Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Heriau wrth gael diagnosis o BPD

Mae llawer o resymau pam y gallech wynebu heriau wrth gael diagnosis o BPD, gan gynnwys y diagnosis anghywir. Mae symptomau BPD yn eang iawn, a gall rhai ohonyn nhw fod yn debyg i broblemau iechyd meddwl eraill, neu orgyffwrdd â nhw, fel:

Yn anffodus, mae llawer o dybiaethau a chamddealltwriaethau yn bodoli ynghylch BPD. Nid yw pob meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol yn ei ddeall. Ac mae llawer o anghytuno ynglŷn â sut y dylid rhoi diagnosis o BPD, ei ddisgrifio a'i drin. Efallai y bydd gennych chi BPD a phroblemau iechyd meddwl eraill ar yr un pryd.

Hefyd, nid yw pawb yn teimlo ac yn mynegi poen yn yr un ffordd. Felly, gall hyn ei gwneud hi'n fwy anodd i rywun ddeall sut rydyn ni'n teimlo, a pha ddiagnosis sydd fwyaf addas i'r hyn sydd ei angen arnon ni.

Oherwydd hyn, efallai:

  • Na fyddwch chi'n cael diagnosis o BPD pan fyddwch chi'n teimlo y dylech fod wedi ei gael
  • Y byddwch chi'n cael diagnosis o broblem iechyd meddwl wahanol nad ydych chi'n cytuno ag ef
  • Y byddwch chi'n cael diagnosis o BPD pan fyddwch chi'n teimlo y dylech fod wedi cael diagnosis gwahanol
  • Y byddwch chi'n cael diagnosis o BPD pan fyddwch chi'n teimlo na ddylech fod wedi cael diagnosis o gwbl

Roeddwn i wedi cael y diagnosis anghywir am bron i 30 o flynyddoedd, ac roeddwn i'n teimlo fel ffrîc, oherwydd pan oeddwn i'n darllen am y diagnosis a gefais, doedd dim sôn am fy symptomau eraill.

Beth alla' i ei wneud os bydda' i'n anghytuno â'm diagnosis?

Os ydych chi'n poeni nad ydy eich diagnosis yn cyd-fynd â sut rydych chi'n teimlo, mae'n bwysig trafod hyn â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael y driniaeth iawn i'ch helpu chi.

Edrychwch ar ein tudalennau chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl i gael gwybodaeth am sut i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a beth i'w wneud os ydych chi'n anhapus gyda'ch meddyg.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig