Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau bwyta

Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer unigolion sy'n cael problemau bwyta. Os ydych am gefnogi rhywun sydd â phroblem bwyta, ewch i'n tudalen ar gyfer ffrindiau a theulu.

Gwella o broblemau bwyta

Gall fod yn heriol iawn byw gyda phroblemau bwyta, yn ogystal â dechrau gwella ohonynt. Mae'n rhaid i chi feddwl am fwyd bob dydd a byw yn eich corff sy'n newid. Ond mae ffyrdd o helpu eich hun i ymdopi â'r heriau hyn.

Ystyried gwella

Mae gwella yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol.

Gallai olygu na fyddwch chi'n cael meddyliau neu ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'ch problem bwyta byth eto.

Neu efallai y byddwch chi'n dal i gael meddyliau ac ymddygiadau gwahanol, ond ddim mor aml. Efallai y byddan nhw hefyd yn cael llai o effaith ar eich bywyd.

Gallai'r ffordd rydych chi'n ystyried eich perthynas â bwyd, a'ch safbwyntiau ar wella, newid dros amser.

Efallai y byddwch chi weithiau'n teimlo:

  • nad oes gennych chi broblem
  • bod eich ymddygiadau yn ddefnyddiol i chi mewn gwirionedd
  • bod eich problem bwyta yn gysur i chi, yn gwneud i chi deimlo'n ddiogel neu hyd yn oed yn codi eich calon
  • yn ofnus o'r newidiadau a ddaw wrth i chi wella.

Sut bynnag y byddwch chi'n mynd ati i wella, gall gymryd amser hir i gyrraedd y nod – hyd yn oed pan fyddwch chi'n teimlo'n barod i roi cynnig arni. Efallai y byddwch chi'n meddwl mewn blynyddoedd yn hytrach nag wythnosau a misoedd.

Gall y broses o wella godi ofn arnoch chi os byddwch chi'n teimlo:

  • yn ofnus ynghylch colli neu fagu pwysau
  • yn bryderus ynghylch colli rheolaeth
  • bod eich problem bwyta yn rhan fawr o'ch bywyd a'ch hunaniaeth, fel nad ydych chi'n siŵr pwy ydych chi hebddi.

Os ydych chi wedi ceisio gwella o'r blaen, neu wedi ailwaelu, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo fel petaech chi y tu hwnt i unrhyw help. Ond mae'n bosibl i chi deimlo'n well, hyd yn oed os bydd yn cymryd cryn amser.

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar driniaeth a chymorth ar gyfer problemau bwyta.

Dechreuais ddefnyddio'r hyn roeddwn i wedi bod drwyddo i gryfhau fy hun. Roeddwn i'n gwybod y gallwn i fod yn benderfynol, yn llawn cymhelliant a chyflawni fy nod. Roeddwn i am ddefnyddio'r egni anorecsig yn y broses wella.

Ymdrin â Chamdybiaethau

Mae llawer o bobl yn meddwl yn anghywir mai dim ond merched ifanc a all gael problemau bwyta. Oherwydd hyn, gallai fod yn anodd i chi rannu eich profiadau os ydych chi'n hŷn neu'n uniaethu fel dyn.

Cofiwch, gall unrhyw un gael problemau bwyta.

Mark in front of the Eiffel Tower wearing a Mind t-shirt with his arms around two others wearing the same top

Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd siarad â'm ffrindiau gwrywaidd am yr hyn roeddwn i'n mynd drwyddo, gan nad yw dynion yn dueddol o wneud hynny!

Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld bod eich corff yn newid ar gyfradd wahanol i'ch iechyd meddwl. Wrth i chi ddechrau edrych yn well, efallai y byddwch chi'n teimlo'n waeth.

Efallai y bydd pobl eraill yn meddwl eich bod chi wedi gwella pan fyddwch chi'n dal i'w chael hi'n anodd. Gall helpu i siarad am eich teimladau, gyda phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw.

Peidiwch â rhoi'r gorau iddi: llythyr i mi fy hun am fy anhwylder bwyta

Gwyliwch Rose Ann yn darllen llythyr i'w hun am wella. Mae'r fideo hwn yn dri munud 57 eiliad o hyd.

Gweld y trawsgrifiad o'r fideo fel PDF (bydd yn agor mewn ffenestr newydd)

Ymdopi â sylwadau pobl eraill

Ni fydd pawb o'ch cwmpas yn deall sut beth yw cael problem bwyta. Efallai y bydd rhai pobl yn gwneud sylwadau ar eich corff, eich pwysau, ar faint rydych chi'n ei fwyta neu beth rydych chi'n ei fwyta.

Efallai y bydd pobl yn meddwl eu bod nhw'n dweud rhywbeth cadarnhaol i'ch helpu. Ond efallai na fyddan nhw'n sylweddoli y gall fod yn anodd i chi glywed y pethau hyn. Gall fod yn anodd ymdopi â hyn – mae'r hyn sy'n helpu neu'n brifo yn wahanol i bawb.

Weithiau bydd fy adlewyrchiad yn fy synnu, a bydda i'n meddwl sut mae'n bosibl edrych mor iach, pan fydd y stormydd yn rhuo mor gryf yn fy mhen.

Gallai helpu i geisio esbonio eich teimladau i'ch teulu a'ch ffrindiau. Disgrifiwch beth fyddai'n ymateb mwy defnyddiol neu gefnogol.

Rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl sydd am helpu, ond sy'n ei chael hi'n anodd iawn deall sut i wneud hynny.

Allwch chi ddim atal pobl rhag dweud pethau nad ydyn nhw'n ddefnyddiol bob amser. Gallai fod yn syniad da i chi feddwl sut y byddwch chi'n delio â'r pethau y gallai pobl eu dweud.

Yn aml, dwi ddim am gyfaddef bod gen i fy anhwylder... am fy mod i'n ofni na fydd pobl yn fy nghredu i neu na fyddan nhw'n meddwl ei fod yn ddifrifol, er bod bwlimia wedi dominyddu fy mywyd ers pan oeddwn i'n 15 oed.

Ymdopi â magu pwysau

Nid yw gwella yn golygu magu pwysau i bawb. Ond gall fod yn heriol iawn i rai pobl fyw â hyn. Mae rhai pobl wedi gweld bod yr awgrymiadau hyn wedi gweithio iddyn nhw:

  • Ysgrifennwch y rhesymau pam rydych chi am wella ac edrychwch arnyn nhw pan fydd pethau'n teimlo'n anodd.
  • Ewch â'r holl ddillad nad ydyn nhw'n ffitio i siop elusen, neu gwerthwch nhw ar-lein.
  • Prynwch ddillad newydd mewn meintiau rydych chi'n teimlo'n hyderus ynddyn nhw.
  • Ceisiwch beidio â threulio gormod o amser yn edrych mewn drychau neu'n edrych ar eich corff.
  • Ceisiwch osgoi pwyso eich hun.
  • Ysgrifennwch yr holl newidiadau corfforol iach sy'n digwydd yn eich corff.
  • Siaradwch â phobl eraill – bwrwch eich bol neu rhannwch eich pryderon â rhywun sy'n deall.
  • Ceisiwch beidio â gwneud cymariaethau na threulio gormod o amser yn edrych ar luniau o bobl mewn cylchgronau nac ar-lein. Cofiwch fod y lluniau hyn yn aml yn cael eu hidlo neu eu haddasu.

Creais becyn cymorth cyntaf o bethau y gallwn droi atyn nhw pan oedd angen yr anogaeth arna i i ddal ati. Roedd yn cynnwys pethau fel rhestrau bwced, llythyrau gan y rheini a oedd yn bwysig i mi, ffotograffau, nodau ar gyfer y dyfodol, rhifau ffôn, cyflawniadau, gwrthrychau synhwyraidd a dulliau tynnu sylw.

Adegau anodd o'r flwyddyn

Mae yna adegau penodol o'r flwyddyn a allai ysgogi meddyliau ac ymddygiadau anodd. Yn aml, mae dathliadau yn canolbwyntio ar fwyd a bwyta gyda phobl eraill, fel y Nadolig a phen-blwyddi.

  • Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo ynghylch sut rydych yn teimlo a beth allai wneud pethau'n haws.
  • Os yw'n bosibl, meddyliwch am ffyrdd eraill o ddathlu.
  • Meddyliwch am bethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi'n cael pethau'n anodd.
  • Dylech chi gydnabod a derbyn y gall adegau godi pan fyddwch chi'n teimlo eich bod allan o reolaeth.
  • Byddwch yn garedig â chi eich hun a pheidiwch â gosod eich disgwyliadau'n rhy uchel.

Efallai y byddwch chi'n cael diwrnod gwael ar Ddydd Nadolig, ond waeth pa mor anodd yw hynny, byddwch chi'n dod drwyddi.

Ramadan a phroblemau bwyta

Os ydych chi'n Fwslim, efallai y byddwch chi'n gweld bod Ramadan yn achosi gwrthdaro rhwng eich ffydd, eich problemau bwyta a'ch cyfnod gwella.

Efallai y byddwch chi'n gweld bod ymprydio yn sbarduno meddyliau ac ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'ch problem bwyta. Yn enwedig os byddwch chi'n cael eich canmol am fwyta ychydig iawn. Mae eraill yn gweld bod bwyta gyda theulu a ffrindiau yn ystod iftar yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod allan o reolaeth.

Er y gallech chi gael eich esgusodi rhag ymprydio os bydd gennych chi broblem feddygol, gall hyn wneud i chi deimlo'n euog. Efallai na fydd pobl eraill yn deall pam nad ydych chi'n ymprydio.

Darllenwch flog Habiba ar wefan Beat am anhwylderau bwyta a Ramadan.

Hunanofal ar gyfer problemau bwyta

Gall ein hawgrymiadau hunanofal ymarferol eich helpu chi i ymdopi i fyw â'ch problem bwyta, a gwella ohoni.

Siarad â phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw

Gall fod yn anodd iawn siarad am broblemau bwyta am sawl rheswm. Efallai y bydd yn anodd i bobl sy'n agos atoch chi ddeall problemau bwyta, ond yn aml byddan nhw am helpu sut bynnag y bo modd.

Mae gan yr elusen bwyta Beat awgrymiadau ar gyfer siarad ag eraill am eich problem bwyta.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd siarad, ysgrifennwch bethau yn lle hynny. Er enghraifft, efallai y bydd ysgrifennu llythyr yn eich helpu chi i roi trefn gliriach ar eich meddyliau.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ddangos ein tudalennau am broblemau bwyta i bobl er mwyn eu helpu i ddysgu mwy.

Chi yw'r person pwysicaf yn eich proses wella bob amser. Os byddwch chi'n gweld bod perthnasau cadarnhaol yn deillio o'r rhain, beth am chwerthin â nhw a'u hefelychu.

Ceisio cymorth gan gymheiriaid

Gall problemau bwyta wneud i chi deimlo cywilydd, yn ynysig a'ch bod chi'n cael eich camddeall. Gall helpu i siarad â phobl sy'n wynebu rhywbeth tebyg.

Gallwch chi chwilio am gymorth gan gymheiriaid ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gall y sefydliadau hyn eich helpu chi i gael cymorth gan gymheiriaid ar gyfer problemau bwyta:

Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid.

Dysgu sut i reoli ailwaeliad

Mae'n gyffredin iawn i hen feddyliau ac ymddygiadau ddychwelyd. Yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo dan straen.

Ceisiwch nodi sefyllfaoedd pan allech fod yn wynebu mwy o risg y bydd eich problemau bwyta yn dychwelyd, fel:

  • pan fyddwch chi'n colli neu'n magu pwysau
  • pan fydd siâp eich corff yn newid
  • pan fyddwch chi'n mynd ar ddeiet
  • pan fyddwch chi'n mynd ar wyliau
  • yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth
  • ar adegau llawn straen fel arholiadau, digwyddiadau pwysig, mynd drwy dor-perthynas neu symud tŷ.

Meddyliwch am eich arwyddion rhybudd. Ceisiwch ddysgu beth y gallwch chi ei wneud i atal pethau rhag gwaethygu. Dyma rai arwyddion rhybudd cynnar posibl:

  • bwyta gormod neu ddim digon
  • gwneud addewidion i chi'ch hun ynghylch bwyd neu fwyta
  • teimlo eich bod am waredu
  • meddwl am fwyd drwy'r amser
  • edrych ar eich corff yn amlach
  • pwyso eich hun yn amlach.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael problemau wrth wella. Ond ar ôl pob problem, efallai y byddwch chi'n deall mwy amdanoch chi eich hun a'ch problem bwyta.

Mae'n bwysig ceisio bod yn garedig â chi eich hun. Ceisiwch dderbyn ailwaeliad fel rhan o broses newid hir, ond cyraeddadwy.

Os oeddwn i'n dal i gymryd camau bach, h.y. yn rhoi cynnig ar ddarn bach o rywbeth newydd weithiau nad oedd yn rhy annhebyg i bethau roeddwn i'n eu bwyta'n barod, yna roeddwn i'n gweithio tuag at wella fy iechyd.

Newid arferion afiach

Gall arferion bwyta a bwyd fod yn anodd eu torri. Ond efallai y byddwch chi'n gweld y gall gwneud newidiadau bach helpu. Er enghraifft:

  • Prynwch symiau llai o fwyd os ydych chi'n poeni ynghylch gorfwyta.
  • Ceisiwch dynnu eich sylw oddi ar eich corff a'ch pwysau pan fyddwch chi'n sylweddoli eich bod yn gwneud hynny. Gall rhoi cynnig ar hobi neu ddiddordeb newydd sy'n galw am lefelau canolbwyntio uchel fod o help.
  • Dewch o hyd i bethau hwyliog i dynnu eich sylw ar ôl prydau bwyd os ydych chi'n poeni ynghylch gwaredu.
  • Ceisiwch feddwl am nodau cadarnhaol nad ydyn nhw'n gysylltiedig â bwyd neu galorïau.

Rwy'n gwneud yn well wrth brynu bwyd fesul dogn felly dim ond yr hyn rwy'n bwriadu ei fwyta ar y pryd sydd gen i.

Bod yn ofalus ar-lein

Os oes gennych chi broblem bwyta, efallai y byddwch chi'n gweld eich bod chi'n treulio llawer o amser yn cymharu eich corff â chyrff pobl eraill, weithiau heb hyd yn oed sylweddoli eich bod chi'n gwneud hynny. Yn aml, rydym ni'n cael ein hamgylchynu gan luniau a delweddau - yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.

  • Byddwch yn ymwybodol o'r ffordd rydych chi'n teimlo pan fyddwch chi ar-lein ac addaswch y safleoedd rydych chi'n ymweld â nhw a'r bobl rydych chi'n eu dilyn os bydd angen. Mae'n iawn cael cyfnod o beidio â defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, neu i addasu eich ffordd o fyw, fel bod hyn yn chwarae llai o ran yn y ffordd rydych chi'n treulio eich amser.
  • Cofiwch fod llawer o luniau wedi cael eu haddasu i wneud i'r person edrych yn wahanol. Efallai fod y lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cael eu hidlo neu eu haddasu.
  • Ystyriwch sut rydych chi'n delio â lluniau ohonoch chi eich hun. Ydyn nhw'n gwneud i chi deimlo'n wael neu ydych chi'n teimlo bod angen i chi eu newid i guddio'r ffordd rydych chi'n edrych go iawn?
  • Ystyriwch a ydych chi'n dilyn unrhyw un y mae eu lluniau yn gwneud i chi deimlo'n wael neu'n sbarduno meddyliau problemus. Os yw hynny'n bosibl, dylech chi roi'r gorau i'w dilyn.
  • Dylech chi flocio neu osgoi unrhyw wefannau sy'n hyrwyddo anhwylderau bwyta.
  • Chwiliwch am gymunedau cadarnhaol mewn perthynas â bwyta, gwella a phositifrwydd corff.

Roedd y syniad o gael fy rhwygo o'm patrwm bwyd dyddiol yn amhosibl ei ddeall.

Gofalu amdanoch chi eich hun

Ceisio bod mor garedig ag y bo modd atoch chi eich hun. I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalennau ar:

Byddwch yn falch ohonoch chi eich hun am y camau lleiaf y byddwch chi'n eu cymryd achos rydych chi'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Os byddwch chi'n llwyddo i roi lwmp bach o gaws ar eich pasta, cofiwch ganmol eich hun. Os byddwch chi'n teimlo eich bod yn cael diwrnod gwael, derbyniwch hyn am ei fod yn rhan o'r broses.

Rwy'n teimlo'n hyderus ynghylch ble rwyf wedi cyrraedd yn fy mhroses wella ac y gallaf frwydro yn ei erbyn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig