Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi eich hun wrth ofalu am rywun

Dysgwch sut i reoli eich lles eich hun wrth ofalu am rywun arall. Cewch wybodaeth ac awgrymiadau ar ofalu am eich iechyd meddwl a dod o hyd i gymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Eich iechyd meddwl fel gofalwr

Gall helpu i ddeall heriau cyffredin y gall llawer o ofalwyr nad ydyn nhw'n cael eu talu ddod ar eu traws, oherwydd gallai hyn wneud i chi deimlo'n llai unig. Rydyn ni'n esbonio rhai o'r teimladau y gallech chi eu cael wrth ofalu am rywun, a sut y gall y rhain effeithio ar eich iechyd meddwl.

Ar y dudalen hon:

Profiadau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â gofalu am rywun

Gall fod yn brofiad cadarnhaol a gwerth chweil gwybod eich bod chi'n helpu rhywun arall.

Bydd rhai gofalwyr yn teimlo eu bod wedi dysgu mwy am eu cryfderau eu hunain, neu eu bod wedi helpu eraill i ddeall eu cyflwr, eu problem neu eu hanabledd. Efallai y byddwch chi'n cael ymdeimlad o foddhad o wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd y person rydych chi'n gofalu amdano.

Drwy eich profiad o gefnogi rhywun arall, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • yn fwy hyderus i ddelio â phobl eraill
  • eich bod chi'n fwy ystyrlon o bobl eraill sydd â phroblemau
  • yn agosach at eich ffrindiau a'ch teulu.

"Dyw e ddim yn hawdd. Ar adegau, rwy'n flinedig, yn ddigalon ac yn anobeithio. Ond yn gyffredinol, dwi'n meddwl ein bod ni'n gryfach, yn fwy gonest ac yn fwy gwydn fel cwpwl."

Teimladau anodd a'ch iechyd meddwl

Gall cefnogi rhywun arall effeithio ar eich iechyd meddwl a'i gwneud yn anoddach i chi aros yn iach. Er eich bod wir am ofalu amdano, gall fod yn anodd iawn i chi wneud hynny.

Os ydych chi'n cael trafferth â'ch iechyd meddwl eich hun a'ch bod yn gofalu am berson ifanc, darllenwch ein gwybodaeth am rianta â phroblem iechyd meddwl.

Wrth ofalu am rywun arall, efallai y byddwch chi'n wynebu heriau a theimladau anodd fel:

  • Straen a gofid. Os byddwch chi'n treulio llawer o amser yn meddwl am ei iechyd a beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, gall olygu eich bod yn ei chael hi'n anodd ymlacio. Dros gyfnod hir o amser, gall pryder a straen achosi problemau iechyd meddwl. Gall hefyd olygu bod problemau presennol yn gwaethygu. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar straen.
  • Gorbryder. Mae llawer o ofalwyr yn dweud eu bod nhw'n pryderu'n barhaus am y person maen nhw'n gofalu amdano. Os yw eich gorbryder yn gryf neu'n para am amser hir, gall fod yn llethol. Gall effeithio ar eich gallu i fyw eich bywyd mor llawn ag y mynnwch. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar orbryder.

"Chefais i ddim cymorth a doeddwn i ddim yn gwybod bod unrhyw le nac unrhyw un y gallwn i droi ato. Cafodd effaith enfawr ar fy iechyd meddwl. Datblygais anhwylder obsesiynol cymhellol (OCD), gorbryder ac iselder."

  • Arwahanrwydd ac unigrwydd. Efallai na fydd gennych chi gymaint o amser i gymdeithasu neu ddilyn eich hobïau a'ch diddordebau. Os ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio, efallai na fyddwch chi'n gweld y bobl roeddech chi'n arfer eu gweld ac efallai na fyddwch chi'n teimlo mor agos at y person rydych chi'n gofalu amdano. Gall deimlo ei bod yn anodd gofyn am help neu roi gwybod i bobl eich bod chi'n ofalwr a pham. Weithiau, efallai y gall eich bywyd chi deimlo'n wahanol iawn a gall ymddangos nad yw pobl eraill yn deall. Dros amser, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo'n euog. Gall arwahanrwydd cymdeithasol arwain at broblemau iechyd meddwl fel iselder. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar unigrwydd.
  • Llai o amser i chi'ch hun. Mae'n debygol y bydd gennych chi lai o amser i ofalu amdanoch chi eich hun, er enghraifft gwneud ymarfer corff, bwyta bwyd iach ac ymlacio. Efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhoi blaenoriaeth i’ch iechyd, neu nad oes gennych chi'r amser i gael yr help sydd ei angen arnoch chi. Mae syniadau y gallwch roi cynnig arnyn nhw pan fydd amser yn brin ar gael ar ein tudalennau ar ddulliau ymlacio.

"Y peth anoddaf i fi yw na alla i fyth anghofio fy mod i'n ofalwr. Hyd yn oed os bydda i'n cael amser i mi fy hun, i ddechrau mae'n rhaid i mi drefnu gofal amgen, ac os na fydd hynny'n bosibl, bydd yn rhaid i mi ganslo'r hyn roeddwn i am ei wneud."

  • Pryderon ariannol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am ofal ychwanegol, costau meddygol neu gostau teithio. Gall hyn roi straen ar eich cyllid, yn enwedig os nad ydych chi'n cael digon o gymorth ariannol neu fudd-daliadau. Efallai y bydd yn rhaid i chi weithio llai, neu jyglo gwaith a gofalu, a all fod yn anodd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar arian ac iechyd meddwl.
  • Diffyg cwsg. Os ydych chi'n cefnogi rhywun sydd angen help yn ystod y nos – neu os ydych chi'n poeni llawer ac yn teimlo dan straen – efallai na fyddwch chi'n cael digon o gwsg. Gall diffyg cwsg effeithio ar eich iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gysgu ac iechyd meddwl.
  • Euogrwydd, rhwystredigaeth a dicter. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n rhwystredig os byddwch chi wedi rhoi'r gorau i rannau o'ch bywyd, neu'n teimlo nad oes gennych chi ddewis yn y sefyllfa. Efallai y byddwch chi'n cyfeirio'r dicter hwn at aelod o'r teulu neu at y person rydych chi'n gofalu amdano, a allai wneud i chi deimlo'n euog. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar ddicter.

"Y peth mwyaf i mi yw gwneud amser i mi fy hun. Mae'n hawdd iawn teimlo'n euog am wneud amser, ac mae'n anodd iawn gwneud hynny ar lefel ymarferol."

  • Hunan-barch isel. Gall gofalu am rywun arall gael effaith fawr ar eich hunan-barch. Efallai y byddwch chi'n teimlo y dylech chi roi eich sylw i gyd i'r person rydych chi'n gofalu amdano. Efallai y byddwch chi'n colli hyder ynoch chi eich hun a'ch gallu i wneud unrhyw beth heblaw am gefnogi rhywun arall. Os ydych chi wedi rhoi'r gorau i weithio, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod wedi colli rhan bwysig o'ch hun. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar hunan-barch.
  • Iselder. Efallai y gwelwch fod yr heriau rydych chi'n eu hwynebu pan fyddwch chi'n gofalu am rywun arall yn gwneud i chi deimlo'n isel. Gallech chi ddatblygu strategaethau ymdopi nad ydyn nhw'n ddefnyddiol i ddelio â theimladau anodd. Er enghraifft defnyddio cyffuriau ac alcohol, neu fwyta mwy neu lai na'r hyn sydd ei angen arnoch chi. Os ydych chi'n teimlo'n rhwystredig neu'n anobeithiol iawn, efallai y byddwch chi'n ystyried niweidio eich hun neu ddod â'ch bywyd i ben. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar iselder.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Ymdopi fel gofalwr - stori Bryony

Yn y podlediad hwn, mae Bryony yn siarad am sut beth yw gofalu am ei mam a byw gydag anhwylder deubegynol.

Darllenwch y trawsgrifiad o'r podlediad, neu dysgwch fwy am bodlediadau Mind.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Share this information

arrow_upwardYn ôl i'r brig