Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)
Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.
Sut y gall pobl eraill helpu?
Os bydd rhywun sy'n bwysig i chi yn cael diagnosis o BPD, efallai y byddwch chi weithiau'n ei chael hi'n anodd deall ei deimladau neu ei ymddygiad, neu wybod sut i'w helpu. Ond mae llawer o bethau cadarnhaol y gallwch chi eu gwneud i'w helpu:
Un peth sy'n fy helpu i ydy pan fydd pobl eraill yn cydnabod fy emosiynau, oherwydd rydw i'n aml yn teimlo'n euog am eu cael.
Bod yn amyneddgar
Os yw eich anwylyd yn ei chael hi'n anodd ymdopi â'i emosiynau, ceisiwch beidio â dadlau ag ef yng ngwres y funud. Gallai fod yn well aros nes y bydd y ddau ohonoch chi'n teimlo'n dawelach eich meddwl i drafod pethau.
Peidio â beirniadu
Gall fod yn anodd os nad ydych chi'n deall pam mae rhywun yn teimlo neu'n ymddwyn mewn ffordd benodol. Yn enwedig os yw ei ymateb yn ymddangos yn afresymol neu'n peri gofid. Ond ceisiwch gofio na allwch chi ddarllen ei feddwl ac efallai fod ganddo deimladau nad ydych chi'n eu deall. Ceisiwch wrando, a chydnabod ei deimladau, yn hytrach na beirniadu ei ymatebion.
Bod yn bwyllog ac yn wrthrychol
Os yw eich anwylyd yn teimlo llawer o emosiynau llethol, gallai hyn ei helpu i deimlo'n fwy diogel a'i fod yn cael ei gefnogi, a bydd yn helpu ar adegau o wrthdaro. Os byddwch chi'n teimlo'ch hun yn mynd yn ddig, ceisiwch dreulio ychydig o amser ar eich pen eich hun neu fynd am dro, os oes modd.
Ei atgoffa am ei nodweddion cadarnhaol
Pan fydd rhywun sy'n bwysig i chi yn ei chael hi'n anodd credu unrhyw beth da amdano'i hun, gall fod yn fuddiol iddo glywed am yr holl bethau cadarnhaol rydych chi'n ei weld ynddo.
Gosod ffiniau clir
Gall gosod ffiniau a disgwyliadau clir wneud gwahaniaeth mawr. Os yw eich anwylyd yn teimlo'n gynyddol ansicr ynglŷn â chael ei wrthod neu ei adael, neu'n ymddangos yn bryderus am gael ei adael ar ei ben ei hun, gall helpu i esbonio'r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl oddi wrth eich gilydd ac i gyfathrebu'n glir ac yn bwyllog os bydd pethau'n mynd yn aneglur.
Blaengynllunio
Pan fydd rhywun rydych chi'n ei gefnogi yn teimlo'n dda, gofynnwch iddo sut y gallwch chi ei helpu pan fydd pethau'n anodd. Mae ein hadnoddau ar gefnogi rhywun sy'n teimlo'n hunanladdol, a chefnogi rhywun sy'n hunan-niweidio yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Dysgu am yr hyn sy'n peri gofid iddo
Siaradwch â'ch anwylyd a cheisiwch ddysgu pa fath o sefyllfaoedd neu sgyrsiau a all arwain at feddyliau ac emosiynau negyddol. Gallai deall yr hyn sy'n peri gofid iddo eich helpu i osgoi sefyllfaoedd anodd, a theimlo'n fwy parod pan fydd yn ymateb mewn ffordd gref i bethau penodol.
Meddwl am ffyrdd o symud ei feddwl
Weithiau gall helpu i symud meddwl rhywun oddi ar deimladau anodd fod yn fuddiol iawn. Ceisiwch awgrymu gweithgareddau neu dasgau, fel gwylio ffilm neu dacluso. Neu gallech chi ddechrau rhywbeth a dweud wrtho fod croeso iddo ymuno â chi pan fydd yn teimlo'n barod i wneud hynny.
Dysgu mwy am BPD
Mae BPD yn ddiagnosis cymhleth, ac efallai y bydd yn rhaid i'ch anwylyd ddelio â chamsyniadau pobl eraill ar ben ceisio rheoli ei broblem iechyd meddwl. Gall addysgu eich hun eich helpu i herio stigma hefyd. Mae ein hadnoddau ar BPD a phrofiadau o BPD yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Ei helpu i geisio cymorth a thriniaeth
Mae ein hadnoddau ar gefnogi rhywun i geisio help yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut i helpu rhywun i gael y cymorth sydd ei angen arno, gan gynnwys beth y gallwch chi ei wneud pan na fydd rhywun am gael help. Ac mae ein hadnoddau ar eiriolaeth ym maes iechyd meddwl yn cynnwys canllawiau ar sut i'w helpu i ddod o hyd i eiriolwr.
Gofalu amdanoch chi eich hun
Weithiau, gall gofalu am rywun arall fod yn anodd a pheri straen. Mae'n bwysig cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae ein hadnoddau ar ymdopi wrth gefnogi rhywun arall, rheoli straen a gwella eich llesiant yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut i ofalu amdanoch chi'ch hun.
Mae gen i ffrind sy'n dod â siocled poeth i mi bob wythnos. Mae gwybod bod rhywun sy'n poeni amdanoch chi ac sy'n rhoi o'i amser i chi, hyd yn oed pan fyddwch chi wedi colli nabod arnoch chi'ch hun, yn golygu'r byd.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.