Mae'r adran hon yn egluro anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), sydd hefyd yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD), ac yn nodi'r achosion posib a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Bydd eich profiad o fyw gyda BPD yn unigryw i chi, ond mae'r dudalen hon yn disgrifio rhai o'r profiadau cyffredin efallai y byddwch yn gyfarwydd â nhw:
"Fy mhrofiad i ydy bod yn rhaid i mi gadw fy emosiynau y tu mewn, oherwydd mae pobl yn dweud wrtha' i fy mod yn gorymateb. Felly rydw i'n teimlo fy mod i'n sownd yn fy nghorff fy hun, yn sgrechian, a does neb yn gallu fy nghlywed i."
"Mae cael diagnosis o BPD yn effeithio ar bob rhan o fy mywyd i... fy mherthnasoedd, fy hunaniaeth, fy newisiadau o ran gyrfa, fy hwyliau, ac ati. Rydw i wedi cael cymaint o broblemau â'm hunaniaeth, rydw i wedi newid fy enw ddwywaith drwy weithred newid enw... mae peidio â gwybod pwy ydych chi'n deimlad ofnadwy a phoenus. Mae'n anodd iawn delio â phopeth sy'n digwydd rai diwrnodau."
Edrychwch ar ein tudalen hunanofal ar gyfer BPD i gael syniadau ynghylch sut mae ymdopi â theimladau anodd.
"Mae'n teimlo fel bod rhywbeth ar goll y tu mewn i mi, a does neb yn deall pan fydda' i'n ceisio esbonio sut rydw i'n teimlo."
Gallai rhai pobl gyda BPD fod yn fwy tebygol o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol fel ffordd o geisio ymdopi â'r emosiynau anodd maen nhw'n eu teimlo. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am lle i gael cymorth, ar gael ar ein tudalennau ar effeithiau cyffuriau hamdden ac alcohol ar iechyd meddwl. Hefyd, mae modd i chi gael cyngor cyfrinachol am gyffuriau ac alcohol ar wefan FRANK.
"Gall BPD fod yn flinedig. Mae fy meddwl yn mynd drwy amryw o emosiynau drwy'r amser, ond pan fydd yr emosiynau hynny'n hapus a llon, dyna'r teimlad gorau yn y byd."
"Cymerodd amser hir i gael diagnosis o BPD/EUPD oherwydd bod gen i anhwylderau eraill hefyd, ond rydw i mewn lle da ar hyn o bryd, diolch i amryw o ffactorau."
Oherwydd bod BPD yn ddiagnosis cymhleth nad ydy pawb yn ei ddeall yn dda, efallai y bydd gan rai pobl ddelwedd negyddol ohono neu gamsyniadau amdanoch chi.
Gall hyn fod yn brofiad annifyr a rhwystredig iawn, yn arbennig os ydy'r sawl sy'n teimlo fel hyn yn ffrind, yn gydweithiwr, yn aelod o'r teulu neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Ond, mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, a does dim rhaid i chi ddioddef pobl sy'n eich trin yn wael. Dyma rai opsiynau i chi eu hystyried:
Mae rhagor o wybodaeth am BPD a stigma ar gael ar wefan Amser i Newid.
"Y stigma ydy'r peth gwaethaf i mi. Rydw i'n unigolyn gofalgar ac empathig a fyddai'n gwneud unrhyw beth i'r bobl rwy'n eu caru."
This information was published in January 2018. We will revise it in 2021.
References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.