Problemau bwyta
Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Sut i helpu rhywun sydd â phroblem bwyta
Gallwch chi wneud llawer o bethau i helpu, ni waeth pa mor ddiwerth y byddwch chi'n teimlo weithiau.
Efallai y byddwch chi'n cael teimladau anodd os bydd gan rywun sy'n annwyl i chi broblem bwyta. Efallai eich bod chi:
- yn pryderu'n fawr am y person
- yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i siarad amdano
- yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i ddelio â'r newidiadau yn ei hwyliau
- wedi ceisio cynnig cymorth, ond yn gweld ei fod yn anfodlon derbyn help neu'n methu gwneud hynny.
Gall hyn wneud i chi deimlo'n ddi-rym, yn rhwystredig ac yn ddig.
Camau cyntaf tuag at gymorth
Ar y dechrau, efallai mai'r cyfan y byddwch chi am ei wneud yw dangos i'r person eich bod chi yno iddo a'ch bod yn ei gefnogi.
Ceisiwch gofio gwneud y canlynol:
- Dywedwch wrtho eich bod chi yno. Sicrhewch fod y person yn gwybod eich bod chi yno i wrando ac y gallwch chi ei helpu i gael cymorth. Dyma un o'r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud. Dywedwch wrtho y gall siarad â chi pan fydd yn barod.
- Ceisiwch beidio â mynd yn ddig neu'n rhwystredig. Efallai y bydd eisoes yn teimlo'n euog ynghylch sut mae ei ymddygiad yn effeithio arnoch chi. Ceisiwch fod mor ystyriol ac amyneddgar ag y bo modd.
- Peidiwch â gwneud rhagdybiaethau. Ceisiwch beidio â dehongli beth mae ei broblem bwyta yn ei olygu heb wrando arno. Gallai hyn wneud iddo deimlo'n fwy diymadferth. Gallai hefyd olygu ei fod yn anoddach iddo rannu ei emosiynau anodd a cheisio cymorth.
...ond ti'n edrych yn iawn i fi?
Yn aml, bydd pobl yn edrych arna i'n fanwl, gan edrych yn ddryslyd, cyn dweud ‘wel, dwyt ti ddim yn edrych yn sâl i fi’.
Dysgu sut i ddeall teimladau rhywun
Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd deall problem bwyta'r person. Gall hyn hefyd olygu ei bod hi'n anodd derbyn ei deimladau. Neu sut y gallai eich agwedd neu eich ymddygiad wneud iddo deimlo.
Ceisiwch ystyried y canlyniad:
- Byddwch yn amyneddgar. Cofiwch y gall gymryd amser i'r person dderbyn y broblem ei hun. Gall gymryd llawer o amser iddo dderbyn y peth a cheisio help. Efallai na fydd yn ystyried bod ei arferion bwyta'n broblem. Gall weld hyn fel ffordd o ymdopi â theimladau penodol. Er enghraifft, dicter, colled, bod yn ddi-rym, hunan gasineb, teimlo'n ddiwerth, euogrwydd, neu deimlo nad oes ganddo reolaeth dros bethau. Efallai y bydd yn ofni'r hyn y bydd gwella yn ei olygu iddo fe a'i gorff.
- Byddwch yn garedig. Allwch chi ddim gorfodi rhywun i newid ei ymddygiad. Gallech chi wneud eich gorau i ddarbwyllo, twyllo neu orfodi rhywun i fwyta mwy neu lai. Gallai hyn wneud i rywun deimlo'n fwy pryderus ac ofnus ynghylch bwyd. Gallai hefyd wneud iddo gilio oddi wrthych chi. Efallai y bydd yn gwneud ei orau i'ch darbwyllo ei fod yn bwyta'n fwy iach, hyd yn oed os na fydd hynny'n wir.
- Peidiwch â chanolbwyntio ar ymddangosiad rhywun na gwneud sylwadau arno. Cofiwch nad yw pwysau nac ymddygiad rhywun yn dweud wrthych chi sut mae'n teimlo go iawn. Efallai eich bod chi'n meddwl eich bod chi'n bod yn garedig drwy ddweud pethau fel “rwyt ti'n edrych yn dda”. Ond gallan nhw sbarduno teimladau anodd iawn i rywun sydd â phroblem bwyta. Mae gan yr elusen problem bwyta Beat ragor o wybodaeth am sut i siarad â rhywun sydd â phroblemau bwyta.
Byddai hi'n gyrru draw i'm coleg chweched dosbarth bob dydd i'm helpu i fwyta. Fyddai hi ddim yn fy ngwthio nac yn gwneud i mi fwyta, dim ond eistedd yno yn amyneddgar a bod yn gwmni i mi ar yr adeg anodd honno o'r dydd. Byddai hi hefyd gyda mi pan fyddwn i'n cael pyliau o banig ar ôl prydau.
Ffyrdd ymarferol y gallwch chi helpu
Yn ogystal â meithrin eich dealltwriaeth eich hun, gall y syniadau ymarferol hyn helpu'r person rydych chi'n poeni amdano.
Gallech chi roi cynnig ar y canlynol:
- Cynnwys yr unigolyn mewn gweithgareddau cymdeithasol. Os bydd yn ei chael hi'n anodd bwyta, trefnwch weithgareddau nad ydyn nhw'n cynnwys bwyd. Gallech chi wylio ffilm, chwarae gêm neu fynd am dro.
- Cadw amseroedd bwyta mor ddi-straen â phosibl. Peidiwch â gwneud sylwadau ar ei ddewisiadau bwyd. Gadewch iddo barhau i fwyta'r bwyd y bydd yn teimlo y gall ei fwyta.
- Dod o hyd i ffyrdd diogel o siarad am hyn. Bydd rhai pobl yn gweld bod cyfeirio at y problemau bwyta yn y trydydd person yn helpu. Ceisiwch ddweud pethau fel “nid ti yw hwnna, y broblem bwyta sy'n siarad”.
- Helpu'r unigolyn i gael gafael ar wybodaeth dda ac i osgoi ffynonellau gwael. Gallai hyn olygu chwilio am ffeithiau dibynadwy a chymorth ar-lein y gellir ymddiried ynddo. Mae hefyd yn golygu ei helpu i osgoi llefydd ar-lein a all hyrwyddo arferion bwyta ac ymarfer corff anniogel.
- Rhannu straeon gan bobl eraill. Gall fod yn ddefnyddiol iawn darllen straeon a hanes pobl sydd â phroblemau bwyta. Yn enwedig y rheini sy'n barod i feddwl am wella. Gallwch chi ddod o hyd i rai drwy edrych yn y categori ‘Problemau bwyta’ yn blogiau a straeon Mind. Gallwch chi gael rhagor o straeon a blogiau o Beat.
- Dylech chi annog yr unigolyn i gael help proffesiynol. Os yw'n poeni am siarad â'i feddyg, gallech gynnig mynd gydag ef. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ar driniaeth a chymorth. Mae ein cysylltiadau defnyddiol ar gyfer problemau bwyta yn rhestru elusennau a sefydliadau eraill y gall gysylltu â nhw.
Awgrymiadau ar gyfer eich lles eich hun
Mae'n bwysig eich bod chi'n rheoli eich lles eich hun wrth gefnogi eich ffrind neu aelod o'r teulu. Ceisiwch wneud y canlynol os gallwch chi:
- Cofiwch y gall gwella fod yn broses hir. Er ei bod yn bosibl y bydd ei gorff yn edrych yn iachach yn gyflym, efallai y bydd yn cael cyfnod anodd yn emosiynol. Mae achosion o ailwaeledd yn gyffredin a dydyn nhw ddim yn gwneud iddo deimlo'n obeithiol iawn. Mae hefyd yn helpu i dderbyn hyn fel rhan o'r broses. Peidiwch â'i feio ef, na chi eich hun nac unrhyw un arall.
- Ceisiwch fod yn garedig i chi eich hun. Gall cefnogi rhywun sydd ag anhwylder bwyta fod yn waith anodd a blinedig. Mae'n bwysig cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd, a'ch bod chi'n haeddu cael cymorth hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar sut i ymdopi wrth roi cymorth i rywun arall a helpu rhywun i gael help.
- Ceisiwch gymorth gan sefydliadau arbenigol. Yn dibynnu ar eich cydberthynas â'r person, efallai y bydd opsiynau cymorth penodol ar gael. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar Linell Gymorth Young Minds i Rieni a Support for Carers gan Beat.
Salwch meddwl, fy Nhad a fi
Roedd yn aberth anferth ar ran fy Nhad gan ei fod wedi rhoi'r gorau i sawl agwedd ar ei fywyd.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.