fras fel:

  • Mae iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Mae ein hiechyd meddwl ar sbectrwm sy’n gallu amrywio o dda i wael. Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn cael problemau iechyd meddwl, ac efallai y bydd angen cymorth proffesiynol arnon ni.
  • Mae llesiant meddyliol yn ymwneud â sut rydyn ni’n teimlo y munud yma, a pha mor dda allwn ni ymdopi â bywyd bob dydd. Gall ein llesiant newid o un foment o'r llall, o un dydd i’r llall, neu o un mis i’r llall.

Angen rhagor o wybodaeth?

Mae gennym fwy o dudalennau i'ch helpu i ddysgu am iechyd meddwl a llesiant.

Mae'r tudalennau yma ar gyfer oedolion:

Mae'r tudalennau yma ar gyfer pobl ifanc: 

decorative

Gall ein hiechyd meddwl a'n llesiant newid yn aml. Dyna pam mae'n helpu i gadw mewn cysylltiad rheolaidd â phobl ifanc i siarad am sut maen nhw'n teimlo.

Arwyddion o iechyd meddwl a llesiant gwael

Gall fod yn anodd gwybod a yw person ifanc yn cael trafferth gydag iechyd meddwl neu lesiant. Rydyn ni i gyd yn ymateb yn wahanol pan fyddwn ni'n mynd drwy gyfnod anodd neu'n teimlo nad ydyn ni'n gallu ymdopi.

Yn ystod cyfnod o lesiant meddyliol gwael, efallai y byddwch yn sylwi ar rai arwyddion, yn gweld rhywbeth gwahanol, neu ddim yn sylwi ar unrhyw beth o gwbl. Gallai rhai arwyddion hefyd ymwneud ag iechyd corfforol person ifanc neu rywbeth arall yn gyfan gwbl.

Does dim angen i ni drin pob arwydd fel rhybudd uniongyrchol o lesiant meddyliol gwael. Yn aml, mae'n ymwneud â sylwi ar newidiadau yn yr ymddygiadau a'r gweithredoedd hyn, yn enwedig newidiadau sydyn.

Mae'r arwyddion yn y rhestr isod yn ymwneud â theimladau cyffredinol o iechyd meddwl a llesiant gwael.

Nid yw’r enghreifftiau hyn yr un fath â’r arwyddion y gallai meddygon eu defnyddio i wneud diagnosis o broblem iechyd meddwl.

Er enghraifft, gallai person ifanc ddangos yr arwyddion canlynol:

  • Ymddangos yn bell, neu ddim fel nhw eu hunain
  • Cael trafferth gyda pherthnasoedd, fel treulio llai o amser gyda phobl neu wrthdaro'n amlach
  • Osgoi pethau maen nhw'n eu gwneud yn rheolaidd, fel cymdeithasu neu fynd i'r ysgol, i'r coleg neu i'r gwaith
  • Ddim yn sgwrsio, gwenu na chwerthin cymaint
  • Ymddangos yn llai hyderus
  • Newid y ffordd maen nhw'n gwisgo, fel gwisgo dillad mwy llac neu lewys hir mewn tywydd poeth
  • Ymddangos yn fwy pryderus neu nerfus
  • Ei chael hi’n anodd ymdopi â phethau yn y newyddion, fel newid yn yr hinsawdd
  • Siarad am deimladau neu syniadau sy'n peri pryder, neu wneud y pethau hyn
  • Colli diddordeb mewn gweithgareddau maen nhw'n eu mwynhau fel arfer, neu beidio â'u gwneud
  • Ymddangos yn aflonydd neu'n anesmwyth yn aml
  • Ysmygu, fepio, yfed neu ddefnyddio cyffuriau i ymdopi - i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan FRANK
  • Bwyta gormod neu ddim digon
  • Ei chael yn anodd canolbwyntio
  • Edrych yn flinedig, a allai fod yn gysylltiedig â chwsg ac iechyd meddwl
  • Peidio â gofalu am eu hylendid neu eu hymddangosiad fel roedden nhw'n arfer ei wneud
  • Hunan-niweidio, sy’n gallu digwydd mewn llawer o wahanol ffyrdd
  • Ymddygiad ailadroddus, fel tapio neu wirio pethau’n aml
  • Crïo, gweiddi neu deimlo'n ddig yn fwy nag arfer
  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd wahanol, neu fwy neu lai nag o'r blaen
decorative

Gall newid yn y defnydd o gyfryngau cymdeithasol weithiau fod yn ddefnyddiol ac yn gadarnhaol. Mae rhai pobl ifanc yn ei ddefnyddio i gael gwybodaeth neu gymorth gan gymheiriaid, ac i gysylltu ag eraill sydd â diddordebau tebyg.

Fel rhan o sgwrs reolaidd, gallwch ofyn iddyn nhw sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar eu llesiant.

Beth os nad ydw i'n sylwi ar unrhyw arwyddion?

Gall fod yn anodd sylwi ar arwyddion, yn enwedig os nad wyt ti'n byw gyda nhw neu'n treulio llawer o amser gyda nhw. Efallai y bydd rhai pobl ifanc hefyd yn 'cuddio' arwyddion eu bod yn cael trafferth, a dyna pam mae'n helpu i wybod sut mae siarad yn agored am iechyd meddwl.

Ac er nad yw’n dangos unrhyw arwyddion, dydy hynny ddim yn golygu na ddylet ti holi sut mae’r unigolyn.

Wrth gefnogi person ifanc, efallai y byddi hefyd yn ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng:

  • Arwyddion sy'n ymwneud â llesiant meddyliol gwael
  • Ymddygiad sy'n gysylltiedig â hormonau neu ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau

Efallai y bydd rhywfaint o orgyffwrdd, ond gall sgwrsio â nhw'n rheolaidd eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus ynghylch rhannu eu teimladau wrth i amser fynd yn ei flaen.

Mae gen i system gymorth agored iawn, a dw i'n gallu cysylltu a siarad â fy ffrindiau a fy nheulu ar unrhyw adeg - Muwahhid, 15

Sut mae gofyn iddyn nhw am eu hiechyd meddwl a llesiant

Wrth gefnogi person ifanc, mae llawer ohonom yn teimlo'n ansicr beth i'w ddweud o ran iechyd meddwl a llesiant.

Os ydyn ni'n ei chael hi'n anodd dechrau sgwrs, mae'n helpu i deimlo'n barod. Does dim angen i ni gael sgwrs hir bob tro, efallai mai'r cyfan rydyn ni eisiau ei wneud yw holi sut maen nhw'n teimlo.

Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar y canlynol:

Cynllunio ymlaen llaw a theimlo'n barod

Os mai dyma'r tro cyntaf i chi siarad â nhw am iechyd meddwl a llesiant, efallai y bydd rhai o'r syniadau hyn yn helpu:

  • Ceisiwch ddod o hyd i amser a lleoliad sy’n addas i’r ddau ohonoch. Efallai na fydd yr amser byth yn teimlo’n ddelfrydol, ond gall helpu os bydd y ddau ohonoch yn teimlo’n ddigynnwrf ac yn gyfforddus. Gallai hyn olygu siarad mewn man tawel, neu wrth wneud gweithgaredd gyda’ch gilydd.
  • Ymarfer yr hyn rydych chi am ei ddweud. Gallech chi nodi ambell beth ar bapur neu ymarfer yn eich pen neu'n uchel. Gallai rhieni a gofalwyr hefyd siarad â rhywun ar Linell Gymorth YoungMinds i Rieni. Gallai oedolion eraill y gellir ymddiried ynddyn nhw ddod o hyd i linellau cymorth ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.
  • Ceisiwch beidio â digalonni ar eich ymgais gyntaf. Efallai na fydd yn ymateb yn dda y tro cyntaf, neu efallai na fydd eisiau ymgysylltu o gwbl. Gallwch chi roi cynnig arall arni rywbryd eto pan fydd yn teimlo'n barod.
  • Cofiwch roi'r amser sydd ei angen arno. Gallai rhoi pwysau arno i rannu popeth ar unwaith ei wneud yn llai parod i siarad. Rhowch wybod iddo eich bod chi yno a gadewch iddo ddod atoch chi. Mae'n bwysig parchu ei ffiniau - efallai na fydd eisiau rhannu neu siarad am rai pethau gyda chi.

Dydi fy mrawd [iau] ddim yn hoffi siarad. Dw i'n gallu ei weld yn cael trafferth hefyd, ond dydy e ddim eisiau siarad, felly dydw i ddim yn ei orfodi. Fe fydda i yma iddo nes ei fod eisiau siarad.

Male in bomber jacket looking at camera

Dewis y ffordd orau o gyfathrebu

Rydyn ni i gyd yn hoffi cyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd. Gofynnwch beth sy'n teimlo orau iddo drwy ofyn beth fyddai fwyaf cyfforddus iddo.

Efallai y byddwch am siarad wyneb yn wyneb, ond os bydd un ohonoch chi’n teimlo bod hyn yn anodd neu’n ormod, gallech chi wneud y canlynol:

  • Siarad ar y ffôn
  • Anfon negeseuon testun neu nodiadau llais at eich gilydd
  • Ysgrifennu nodiadau neu lythyrau at eich gilydd
  • Cytuno ar emojis penodol mae'n gallu eu hanfon fel cod ar gyfer sut mae'n teimlo
  • Siarad wrth gerdded neu yrru
  • Siarad yn ystod gweithgaredd gyda'ch gilydd, fel coginio, chwarae gêm neu wylio'r teledu

Gall gymryd amser i benderfynu sut rydych chi am gyfathrebu â'ch gilydd. Does dim amser na ffordd berffaith o siarad - mae'n wahanol i bob un ohonom ni ac rydych chi'n gwneud eich gorau.

Student And Teacher Chatting On Bench

Dw i bob amser wedi teimlo pan dw i’n bresennol gydag ef, gan roi'r sylw sydd ei angen arno, a gwneud gweithgaredd gyda'n gilydd, bod hynny’n ei alluogi i fod yn agored ac ymlacio. Dw i'n gallu bod yn fi fy hun o'i gwmpas a pheidio â chanolbwyntio'n ormodol ar y sgwrs yn ymwneud â'i iechyd meddwl.

Sut i ddechrau'r sgwrs

Os ydych chi'n teimlo'n nerfus am siarad, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy hyderus yn defnyddio ymadroddion i ddechrau'r sgwrs.

Os ydych chi eisiau dechrau sgwrsio'n rheolaidd, hyd yn oed pan fydd pethau'n mynd yn dda i bob golwg, rhowch gynnig ar ddefnyddio’r syniadau canlynol i ddechrau sgwrs, fel:

  • “Sut mae pethau'n mynd yn yr ysgol/coleg/hyfforddiant/gwaith?”
  • “Os byddi di angen siarad â rhywun, ti’n gwybod mod i yma i ti dwyt?”
  • “Mae'n ymddangos dy fod yn teimlo'n iawn am ___, ond fe alli di bob amser siarad â mi os wyt ti eisiau gwneud hynny.”
  • "Rwyt ti'n edrych yn hapus iawn am ___! Fe fyddwn i wrth fy modd yn clywed mwy am hynny.”
  • “Dw i’n cofio i ti ddweud dy fod ti’n ypset am ___ wythnos diwethaf. Sut wyt ti’n teimlo am hynny rŵan?”

Os ydych chi wedi sylwi ar arwyddion o lesiant meddyliol gwael ac eisiau gofyn sut maen nhw, ceisiwch ddefnyddio’r syniadau canlynol i ddechrau sgwrs:

  • “Fe allai hyn fod yn anodd i ni siarad amdano, ond fe hoffwn i dy holi di am rhywbeth.”
  • “Dw i wedi sylwi dy fod ti wedi bod yn teimlo'n ___ yn ddiweddar. Tybed wyt ti eisiau siarad am y peth?”
  • “Dwyt ti ddim [wedi bod yn ti dy hun/ddim wedi bod yn gweld dy ffrindiau gymaint/ddim wedi bod yn mynd i'r coleg yn aml iawn] yn ystod yr wythnosau diwethaf. Oes yna unrhyw beth hoffet ti siarad amdano?”
  • “Dw i wedi sylwi dy fod di wedi bod yn ymddwyn ychydig yn wahanol yn ddiweddar. Dw i'n gwybod efallai dy fod di'n teimlo na alli di siarad â mi, ond fe alla i dy helpu i ddod o hyd i bobl i gysylltu â nhw os wyt ti eisiau siarad am ___.”

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i wybodaeth neu enghreifftiau o rywbeth ar y teledu, ar-lein neu mewn llyfr a allai fod yn berthnasol i'r unigolyn. Er enghraifft, fe allwch chi ofyn:

  • “Wyt ti wedi bod yn gwylio’r gyfres am___? Fe wnaeth i mi feddwl am sut roeddet ti wedi dweud wrtha i roeddet ti'n teimlo'r wythnos diwethaf.”
  • “Beth wyt ti’n meddwl am y cymeriad sy'n delio â___?”

Beth allech chi ei ddweud ar ôl siarad

P'un ai dyma'r tro cyntaf i chi siarad neu mae'n sgwrs reolaidd, gallwch ddod â'ch sgyrsiau i ben mewn gwahanol ffyrdd. Fe allwch chi roi cynnig ar y pethau hyn:

  • Tawelu eu meddwl fel eu bod yn gwybod eich bod chi dal yno iddyn nhw
  • Dweud wrthyn nhw y byddwch chi'n eu cefnogi os bydd eich angen chi arnyn nhw
  • Gofyn sut gallwch chi eu helpu a beth fydden nhw'n hoffi ei gael gennych chi
  • Gofyn a ydyn nhw eisiau eich help chi i gael cymorth gan rywun arall, fel athro, meddyg neu oedolyn arall maen nhw'n ymddiried ynddo
  • Gwneud rhywbeth wedyn rydych chi'n ei fwynhau gyda'ch gilydd, fel gwrando ar gerddoriaeth neu chwarae gêm rydych chi'ch dau'n ei hoffi
  • Eu hatgoffa nhw fod help ar gael ac y byddwch chi’n dod drwyddi gyda'ch gilydd.
decorative

Ceisiwch fod yn amyneddgar os ydyn nhw’n teimlo'n ofidus neu os nad yw'r sgwrs yn gorffen mewn ffordd gadarnhaol. Cofiwch y gallwch chi hefyd orffen drwy oedi i gymryd seibiant.

Mae’n bosibl y bydd angen rhywfaint o amser ar y ddau ohonoch i feddwl, ond fe allech chi ailafael yn y sgwrs yn nes ymlaen.

Sut i wrando'n astud

Un o'r pethau gorau y gallwn ni ei wneud yw gwrando ar y person ifanc rydyn ni eisiau ei gefnogi.

I ddangos eich bod yn gwrando ar beth bynnag maen nhw eisiau ei rannu am iechyd meddwl a llesiant, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Rhowch eich sylw llawn nhw. Gwnewch yn siŵr na fydd unrhyw beth yn tynnu eich sylw, er enghraifft drwy ddiffodd hysbysiadau eich ffôn. Gallwch chi wneud gweithgaredd tra byddwch yn siarad, cyn belled â'ch bod yn ei wneud gyda'ch gilydd - ni ddylai fod yn rhywbeth unochrog.
  • Dangoswch eich bod yn agored ac nid yn feirniadol. Ceisiwch ddefnyddio iaith corff gadarnhaol, fel peidio â chroesi eich breichiau neu eistedd ar yr un lefel â nhw.
  • Gadewch iddyn nhw siarad pan maen nhw eisiau gwneud hynny. Mae rhai pobl ifanc yn ei chael hi'n anodd siarad pan nad ydyn nhw'n barod. Ac mae’n bosibl y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd gwybod pryd i roi amser iddyn nhw a phryd y dylech chi siarad. Cofiwch fod tecstio neu ysgrifennu llythyrau at eich gilydd hefyd yn ffordd ddilys o gyfathrebu. Ceisiwch rannu ein hawgrymiadau ar gyfer paratoi i siarad.
  • Gofynnwch gwestiynau agored. Gofynnwch gwestiynau sy'n eu hannog i rannu mwy, er mwyn i chi allu gwrando. Er enghraifft, gallech chi ddweud “alli di ddweud wrtha i sut beth yw hynny i ti?” Efallai mai dim ond ateb fel ‘ydw’ neu ‘nac ydw’ gewch chi i gwestiynau fel 'wyt ti'n iawn?'
  • Ailadroddwch rai rhannau'n uchel. Ar ôl iddyn nhw ddweud rhywbeth wrthych chi, gall ei ailadrodd eich helpu i wneud yn siŵr eich bod yn deall beth maen nhw'n ei olygu. Mae hefyd yn dangos iddynt eich bod yn gwrando'n astud.
  • Bod yn fodlon gyda'r distawrwydd. Gall deimlo'n anodd, ond does dim rhaid i chi lenwi unrhyw adegau tawel. Mae gwrando’n astud hefyd yn golygu gadael iddyn nhw oedi neu roi amser iddyn nhw egluro. Efallai y byddan nhw eisiau gosod ffiniau ynghylch pa mor aml neu pryd y byddwch chi'n ymateb, yn enwedig os ydyn nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus yn anfon negeseuon testun neu'n ysgrifennu.
  • Cofiwch, does dim angen i chi ddatrys problemau ar unwaith. Efallai mai’r cyfan y bydd angen ei wneud yw siarad am sut maen nhw’n teimlo ar hyn o bryd. Ond gallwch ofyn iddyn nhw sut maen nhw eisiau i chi eu cefnogi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd seibiant neu'n trefnu amseroedd rheolaidd i sgwrsio - does dim angen iddo fod yn un sgwrs hir.

Mae cyfathrebu â phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ffordd agored a thosturiol wir yn helpu. Dw i wedi dod ar draws rhai gweithwyr iechyd meddwl sydd heb fod yn dosturiol ac yn agored gyda mi, felly doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i siarad â nhw.

Teacher And Student Chatting Outside

Dweud wrth bobl beth maen nhw wedi'i rannu

Pan fydd pobl ifanc yn rhannu gwybodaeth â gweithwyr proffesiynol penodol, dylid ei chadw’n gyfrinachol. Ond os byddan nhw’n rhannu ag oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo, nid yw mor glir pryd bydd eu gwybodaeth yn cael ei chadw’n breifat.

Os yw person ifanc yn poeni y byddwch chi'n dweud wrth rywun beth mae wedi'i rannu, efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd siarad â chi am ei iechyd meddwl a'i lesiant.

Gall helpu i egluro pryd y byddai angen i chi ddweud wrth bobl eraill. Neu i ofyn i'r person ifanc beth maen nhw eisiau ei rannu a chyda phwy. Gallwch osod y mathau hyn o ffiniau gyda'i gilydd.

Gallai cyfrinachedd a ffiniau ynghylch rhannu godi mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft:

  • Rhannu â sefydliadau neu wasanaethau. Os ydych chi'n gweithio gyda nhw mewn clwb ar ôl ysgol, efallai y bydd angen i chi ddweud wrth eu hysgol neu goleg os ydyn nhw mewn perygl o gael eu brifo, neu anafu eu hunain neu bobl eraill. Neu mewn achosion eraill, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddweud wrth feddyg neu'r heddlu.
  • Dweud wrth eu brodyr a'u chwiorydd neu aelodau eraill o'r teulu. Efallai y bydd pobl eraill wedi sylwi ar rai arwyddion, yn teimlo'n ddryslyd neu fod ganddynt gwestiynau am yr hyn sy'n digwydd. Gallai hefyd helpu i gael trafodaethau rheolaidd gyda'ch gilydd ynghylch deall teimladau.

 

Deall cyfrinachedd ac iechyd meddwl

I gael rhagor o wybodaeth am beth allai hyn ei olygu i bobl ifanc.

decorative

Meddyliwch am bwy y mae angen iddynt wybod, beth y mae angen iddynt ei wybod a pham.

Ceisiwch ofyn i chi'ch hun a yw'n bwysig dweud wrth rywun arall er mwyn cadw'r person ifanc yn ddiogel.

Os nad ydyn nhw eisiau siarad

Gall fod yn anodd os nad yw person ifanc eisiau siarad, neu os yw'n newid ei feddwl am siarad.

Mae’n bosibl y byddan nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad â rhywun arall neu'n cael cymorth gan rywun arall. Neu efallai nad ydyn nhw'n teimlo'n barod - rhowch gynnig ar ddarllen a rhannu ein tudalen ar siarad am iechyd meddwl.

Mae’n bosibl y byddwch am roi cynnig ar wahanol ffyrdd o ddechrau sgwrs. Neu mae’n bosibl y bydd angen i chi fod yn amyneddgar a meithrin ymddiriedaeth gyda nhw dros amser. Os ydych chi'n dal i ddangos eich bod chi yno iddyn nhw, efallai y byddan nhw'n teimlo eu bod nhw'n gallu siarad â chi.

Cofiwch mae’n bosibl bod ganddyn nhw reswm dros beidio â bod eisiau siarad.

Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo dan straen oherwydd bywyd cartref neu waith; mae’n bosibl eu bod nhw dan straen arholiadau neu'n cael problemau gyda'u perthnasoedd. Ceisiwch siarad pan fydd y ddau ohonoch chi'n teimlo'n ddigynnwrf.

Os yw pethau'n mynd yn ormod, awgrymwch gymryd seibiant a chytuno i siarad eto ar adeg arall.

Mae’n bosibl y byddan nhw'n teimlo'n ofnus y bydd pobl yn meddwl yn wahanol amdanyn nhw neu'n ymateb mewn ffordd negyddol, yn enwedig oherwydd stigma. Neu mae’n bosibl eich bod yn meddwl na fyddwch yn deall beth maen nhw'n mynd drwyddo.

Mae llawer o ffyrdd o ddangos cefnogaeth am ba reswm bynnag, er enghraifft, cefnogi rhywun sy'n LGBTQIA+.

Mae’n bosibl y bydd ganddynt bryderon am niweidio neu newid y math o berthynas sydd gennych.

Atgoffwch nhw ei bod yn iawn siarad â rhywun gwahanol, ond eich bod chi yma pan fyddan nhw'n barod.

Gallech chi awgrymu siarad yn rhywle arall, fel mewn parc neu fan agored. Neu mae’n bosibl y byddan nhw'n ei chael hi’n haws siarad ag oedolyn y gellir ymddiried ynddynt mewn amgylchedd gwahanol, fel athro yn yr ysgol.

Cael cymorth mewn argyfwng iechyd meddwl

Mae’n bosibl eich bod yn cefnogi person ifanc sy'n teimlo ei fod yn cael ei lethu, neu ei fod eisiau brifo ei hun neu rywun arall.

Gall y naill neu'r llall ohonoch wneud y canlynol:


Os ydych chi’n teimlo’n bryderus y gallent geisio lladd eu hunain, neu os ydynt wedi brifo eu hunain yn ddifrifol, mae hyn yn argyfwng.
Dylech chi wneud y canlynol:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans
  • Ewch i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn yr ysbyty agosaf, os gallwch chi.

 

Ffyrdd eraill o roi cymorth

Gallwn gefnogi llesiant meddyliol pobl ifanc mewn llawer o ffyrdd, ond dylen ni bob amser geisio gofyn yn gyntaf beth fyddai orau ganddyn nhw. Bydd gwahanol bobl ifanc eisiau cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd, ar wahanol adegau.

Fe allech chi:

  • Helpu gyda phethau ymarferol, fel cofrestru gyda meddyg neu baratoi ar gyfer apwyntiad
  • Rhannu gwybodaeth am iechyd meddwl a darllen drwyddi gyda'ch gilydd. Gallai gwneud hyn yn rheolaidd helpu i wella eich sgyrsiau. Gallwch ddod o hyd i gynnwys yn ein hwb gwybodaeth i bobl ifanc
  • Anogwch nhw i wneud pethau maen nhw'n eu mwynhau fel arfer, fel gwylio ffilm neu gymryd rhan mewn chwaraeon
  • Cynigiwch gefnogaeth ar gyfer pethau sy'n achosi straen, fel arholiadau, gwahaniaethu neu bethau anodd yn y newyddion
  • Cadwch lygad ar eu hiechyd corfforol, fel gwneud yn siŵr eu bod yn bwyta'n dda ac yn cysgu digon
  • Cefnogwch nhw i helpu eu hunain, a all hefyd wella eu hyder.  Gallwch rannu awgrymiadau hunanofal o'n tudalen wybodaeth ar ofalu amdanoch chi'ch hun
  • Siaradwch am sut rydych chi’n teimlo weithiau. Os gallwch chi fod yn agored am eich iechyd meddwl a'ch llesiant eich hun, efallai y bydd yn eu helpu i sgwrsio â chi
  • Dangoswch iddyn nhw ei bod yn iawn gofyn am help ar gyfer iechyd meddwl, os oes ei angen arnom. Mae rhai pobl ifanc yn credu bod oedolion yn annibynnol iawn a dydyn nhw ddim yn sylweddoli y gallai fod angen cymorth arnom ni ar unrhyw oedran.

Mae siarad am iechyd meddwl a llesiant gyda nhw yn bwysig, ond cofiwch mai dim ond un rhan o'ch bywyd yw hyn. Daliwch ati i siarad am bethau rydych chi bob amser wedi siarad amdanyn nhw gyda'ch gilydd, a'u trin yr un fath ag o'r blaen.

Gofalu am eich llesiant meddyliol

Gallai gofalu am eich llesiant eich hun roi enghreifftiau cadarnhaol iddyn nhw o ffyrdd o ofalu amdanyn nhw eu hunain.

Dylai hyn hefyd eich helpu i deimlo eich bod yn gallu eu cefnogi'n well. Mae'n anodd helpu pobl eraill os ydyn ni'n profi iechyd meddwl gwael.

Fel person ifanc â phroblemau iechyd meddwl, roeddwn i'n ei chael hi'n anhygoel o anodd siarad â phobl eraill. Yr hyn a wnaeth fy helpu i fod yn agored oedd dysgu am brofiadau pobl eraill. Fe roddodd yr hyder i mi fod yn agored a siarad.

Ble alla i gael gafael ar fwy o help a chefnogaeth?

Ar ôl siarad â nhw am iechyd meddwl a llesiant, mae’n bosibl y byddwch chi'n teimlo bod angen mwy o gymorth arnyn nhw nag y gallwch chi ei gynnig.

Dyma rai pethau a allai eich helpu chi a'r bobl ifanc rydych chi'n eu cefnogi:

Manylion cyswllt defnyddiol

Mae llawer o elusennau, gwasanaethau a sefydliadau yn cynnig cymorth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Gorffennaf 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig