Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi eich hun wrth ofalu am rywun

Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth mae'n ei olygu i ofalu am rywun arall?

Gelwir cefnogi rhywun arall yn ofalu weithiau. Os ydych chi'n ofalwr, rydych chi'n rhoi cymorth a gofal di-dâl i rywun sydd â salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth.

Hyd yn oed os byddwch chi'n treulio llawer o amser yn cefnogi rhywun arall, efallai na fyddwch chi'n ystyried eich hun yn ofalwr. Efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n cyfrif fel gofalwr oherwydd:

  • eich bod chi'n meddwl mai eich cyfrifoldeb chi yw gofalu am eich perthynas neu eich ffrind
  • eich bod chi'n rhoi cymorth heblaw am gymorth corfforol ac ymarferol
  • eich bod chi'n meddwl bod rôl y gofalwr yn cael ei ddiffinio gan y gwasanaethau cymdeithasol, a gofalwyr a ddarperir ganddyn nhw.

Efallai mai dim ond rhan o'ch perthynas â rhywun yw bod yn ofalwr iddo. Gallech chi fod yn rhiant, yn bartner, yn frawd neu'n chwaer, yn blentyn, yn ŵyr neu'n wyres, yn ffrind neu'n berthynas arall iddo. Gall y berthynas hon fod yr un mor bwysig i chi, neu'n bwysicach. Efallai y bydd gennych chi rolau gofalu eraill hefyd, er enghraifft gofalu am eich plant.

Wrth i mi addasu i ofalu am fy nghefnder, roeddwn i hefyd yn gofalu am fy rhieni oedrannus, yr oedd gan y ddau ohonyn nhw broblemau iechyd difrifol.

Gall gofalu fod yn gadarnhaol iawn ac yn werth chweil. Fodd bynnag, gall cefnogi eraill fod yn flinedig yn feddyliol ac yn gorfforol. Gall yr amser y byddwch chi'n ei dreulio yn gofalu amrywio hefyd. Bydd rhai pobl yn gofalu am rywun am gyfnod byr, a bydd eraill yn gweld eu bod yn gofalu am rywun yn yr hirdymor.

Gofalu a'r system budd-daliadau

Gall y system budd-daliadau yng Nghymru a Lloegr ymddangos yn gymhleth. Fodd bynnag, gall deall a allwch chi gael budd-daliadau eich helpu chi fel gofalwr.

Mae'r Lwfans Gofalwr yn fudd-dal lles penodol i ofalwyr, yn ychwanegol at unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu hawlio fel arfer. Mae'r system budd-daliadau yn eich diffinio chi fel gofalwr os ydych chi'n bodloni meini prawf penodol, a restrir yma ar Carers UK.

Hyd yn oed os na fyddwch chi'n bodloni'r meini prawf hyn, efallai fod gennych chi anghenion ar gyfer cymorth ychwanegol. Ac efallai y bydd awdurdod y cyngor lleol yn dal i ystyried eich bod chi'n ofalwr. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen gyfreithiol ar hawliau gofal cymdeithasol gofalwyr.

Ers pandemig Covid-19, cafwyd newidiadau i fudd-daliadau, asesiadau a chymorth. Mae rhestr Carers UK o newidiadau yn cynnig rhagor o wybodaeth am hyn.

Beth allech chi ei wneud wrth ofalu am rywun arall

Gall gofalu olygu amrywiaeth o bethau. Gall ddibynnu ar b'un a ydych chi'n gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd corfforol neu feddyliol. Gallai hefyd ddibynnu ar b'un a yw'n gyflwr byrdymor neu'n gyflwr oes.

Gall bod yn amyneddgar a rhoi cymorth deimlo fel rhan o'r broses o roi a derbyn a geir mewn unrhyw berthynas. Ond weithiau, efallai y byddwch chi'n gweld eich bod chi'n treulio llawer o amser ac yn gwneud llawer o ymdrech i helpu rhywun arall.

Efallai y byddwch chi'n rhoi pob math o gymorth fel:

  • cymorth emosiynol
  • helpu rhywun i ymdopi â phroblem iechyd meddwl neu geisio help ar ei chyfer
  • coginio a glanhau
  • rhoi gofal personol fel ymolchi a mynd i'r toiled
  • cyllidebu a gofalu am faterion ariannol
  • ei gefnogi i fyw ochr yn ochr â phobl eraill yn eich cartref
  • helpu eraill i ddeall anghenion y person rydych chi'n gofalu amdano
  • rhoi meddyginiaeth neu ofal meddygol
  • sicrhau ei fod yn ddiogel
  • mynd i apwyntiadau gydag ef ac eirioli ar ei ran – mae hyn yn golygu ei helpu i fynegi ei farn a'i ddymuniadau.

Weithiau, efallai y bydd y person rydych chi'n gofalu amdano yn ei chael hi'n anodd derbyn bod angen iddo gael help gennych chi. Efallai y bydd yn eich gwthio i ffwrdd neu'n dweud pethau sy'n eich brifo chi. Gall hyn wneud i bethau deimlo'n anodd iawn.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar helpu rhywun arall i geisio help.

Gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd meddwl

Os byddwch chi'n gofalu am rywun sydd â phroblem iechyd meddwl, efallai na fyddwch chi'n siŵr beth sy'n ‘cyfrif’ fel gofalu, a beth sy'n rhan o fywyd pob dydd. Er bod rhai pobl yn meddwl mai tasgau corfforol yn unig yw ystyr gofalu, mae rhoi cymorth emosiynol yn rhan fawr ohono.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar gefnogi rhywun sydd â phroblem iechyd meddwl.

Roeddwn i bob amser yn meddwl bod gofalwr yn rhywun a oedd yn cyflawni'r gweithgareddau corfforol angenrheidiol. Doeddwn i erioed wedi meddwl, wrth i mi ei helpu gyda'r pethau pob dydd oedd yn ormod iddo, fy mod yn feddyliol yn ofalwr iddo hefyd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig