Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Siarad â pherson ifanc am eu hiechyd meddwl

Canllaw i rieni, gofalwyr, aelodau teuluol a gwarcheidwaid ar sut i siarad â phobl ifanc am eu hiechyd meddwl a lles.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r wybodaeth hon i rieni, gofalwyr, aelodau teuluol a gwarcheidwaid sy’n dymuno siarad am iechyd meddwl â pherson ifanc y maen nhw’n eu cefnogi.

Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am siarad â nhw am iechyd meddwl eich hun, gweler ein tudalennau am fod yn rhiant gyda phroblem iechyd meddwl.

Boed ydych chi’n siarad â nhw’n rheolaidd, neu’n poeni am berson ifanc, bydd y wybodaeth hon yn eich arwain drwy’r broses o siarad â nhw am eu hiechyd meddwl.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

Deall iechyd meddwl a lles

Er ein bod ni i gyd yn profi pethau’n wahanol, mae’n ddefnyddiol deall y termau hyn yn gyffredinol:

  • Mae iechyd meddwl yn ymwneud â’r ffordd yr ydym ni’n meddwl, teimlo ac ymddwyn. Mae ein hiechyd meddwl ar sbectrwm ac yn gallu amrywio o iechyd meddwl da i iechyd meddwl gwael. Gallwn hefyd brofi problemau iechyd meddwl
  • Mae lles meddyliol yn ymwneud â’r ffordd yr ydym ni’n teimlo nawr, a pha mor dda y gallwn ymdopi gyda bywyd dyddiol. Mae ein lles yn gallu newid o foment i foment, o ddydd i ddydd, neu o fis i fis.

Gall ein hiechyd meddwl a lles newid drwy’r amser. Oherwydd hyn, gall fod yn ddefnyddiol siarad yn rheolaidd a neilltuo amser i bobl ifanc siarad am y ffordd y maen nhw’n teimlo. Does dim angen i chi aros tan eu bod nhw’n cael trafferth.

Y cam anoddaf wrth gael trafferth ag iechyd meddwl yw gallu siarad amdano, ond mae’n beth da a gwerth chweil i’w wneud, ac mae’n lleihau’r stigma.

Arwyddion y gallai person ifanc fod yn profi iechyd meddwl gwael

Gall fod yn anodd gwybod os yw person ifanc yn cael trafferth â’u hiechyd meddwl neu les. Rydym ni i gyd yn ymddwyn yn wahanol pan fyddwn ni’n cael cyfnod anodd.

Efallai y byddwch chi’n sylwi ar rai o’r arwyddion canlynol, efallai byddwch chi’n gweld rhywbeth gwahanol, neu efallai na fyddwch chi’n sylwi ar unrhyw beth o gwbl. Gallai’r arwyddion hyn hefyd fod yn gysylltiedig ag iechyd corfforol person ifanc, neu rywbeth arall yn hollol.

Mae rhai o’r ffyrdd y gallent fod yn ymddwyn yn wahanol yn cynnwys:

  • Ymddangos yn bell, neu nid fel eu hunain
  • Peidio â chyfarfod â ffrindiau neu bartneriaid
  • Treulio mwy o amser ar eu pennau eu hunain nag arfer
  • Peidio â sgwrsio, gwenu neu chwerthin cymaint
  • Ymddangos yn llai hyderus
  • Ymddangos yn llai hyderus
  • Siarad am deimladau sy’n eich pryderu
  • Colli diddordeb neu beidio â gwneud gweithgareddau y maen nhw fel arfer yn eu mwynhau
  • Llefain, gweiddi neu deimlo'n grac
  • Bod yn aflonydd
  • Ysmygu, yfed neu ddefnyddio cyffuriau pan nad oeddent yn gwneud hynny o’r blaen
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd wahanol, neu’n fwy neu’n llai nag o’r blaen

Mae rhai o’r newidiadau corfforol y gallech eu sylwi arnynt yn cynnwys:

  • Peidio â gwisgo gyda chymaint o ofal ag yr oeddent o’r blaen
  • Bwyta gormod neu beidio â bwyta digon
  • Cael hi’n anodd canolbwyntio
  • Ymddangos yn flinedig
  • Peidio ag ymolchi neu ofalu am eu hunain fel yr oeddent o’r blaen
  • Anafu eu hunain yn bwrpasol
  • Ymddygiad ailadroddus, fel tapio neu wirio pethau sawl gwaith

Gall fod yn anodd gweld arwyddion, yn enwedig os nad ydych chi’n byw gyda nhw neu’n treulio llawer o amser gyda nhw. Gall rhai pobl ifanc hefyd ‘guddio’ arwyddion eu bod nhw’n cael trafferth, felly dyna pam mae’n ddefnyddiol gwybod sut i siarad â nhw’n agored am iechyd meddwl.

Os nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion, nid yw hyn yn golygu na ddylech chi siarad â nhw.

Sut i ddechrau sgwrs am eu hiechyd meddwl

Mae’n iawn i deimlo’n ansicr wrth siarad am iechyd meddwl – dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n poeni am siarad â pherson ifanc am eu hiechyd meddwl a lles, gall fod yn ddefnyddiol i chi baratoi. Does dim angen i chi gael trafodaeth hir bob tro, efallai byddwch chi eisiau cael sgwrs fer i weld sut maen nhw’n teimlo.

Edrychwch ar y cyngor isod, yn enwedig os ydych chi’n siarad â nhw am y tro cyntaf:

  • Ceisiwch ddod o hyd i amser a lle sy’n addas ar gyfer y ddau ohonoch. Efallai na fydd yr amser byth yn teimlo’n berffaith, ond gall fod yn ddefnyddiol i’r ddau ohonoch deimlo’n ddigynnwrf a chyfforddus. Gallai hyn olygu siarad mewn lle tawel, neu gallai olygu gwneud gweithgaredd gyda’ch gilydd.
  • Gall fod yn ddefnyddiol i chi ymarfer yr hyn rydych chi eisiau dweud. Gallech ymarfer yn eich pen neu gyda rhywun rydych chi’n ei adnabod. Gallech ysgrifennu pethau hefyd, neu siarad â rhywun ar linell gymorth fel Llinell Gymorth Rhieni a Gofalwyr YoungMinds.
  • Does dim ffordd berffaith i ddechrau sgwrs. Pa bynnag ffordd yr ydych chi’n dewis ei wneud, gwnewch eich gorau i ddechrau mewn ffordd ddigynnwrf ac agored. Efallai na fyddwch chi’n deall yn union yr hyn maen nhw’n wynebu, ac mae hynny’n iawn.
  • Ceisiwch beidio â digalonni’r tro cyntaf. Efallai na fyddan nhw’n ymateb yn dda y tro cyntaf, neu efallai na fyddant am ymgysylltu o gwbl. Gallwch roi cynnig arall arni rywbryd arall pan fyddan nhw’n barod.
  • Rhowch y lle sydd ei angen arnynt. Mae rhoi pwysau arnynt i siarad yn gallu eu gwthio i ffwrdd. Rhowch wybod iddynt eich bod yno iddyn nhw a gadewch iddyn nhw ddod atoch chi. Mae’n bwysig parchu eu terfynau – mae rhai pethau efallai na fyddan nhw eisiau eu rhannu neu siarad amdanynt gyda chi.

Nid yw fy mrawd [iau] yn hoffi siarad. Dwi'n gallu ei weld yn cael trafferth hefyd ond dydy e ddim eisiau siarad, felly dwi ddim yn ei wthio. Byddaf yno iddo tan y bydd yn dymuno siarad.

Beth sy’n teimlo fel y ffordd orau i siarad?

Y peth cyntaf i’w ystyried yw beth sy’n teimlo orau iddyn nhw – gofynnwch iddyn nhw beth fyddai fwyaf cyfforddus iddyn nhw. Efallai byddwch chi am siarad wyneb yn wyneb, ond os yw hyn yn anodd neu’n orlethol i’r un ohonoch, gallech chi:

  • Siarad ar y ffôn
  • Anfon neges destun
  • Ysgrifennu llythyr
  • Siarad wrth gerdded neu yrru
  • Siarad yn ystod gweithgaredd gyda’ch gilydd, fel coginio, chwarae gêm, neu wylio teledu

Cofiwch gymryd seibiannau neu drefnu amser i siarad yn rheolaidd – nid oes rhaid iddo fod yn un sgwrs hir.

Yn fy mhrofiad i, mae bod yn bresennol gyda nhw, rhoi'r sylw sydd ei angen arnynt, a gwneud gweithgaredd gyda'n gilydd yn eu galluogi i fod yn agored ac ymlacio. Dwi'n gallu bod fy hun o'u hamgylch a pheidio â chanolbwyntio'n ormodol ar sgwrsio am eu hiechyd meddwl.

Beth allwn i ei ddweud i ddechrau?

Os ydych chi’n teimlo’n nerfus am siarad â nhw, efallai byddwch chi’n teimlo’n fwy hyderus yn gwybod sut allwch chi ddechrau’r sgwrs.

Efallai eich bod wedi sylwi ar rai arwyddion o iechyd meddwl neu les gwael yn barod. Gallech ystyried dweud y canlynol:

  • “Gallai hwn fod yn anodd i ni siarad amdano, ond hoffwn i siarad â thi am rywbeth.”
  • “Dwi wedi sylwi dy fod ti’n teimlo’n ___ yn ddiweddar. Hoffet ti siarad amdano?”
  • “Dwyt ti ddim wedi ymddangos fel ti dy hun dros yr wythnosau diwethaf. Oes unrhyw beth hoffet ti siarad amdano?”
  • “Roeddwn i’n meddwl dy fod yn ymddwyn ychydig yn wahanol yn ddiweddar. Dwi’n gwybod efallai dy fod yn teimlo na alli di siarad â fi, ond galla i helpu dod o hyd i bobl y galli di gysylltu â nhw os hoffet ti siarad am ___.”

Gallech hefyd ddod o hyd i wybodaeth neu enghreifftiau o rywbeth ar y teledu, ar-lein neu mewn llyfr y gallai fod yn berthnasol iddyn nhw. Er enghraifft, gallech chi ofyn “wyt ti wedi bod yn gwylio’r gyfres am...”, neu ofyn “beth wyt ti’n meddwl am y cymeriad sy’n profi...”.

Efallai byddwch chi’n siarad â nhw’n rheolaidd, hyd yn oed pan fydd pethau’n mynd yn dda. Gallech ystyried dweud y canlynol:

  • “Sut mae pethau’n mynd yn yr ysgol/coleg/hyfforddiant?”
  • “Os wyt ti byth eisiau siarad ag unrhyw un, ti’n gwybod fy mod i yma i ti?”
  • “Mae’n edrych fel dy fod yn teimlo’n iawn am ___, ond galli di bob amser siarad â fi os wyt ti eisiau.”
  • “Rwyt ti’n edrych yn hapus iawn am ___! Byddwn i wrth fy modd yn clywed rhagor amdano.”
  • “Dwi’n cofio dywedaist ti dy fod yn drist am ___ wythnos diwethaf. Sut wyt ti’n teimlo amdano nawr?”

Beth alla i ei ddweud ar ôl i ni siarad?

P’un ai dyma yw’r tro cyntaf i chi siarad neu sgwrs reolaidd ydyw, mae gwahanol ffyrdd y gallwch chi ddod â sgwrs i ben a phethau y gallwch chi eu gwneud wedi hynny:

  • Rhowch sicrwydd iddynt eich bod chi’n dal i fod yma iddyn nhw.
  • Dywedwch wrthynt y byddwch chi yma i’w cefnogi.
  • Gofynnwch sut allwch chi eu helpu a beth hoffent i chi ei wneud.
  • Gofynnwch a hoffent gael eich cymorth wrth gael cefnogaeth gan rywun arall, fel athro neu feddyg.
  • Gwnewch rywbeth gyda’ch gilydd ar ôl y sgwrs y mae’r ddau ohonoch yn ei fwynhau.
  • Byddwch yn amyneddgar os ydyn nhw’n teimlo’n drist neu os nad yw’r sgwrs yn dod i ben yn ddigynnwrf.
  • Atgoffwch nhw fod help ar gael a byddwch chi’n dod drwyddi gyda’ch gilydd.

Cofiwch y gallwch chi hefyd orffen drwy gymryd seibiant a chael egwyl. Efallai bydd angen amser ar y ddau ohonoch i adlewyrchu, ond gallwch chi ailgydio â’r sgwrs eto’n nes ymlaen.

Sut i wrando’n dda

Un o’r pethau gorau y gallwch chi eu gwneud yw gwrando ar y person ifanc yr hoffech eu cefnogi. I ddangos eich bod chi’n gwrando, gallwch chi:

  • Rhoi eich sylw iddynt yn hollol. Sicrhewch na fydd unrhyw beth yn tynnu eich sylw, er enghraifft trwy ddiffodd hysbysiadau eich ffôn. Gallwch wneud gweithgaredd gyda nhw wrth siarad, cyhyd â’ch bod yn gwneud hyn gyda’ch gilydd – ni ddylai fod yn rhywbeth unochrog.
  • Ceisiwch ddangos eich bod yn agored ac yn anfeirniadol. Ymlaciwch eich corff gydag iaith corff cadarnhaol, er enghraifft peidio â chroesi eich breichiau neu eistedd ar yr un lefel â nhw.
  • Galluogwch nhw i siarad pan fyddan nhw eisiau gwneud hynny. Ni ddylech chi deimlo bod rhaid i chi siarad pan fyddan nhw’n ddistaw. Gadewch iddyn nhw gael seibiant neu roi esboniadau hir pe bai angen.
  • Ceisiwch atal eich hun rhag siarad yn ormodol. Gadewch iddyn nhw siarad neu gofynnwch gwestiynau agored i alluogi iddyn nhw egluro. Er enghraifft, gallech chi ddweud “sut beth yw hynny i ti?”
  • Ailadroddwch rai rhannau ar lafar. Ar ôl iddyn nhw ddweud rhywbeth wrthych chi, gall ei ailadrodd yn ôl atynt eich helpu i wirio eich bod yn deall yr hyn maen nhw’n ei olygu. Mae hyn hefyd yn helpu dangos iddynt eich bod chi’n gwrando.
  • Cofiwch nad oes rhaid i chi ddatrys problemau’n syth. Efallai dim ond siarad am y ffordd maen nhw’n teimlo nawr sydd angen iddyn nhw ei wneud.

Gall gymryd amser i ddod o hyd i’r ffyrdd gorau i siarad â’n gilydd. Does dim amser neu ffordd berffaith i siarad – rydych chi’n gwneud eich gorau.

Mae siarad â phobl â phroblemau iechyd meddwl mewn ffordd agored a thosturiol wir yn helpu. Dwi wedi dod ar draws gweithwyr iechyd meddwl nad ydynt wedi bod yn dosturiol ac agored gyda fi, felly doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn gallu bod yn agored gyda nhw.

Os nad ydyn nhw eisiau siarad am iechyd meddwl

Gall fod yn anodd os nad yw person ifanc eisiau siarad, neu os ydyn nhw’n newid eu meddwl am siarad. Nid eich bai chi ydyw os nad ydyn nhw eisiau siarad ac nid ydych chi’n gwneud unrhyw beth yn anghywir.

Efallai byddan nhw’n teimlo’n fwy cyfforddus i siarad neu gael cefnogaeth gan eraill, neu efallai nad ydynt yn teimlo’n barod i siarad.

Efallai byddwch chi am roi cynnig ar wahanol ffyrdd i ddechrau sgwrs, neu efallai bydd angen i chi fod yn amyneddgar ac adeiladu ymddiriedaeth gyda nhw dros amser. Os ydych chi’n cadw dangos eich bod chi yno iddyn nhw, efallai byddan nhw’n teimlo y gallan nhw fod yn fwy agored gyda chi.

Cofiwch weithiau efallai y bydd rheswm ganddynt dros beidio ag eisiau siarad:

  • Nid yw siarad pan fyddwch chi’n teimlo dan straen yn ddefnyddiol iawn. Efallai byddwch chi’n teimlo o dan straen oherwydd bywyd gwaith neu gartref, efallai byddan nhw’n teimlo o dan straen oherwydd gwaith cartref neu broblemau gyda’u perthnasoedd. Ceisiwch ddod o hyd i amser pan fydd y ddau ohonoch yn teimlo’n ddigynnwrf. Os yw pethau’n teimlo’n ormod, awgrymwch gymryd egwyl a chytuno i siarad rywbryd eto.
  • Mae rhai ohonom yn cael trafferth rhannu pethau â phobl sy’n pryderu amdanom. Efallai bydd hi’n anodd iawn iddyn nhw oherwydd nid ydynt eisiau i chi boeni. Atgoffwch nhw ei bod hi’n iawn i siarad â pherson gwahanol, ond rydych chi yma pan fyddan nhw’n barod. Mae llawer o sefydliadau y mae pobl ifanc yn gallu siarad â nhw ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.
  • Gallech anfon y dudalen atynt dros neges destun neu e-bost.
  • Mae cael trafferth gartref yn gallu ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw siarad. Efallai bydd rhai pobl yn cael trafferth siarad oherwydd anawsterau gartref. Gallech awgrymu siarad rhywle arall, fel parc neu fan agored, neu gallai fod yn haws siarad ag oedolion dibynadwy eraill, fel athrawon neu berthnasau eraill.

Helpu person ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl

Os ydych chi’n cefnogi person ifanc sy’n teimlo wedi’u llethu, neu’n teimlo eu bod am anafu eu hunain, mae help ar gael iddyn nhw yn ogystal â chi. Mae’r ddau ohonoch yn haeddu cael cymorth cyn gynted ag y bydd ei angen arnoch.

I siarad â rhywun am yr hyn sy’n digwydd, gallwch chi:

Os ydych chi’n poeni y gallen nhw geisio cyflawni hunanladdiad, neu wedi anafu eu hunain yn ddifrifol, argyfwng yw hwn. Gallwch chi:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans
  • Mynd yn syth i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys, os allwch chi.

Mae argyfwng iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid ydych chi'n gwastraffu amser neb.

Ffyrdd eraill i gynnig cefnogaeth

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi helpu, ond y peth gorau y gallwch ei wneud yw gofyn iddyn nhw beth maen nhw ei eisiau. Bydd gwahanol bobl eisiau cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd, a hynny ar wahanol adegau. Gallech chi:

  • Eu helpu gyda phethau ymarferol, fel trefnu apwyntiadau meddygol.
  • Eu hannog i wneud pethau y maen nhw’n eu mwynhau, fel gwylio ffilm neu wneud chwaraeon.
  • Cynnig cefnogaeth ar gyfer pethau sy’n peri straen, fel gwaith ysgol ac arholiadau.
  • Gwirio eu hiechyd corfforol, fel sicrhau eu bod yn bwyta’n dda ac yn cysgu’n ddigonol.
  • Cefnogi eu gallu i helpu eu hunain, sydd hefyd yn gallu helpu gwella eu hyder. Dewch o hyd i awgrymiadau a syniadau i'w rhannu â nhw yn ein hwb gwybodaeth i bobl ifanc am ofalu am eich hun.
  • Siarad am sut rydych chi’n teimlo – gallai bod yn agored am iechyd meddwl a lles eich hun eu helpu i fod yn agored hefyd.

Fel person ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl, roedd siarad ag eraill yn hynod anodd i mi. Yr hyn wnaeth fy helpu i fod yn agored oedd dysgu am brofiadau eraill. Rhoddodd hynny'r hyder i mi fod yn agored a siarad.

Mae siarad am iechyd meddwl a lles gyda nhw’n bwysig, ond cofiwch mai dim ond un rhan o’ch bywydau yw hynny. Parhewch i siarad am bethau rydych chi bob amser wedi siarad amdanynt gyda’ch gilydd, a’u trin yr un fath ag o’r blaen.

Mae gofalu am iechyd meddwl a lles eich hun yn ffordd bwysig o’u cefnogi. Mae hyn nid yn unig yn gosod esiampl dda, ond mae’n eich galluogi i deimlo eich bod yn gallu helpu rhywun arall yn well. Gall cefnogi eraill fod yn anodd pan fyddwch chi’n profi iechyd meddwl gwael eich hun.

I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau, gweler ein tudalennau am wella eich lles meddyliol a deall problemau iechyd meddwl.

Ym mhle alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chefnogaeth?

Ar ôl siarad â pherson ifanc, efallai byddwch chi’n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arnynt nag y gallwch chi ei chynnig. Dyma rai pethau y gallent eich helpu:

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2022. Byddwn ni’n ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi ail-gynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen am hawliau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig