Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau bwyta

Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw anhwylder bwyta?

Diagnosis meddygol yn seiliedig ar eich patrymau bwyta yw anhwylder bwyta. Mae'n cynnwys cael profion meddygol ar eich pwysau, eich gwaed a mynegai màs y corff.

Problem bwyta yw unrhyw berthynas â bwyd sy'n anodd i chi. Ni chaiff diagnosis o anhwylder ei roi ar gyfer pob problem bwyta.

Math o broblem bwyta y rhoddwyd diagnosis ar ei chyfer yw anhwylderau bwyta.

Cael diagnosis o anhwylder bwyta

Mae bwyd yn un o sawl cyfrwng y gallwn ni fynegi ein hemosiynau a'n pryder drwyddo.

Gall fod yn ddefnyddiol deall teimladau ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag anhwylderau bwyta penodol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os na fyddwch wedi cael diagnosis. Neu, os bydd yn well gennych chi ystyried eich profiadau mewn ffordd anfeddygol.

Gall fod cymhlethdodau yn gysylltiedig â chael diagnosis ffurfiol:

  • Os nad yw'n hawdd i'ch meddyg gategoreiddio eich problemau bwyta, efallai na fydd am roi diagnosis i chi.
  • Efallai fod gennych berthynas anodd iawn â bwyd sy'n effeithio ar eich iechyd meddwl, ond nad yw'n cyd-fynd ag unrhyw ddiagnosis sy'n bodoli ar hyn o bryd.
  • Efallai fod gennych chi fwy nag un anhwylder bwyta, neu symptomau o ganlyniad i sawl anhwylder.

Mynegai màs y corff (BMI) a diagnosis

Yn eich asesiad, dylai eich meddyg teulu neu feddyg yn yr ysbyty ystyried mwy na dim ond eich BMI.

Yn anffodus, gall diagnosis a thriniaeth ar gyfer anhwylder bwyta fod yn gysylltiedig â'ch pwysau. Gallech fod â phroblem bwyta ddifrifol, ond nad ydych chi'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cael diagnosis. Gall hyn deimlo'n rhwystredig iawn.

Fodd bynnag, ni ddylai fod angen i chi gael diagnosis o anhwylder bwyta i gael triniaeth ar gyfer problem bwyta.

Fel arfer, bydd y driniaeth a gaiff ei hargymell ar gyfer yr anhwylder sydd fwyaf tebyg i'ch problem bwyta.

Mae rhagor o fanylion ar ein tudalen triniaeth a chymorth.

Bwlimia

Os byddwch chi'n cael diagnosis o fwlimia (a elwir yn bwlimia nerfosa), efallai y byddwch chi'n cael cylch o'r hyn a elwir yn orfwyta mewn pyliau a gwaredu.

  • Ystyr gorfwyta mewn pyliau (bingeing) yw bwyta llawer iawn o fwyd ar un tro. Efallai y byddwch chi'n gwneud hyn pan fyddwch chi'n brwydro â theimladau neu broblemau yn eich bywyd.
  • Gwaredu (purging) yw'r weithred o gael gwared ar y bwyd rydych chi wedi'i fwyta ar ôl pwl o orfwyta. Efallai y byddwch chi'n teimlo euogrwydd neu gywilydd am yr hyn rydych chi wedi'i fwyta.

Bwlimia a'ch teimladau

Os bydd gennych chi fwlimia, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • cywilydd ac euogrwydd
  • casineb tuag at eich corff
  • eich bod chi'n dew
  • yn ofnus ynghylch cael eich dal allan gan eich teulu a'ch ffrindiau
  • yn isel neu'n bryderus
  • yn unig, yn enwedig os na fydd neb yn gwybod am eich diagnosis
  • yn drist iawn ac yn isel eich ysbryd
  • newidiadau cyflym neu annisgwyl yn eich hwyliau
  • eich bod chi wedi eich dal mewn cylch o deimlo allan o reolaeth a cheisio ei hadennill
  • yn ddideimlad, fel pe bai eich teimladau yn cael eu rhwystro gan y gorfwyta mewn pyliau neu'r gwaredu.

Bwlimia a'ch gweithredoedd

Os bydd gennych chi fwlimia, efallai y byddwch:

  • yn bwyta llawer o fwyd ar un tro (pwl o orfwyta)
  • yn cael cylchoedd dyddiol o fwyta, teimlo'n euog, gwaredu, teimlo'n llwglyd a bwyta eto
  • yn gorfwyta bwydydd rydych chi'n meddwl sy'n ddrwg i chi mewn pyliau
  • yn llwgu eich hun rhwng pyliau o orfwyta
  • yn bwyta yn y dirgel
  • â chwant am fathau penodol o fwyd yn unig
  • yn ceisio cael gwared ar y bwyd rydych chi wedi'i fwyta (gwaredu) drwy wneud eich hun yn sâl, defnyddio carthyddion (laxatives) neu wneud llawer o ymarfer corff.

Bwlimia a'ch corff

Pan fydd gennych chi fwlimia, efallai y byddwch chi'n:

  • aros yr un pwysau ar y cyfan, neu'n gweld bod eich pwysau'n newid yn aml
  • mynd yn ddadhydredig, a all achosi croen gwael
  • cael mislif afreolaidd neu ddim o gwbl, os ydych chi'n cael mislif fel arfer
  • gwneud niwed i'ch dannedd ac yn cael dolur gwddw o ganlyniad i asid y stumog, drwy wneud eich hun yn sâl
  • datblygu syndrom coluddyn llidus (IBS), colon estynedig, rhwymedd neu glefyd y galon, os byddwch chi'n defnyddio carthyddion.
Lavender reeds in long green grass

Gŵr ifanc sy'n delio â bwlimia: fy mhrofiad

"Yn yr un modd ag iselder, ni ddylai anhwylderau bwyta ymhlith dynion fod yn bwnc tabŵ."

Anorecsia

Os byddwch chi'n cael diagnosis o anorecsia (a elwir yn anorecsia nerfosa), dydych chi ddim yn bwyta digon o fwyd. Mae hyn yn golygu nad ydych chi'n cael yr egni sydd ei angen arnoch chi i gadw'n iach.

Mae llawer o bobl yn meddwl bod anorecsia yn ymwneud â cholli pwysau a mynd ar ddeiet, ond mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Yn y bôn, yn aml mae'n gysylltiedig â hunanhyder isel, hunanddelwedd negyddol a theimladau o bryder dwys.

Anorecsia a'ch teimladau

Os bydd gennych chi anorecsia, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • na allwch chi feddwl am ddim heblaw am fwyd
  • bod angen i chi fod yn berffaith neu nad ydych chi byth yn ddigon da
  • yn unig, yn enwedig os na fydd neb yn gwybod am eich diagnosis
  • angen am reolaeth, y byddwch yn ei cholli efallai drwy fwyta
  • eich bod chi'n cuddio pethau rhag eich teulu a'ch ffrindiau
  • eich bod chi'n dew a bod gennych chi ofn magu pwysau
  • nad yw colli pwysau yn ddigon
  • eich bod chi am ddiflannu
  • yn ddig os bydd rhywun yn eich herio am eich pwysau neu faint rydych chi'n ei fwyta
  • wedi blino ac wedi colli diddordeb mewn pethau rydych chi'n eu mwynhau fel arfer
  • na allwch chi weld ffordd allan, neu eich bod yn teimlo'n isel neu'n hunanladdol
  • yn bryderus, neu'n mynd i banig, yn enwedig adeg bwyd
  • fel petai'n gyflawniad i geisio ymwadu â bwyd neu wneud gormod o ymarfer corff.

Anorecsia a'ch gweithredoedd

Os bydd gennych chi anorecsia, efallai y byddwch:

  • yn cwtogi ar yr hyn rydych chi'n ei fwyta, neu'n rhoi'r gorau i fwyta'n llwyr
  • yn treulio llawer o amser yn cyfrif calorïau o bopeth rydych chi'n ei fwyta
  • yn cuddio bwyd neu'n ei daflu yn dawel fach
  • yn osgoi bwydydd ‘peryglus’, fel y rheini sy'n cynnwys llawer o galorïau neu fraster
  • yn darllen llyfrau ryseitiau ac yn coginio prydau i eraill, heb eu bwyta eich hun
  • yn defnyddio cyffuriau sy'n honni y byddan nhw'n lleihau eich archwaeth am fwyd neu'n cyflymu'r broses dreulio
  • yn treulio eich amser yn meddwl am golli pwysau, yn gwirio ac yn pwyso eich hun
  • yn gwneud llawer o ymarfer corff, gyda rheolau llym ynghylch faint y mae'n rhaid i chi ei wneud
  • yn datblygu amseroedd bwyta strwythuredig iawn
  • yn creu rheolau mewn perthynas â bwyd – er enghraifft rhestru mathau 'da' a 'gwael' neu fwyta bwyd o liwiau penodol yn unig.

"Dechreuais lwgu fy hun fel ffordd o gadw rheolaeth. Roeddwn i wedi colli rheolaeth ar bopeth arall, ond allai neb fy ngorfodi i fwyta. Roeddwn i'n mwynhau'r teimlad o gael stumog... gwag, ac yn crefu'r teimlad hwnnw."

Anorecsia a'ch corff

Pan fydd gennych chi anorecsia, efallai y byddwch chi'n:

  • pwyso llai nag arfer, neu'n pwyso llai na'r hyn y dylech chi ei bwyso ar gyfer eich oedran a'ch taldra
  • colli pwysau'n gyflym iawn
  • mynd yn danddatblygedig yn gorfforol, yn enwedig os bydd anorecsia yn dechrau cyn glaslencyndod
  • teimlo'n oer ac yn wan iawn
  • symud o gwmpas yn arafach nag arfer
  • cael mislif afreolaidd neu ddim o gwbl, os ydych chi'n cael mislif fel arfer
  • colli eich gwallt neu'n dechrau cael gwallt tenau iawn
  • datblygu gwallt ysgafn a mân ar eich breichiau a'ch wyneb, sef lanugo
  • colli diddordeb mewn rhyw, neu'n canfod na allwch chi gael rhyw neu nad ydych chi'n ei fwynhau
  • cael trafferth canolbwyntio
  • datblygu esgyrn brau neu broblemau fel osteoporosis – dyma'r cyflwr sy'n gwneud i'ch esgyrn dorri'n rhwydd.

Siarad am broblemau bwyta

"Roeddwn i'n ofni na fyddwn i'n 'cymhwyso' fel person anorecsig, nad oeddwn i'n 'ddigon da'."

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau

Os byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y byddwch chi'n teimlo na allwch chi stopio bwyta, hyd yn oed os byddwch chi am wneud hynny.

Gydag anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y byddwch chi'n dibynnu ar fwyd i wneud i chi deimlo'n well. Efallai y byddwch chi hefyd yn defnyddio bwyd i guddio teimladau anodd. Caiff ei ddisgrifio fel 'bwyta cymhellol' weithiau.

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau a'ch teimladau

Os bydd gennych chi anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • allan o reolaeth
  • na allwch chi stopio bwyta
  • cywilydd ynghylch faint rydych chi'n ei fwyta
  • yn unig ac yn wag
  • yn isel iawn, hyd yn oed yn ddiwerth
  • yn anhapus am eich corff
  • dan straen ac yn bryderus.

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau a'ch gweithredoedd

Os bydd gennych chi anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y byddwch chi'n:

  • bwyta llawer o fwyd ar un tro (pwl o orfwyta)
  • bwyta heb feddwl am y peth, yn enwedig wrth wneud pethau eraill
  • bwyta bwyd afiach yn aml
  • bwyta i gael cysur pan fyddwch chi'n teimlo dan straen, yn bryderus, wedi diflasu neu'n anhapus
  • bwyta nes byddwch chi'n teimlo'n anghyfforddus o lawn neu'n sâl
  • cuddio faint rydych chi'n ei fwyta
  • cael trafferth mynd ar ddeiet pan fyddwch chi'n ceisio gwneud hynny.

"Rwy'n ofni unrhyw ddigwyddiad sy'n cynnwys bwffe. Oherwydd rwy'n gwybod y bydda i'n bwyta ac y bydda i'n parhau i fwyta ac na fydda i'n ei fwynhau, ond bydda i'n bwyta am fy mod i'n teimlo bod yn rhaid i mi wneud hynny rywsut. Bydda i'n bwyta hyd yn oed pan fydda i'n teimlo'n llawn, pan fydda i'n teimlo fy mod wedi chwyddo, yn teimlo poen yn fy mol, yn teimlo'n sâl."

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau a'ch corff

Pan fydd gennych chi anhwylder gorfwyta mewn pyliau, efallai y byddwch:

  • yn magu pwysau
  • yn teimlo'n sâl yn aml
  • yn fyr eich anadl
  • yn cael lefelau siwgr uchel ac isel, sy'n golygu cael pyliau o egni ac yna'n teimlo'n flinedig iawn
  • yn datblygu problemau iechyd, fel adlif asid a syndrom coluddyn llidus (IBS)
  • yn datblygu problemau sy'n gysylltiedig â bod dros eich pwysau – er enghraifft diabetes math 2, pwysedd gwaed uchel, neu boen yn y cymalau a'r cyhyrau.

Anhwylder gorfwyta mewn pyliau: roedd yn bwysig iawn gallu cael sgwrs dawel a chyffredin am y peth

"Roedd y meddyg teulu cyntaf y gwnes i siarad ag ef yn ddi-glem. Ond gwnaeth meddyg teulu arall fy annog i ddweud mwy wrthi, a dysgais am yr help oedd ar gael i mi."

Anhwylder bwydo a bwyta penodol arall (OSFED)

Os byddwch chi'n cael diagnosis o OSFED, mae gennych chi anhwylder bwyta. Fodd bynnag, dydych chi ddim yn bodloni'r holl feini prawf ar gyfer anorecsia, bwlimia neu anhwylder gorfwyta mewn pyliau.

Nid yw hyn yn golygu bod eich anhwylder bwyta yn llai difrifol.

Mae OSFED yn golygu nad yw eich anhwylder yn cyd-fynd ag unrhyw ddiagnosis sy'n bodoli ar hyn o bryd. Gall cael diagnosis o OSFED eich helpu i gael triniaeth a chymorth.

Efallai y cewch deimladau, effeithiau neu newidiadau corfforol sy'n gysylltiedig ag anhwylderau bwyta eraill.

Arferwyd galw OSFED yn ‘anhwylder bwyta nad oedd wedi'i nodi fel arall’ (EDNOS).

I gael rhagor o fanylion, gweler gwybodaeth Beat am OSFED.

"Cefais fy asesu gan fy ngwasanaeth anhwylder bwyta lleol a chefais ddiagnosis o EDNOS. Llwyddais i gael rheolaeth dros fy arferion bwyta. Rwy'n parhau i weithio ar y teimladau gyda help fy therapydd ac mae pethau'n mynd yn dda iawn."

Problemau bwyta a bwydo eraill

Ar gyfer eich problem bwyta, efallai y cewch ddiagnosis ar gyfer un o'r anhwylderau bwyta sy'n cael eu disgrifio ar y dudalen hon.

Fodd bynnag, mae diagnosisau eraill y gallwch chi eu cael.

Mae'r rhain yn tueddu i fod yn llawer llai cyffredin nag anorecsia, bwlimia ac anhwylder gorfwyta mewn pyliau.

Anhwylder cnoi cil

Os byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder cnoi cil, byddwch chi'n adgyfogi eich bwyd yn rheolaidd. Ystyr adgyfogi yw ailgodi bwyd rydych chi eisoes wedi'i fwyta a'i lyncu.

Ni fydd gennych chi broblem iechyd corfforol i egluro hyn. Efallai y byddwch chi'n ail-gnoi, yn ail-lyncu neu'n poeri allan y bwyd y byddwch chi'n ei adgyfogi.

I gael rhagor o fanylion, gweler gwybodaeth Beat am anhwylder cnoi cil.

Pica

Os byddwch chi'n cael diagnosis o pica, byddwch chi'n bwyta pethau nad ydyn nhw'n fwyd yn aml.

Nid oes gwerth maethol i'r pethau y byddwch chi'n dueddol o'u bwyta. Mae sialc, metel neu baent ymhlith yr enghreifftiau o hyn. Gall hyn fod yn niweidiol iawn i'ch corff.

I gael rhagor o fanylion, gweler gwybodaeth Beat am pica.

Anhwylder osgoi bwyta/cyfyngu ar faint rydych chi'n ei fwyta (ARFID)

Os byddwch chi'n cael diagnosis o ARFID, byddwch chi'n teimlo'n gryf bod angen i chi osgoi bwydydd penodol (neu unrhyw fwyd). Gallai hyn fod oherwydd arogl, blas neu wead. Efallai fod y syniad o fwyta yn eich llenwi â gorbryder.

Nid yw ARFID yn dueddol o gael ei gysylltu â phroblemau delwedd corff. Mae'n ymwneud mwy â gorbryder ynghylch y broses o fwyta ei hun.

I gael rhagor o fanylion, gweler gwybodaeth Beat am ARFID.

"Dyw fy anhwylder bwyta erioed wedi bod yn gysylltiedig â delwedd corff na rheolaeth, ac mae wedi bod gen i ers cyn cof. Pan fydda i'n wynebu rhai bwydydd, bydda i'n cael adwaith yng ngwaelod fy stumog fel petai rhywun wedi rhoi plât o'r pethau mwyaf ffiaidd o'm blaen. Mae'n teimlo fel petawn yn cerdded heibio i garthffos agored."

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig