Mae'r adran hon yn egluro anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), sydd hefyd yn cael ei alw'n anhwylder personoliaeth emosiynol ansefydlog (EUPD), ac yn nodi'r achosion posib a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Mae'r dudalen hon yn ymdrin â:
Therapïau siarad: credir mai dyma'r driniaeth fwyaf defnyddiol ar gyfer BPD, ond mae angen mwy o waith ymchwil i'r mathau o driniaethau sydd fwyaf effeithiol.
Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n paratoi canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn awgrymu y gallai'r mathau canlynol o driniaethau siarad fod o gymorth:
"Rydw i'n gweld dyfodol i mi fy hun nawr, a doeddwn i ddim yn gallu dychmygu hynny cyn cael therapi."
"Fe wnes i uniaethu â thri o bobl ddieithr mewn ffordd nad oeddwn i wedi gallu gwneud ag unrhyw un arall erioed."
Mae NICE yn dweud y gallai mathau eraill o therapïau siarad fod o fudd, gan gynnwys y canlynol:
"Fe wnaeth DBT fy helpu i'n fawr i ddeall fy hun a fy emosiynau, ac i ddysgu bod bob dim yn iawn. Dim ots beth sy'n digwydd... mae'n mynd i basio. Rydw i wedi rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau gwrthiselder am y tro cyntaf ers deng mlynedd, ac rydw i'n teimlo'n wych. Fydda' i fyth yn 100% ond rydw i'n gallu derbyn fy hun am bwy ydw i."
Mae cymunedau therapiwtig yn rhaglenni sydd wedi'u cynllunio'n arbennig, lle rydych chi'n gweithio gyda grŵp o bobl eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, er mwyn cefnogi eich gilydd i wella. Efallai y byddwch yn cyd-fyw drwy'r amser neu rywfaint, neu'n cwrdd yn rheolaidd.
Gall gweithgareddau gynnwys gwahanol fathau o therapi unigol neu therapi grŵp, yn ogystal â gwaith tŷ a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gan y Consortiwm Cymunedau Therapiwtig gyfeiriadur o gymunedau therapiwtig yn y DU.
"Rydw i wedi addysgu fy hun am emosiynau, ac mae llyfrau, therapi, seicolegwyr a ffrindiau wedi fy nysgu i. Y peth pwysig i'w gofio ydy, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu."
Meddyginiaeth seiciatrig: dydy meddyginiaeth seiciatrig ddim yn cael ei hargymell ar gyfer trin symptomau parhaus BPD. Mae hyn oherwydd dydyn ni ddim yn gwybod am unrhyw gyffuriau sy'n effeithiol. Ond, gallech chi gymryd meddyginiaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl eraill.
Mewn argyfwng fe allai meddyg roi pilsen gysgu neu dawelydd ysgafn ar bresgripsiwn i chi i'ch helpu i deimlo'n dawelach eich meddwl. Ond ni ddylai roi presgripsiwn am hyn i chi am fwy nag wythnos.
"Rydw i wedi dod o hyd i'r drefn iawn o ran meddyginiaeth ac rydw i'n ceisio gwneud yn siŵr bod strwythur i'm bywyd. Dydy hi ddim yn hawdd, ond mae'n bosib gwella."
I gael triniaeth drwy'r GIG, dylech ymweld â'ch meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT) lleol i gael eich asesu.
Os ydych yn cael triniaeth gan y GIG, dylai fod yn unol â chanllawiau NICE. Mae'r rhain yn dweud:
Gallwch ddarllen y canllawiau llawn ac argymhellion ychwanegol ar gyfer BPD yn Gymraeg neu yn Saesneg ar wefan NICE. I gael manylion am wasanaethau arbenigol yn y DU, edrychwch ar wefan anhwylderau personoliaeth Adran Iechyd y DU.
"Roeddwn i'n teimlo'n ddiymadferth ac yn anobeithiol am amser maith. Ond pan wnes i ddechrau deall mai dim ond fi oedd yn gallu gwneud gwahaniaeth, a doedd yna ddim ateb syml arall, fe wnaeth rhywbeth glicio."
Yn anffodus, gall amseroedd aros ar gyfer triniaethau siarad gan y GIG fod yn hir. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi am aros, neu os hoffech weld therapydd sy'n arbenigo yn y mathau o brofiadau rydych chi wedi'u cael (dydy'r rhain ddim ar gael gan y GIG yn aml), efallai y byddwch yn dewis gweld therapydd yn breifat. (Edrychwch ar ein tudalennau chwilio am therapi sector preifat i gael rhagor o wybodaeth.)
"Dechreuodd pethau newid i mi pan awgrymodd un ysbyty fod yna ffordd ymlaen, a doedd dim rhaid i mi deimlo wedi torri am byth. Doedd pethau ddim yn hollol ddidrafferth o hynny ymlaen, ond roedd sylweddoli bod yna obaith... a bod pobl eraill wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol yn fy ysbrydoli i go iawn."
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2021.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.